skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim inodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Cofnod:

 

a)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0003/18/MG)

 

Y Cynghorydd Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0040/35/LL)

 

Y Cynghorydd Judith Humphreys (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0942/22/LL)

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim inodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 347 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 1af o Fawrth 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1af o Fawrth 2021 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C19/0003/18/MG - Rhiw Goch, Clwt Y Bont, Deiniolen, Caernarfon, LL55 3DE pdf eicon PDF 352 KB

Materion a gadwyd yn ol mewn perthynas a cais C13/0611/18/AM ar gyfer datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 dy fforddiadwy) a mynedfa newydd – cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth ychwanegol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais materion a gadwyd yn ol yn ddarostyngedig i:-

 

          Amodau:-

 

          1.            Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.

          2.            Cydymffurfio a gofynion y Caniatâd Draenio Tir Cwrs Dwr Cyffredin.

 

Nodyn i’r ymgeisydd parthed cyngor Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn ymwneud a thir halogedig.

 

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais. Eglurwyd bod egwyddor y bwriad eisoes wedi ei drafod a’i dderbyn o dan y cais amlinellol, gyda’r cais gerbron ar gyfer asesu’r elfennau  graddfa, golwg, tirweddu a mynedfa yn unig oedd wedi eu cadw’n ôl. Yn ychwanegol i’r materion a gadwyd yn ôl, roedd angen cydymffurfio gydag amodau oedd yn ymwneud a chyflwyno manylion parthed:-

 

(i)            cyflwyno Archwiliad Desg er mwyn asesu risg o lygredd dichonol ar y safle;

(ii)           cyflwyno gwybodaeth/eglurhad pellach parthed lliniaru effaith llifogydd;

(iii)          cyflwyno Datganiad Rheoli i’w gytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle;

(iv)          cyflwyno manylion darparu a gweithredu system rheoli dŵr hwyneb

(v)           cyflwyno manylion llwybr mynedfa i’r cwrs dwr, gwelliannau i drefniadau’r fewnfa ynghyd a thynnu’r geuffos.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli i’r de-orllewin o Ddeiniolen ar lecyn o dir diffaith a oedd yn hanesyddol wedi cael ei ddefnyddio at ddiben diwydiant cynhyrchu nwyddau dringo. Cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig gyda’r cais a nodwyd bod y polisïau perthnasol ynghyd ag ymatebion y cyfnod ymgynghori wedi ei cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, roedd yr egwyddor o godi 17 ar y safle eisoes wedi ei dderbyn. Gan ystyried gosodiad y safle o fewn y tirlun ynghyd a’i agosatrwydd at ardaloedd adeiledig, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn cael effaith arwyddocaol ar osodiad, cymeriad nag ar olygfeydd i mewn neu allan o’r dirwedd hanesyddol hwn. Ategwyd bod y safle yn dirywio ar  sail mwynderau gweledol ac yn ddolur llygad yn y tirlun. Awgrymwyd y byddai caniatáu y cais yn debygol o fod yn gam tuag at wella’r mwynderau gweledol yn y rhan yma o’r pentref. Yn ogystal, gan ystyried  gosodiad a dyluniad y tai arfaethedig ar y safle mewn perthynas â gosodiad a ffurf yr anheddau cyfagos, ystyriwyd na fyddai effaith sylweddol nac arwyddocaol ar fwynderau preswyl na chyffredinol yr anheddau hyn

 

Adroddwyd bod bwriad creu mynedfa newydd fyddai’n disodli’r fynedfa bresennol ar gyfer y datblygiad tai oddi ar y ffordd sirol dosbarth III gyfagos. Er bod gwrthwynebiad wedi ei dderbyn i’r cais ar sail diogelwch ffyrdd, roedd yr egwyddor o greu mynedfa newydd eisoes wedi ei dderbyn. Cyflwynwyd cynlluniau manwl ynghyd ag Asesiad Canlyniadau Llifogydd, Adendwm i’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd, Datganiad Manylion Rhyddhau Dŵr o’r Safle, Datganiad Gwaith ar gyfer cario allan gwelliannau i’r cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle ynghyd a Chytundeb Rheoli ar gyfer y cwrs dwr i ddiwallu gofynion y cais amlinellol. Ategwyd bod Uned Dŵr ac Amgylchedd y Cyngor caniatáu i’r ymgeisydd  ymgymryd â gwaith gwelliant i’r cwrs dwr sy’n cynnwys gosod trap graean ac adeiladu siambr cilfach gyda sgrin chwyn iddo. Dylai’r gwaith sicrhau na fydd llifogydd yn deillio o’r cwrs dwr naill a’i i’r tai arfaethedig nag allan i’r ffordd gyfagos  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C20/0040/35/LL - Sibrwd Y Gwynt, Morannedd, Criccieth, LL52 0PP pdf eicon PDF 339 KB

Codi tŷ preswyl newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn cynnal traofdaethau pellach gyda’r ymgeisydd ynglyn a deunyddiau amgen ar gyfer y to a’r waliau allanol

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn ymwneud a chodi tŷ newydd a chreu mynedfa gerbydol oddi ar y ffordd stad bresennol. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Criccieth; ar blot cul o fewn stad o dai amrywiol sydd ar lethr sy’n codi tua chefn y safle, ac wedi ei leoli rhwng dau eiddo gydag eiddo arall union o’i flaen gyferbyn a’r ffordd stad gul. Ategwyd bod y cais wedi bod yn destun sawl cais cynllunio ac apêl - 6 cais cynllunio wedi ei wrthod ar y safle yn y gorffennol a chaniatâd wedi ei roi ar y safle drwy apêl ar sail y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o gais C08D/0870/35/LL, Cadarnhawyd bod y caniatâd yma yn parhau yn fyw ar y safle

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddwyd bod yr adroddiad yn mynd i’r afael a’r materion hynny a godwyd yn yr apeliadau blaenorol; ac yn asesu’r bwriad yn erbyn polisïau cyfredol y Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd bod penderfyniadau apêl (gwrthod a chaniatáu) ar y safle yn gosod yn glir fod potensial i eiddo deulawr ar y safle yma beri goredrych ac effaith annerbyniol ar y trigolion gerllaw bob ochr ac i’r blaen. Mae’r penderfyniadau apêl yn dibynnu ar leoliadau ffenestri a lefelau llawr er mwyn sicrhau nad oes effaith andwyol ar y tai cyfagos.

 

Eglurwyd bod y tŷ sydd gerbron erbyn hyn oddeutu 4m yn lletach a 1m yn hirach na’r eiddo a ganiatawyd. Nodir fod yr eiddo wedi ei ddylunio gydag ongl ar y blaen fel nad yw’r edrychiad yn edrych allan i’r un cyfeiriad i gyd (i geisio osgoi goredrych). Mae’r annedd gerbron felly ychydig yn is o ran crib y to na’r hyn a ganiatawyd ond yn lletach ac yn cynnwys mwy o agoriadau ar y llawr cyntaf. Ystyriwyd nad yw’r lleihad mewn uchder yn gyfaddawd am yr effaith andwyol o gynyddu ei led ac ychwanegu agoriadau ar y llawr cyntaf. Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol yn fwy ar eiddo Pen y Bryn sydd wedi ei leoli yn union o flaen y safle, na’r hyn a grybwyllwyd yn dderbyniol yn ystod apêl 2011. Ystyriwyd fod maint yr eiddo (yn benodol ei led a’i swmp) yn golygu nad yw’r eiddo yn cydweddu a phatrwm adeiladu a dyluniad y stad

 

Nodwyd bod materion trafnidiaeth, mynediad a draenio yn dderbyniol

 

Ar sail yr asesiad, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol oherwydd bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yn ystyried y byddai’r tŷ gerbron, oherwydd ei faint (yn benodol ei uchder a’i led) lleoliad y ffenestri/drysau a balconïau ar yr edrychiad blaen a’r lefelau llawr gorffenedig yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd rhesymol eiddo o flaen y safle.

 

Argymhellwyd gwrthod y cais am y rhesymau oedd wedi ei cynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr a oedd wedi ei diwygio i gynnwys deunyddiau / gorffeniad allanol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C20/0986/45/LL - Y Llew Du, Ffordd Abererch, Pwllheli, LL53 5LE pdf eicon PDF 418 KB

Dymchwel tŷ tafarn a chodi 6 tŷ ynghyd a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i wrthod y cais.

 

Rhesymau

 

1.    O ystyried graddfa, dyluniad a nifer yr anheddau arfaethedig, ni ystyrir y byddai’r datblygiad yn gweddu nac o ymddangosiad derbyniol o fewn yr ardal leol. Yn ogystal, o ystyried natur gyfyng y safle, nifer yr unedau fel rhan o’r cynllun a diffyg gofod amwynder ynghlwm a’r tai unigol credir y byddai’n or-ddatblygiad o’r safle ag yn niweidiol i fwynderau preswyl. Felly, ystyrir bod y cynnig yn groes i ofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn

 

2.    Ar sail diffyg cymysgedd briodol o dai, diffyg cyfiawnhad yn amlinellu sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol nac unrhyw ddarpariaeth o dai fforddiadwy fel rhan o’r cais nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y bwriad yn dderbyniol. O ganlyniad, credir bod y bwriad yn methu cyfarfod gofynion polisiau TAI 1, TAI 8 a TAI 15 o fewn Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, ynghyd a chyngor perthnasol a roddir o fewn Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy a Cymysgedd Tai.

 

3.    Er y cyflwynwyd dogfen a nodir fel Datganiad Cymunedol a Ieithyddol fel rhan o’r cais, nid yw’n cynnwys gwybodaeth ddigonol ac o ganlyniad, ni chredir fod digon o wybodaeth ar gael i asesu os yw’r bwriad yn unol â maen prawf 1c o Bolisi PS1 sydd yn gofyn am ddatganiad iaith Gymraeg fyddai’n dangos sut byddai datblygiadau arfaethedig yn gwarchod, hyrwyddo a chryfhau’r iaith Gymraeg. Ar y sail yma, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r bwriad yn cael effaith ar yr Iaith Gymraeg yn ardal y cynllun

 

4.     Ni chredir fod gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno sydd yn cyfiawnhau colli’r gyfleuster ar sail gofynion perthnasol polisi ISA 2 yn ogystal â chyngor a roddir yn y Canllaw Cynllunio Atodol: Newid defnydd

 

 

cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, safleoedd cyflogaeth ac unedau

manwerthu; sydd yn nodi'r angen i gadarnhau trwy dystiolaeth bod ymdrechion wedi bod i farchnata’r eiddo’n addas.

 

5.    Mae'r safle yn gorwedd o fewn ardal mewn risg o lifogydd dŵr wyneb ag oherwydd na gyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd fyddai wedi ystyried datblygu diogel y safle ynghyd a dangos na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn disodli dŵr wyneb tuag at eiddo eraill ni chredir fod y bwriad yn dderbyniol ar sail risg llifogydd a’i fod o ganlyniad yn groes i faen prawf 8 polisi PS 5, maen prawf 4 polisi PS 6 ynghyd a chyfarwyddyd a roddir yn mharagraff 11.1 o Nodyn Cyngor Technegol 15.

 

6.    Ni gyflwynwyd arolwg rhagarweiniol ar gyfer rhywogaethau wedi eu gwarchod o fewn y safle a’r adeiladau ac nid oes gwelliannau bioamrywiaeth yn ffurfio rhan o’r bwriad. O ganlyniad, ni ellir sicrhau gwarchodaeth a gwelliannau i fioamrywiaeth leol ac o ganlyniad credir fod y bwriad yn annerbyniol o safbwynt gofynion meini prawf polisi AMG 5 ynghyd a chyngor a roddir o fewn NCT 5.

 

Cofnod:

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn oedd dan sylw ar gyfer dymchwel tafarn deulawr presennol ac adeiladu 6 2 neu 3 llofft mewn rhes. Byddai’r tai yn 3 llawr ac yn cynnwys y canlynol:

 

·         Llawr Daear: cyntedd, toiled, ystafell iwtiliti, modurdy/gweithdy, ystafell wely/swyddfa

·         Llawr cyntaf: ystafell fyw, cegin, ystafell ymolchi

·         Ail lawr: dwy ystafell wely (1 yn en-suite)

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei  leoli o fewn ffin datblygu tref Pwllheli, o fewn ardal breswyl yn bennaf gydag ambell ddefnydd masnachol gerllaw; mewn lleoliad amlwg wrth ochr un o'r prif lwybrau trafnidiaeth i mewn ac allan o dref. Nodwyd bod yr adeilad a'i ddefnydd fel tafarn yn wag ar hyn o bryd.

 

Amlygwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sawl rheswm oedd yn ymwneud â

·         Cholled o’r dafarn

·         Diffyg cyfiawnhad am y tai

·         Diffyg cyfiawnhad am gymysgedd tai

·         Diffyg  darpariaeth tai fforddiadwy

 

Nodwyd pryderon am ddyluniad, graddfa a dwysedd y datblygiad yn ogystal â diffyg gofod mwynderol - ystyriwyd y cais fel  gorddatblygiad o’r safle ac y byddai’n cael effaith andwyol ar yr ardal.

 

Amlygwyd bod yr asesiad yn amlygu diffyg gwybodaeth ar sawl mater, megis bioamrywiaeth, llifogydd a draenio ac ieithyddol ac o ganlyniad nid oedd modd asesu’r bwriad yn llawn. Argymhellwyd gwrthod y cais oherwydd y rhesymau hyn. Ategwyd, oherwydd y gwrthwynebiadau sylfaenol, nid oedd y swyddogion wedi mynd yn ôl at yr asiant i holi am wybodaeth angenrheidiol nad oedd yn ffurfio rhan o’r cais. Nodwyd nad oedd cais am gyngor ymlaen llaw wedi ei dderbyn.

 

b)    Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Tafarn hanesyddol sydd wedi newid dwylo lawer gwaith

·         Sgil effaith covid 19 yn debygol o amlygu pwysau cynyddol ar ddatblygu - rhaid felly sicrhau'r angen fforddiadwy

·         Angen annog ymgeiswyr i gymryd cyngor cyn cyflwyno - awgrym o lawlyfr i amlinellu gwybodaeth sydd ei angen wrth gyflwyno cais

·         Angen amlygu datganiadau iaith yn well ar y wefan

           

PENDERFYNWYD:

 

            Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i wrthod y cais.

 

            Rhesymau

 

1.    O ystyried graddfa, dyluniad a nifer yr anheddau arfaethedig, ni ystyrir y byddai’r datblygiad yn gweddu nac o ymddangosiad derbyniol o fewn yr ardal leol. Yn ogystal, o ystyried natur gyfyng y safle, nifer yr unedau fel rhan o’r cynllun a diffyg gofod amwynder ynghlwm a’r tai unigol credir y byddai’n or-ddatblygiad o’r safle ag yn niweidiol i fwynderau preswyl. Felly, ystyrir bod y cynnig yn groes i ofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn

 

2.    Ar sail diffyg cymysgedd briodol o dai, diffyg cyfiawnhad yn amlinellu sut fydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol nac unrhyw ddarpariaeth o dai fforddiadwy fel rhan o’r cais nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C20/1020/39/LL - Rhandir Caravan Park Lôn Plas Crwth, Mynytho, Pwllheli, LL53 7SF pdf eicon PDF 417 KB

Ail-leoli saith carafan o fewn cwrtil maes carafannau presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Caniatáu

 

Amodau

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda cynlluniau

3.         Tirlunio

4.         Cyfyngu i ddefnydd gwyliau

5.         Cyfyngu defnydd lleiniau/cynllun adfer

6.         Cyfyngu niferoedd

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y  bwriad yn ymwneud a newidiadau o fewn maes carafanau sefydlog presennol trwy ail-leoli 7 carafán o’u lleoliadau presennol yn wasgaredig o fewn y safle, i un safle. Byddai'r gwelliannau a fwriedir eu gwneud yn cynnwys,

·         adeiladu clawdd pridd 1m o uchel gyda llwyni ar ei ben ar hyd ymylon yr unedau yn eu lleoliad newydd.

·         cynnal tirlunio a phlannu o fewn y llecynnau ddaw yn wag oddi mewn i'r safle wedi ail leoli’r unedau.

 

Eglurwyd, yn bresennol bod caniatâd cynllunio ar gyfer 62 carafán sefydlog ar y safle a gan mai ail-leoli 7 carafán bresennol i leoliad newydd oedd y bwriad, ni fyddai'r niferoedd carafanau yn cynyddu.

 

Lleolir y safle yng nghefn gwlad ac oddi fewn dynodiadau Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Ceir mynediad i'r safle ar hyd ffordd breifat o'r ffordd ddosbarth cyhoeddus agosaf. Nodwyd bod gwrychoedd sefydledig ar hyd ffiniau’r safle ac oddi mewn gyda thyfiant gwasgaredig o goed yn ogystal.

 

Cyflwynwyd  y cais i Bwyllgor gan fod ardal y datblygiad yn fwy na’r hyn y gellid ei benderfynu o dan y drefn ddirprwyedig.

 

Ystyriwyd yr addasiadau fel gwelliannu bwriadedig. Cyfeiriwyd at yr hanes cynllunio a’r ymatebion oedd wedi eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori. Yn dilyn cynnal asesiad llawn o’r materion cynllunio perthnasol, ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol. 

 

b)    Amlygwyd bod yr Aelod Lleol wedi nodiei fod yn llwyr gytyn gydag argymhelliad a sylwadau'r Swyddog Cynllunio’.

 

c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen sicrhau digon o le rhwng carafanau

·         Bod angen gwrthod ceisiadau i lenwi bylchau

·         Angen sicrhau bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda gosodiadau pellter

·         Angen cadarnhad bod trwydded i’r safle

·         Unedau gwyliau yn cynyddu mewn maintawgrym i leihau / adoylgu nifeoredd carafanau ar safeloedd os yw’r unedau yn mynd yn fwy

 

Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn â sicrhau digon o le rhwng carafanau, nodwyd bod gofynion trwydded yn mynnu hyn ynghyd a gofynion y Gwasanaeth Tan. Ategodd y Swyddog Monitro bod y drwydded yn seiliedig ar ganiatâd cynllunio a bod y carafanau i’w gosod yn unol ag amodau caeth y drwydded. Nodwyd bod y cais gerbron, i ail-leoli 7 carafán, yn gais priodol ac yn disgyn o fewn gofynnion polisi - petai’r maes carafanau eisiau ehangu ymhellach, buasai rhaid cyflwyno cais o’r newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu

 

Amodau

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Tirlunio

4.         Cyfyngu i ddefnydd gwyliau

5.         Cyfyngu defnydd lleiniau/cynllun adfer

6.         Cyfyngu niferoedd

 

10.

Cais Rhif C20/0942/22/LL - Tir ger Maes Dulyn County Road, Penygroes, LL54 6HE pdf eicon PDF 490 KB

Cais ar gyfer codi 24 o dai, creu mynedfa newydd a ffordd stad mewnol, cadarnhau llwybr cyhoeddus, gwaith draenio a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn ymateb ffafriol gan Dwr Cymru ac i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth addysgol a chyfraniad llecyn agored.

 

 Amodau

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.         Llechi naturiol.

4.         Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai ynghyd a manylion y paneli solar i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.         Amodau Priffyrdd.

6.         Tirlunio meddal a chaled.

7.         Amodau Bioamrywiaeth a Choed

8.         Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos, 08:00 - 12.00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gwyliau Banc.

9.         Manylion Llwybr

10.       Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.

11.       Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy.

12.       Tynnu hawliau datblygu cyffredinol o’r unedau fforddiadwy.

13.       Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio cerbydau’r adeiladwyr.

14.       Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn iddynt gael eu gosod

15.       Amod mesurau lliniaru archeolegol.

16.       Diogelu’r llecyn agored ar gyfer y dyfodol

 

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth ddraenio cynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor

 

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru sy’n cyfeirio at garthffos gyhoeddus yn croesi’r safle

 

Nodyn: Enwau Cymraeg i’r tai yn ogystal a’r Stad/ffyrdd o fewn y stad ei hun

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)            Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais oedd yn gais llawn ar gyfer darparu 24 o unedau preswyl gyda phob un ohonynt yn dai fforddiadwy. Cyflwynwyd y cais gan Grŵp Cynefin (Landlord Cymdeithasol Cofrestredig) ac yn gynllun ar y cyd rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Gwynedd. Eglurwyd bod y safle, sydd eisoes ym mherchnogaeth Grŵp Cynefin, wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Penygroes ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai fel y’i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Rhennir y cais i sawl elfen wahanol sy’n cynnwys:-

·         Darparu unedau fforddiadwy sy’n cynnwys 10 tŷ 2 ystafell wely, 3 tŷ 3 ystafell wely, 2 tŷ 3 ystafell wely, 1 tŷ 4 ystafell wely ac 8 fflat 1 ystafell wely fydd ar gael ar ffurf cymysgedd o ddeiliadaeth fforddiadwy sydd i’w gytuno. Darparu isadeiledd i gynnwys ffordd stad a llwybrau troed cysylltiedig, ffensys/rheiliau a waliau cerrig.

·         Darparu llecynnau parcio ar gyfer pob tŷ, creu mynedfa newydd o’r ffordd sirol dosbarth II B4418 ynghyd a darparu llwybr troed drwy’r safle i gydymffurfio a’r llwybr cyhoeddus sydd yn ei groesi.

·         Darparu llecyn amwynder o fewn y safle ynghyd a llefydd ar gyfer crynhoi dŵr a choridor bywyd gwyllt

 

Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi llwyddo i dderbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru i  adeiladu’r holl unedau preswyl fel rhai fforddiadwy.

 

Cyfeiriwyd at faterion tai fforddiadwy a chymysgedd tai. Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno Nodyn Tai Fforddiadwy. Eglurwyd y byddai’r  tenantiaid yn cael ei  dewis drwy bolisi tai gosod lleol. Amcangyfrifwyd bod 70 o geisiadau ar y gofrestr aros am dai cymdeithasol yn yr ardal a’r diffyg cyflenwad yn golygu y byddai rhai yn aros yn hir am gartref. Ystyriwyd bod y bwriad yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir i gartrefu pobl yn eu hardal leol drwy ddatblygu cynllun o ansawdd fyddai’n diwallu anghenion cydnabyddedig drwy ddarparu cymysgedd briodol o unedau.

 

Nodwyd bod materion mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl a materion trafnidaieth yn dderbyniol. Yng nghyd-detun materion llifogydd a draenio, nodwyd bod Dŵr Cymru wedi cadarnhau bodlonrywdd bod yr asedau yn cael eu gwarchod mewn ffordd briodol.

 

Wrth gyfeirio at faterion ieithyddol, adroddwyd bod datganiad iaith wedi ei gyflwyno gyda’r cais ynghyd a diwygiad pellach. Ategwyd bod sylwadau pellach wedi eu cyflwyno (22/3/21) gan yr Uned Iaith yn cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais oherwydd bod y materion addysg a’r angen am dai wedi eu cadarnhau.

 

Adroddwyd bod Swyddog Gwybodaeth yr Adran Addysg wedi nodi bod Ysgol Gynradd Bro Lleu dros ei chapasiti ac o ganlyniad bod cyfiawnhad i ofyn am gyfraniad er mwyn diwallu’r diffyg capasiti yma drwy gyfrannu swm penodol o £64,614. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi derbyn cadarnhad gan swyddogion cynllunio bod angen cyfraniad addysgol a gellid sicrhau hyn drwy arwyddo cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106.

 

Yng nghyd-destun llecynnau chwarae, amlygwyd bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar i blant yn yr ardal. Nodwyd bod yr ymgeisydd yn cynnig  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.