skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol ar gyfer Eitem 6: Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022/23 – 2029/30 gan Cyng. Dafydd Meurig gan ei fod yn Gadeirydd Bartneriaeth Ogwen a Cyng. Catrin Wager gan ei bod yn cael ei chyflogi gan Bartneriaeth Ogwen, roedd y ddau fuddiant yn rhagfarnu gan fod y Bartneriaeth yn cael ei enwi yn rhan o’r adroddiad a bu i’r ddau adael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.  

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 CHWEFROR 2022 pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 fel rhai cywir.

6.

CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR 2022/23-2029/30 pdf eicon PDF 383 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a gweithredu’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-2030.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cabinet i fabwysiadu a gweithredu’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2022-2030.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd fod rhybudd o gynnig wedi ei gyflwyno i’r Cyngor yn ôl ym mis Mawrth 2019 yn amlinellu’r peryglon sy’n deillio o effeithiau newid hinsawdd. Mynegwyd fod peth oedi wedi bod i’r cynllun newid hinsawdd oherwydd y pandemig. Eglurwyd er hyn fod y Cynllun a gyflwynwyd yn benllanw gwaith caled a cham cyntaf i ymateb i newid hinsawdd o fewn y Cyngor. Nodwyd y gobaith o gyrraedd Cyngor carbon sero-net erbyn 2030. Pwysleisiwyd fod y camau sydd i’w gweld yn y Cynllun yn rhai rhwydd ond fod her fawr o flaen y Cyngor.

 

Ychwanegol y Pennaeth Adran Amgylchedd fod y cynllun hwn yn un trawsadrannol ond ei bod yn cael ei chartrefu ar hyn o bryd yn yr Adran Amgylchedd sydd yn gallu cynnig arweiniad pan mae’r angen.

 

Nododd Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd fod hwn yn gynllun corfforaethol ac y bydd angen i bob aelod o staff berchnogi’r cynllun ynghyd â gweithredu arno. Mynegwyd fod y nod yn glir sef i fod yn gyngor sero net erbyn 2030 ac eglurwyd fod hon yn amserlen genedlaethol sydd wedi ei gosod gan Llywodraeth Cymru. Esboniwyd fod y cynllun yn amlygu fod y gwaith am fynd yn llawer ymhellach ‘na 2030 ond ei fod yn rhoi sylfaen gadarn i’r Cyngor o ran y gwaith i’w wneud. Pwysleisiwyd fod gwaith pellach i’w wneud er mwyn blaenoriaethu’r gwariant ynghyd a chynlluniau tymor byr.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at yr angen am yr ochor addysgol i’r cynllun hwn, eglurwyd fod cael plant a pobl ifanc yn rhan o’r cynllun ac i ddysgu am newid hinsawdd yn holl bwysig i’r cynllun.

¾    Amlygwyd yr elfen o gefnogi cymunedau i gynllunio a darparu atebion lleol i anghenion lleol gan annog trigolion i gymryd rhan mewn gwaith ymgysylltu.

¾    Nodwyd fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ariannu cynllun Ffordd Osgoi Llanbedr ddim yn cynorthwyo at y cynllun hwn gan y buasai creu y ffordd yn lleihau allbynnau carbon.

¾    Nodwyd cefnogaeth i’r adroddiad gan nodi fod llawer o waith da wedi mynd yn benodol gan y Cyng. Catrin Wager i wthio y cynllun yn ei flaen a mynegwyd y bydd yn dda ei weld yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

¾    Diolchwyd am yr adroddiad gan holi os oedd y Gronfa Bensiwn yn buddsoddi yn gyfrifol. Mynegwyd ddwy flynedd yn ôl fod cyflwyniad wedi ei roi i’r Aelodau Cabinet am fuddsoddi cyfrifol gan egluro beth oedd y Gronfa Bensiwn yn ei wneud. Pryd hynny mynegwyd y dylai’r Pwyllgor Pensiynau ddelio’n briodol ac yn annibynnol gyda’r buddsoddiadau, gan nad yw hyn o fewn grym penderfyniadau’r Cabinet. Nodwyd fod y Bwrdd Pensiwn wedi bod yn gweithredu ar wahân ond efallai fod cyfle i roi cyfeiriad yr waith y Gronfa Bensiwn yn y Cynllun hwn. Eglurwyd fod llawer wedi digwydd o ran buddsoddi gwyrdd ac fod fersiwn drafft o Bolisi Buddsoddi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dafydd Wyn Williams a Bethan Richardson

7.

FFIOEDD CARTREFI PRESWYL A NYRSIO AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 142 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd ar ffioedd safonol cartrefi annibynnol preswyl a nyrsio ar gyfer 2022/23, a’u gweithredu yn unol ag amodau a thelerau'r Cyngor ar y lefel a ganlyn:

 

Preswyl

£627

Preswyl EMI

£695

Nyrsio

£731

Nyrsio EMI

£774

 

Gofynnwyd am adroddiad pellach ar y mater i ystyried priodoldeb adolygiad o lefel y ffioedd ar gyfer y flwyddyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig  

 

PENDERFYNWYD

 

Cytunwyd ar ffioedd safonol cartrefi annibynnol preswyl a nyrsio ar gyfer 2022/23, a’u gweithredu yn unol ag amodau a thelerau'r Cyngor ar y lefel a ganlyn:

 

Preswyl

£627

Preswyl EMI

£695

Nyrsio

£731

Nyrsio EMI

£774

 

Gofynnwyd am adroddiad pellach ar y mater i ystyried priodoldeb adolygiad o lefel y ffioedd ar gyfer y flwyddyn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn un technegol sydd yn cael ei chyflwyno yn flynyddol. Eglurwyd fod yr adroddiad yn gosod costau ffioedd safonol ar gyfer 2022/23 ond fod angen adroddiad pellach ar y mater er mwyn ystyried priodoldeb adolygiad o lefel y ffioedd ar gyfer y flwyddyn. Eglurwyd mai yr opsiwn ffafriedig oedd opsiwn 3 o fewn y tabl isod:

 

 

2021/22

2022/23

 

Y Ffi

Opsiwn 1

Opsiwn 2

Opsiwn 3

Preswyl

£586

£615

£627

£671

Preswyl EMI

£651

£681

£695

£768

Nyrsio

£684

£716

£731

£756

Nyrsio EMI

£722

£757

£774

£880

 

Eglurwyd fod angen rhagor o amser er mwyn sicrhau fod yr adran yn fyw i holl oblygiadau cynyddu’r ffioedd i gyd-fynd ag opsiwn 3, gan gynnwys sicrhau ei fod yn fforddiadwy nid yn unig ar gyfer eleni ond ar gyfer blynyddoedd ariannol i ddod. Mynegwyd felly i’r Cabinet gytuno ar opsiwn 2 am y tro ac yn rhoi amser i wneud gwaith pellach i weld os y bydd modd dod a adroddiad yn ôl i’r Cabinet gyda’r cais o gynyddu’r ffi i opsiwn 3 ar ôl cyfnod yr etholiad.

 

Awdur: Aled Davies

8.

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 152 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer cyfnod 2022-2032, cyn i’r Awdurdod ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Cemlyn Williams.  

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer cyfnod 2022-2032, cyn i’r Awdurdod ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi  fod y Strategaeth hon wedi ei chyflwyno yn ôl yn mis Gorffennaf ble cytunodd y Cabinet i Gynllun Strategol y Gymraeg fynd i gyfnod ymgynghori cyhoeddus. Mynegwyd fod nifer o bobl wedi ymateb i’r ymgynghoriad ac fod addasiadau, ble roedd yn bosib, wedi ei ymgorffori yn y strategaeth.

 

Pwysleisiwyd fod y cynllun yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg a nodwyd fod y cynllun yn fwy na geiriau ar bapur. Bu i’r Aelod Cabinet fanteisio ar y cyfle i nodi beth mae’r adran yn ei wneud ac wedi ei wneud o ran y Cynllun. Mynegwyd fod y Cabinet yn ymwybodol eu bod wedi cytuno i fuddsoddi dros £1miliwn i ganolfannau iaith newydd ym Mangor ac yn Nhywyn, ynghyd â gwella’r ddarpariaeth addysgol sydd yn Ysgol Eifionydd. Ychwanegwyd fod yr adran am fuddsoddi £1.1miliwn ychwanegol i wella’r amgylchedd ddysgu yn y canolfannau eraill ar draws y sir a buddsoddi £1.8miliwn i gynyddu capasiti rhai ysgolion i gefnogi cymunedau ble mae’r Gymraeg yn arwyddocaol.

 

Amlygwyd yn ogystal fod yr adran wedi comisiynu cwmni i greu byd rhithiol i ddysgwyr sydd yn rhan o’r cynllun Trochi. Eglurwyd drwy ddefnyddio technoleg bydd modd i’r disgyblion allu defnyddio’r Gymraeg yn y cartref yn ogystal. Nodwyd fod y cynllun hwn yn rhan allweddol o Gynllun Technoleg Gwybodaeth arloesol yr adran sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet, ynghyd a amlygu fod Gwynedd yn arwain o ran y Gymraeg.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾      Llongyfarchwyd yr adran am arwain Cymru o ran cynlluniau y Gymraeg. Amlygwyd o ran y canolfannau iaith fod angen i siroedd eraill ddilyn Cyngor Gwynedd, gan mai plant yw dyfodol y Gymraeg.

 

Awdur: Rhian Parry Jones

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS YR ADRAN TAI AC EIDDO pdf eicon PDF 739 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.    

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno beth mae’r adran wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet yn nodi ei fod yn fodlon gyda’r cynnydd yn y prosiectau mae’r adran yn arwain atynt.

 

Eglurwyd fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar y cynlluniau sydd i’w gweld fel blaenoriaethau gwella o fewn Cynllun y Cyngor a tynnwyd sylw at amrywiol gynlluniau. O ran y cynllun Diffyg Cartrefi Addas Gwynedd mynegwyd fod y gwaith hwn yn cael ei wneud drwy’r Cynllun Gweithredu Tai.

 

Amlygwyd fod nifer digartref wedi cynyddu dros 51% ers cyn y pandemig ac fod 700 yn ddigartref ar hyn o bryd. Mynegwyd fod y galw ar y gwasanaeth yn parhau yn gyson uchel. Nodwyd fod yr adran wedi gallu cynyddu capasiti y tîm ynghyd a cynyddu capasiti y tîm ataliol yno gystal. Ychwanegwyd fod nifer yr unedau digartref wedi codi dros y flwyddyn ac eglurwyd yn dilyn i gynlluniau gael eu cwblhau dros y misoedd nesaf bydd 38 uned i’w gweld ar draws y sir.

 

Nodwyd o ran y cynllun Prynu Tai a Tiroedd fod cynllun yn ei le i brynu 15 tŷ dros y misoedd nesaf ynghyd a thiroedd mewn amrywiol leoliadau er mwyn datblygu. Eglurwyd o weithredu’r cynllun dros y chwe mlynedd nesaf bydd gan y Cyngor dros 100 o dai. Mynegwyd fod cynllun cymorth i brynu wedi ei amlygu a nodwyd fod 12 o deuluoedd yn cael ei cynorthwyo ar hyn o bryd.

 

Ategwyd fod yr adran wedi dyrannu  142 o grantiau dros y flwyddyn diwethaf, ynghyd a denu £3miliwn tuag ar gynlluniau tai gwag. Mynegwyd fod 40 o geisiadau ar hyn o bryd ar gyfer y Cynllun i Brynwyr Cyntaf. Amlygwyd y prif risgiau sydd gan yr adran yn benodol sgil effeithiau y pandemig a brexit ar gyflawni prosiectau o fewn amser ac o fewn cyllideb. Mynegwyd yno gystal fod sgil effeithiau newid hinsawdd yn parhau yn risg o fewn yr adran.  

 

Awdur: Carys Fôn Williams