Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dilwyn Lloyd ac Owain Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Berwyn P Jones yn eitem 4.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) oherwydd bod ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

 

Y Cynghorydd Simon Glyn yn eitem 4.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C20/0898/42/DT)

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

b)    Y Cyfreithiwr Rhun ap Gareth, yn eitem 4.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL) oherwydd bod ei rieni yng nghyfraith yn byw gerllaw'r safle.

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

c)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

Y Cynghorydd Gareth A Roberts ( oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1072/11/LL)

 

Y Cynghorydd John Brynmor Hughes  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0070/39/DT)

 

Y Cynghorydd Gareth T Jones ( oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0898/42/DT)

 

Amlygodd yr Aelodau eu bod wedi derbyn e-bost gan wrthwynebydd yn eu hannog i wrthod cais C19/1072/11/LL - datblygiad  preswyl o 30 uned ar dir gerllaw Pen Y Ffridd, Pen Y Ffridd Road, Penrhosgarnedd, Bangor

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

5.

Cais Rhif C19/1072/11/LL Tir gerllaw Pen Y Ffridd Road, Pen Y Ffridd, Penrhosgarnedd, Bangor, LL57 2DQ pdf eicon PDF 520 KB

Datblygiad preswyl o 30 uned (i gynnwys 12 uned fforddiadwy) ynghyd a isadeiledd, llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthansol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

 

1.            Effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg

2.            Lon Pen y Ffridd yn anaddas ar gyfer mynediad i ddatblygiad o’r maint yma

 

 

Cofnod:

        

         Datblygiad preswyl o 30 uned (i gynnwys 12 uned fforddiadwy) ynghyd ac isadeiledd, llecynnau parcio, mynedfa, llwybrau a llecyn agored

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. Amlygwyd bod atodiad 1 (adroddiad Pwyllgor 20/10/20) o’r adroddiad cnoi cil wedi ei gynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr ynghyd a chyflwyniad ysgrifenedig o sylwadau’r ymgeisydd a'r gwrthwynebydd a sylwadau’r Uned  Polisi Cynllunio ar y Cyd.

Rhoddwyd cyflwyniad o’r cynlluniau oedd yn destun y cais ac amlygwyd cynllun diwygiedig i gynnwys offer chwarae ar gyfer plant ar y llecyn agored.

        

a)    Eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd bod y cais a drafodwyd ym mhwyllgor Hydref 20fed 2020 wedi cael ei wrthod, yn groes i argymhelliad y swyddogion. Gwrthodwyd y cais am 6 rheswm ac o ganlyniad, cyfeiriwyd y cais i gyfnod cnoi cil.

 

Ail gyflwynwyd gwybodaeth i’r Pwyllgor oedd yn amlygu’r polisïau, y risgiau ar opsiynau iddynt. Cyfeiriwyd at ddatganiad ieithyddol diwygiedig oedd yn cydymffurfio gyda gofynion PS1 a Chanllaw Cynllunio Atodol perthnasol ynghyd a chynllun yn dangos ardal ac offer chwarae i blant o fewn safle’r cais. Yn ogystal, ail ymgynghorwyd gyda’r holl ymgynghorai perthnasol iddynt gael cyfle i gadarnhau eu barn a’u sylwadau ar y cais ar gyfer 30 o dai (yn dai par 2 neu 3 llofft), gyda 12 o’r tai yn 100% fforddiadwy a 18 o’r tai yn dai marchnad agored gyda 5 fyddai’n cael eu cynnig drwy rent canolradd neu gynllunrhent i brynu. Byddai hyn yn galluogi teuluoedd cymwys i rentu gydag opsiwn i brynu’r yn y dyfodol ac o fewn ffin datblygu Bangor.

 

Cyfeiriwyd at Rhan 3 o’r adroddiad oedd yn cadarnhau’r polisïau perthnasol ynghyd ag ymatebion i’r 6 rheswm gwrthod. Ategwyd bod yr adroddiad yn cynnwys tystiolaeth fanwl am yr angen am dai gyda’r Gwasanaeth Tai a’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cadarnhau'r angen am dai fforddiadwy yn yr ardal ynghyd a’r angen cyffredinol am dai 2 neu 3 llofft. Y cais felly yn cydymffurfio gyda pholisïau TAI 1, 8 a 15.

 

Yng nghyd-destun materion llifogydd, ail ymgynghorwyd gyda CNC, Uned Dwr y Cyngor a Dŵr Cymru a derbyniwyd cadarnhad nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais. Ail ymgynghorwyd gyda’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn â halogiad tir ac adroddwyd nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais a’u bod yn fodlon i’r strategaeth adfer gael ei weithredu drwy ddefnydd amod cynllunio safonol. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad o ran diogelwch y ffyrdd,  llif traffig a chapasiti ac addasrwydd Ffordd Pen Y Ffridd a chylchfan Ysbyty Gwynedd.

 

Ystyriwyd bod cynnwys yr adroddiad yn ymateb ac yn goresgyn y 6 rheswm gwrthod. Nid oedd  gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr ymgynghorai statudol na’r ymgynghorai eraill perthnasol ac felly ym marn y Pennaeth Cynorthwyol, nid oedd tystiolaeth ddigonol i gefnogi'r 6 rheswm gwrthod. O ganlyniad, cyfeiriwyd at y  risgiau posib i’r Cyngor yn sgil  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cais Rhif C20/0070/39/DT Ty Wiggins, 12 Lôn Cernyw, Bwlchtocyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7DH pdf eicon PDF 330 KB

Estyniad yn cynnwys codi uchder y to

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John B Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod y cais

 

Rheswm:

 

Ystyriwyd y cais yn or ddatblygiad o’r safle

 

Cofnod:

Estyniad yn cynnwys codi uchder y to

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

Cyflwynwyd dwy fideo fer yn amlinellu amrywiaeth yn lefelau’r tir ynghyd a maint y tai a dyluniad y stad.

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai ail gyflwyniad o gais ydoedd yn dilyn penderfyniad Pwyllgor 16 Tachwedd 2020 i ohirio er mwyn paratoi fideo a lluniau ychwanegol o’r ystâd a’r safle.  Ategwyd bod y cais yn un i wneud addasiadau i’r presennol trwy godi uchder y to er mwyn defnyddio gwagle ar gyfer ystafelloedd ynghyd ag adeiladu estyniad i’r cefn er creu balconi llawr cyntaf. Atgoffwyd yr Aelodau,  yn bresennol, bod brig y yn rhyw 5 medr gyda’r  bwriad arfaethedig yn nodi uchder o 6.5 medr i’r brig.

 

Adroddwyd bod y  safle wedi ei leoli o fewn ystâd o dai oddi fewn i’r AHNE ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Enlli. 

 

Ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith niweidiol andwyol ar yr ardal na’r AHNE a bod dyluniad, graddfa a maint y bwriad yn dderbyniol gan fod digon o dir o amgylch yr eiddo. Ystyriwyd nad oedd y bwriad yn orddatblygiad ac nad oedd goblygiadau o ran diogelwch ffyrdd na mwynderau trigolion cyfagos. Y dyluniad ar y cyfan yn cadw edrychiad y ac felly dim yn creu effaith andwyol.

 

b)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn gwrthwynebu’r cais ac yn cynrychioli trigolion yr ystâd

·         Bod maint y yn ddigonol fel y mae

·         Bod yr estyniad arfaethedig yn sylweddol - o ystyried maint a ganiateir i dŷ fforddiadwy

·         Byddai byth yn i bobl leol

·         Bod peryg gosod cynsail i eraill yn yr ystâd ac felly’r cysondeb a’r cymeriad gwreiddiol yn cael ei golli

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:

·           Bod tai yn cael eu haddasu fel eu bod tu allan i gyrraedd pobl leol

·           Y bwriad yn orddatblygiad

·           Gosod cynsail beryg fyddai yn newid cymeriad y safle

·           Tuedd yw rhoi estyniad neu uwchraddio pob

·           Bod yr estyniad yn troi'r eiddo o fod yn fyngalo i fod yn .

·           Cadw at ystâd o fyngalos a dim cyflwyno tai i’r ystâd

·           Angen polisi i warchod hyn - natur stadau tai yw cael estyniadau erbyn hyn

 

·           Nad oedd gwrthwynebiadau gan y Cyngor Tref nac yr AHNE

 

       ch)    Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu

 

                 Disgynnodd y cynnig

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod ar sail bod y bwriad yn orddatblygiad o’r safle

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod y cais yn groes i argymhelliad

 

Rheswm:  Ystyriwyd y cais yn or ddatblygiad o’r safle

 

7.

Cais Rhif C20/0898/42/DT Ty Pen Lôn Las, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BG pdf eicon PDF 313 KB

Estyniadau a newidiadau i dŷ presennol.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth T Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio

 

  • mwy o wybodaeth ei angen am effaith y balconi
  • trafod gyda’r ymgeisydd i weld os oes modd tynnu’r balconi o’r cynlluniau

 

Cofnod:

Estyniadau a newidiadau i presennol.

 

a)   Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod  sawl elfen i’r cais ar gyfer estyniadau ac addasiadau i deulawr presennol

·         Codi estyniad llawr cyntaf ar flaen yr annedd

·         Newid estyniad llawr gwaelod ar flaen / ochr yr eiddo i gael to gyda “hip” yn hytrach na tho gyda thalcen

·         Dymchwel y simdde

·         Codi estyniad llawr cyntaf ar gefn yr eiddo

·         Amnewid dau estyniad unllawr cefn to brig presennol gydag estyniad to fflat - byddai’r estyniad newydd yn ymestyn 1.2m ymhellach i’r cefn na’r estyniad presennol

·         Creu balconi ar ben yr estyniad to fflat gyda wal wydr o’i amgylch a sgrin 1.8m o uchder

 

Eglurwyd bod yr eiddo yn ar wahân mewn ardal anheddol o fewn ffin datblygu Morfa Nefyn, yn cefnu ar gaeau glas cefn gwlad agored gyda chefnau'r tai i’w gweld o’r brif lôn rhwng Morfa Nefyn ac Edern.

Trafodwyd yr addasiadau bwriadedig drwy gyfeirio at y cynlluniau a oedd yn cymharu’r agweddau presennol gyda’r dymunol. Eglurwyd bod y cynlluniau yn manylu ar y cymariaethau gan fod yr asiant yn ceisio  ymateb i  sylwadau a dderbyniwyd gan y Cyngor Tref a sylwadau o’r ymgynghoriad cyhoeddus bod y datblygiad yn or ddatblygiad o’r safle. Amlygwyd nad oedd maint y bwriad yn cynyddu’r safle yn sylweddol.

 

Tynnwyd sylw at fwynderau cyffredinol a phreswyl gan nodi bod argymhelliad i osod amod i sicrhau sgrin i atal gwelededd o’r balconi. Adroddwyd bod cymysgedd tai a dyluniadau yn yr ardal anheddol a chyfeiriwyd at bolisïau PCYFF3  sydd yn asesu materion dylunio, deunyddiau ac effaith gweledol unrhyw ddatblygiad a PCYFF2 sydd yn asesu effaith andwyol sylweddol iechyd, diogelwch neu fwynderau meddianwyr eiddo lleol.

 

Ystyriwyd bod y cais cynllunio yn cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y wybodaeth gefndirol a’r cyfiawnhad dros y dyluniad.

·         Yn gais am; 1. Adfywio a chreu cartref parhaol yn unol â ‘safonau cartref oes’ 2. gwelliannau thermol a thrwsio problemau gollwng dŵr, 3. Uchafu goleuni naturiol 4. Ail-siapio'r ffasâd plaen a digymeriad a chynnig wyneb o ansawdd uchel fyddai’n adlewyrchu nodweddion lleol.

·         Cyflwyno cyfuniad gwell o ddeunyddiau yn hytrach na’r gorffeniad presennol

·         Cynhaliwyd dadansoddiad llawn er mwyn sefydlu’r nodweddion sydd yn cynnig cyfraniad positif i hunaniaeth y pentref ac yn ogystal i gymeriad brodorol yr ardal. Defnyddiwyd y wybodaeth i ffurfio’r cynigion dan sylw.

·         Er bod yr eiddo i'w weld yn glir o Lôn Las, ni ystyriwyd fod y cynigion yn cyfrannu at effaith negyddol, ond i'r gwrthwyneb byddai’r dyluniad yn cynnig gwelliant sylweddol

·         Byddai’r newid mwyaf nodedig ar yr edrychiad cefn sef to fflat a balconi gyda gorchudd gwair sedwm ynghyd a chynnydd mewn arwynebedd gwydr - yn cynnwys wyneb tebyg i’r hyn sydd wedi ei ganiatáu gerllaw.

·         Bod y bwriad yn gofyn am ganiatâd i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.