skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu bod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Elin Hywel yn eitem 5.4 (C22/0898/42/LL) ar y rhaglen oherwydd cyswllt teuluol

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)         Datganodd yr aelodau canlynol eu  bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd RobTriggs (nad oedd yn Aelod i’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/0575/00/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gareth Tudor Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C22/0898/42/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7fed o Dachwedd fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

Cais Rhif C22/0727/14/DT 9 Ffordd Menai, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LF pdf eicon PDF 301 KB

Estyniad deulawr i'r cefn ac ochr yr annedd. 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu – amodau

 

  1. 5 Mlynedd i ddechrau gwaith.
  2. Unol a chynlluniau.
  3. Gosod gwydr afloyw 1.8m mewn uchder ar hyd ochr deheuol y balconi bwriededig.
  4. Cyflwyno manylion yn dangos y wal gynnal cyn dechrau gwaith ar y safle.
  5. Gorffen gwaith ar y wal gynnal cyn dechrau gwaith ar yr estyniad.
  6. Gorffeniad i gydweddu gyda’r tŷ presennol.

 

Nodyn Gwybodaeth:

Dwr Cymru

Rhywogaethau gwarchodedig

 

Cofnod:

Estyniad deulawr i'r cefn ac ochr yr annedd.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi estyniad deulawr ar ddrychiad cefn tŷ deulawr. Byddai’r estyniad yn cynnwys ystafell wely a baddon ar lefel daear a chegin gyda balconi blaen ar lefel llawr cyntaf. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod tad yr ymgeisydd yn Gynghorydd Lleol.

 

Lleolir y tŷ ar safle wedi ei gloddio i mewn i lethr o fewn ystâd breswyl a ffin datblygu'r dref gyda gardd flaen yn llawer is na’r ardd gefn. Byddai'r estyniad yn llenwi cornel wag yng nghefn y tŷ gyda grisiau allanol ar hyd ochr deheuol yr estyniad yn ffurfio mynediad o’r ardd flaen i’r cefn; lleolir y grisiau hyn  ar hyd terfyn yr eiddo gyda chymydog.  Mae’n debygol mai rhan llawr cyntaf cefn yr estyniad yn unig fyddai yn weladwy o’r ffordd yr ystâd i’r dwyrain, a chip olwg yn unig o ddrychiad blaen yr estyniad o’r ffordd sirol i’r gorllewin.

 

Ystyriwyd bod dyluniad ac edrychiad y bwriad yn dderbyniol ac yng nghyd-destun mwynderau gweledol, ychydig iawn o’r estyniad fyddai yn weladwy o fannau cyhoeddus. Y bwriad felly yn cydymffurfio a pholisi PCYFF 2 a 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad amlygwyd bod sylwadau wedi eu derbyn gan yr Uned Trafnidiaeth yn datgan dim gwrthwynebiad mewn egwyddor ond o’r cynlluniau a ddarparwyd y byddai’n ymddangos y gall y bwriad gynnwys strwythur cynnal sefydlogrwydd y briffordd gyfochrog. Ategwyd nad oedd yn glir o’r cynllun os oedd y strwythur yn bodoli neu’n rhan o’r cais ac felly bwriad gwneud cais i’r  ymgeisydd ddarparu rhagor o fanylion er eglurhad. Nodwyd y bydd angen gosod amod i orfodi cyflwyno manylion y wal gynnal cyn dechrau gwaith ar y safle.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol oherwydd na fyddai’n cael effaith ar y strydlun, mwynderau trigolion cyfagos na diogelwch ffyrdd.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad

 

PENDERFYNWYD: Caniatáuamodau

 

1.         5 Mlynedd i ddechrau gwaith.

2.         Unol a chynlluniau.

3.         Gosod gwydr afloyw 1.8m mewn uchder ar hyd ochr deheuol y balconi bwriededig.

4.         Cyflwyno manylion yn dangos y wal gynnal cyn dechrau gwaith ar y safle.

5.         Gorffen gwaith ar y wal gynnal cyn dechrau gwaith ar yr estyniad.

6.         Gorffeniad i gydweddu gyda’r presennol.

 

Nodyn Gwybodaeth:

Dwr Cymru

Rhywogaethau gwarchodedig

 

7.

Cais Rhif C21/0575/00/LL Aukland House, 17 Rhodfa'r Môr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1NA pdf eicon PDF 438 KB

Trosi a newid defnydd un annedd i fod yn 6 fflat 1 ystafell wely

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rob Triggs

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.    Unrhyw addasiadau i wynebau allanol yr adeilad i gael eu gorffen i gydweddu.

4.    Amod i gytuno cynllun tai fforddiadwy.

5.    Y fflatiau a ganiateir drwy hyn i fod ar gyfer dosbarth defnydd C3 yn unig o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru) 2022 ac nid ar gyfer defnydd C5 na C6.

6.    Cyflwyno a chytuno manylion lle ar gyfer storio biniau gwastraff / ailgylchu.

7.    Oriau gwaith.

 

Nodiadau - Dŵr Cymru, Deddf Wal Gydrannol

 

Cofnod:

 

Trosi a newid defnydd un annedd i fod yn 6 fflat 1 ystafell wely

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd yn ymwneud a throsi a newid defnydd un annedd yn 6 fflat 1 ystafell wely.  Byddai 1 fflat ar yr islawr, 2 ar lefel llawr daear ac  1 fflat ar lefel y llawr cyntaf, ail a trydydd.  Yn allanol byddai’r newid yn cynnwys cyfnewid 1 ffenestr am ddrws ac adeiladu ffrâm ddur cerdded yn y cefn ar lefel llawr daear. Saif y safle o fewn ffin ddatblygu Abermaw gyda’r eiddo yn ffurfio rhan o res o dai. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y cais yn ymwneud â 5 neu fwy o dai.

 

Adroddwyd bod Abermaw, yn y CDLl, wedi ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Lleol o dan Bolisi TAI 2 sy’n cefnogi datblygiadau tai fyddai’n cwrdd â strategaeth y Cynllun  wedi ei seilio ar ddarpariaeth dangosol y Polisi. O’r wybodaeth a dderbyniwyd gan Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Abermaw dros gyfnod y Cynllun oedd 91 uned gyda 50 uned wedi eu cwblhau rhwng  2011 a 2021, ynghyd a 36 unedau gyda chaniatâd cynllunio presennol. Byddai’r bwriad yn creu 6 uned byw ychwanegol fyddai’n golygu bod Abermaw wedi cyrraedd y lefel twf dangosol gyda’r datblygiad yma ac felly'r bwriad yn dderbyniol yn nhermau Polisi TAI 2 CDLl.

 

Cyfeiriwyd at Polisi TAI 9 sy’n caniatáu rhannu eiddo presennol yn fflatiau hunangynhaliol cyhyd â'u bod yn cydymffurfio â 4 maen prawf y polisi. Tynnwyd sylw penodol at faen prawf (4) sy’n nodi na ddylai’r cynnig waethygu problemau parcio yn yr ardal leol. Adroddwyd, er nad oedd llefydd parcio o fewn cwrtil yr eiddo, bod yr eiddo presennol yn un 9 ystafell wely a byddai’r bwriad yn darparu cyfanswm o 6 ystafell wely. Ategwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn ystyried, oherwydd gostyngiad mewn nifer ystafelloedd gwely a ddarperir, yn golygu llai o alw am lefydd parcio yn lleol ac y byddai’r effaith yn un gadarnhaol ar y ddarpariaeth barcio leol. Y bwriad felly yn dderbyniol o ran maen prawf (4) Polisi TAI 9 CDLL.

 

Nodwyd bod sylwadau gan drydydd parti wedi ei derbyn yn amlygu pryder y byddai’r fflatiau yn cael eu defnyddio fel fflatiau gwyliau a’r effaith byddai hynny yn cael ar y dref o ystyried y posibilrwydd y byddai’n mynd yn debyg i ardaloedd eraill o fewn Gwynedd ac ymhellach draw.  Mewn ymateb, amlygwyd, bod Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru) 2022 a ddaeth i rym 20/10/22 wedi gwneud newidiadau o ran dosbarthiadau defnydd unedau preswyl gyda dosbarth defnydd C3 bellach wedi ei nodi fel tai annedd a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfa. Ychwanegwyd dau ddosbarth defnydd - C5 yn dai annedd a ddefnyddir mewn modd gwahanol i brif neu unig breswylfa  a dosbarth C6 ar gyfer gosod tymor byr o ddim mwy na 31 diwrnod ar gyfer pob cyfnod o feddiant.  Ystyriwyd y byddai’n briodol felly gosod amod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C22/0886/41/LL Cabin Wood, Llanystumdwy, LL52 0SU pdf eicon PDF 327 KB

Addasiadau i fynedfa a gosod ffens 1.8 medr o uchel

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

1.            Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

2.            Gwaith i’w wneud yn unol gyda’r datganiad mynediad.

3.    Unrhyw lystyfiant / ffens / wal o fewn lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr o uchder.

4.    Y gwaith i gael ei gwblhau o fewn 3 mis o ddyddiad y caniatâd.

 

Nodyn – Llythyr Dŵr Cymru 10/10/22, trwydded priffyrdd am waith gerllaw’r briffordd

 

Cofnod:

Addasiadau i fynedfa a gosod ffens 1.8 medr o uchel

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais, un rhannol ôl weithredol, yn ymwneud ag addasu mynedfa a gosod ffens uchel ar safle yng nghefn gwlad yn union gerllaw ffordd ddosbarth 3 sydd yn rhedeg o Llanystumdwy i Rhoslan. Nodwyd mai creu mynedfa i’r goedwig yw’r bwriad fydd yn mesur oddeutu 24.5 medr o led gyda giât yn cael ei gosod 10 medr yn ôl o’r briffordd. Byddai ffens diogelwch 1.8 medr o uchder yn cael ei godi rhwng y giât a’r lleiniau gwelededd gyda llystyfiant i’w dorri ac i’w gynnal a’i gadw, oddi fewn y lleiniau gwelededd, o dan 1 medr mewn uchder.

 

Er yn cydnabod pryder cymdogion, nid oedd y cais yn ymwneud ag unrhyw newid defnydd / gweithgareddau a fyddai’n cymryd lle oddi fewn i’r goedwig ei hun. 

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan yr Uned Drafnidiaeth. Er nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad, cynigwyd gosod amod fel nad yw llain welededd y mynediad yn cael ei effeithio. Byddai’r amod yn rhoi sicrwydd bod y gwaith cynnal a chadw i’w gwblhau yn unol â’r cynlluniau a’r datganiad mynediad gydag unrhyw dyfiant a / neu ffens / wal o fewn y lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr mewn uchder.  Ategwyd y byddai’n briodol, o dan amgylchiadau’r cais, gosod amod i sicrhau fod y gwaith i’w gwblhau o fewn amser penodol gan awgrymu bod 3 mis yn rhesymol..

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)     Mewn ymateb i wrthwynebiad y Cyngor Cymuned bod y ffens rhy uchel, nodwyd nad oedd rhesymeg tu ôl i uchder y ffens, ond bod yr uchder yn gymorth i gadw llystyfiant yn ôl. Ategwyd nad oedd y ffens yn amgylchynu’r safle yn ei gyfanrwydd ac felly nid oedd i bwrpas cadw da byw. Nid oedd cyfiawnhad felly dros yr uchder.

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.         Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

2.         Gwaith i’w wneud yn unol gyda’r datganiad mynediad.

3.         Unrhyw lystyfiant / ffens / wal o fewn lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr o uchder.

4.         Y gwaith i gael ei gwblhau o fewn 3 mis o ddyddiad y caniatâd.

 

Nodyn – Llythyr Dŵr Cymru 10/10/22, trwydded priffyrdd am waith gerllaw’r briffordd

 

 

 

9.

Cais Rhif C22/0898/42/LL Tir ger Adeilad Trefnwyr Angladdau a Thoiledau Cyhoeddus presennol, Morfa Nefyn, LL53 6BW pdf eicon PDF 350 KB

Adeiladu Capel Gorffwys

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio ar gais asiant yr ymgeisydd

 

Cofnod:

Adeiladu Capel Gorffwys

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais wedi ei dderbyn gan asiant yr ymgeisydd yn gofyn am ohiriad fel bod modd trafod materion trafnidiaeth y cais dan sylw. Nodwyd hefyd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd oedd yn cyfarch un o’r rhesymau gwrthod. 

   

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio y cais

 

PENDERFYNWYD: Gohirio ar gais asiant yr ymgeisydd