skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes, Eric M Jones a Huw Wyn Jones 

 

Anfonwyd dymuniadau gorau at wellhad buan i’r Cynghorydd Eric M Jones oedd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar

 

Llongyfarchwyd Cara Owen (Rheolwr Cynllunio) ar ei phenodiad fel Rheolwr Prosiect i’r Gwasanaeth Tai ac Eiddo.. Diolchwyd iddi am ei chyngor a’i chefnogaeth i’r Pwyllgor Cynllunio dros y blynyddoedd a dymunwyd y gorau iddi yn ei swydd newydd.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Berwyn P Jones yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (C20/1093/24/Ll) oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

 

Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (C20/0877/09/LL) oherwydd ei bod yn gymydog ac yn ffrind i’r ymgeisydd

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Judith Humphreys (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (C21/0430/22/LL)

·         Y Cynghorydd Owain Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (C21/0376/34/LL)

·         Y Cynghorydd Mike Stevens (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (C20/0877/09/LL)

·         Y Cynghorydd Gareth T Jones ( a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (C21/0332/42/DA)

·         Y Cynghorydd Gruffydd Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y rhaglen, (C21/0368/42/DT)

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 291 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21 Mehefin 2021 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Fehefin 2021 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C21/0430/22/LL Tir gerllaw Oxton Villa Ffordd Haearn Bach, Penygroes, LL54 6NY pdf eicon PDF 335 KB

Cais ar gyfer codi ty fforddiadwy gyda mynedfa a parcio a tirweddu cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gohirio y penderfyniad er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd i ganfod

  • Beth yw’r ‘angen’ presennol?
  • A yw wedi ystyried rhoi tŷ arall fforddiadwy ar y safle i gael mwy o werth allan o’r plot?
  • A yw’n fodlon ystyried cytundeb 106 tŷ fforddiadwy angen lleol ar yr eiddo?

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli mewn cae amaethyddol ar gyrion pentref Penygroes ar hyd  ffordd gul sy’n troi’n llwybr cyhoeddus. Amlygwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o’r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0853/22/LL ac wedi ei gyflwyno gerbron y pwyllgor cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.

 

Eglurwyd bod Polisi TAI 16 ‘Safleoedd Eithrio’ yn datgan os gellid dangos bod angen lleol wedi’i brofi am dai fforddiadwy na ellid ei gyfarch o fewn amserlen resymol ar safle marchnad tu mewn i’r ffin datblygu, fel eithriad caniateir cynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy ar safleoedd sy’n union gerllaw’r ffiniau datblygu sy’n ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle.

 

Adroddwyd nad oedd gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn nodi bod safle’r cais yn cyffwrdd â’r ffin ddatblygu – ymddengys bod bwlch rhwng y safle a’r ffin ddatblygu yn ymddangos fel llwybr cyhoeddus. Yn nhermau polisi cynllunio mae’r safle wedi ei ddiffinio fel lleoliad yng nghefn gwlad agored ac felly nid yw’n berthnasol ei ystyried yn nhermau Polisi TAI 16, ‘Safleoedd Eithrio’  - ceir hyn ei ategu yn y Canllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’.

 

Nodwyd bod y bwriad yn cael ei gynnig fel tŷ fforddiadwy. Er bod Tai Teg wedi cadarnhau bod yr ymgeisydd yn addas ar gyfer prynu eiddo fforddiadwy neu eiddo fforddiadwy i’w adeiladu ei hun, nid oedd gwybodaeth bellach ynglŷn ag angen penodol yr ymgeisydd am dŷ fforddiadwy wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais. Amlygwyd bod arwynebedd llawr mewnol y tŷ unllawr dwy lofft oddeutu 110m sgwâr sydd yn 50m sgwâr yn fwy na’r uchafswm a nodir yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer tŷ unllawr 2 ystafell wely fforddiadwy. Nodwyd hefyd bod uchder y prif do yn golygu bod potensial i ddarparu llawr ychwanegol uwchben rhan o’r tŷ yn y dyfodol. Ystyriwyd bod safle’r cais (sydd yn cynnwys y tŷ bwriedig a’i gwrtil) yn fawr iawn ac y byddai darparu cwrtil o’r maint yma yn debygol o godi gwerth yr eiddo a all olygu na fydd y tŷ yn fforddiadwy o ran ei bris. Ar sail hyn, ystyriwyd y bwriad yn groes i ofynion polisi TAI 15 o’r CDLl a CCA Tai Fforddiadwy o ran yr arwynebedd llawr sydd wedi ei ddangos.

 

Eglurwyd bod polisi PCYFF 2 yn darparu meini prawf datblygu ac yn datgan fod yn rhaid i gynigion gydymffurfio gyda holl bolisïau perthnasol y Cynllun a pholisïau a chanllawiau Cenedlaethol yn y lle cyntaf. Ategwyd bod y polisi yn rhestru cyfres o feini prawf sy’n ymwneud a gwneud y defnydd gorau o dir, ymgorffori gofod mwynderol, cynnwys darpariaeth ar gyfer storio, ailgylchu a rheoli gwastraff, a chynnwys darpariaeth ar gyfer trin a chael gwared a rhywogaethau ymwthiol yn effeithiol. Yn arferol byddai disgwyl i safle o’r maint yma ddarparu oddeutu 3 uned byw - disgwylir darparu tai newydd ar raddfa o 30 uned byw yr hectar. 

 

Ystyriwyd y bwriad arfaethedig yn annerbyniol, ac yn groes i ofynion polisïau lleol a chenedlaethol.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C20/1093/24/LL Tir ger Talardd, Dinas, Caernarfon, LL54 7YN pdf eicon PDF 574 KB

Cais ar gyfer codi 16 annedd gyda mynedfa cysylltiol, parcio a thirweddu

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aeron M Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gohirio er mwyn:

  • Asesu datganiad rheoli cynefinoedd
  • Ail asesu’r asesiad yn dilyn cadarnhad bod yr holl dai yn dai fforddiadwy
  • Ail ystyried y datganiad iaiith a sut mae’r newid yn effeithio materion ieithyddol
  • Cynnwys y sylwadau hwyr yn yr asesiad

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)    Awgrymodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu y dylid gohirio’r cais am y rhesymau canlynol:

·         Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd gan yr Uned Bioamrywiaeth ar gyfer y datblygiad yn cadarnhau bod angen gwybodaeth ychwanegol gan Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y gellid cadarnhau na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig

·         ADRA wedi cadarnhau deiliadaeth yr holl unedau fel cymysgedd o rent cymdeithasol a chanolradd ac felly cyfle i ail asesu’r asesiad

b)    Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Bod y datganiad iaith yn annigonol  - awgrym i’w ail ystyried

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio er mwyn:

·         Asesu datganiad rheoli cynefinoedd

·         Ail asesu’r asesiad yn dilyn cadarnhad bod yr holl dai yn dai fforddiadwy

·         Ail ystyried y datganiad iaith a sut mae’r newid yn effeithio materion ieithyddol

·         Cynnwys y sylwadau hwyr yn yr asesiad

 

 

8.

Cais Rhif C21/0376/34/LL Darn o dir, Ffordd o Capel Ebenezer yn pasio Bryn Eisteddfod a Gilfach i'r de o groesffordd Penarth, Clynnog Fawr, Clynnog, LL54 5BT pdf eicon PDF 340 KB

Cais ar gyfer codi ty deulawr gyda modurdy

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Owain Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gohirio

  • Angen ail-hysbysebu’r cais  gyda’r cyfeiriad cywir – ail ymgynghori ac ail osod rhybudd safle.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod sylw wedi dod i law gan asiant y cais yn cadarnhau fod angen cywiro cyfeiriad y safle

 

Ategodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol ei fod wedi derbyn cais gan yr Aelod Lleol i ohirio’r cais gan nad oedd cyfeiriad y cais yn gywir. Nododd bod gofynion statudol yn ymwneud â hysbysebu cais gan gynnwys manylion manwl a chywir - os nad yw cyfeiriad y lleoliad yn eglur byddai hyn yn amlygu risgiau. 

 

Ategodd yr Aelod Lleol bod y cyfeiriad wedi creu dryswch ac y byddai ail hysbysebu yn rhoi cyfle i drigolion lleol gyflwyno sylwadau er derbyn bod hyn yn creu anghyfleustra i’r ymgeisydd

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio’r cais

 

       Angen ail-hysbysebu’r cais  gyda’r cyfeiriad cywir – ail ymgynghori ac ail osod rhybudd safle.

 

9.

Cais Rhif C20/0102/33/LL Plas Yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YL pdf eicon PDF 259 KB

Ymestyn safle carafanau teithiol presennol i dir gerllaw trwy greu mynediad newydd o'r safle gwersylla presennol, symud lleoliad un garafán deithiol ac ychwanegu 8 carafán deithiol newydd.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Gohirio ar gais yr ymgeisydd.

  • nodi gohiriad hyd Medi 2021

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais wedi dod i law gan yr ymgeisydd i dynnu’r cais oddi ar raglen y Pwyllgor. Nodwyd nad oedd eglurhad dros yr angen i ddileu’r cais ac nad oedd y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd wedi newid y farn cynllunio - nid oedd rheswm cynllunio dros ohirio’r cais

 

b)    Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais

 

 

PENDERFYNWYD: 

 

Gohirio ar gais yr ymgeisydd.

           nodi gohiriad hyd Medi 2021

 

10.

Cais Rhif C21/0483/33/LL Plas Yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YL pdf eicon PDF 316 KB

Dymchwel sied fferm bresennol a chodi sied amaethyddol newydd yn ei lle i gadw peiriannau a phorthiant

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu gydag amodau

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Gorffeniad lliw llwyd i gydweddu siediau presennol 

4.         Amod defnydd amaethyddol

 

Nodyn: Draenio Cynaliadwy (SUDS)

 

Cofnod:

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ymwneud â dymchwel cytiau carreg presennol a chodi sied amaethyddol newydd yn eu lle i gadw peiriannau a phorthiant o fewn iard y fferm ymysg adeiladau fferm presennol. Bydd y sied wedi ei hadeiladu o wal flociau wedi eu rendro ar y gwaelod a shitiau dur lliw llwyd ar y muriau a'r to. Ategwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth aelod o’r Cyngor.

 

Eglurwyd bod maint a dyluniad y sied yn addas ac er bod yr eiddo o fewn dynodiad Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn, ni ystyriwyd y byddai sied o’r raddfa yma, ymysg adeiladau presennol, yn creu effaith gweledol niweidiol ar y tirlun hanesyddol ehangach. Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, adroddwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi gwneud cais am arolwg rhywogaethau gwarchodedig yn wreiddiol, ond wedi derbyn mwy o wybodaeth a lluniau, cadarnhawyd nad oedd angen arolwg gan nad oedd y strwythurau sydd i’w dymchwel yn addas i ystlumod.

 

Wedi asesu’r cais yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd angen, dyluniad, gorffeniad, effaith ar dirlun, mwynderau trigolion, ffyrdd a bioamrywiaeth.

 

a.     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

b.     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Bod y sied yn fychan ac ar gyfer y diwydiant amaethyddol

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu gydag amodau

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Gorffeniad lliw llwyd i gydweddu siediau presennol 

4.         Amod defnydd amaethyddol

 

Nodyn: Draenio Cynaliadwy (SUDS)

 

11.

Cais Rhif C20/0877/09/LL Maes Carafanau Pall Mall Ffordd Bryncrug, Tywyn, Gwynedd, LL36 9RU pdf eicon PDF 460 KB

Lleoli 9 carafan gwyliau sefydlog yn lle 12 carafan deithiol ynghyd a gwelliannau amgylcheddol

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Anne Lloyd Jones a’r Cynghorydd Mike Stevens

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Gwrthod y cais

 

  1. Mae’r bwriad yn un sydd yn agored iawn i niwed ac sydd wedi ei leoli oddi fewn i barth llifogydd C1.  Nid yw’r bwriad yn rhan o strategaeth adfywio neu strategaeth gan yr awdurdod lleol nag ychwaith yn cyfrannu at amcanion cyflogaeth allweddol sy’n cael eu cefnogi gan yr awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill.  Nid yw’r bwriad ychwaith wedi ei leoli ar dir a ddatblygwyd o’r blaen ac mae’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd gyda’r cais wedi  methu dangos fod risgiau a chanlyniadau llifogydd yn gallu cael ei reoli i lefel derbyniol.  Nid yw’r bwriad felly yn cwrdd gyda’r gofynion cyfiawnhad a geir ym mharagraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol Cymru : Datblygiad a Pherygl o Lifogydd ac yn sgil hynny mae hefyd yn groes i ofynion Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

  1. Nid yw’r cynnydd yn y niferoedd arfaethedig o garafanau gwyliau sefydlog yn fach, nac yn gydnaws a graddfa’r gwelliannau a fwriedir i’r safle ac mae uwchlaw’r cynnydd o 10% argymhellir i’r niferoedd gwreiddiol ar y safle, felly yn groes i egwyddorion pwynt 4 o bolisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a’r Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.

 

  1. Ni roddwyd ystyriaeth ddigonol i faterion tirweddu fel rhan o’r cynnig.  Yn sgil hyn ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at gynnal neu wella’r tirwedd a bod y bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

Cofnod:

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ymwneud ag ymestyn safle carafanau presennol i leoli 9 carafán gwyliau sefydlog yn lle 12 carafán deithiol sydd gyda chaniatâd ar y safle carafanau presennol. Amlygwyd bod safle’r cais yn disgyn tu allan i ffin y safle carafanau presennol ac wedi ei  leoli ar dir gwastad yng nghefn gwlad oddi ar yr A493 rhwng Tywyn a Bryncrug.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol

 

Adroddwyd bod y safle yn gorwedd o fewn parth llifogydd C1 sy’n cael ei gysylltu gyda Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd (NCT 15). Ystyriwyd y  bwriad yn un sy’n agored iawn i niwed ac yn rhan 6.2 o NCT 15 nodi’r mai’r unig amser y bydd cyfiawnhad dros leoli datblygiad o’r fath oddi fewn parth C1 yw pan ellid tystiolaethu bod y bwriad yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol. Amlygwyd, er bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gydag asiant yr ymgeisydd ynglŷn â’r materion hyn, na fyddai mwy o wybodaeth yn cael ei gyflwyno yn ymwneud a’r mater.

 

Daeth yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd i’r casgliad nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda NCT 15. Yn dilyn asesiad Swyddogion i ystyriaethau paragraff 6.2 o NCT 15 ystyriwyd nad oedd y bwriad yn cwrdd gyda’r gofynion perthnasol ac felly yn groes i ofynion NCT 15 ynghyd a materion llifogydd Polisi PS 6.

 

Ystyriaeth arall a roddwyd i’r bwriad oedd y byddai’n cynyddu’r nifer o garafanau sefydlog ar y safle o’r 35 gwreiddiol i 55 - cynnydd oddeutu 57% sydd ymhell i’r 10% y cyfeirir ato ym Mholisi TWR 3 CDLL.  O ganlyniad, ystyriwyd y bwriad yn groes i bwynt 4 iii o Bolisi TWR 3 gan nad yw’n gynnydd bychan yn nifer yr unedau ar y safle.

 

Mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn  mynegi pryder am effaith weledol y bwriad ar y tirwedd, ymddengys bod y cais wedi nodi bwriad tirlunio cynhenid ychwanegol ond nad oedd manylion wedi ei derbyn. O ganlyniad, ni ellid  asesu effaith y bwriad yn llawn o ran ei osodiad yn y tirwedd ehangach ac yn sgil hynny ni ystyriwyd y byddai’n ychwanegu at gynnal neu gwella’r tirwedd ac yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 CDLL.

 

Argymhellwyd gwrthod y cais.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

Mewn ymateb i bryderon llifogydd, nododd

·         Bod safle'r cais yn gorwedd ar ymyl parth risg llifogydd llanw gyda rhan fwyaf o'r maes carafanau, gan gynnwys y fynedfa, ar dir sych

·         Nad oedd CNC wedi ystyried bod carafanau gwyliau statig gyda gwagle o oddeutu +750mm o dan yr unedau - ni fyddai’r garafán yn cael ei heffeithio

·         Bod mynediad i dir sych o fewn y safle petai llifogydd - gellid rheoli hyn gydag amod a chynllun gwacáu llifogydd.

·         Byddai’r datblygiad yn disodli 12 o garafanau teithiol gydol y flwyddyn, gyda 9 carafán gwyliau statig, felly bydd gostyngiad yn nifer y carafanau gwyliau ar y rhan yma  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C21/0332/42/DA Terfyn Lôn Terfyn, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BA pdf eicon PDF 470 KB

Diwygiadau ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gynyddu maint feranda a mynediad droed

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth M Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Caniatau gydag amodau

 

Diwygiad Ansylweddol :

 

Cwblheir y diwygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun rhif 03/DR19, a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 21 Mehefin 2021, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C19/0982/42/LL.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Diwygiadau ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gadw cynnydd ym maint y feranda

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn un am ddiwygiad ansylweddol i ganiatâd cynllunio C19/0982/42/LL i gadw gwaith o ymestyn feranda ar yr eiddo. Eglurwyd bod ffrâm y feranda eisoes wedi ei adeiladu, ond nad yw’r to llechi wedi ei osod. Ategwyd bod y colofnau yn ymestyn 1.6m allan o wal flaen yr eiddo - 50cm yn fwy na’r caniatâd cynllunio a gymeradwywyd eisoes. Cyflwynwyd y cais i geisio cadw’r newidiadau yn dilyn camau gorfodaeth cychwynnol ac ar gais yr Aelod Lleol

 

Eglurwyd, o dan Rhan 96 A o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mae modd cyflwyno ceisiadau am Ddatblygiadau Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio presennol ers 1 Medi 2014. Mae Canllaw Cynllunio: Cymeradwyo Diwygiad Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio sy’n Bodoli Eisoes gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn a ystyrir yn ddatblygiad ansylweddol gyda phrofion asesu  pendant wedi eu rhestru.

 

Ni ystyriwyd y byddai’r newid bychan yma yn amlwg wrth edrych ar y safle o unrhyw fan cyhoeddus ac wrth nodi sylwadau’r cymydog, ni ystyriwyd y byddai unrhyw effeithiau mwynderol niweidiol ychwanegol yn deillio o’r newid.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Eu bod wedi symud i’r ardal tua dwy flynedd yn ôl ac wedi prynu Terfyn gyda'r bwriad o adnewyddu'r eiddo a oedd, yn anffodus, yn dadfeilio.

·         Ystyriwyd bod y datblygiad yn Terfyn wedi bod yn unol ag arddull yr eiddo ac ar gost ychwanegol sylweddol, wedi cynnal ffasâd yr adeilad

·         Camgymeriad syml rhyngddo ef a'r adeiladwr oedd gwraidd yr angen i addasu’r feranda, gyda’r adeiladwr yn ei adeiladu ychydig yn rhy ddwfn o'i gymharu â'r cynlluniau a gyflwynwyd.

·         Fe’u cynghorwyd gan y swyddog cynllunio i ailgyflwyno diwygiadau ansylweddol i'r cynlluniau gwreiddiol a wnaed ym mis Mawrth 2021

·         Derbyniwyd bod gwrthwynebiadau wedi'u codi ynghylch maint y feranda a hefyd y byddai’n effeithio preifatrwydd eiddo cyfagos

·         Gan fod y feranda wedi'i hadeiladu'n rhannol yn unig, gellid derbyn y byddai  pryderon yn codi gan y gallai ymddangos, yn ei chyflwr hanner adeiledig, bod  to'r feranda yn wastad, ac y byddai'n bosibl i rywun gerdded allan i'r feranda a chael golygfeydd sylweddol dros eiddo cyfagos

·         Bydd y feranda orffenedig yn un o lechi yn unol â tho presennol yr eiddo ac ni fydd yn bosib cerdded arno - nid yw’r honiad felly y byddai’r feranda yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd yn ddilys

·         Nid ydynt wedi gwneud unrhyw newidiadau i arddull a maint a lleoliad nac ar  ffenestri'r eiddo felly nid oes unrhyw newid sylweddol i'r elfen breifatrwydd sy'n effeithio ar unrhyw eiddo cyfagos - ategir hyn gan asesiad y swyddog cynllunio sydd wedi ystyried ystyriaethau cynllunio deunydd o dan adran 96A o ddeddf cynllunio tref a gwlad 1990

·         Bod y swyddogion cynllunio yn nodi na ellid cytuno â'r honiad bod y newid yn or-ddatblygiad neu'n sylweddol wahanol i'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C21/0111/45/LL Tir ger Cae Llan, Denio, Penrallt, Pwllheli, LL53 5UA pdf eicon PDF 388 KB

Cais llawn am ddatblygiad preswyl i gynnwys 14 tŷ newydd ynghyd a mynedfa, ffordd stad a llwybr troed, parcio, tirlunio a safle pwmpio carthffosiaeth

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb Adran 106 i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at fannau chwarae ac i sicrhau darpariaeth o 4 tŷ fforddiadwy. Hefyd, dylid gweithredu amodau sy'n ymwneud â'r hyn a ganlyn:

 

1.         Amserlenni

2.         Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

3.         Cyfyngiad datblygiadau a ganiateir ar y tai fforddiadwy.

4.         Deunyddiau.

5.         Dŵr Cymru / SUDS

6.         Amseroedd adeiladu.

7.         Lefel llawr gorffenedig.

8.         Sgriniau preifatrwydd i'r balconïau ar blotiau 5 a 10

9.         Amodau mynediad priffyrdd

10.       Tirlunio.

11.       Gwarchod coed.

12.       Ymchwiliad archeolegol.

13.       Mesurau lliniaru'r iaith Gymraeg - hysbysebu'r safle, enwau'r stad a'r tai.

 

Er gwybodaeth:  SUDS

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod y cais yn gais llawn ar gyfer adeiladu 14 tŷ deulawr, gyda phedwar ohonynt yn dai fforddiadwy. Lleoli’r y safle i'r gogledd o Bwllheli uwchben canol y dref mewn ardal a adnabyddir fel Denio. Er y saif y safle o fewn ffin datblygu ddynodedig Pwllheli, mae'r dwysedd datblygu presennol yn is na gweddill y dref. Eglurwyd bod Pwllheli wedi'i hadnabod fel Canolfan Wasanaeth Trefol dan bolisi TAI 1. CDLl sydd yn annog cyfran uwch o ddatblygiadau newydd o fewn canolfannau trefol drwy ddynodiadau tai a safleoedd ar hap. Wrth fabwysiadu'r CDLl, dyrannwyd y safle ar gyfer 14 uned felly’r cais yn  bodloni gofynion polisi TAI 1.

 

Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwerth marchnad agored y tai annedd i arddangos y gellid gweithredu disgownt addas i sicrhau eu bod yn fforddiadwy am byth. Wedi asesu'r ffigyrau mewn ymgynghoriad â'r Adran Tai, cytunwyd rhoi disgownt o 40% wrth baratoi cytundeb adran 106.

 

Yng nghyd-destun llecynnau agored nodwyd bod Polisi ISA 5 y CDLl yn disgwyl i gynigion 10 neu fwy o dai newydd, mewn ardaloedd lle na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig, roi darpariaeth addas o fannau agored. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle nad oes modd darparu gofod chwarae tu allan fel rhan annatod o ddatblygiad tai newydd, bydd gofyn i'r datblygwr ddarparu darpariaeth briodol oddi ar y safle; safle sydd yn agos at y datblygiad ac yn hygyrch iddo o ran cerdded a beicio, neu, lle nad yw hyn yn ymarferol, gwneud cyfraniad ariannol tuag at gyfleusterau newydd, gan gynnwys offer, gwella cyfleusterau presennol ar safleoedd sy'n hygyrch eisoes, neu wella hygyrchedd at fannau agored presennol.

 

Amlygwyd nad yw’r cais yn cynnwys darparu llecyn agored / chwarae ar y safle ond bod y cynllun yn darparu'r nifer a ragwelwyd o dai annedd yn unol â'r dyraniad safleoedd. Wedi asesu'r cynllun, nid yw’n afresymol nad oes darpariaeth ar y safle ac ar ôl defnyddio'r fformiwla o fewn y CCA Mannau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd, roedd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi cyfrifo cyfraniad ariannol o £5855.71 tuag at ddarpariaeth oddi ar y safle. Trafodwyd gyda’r ymgeisydd, a cytunwyd y byddai’r cyfraniad yn cael ei sicrhau drwy gytundeb adran 106.

 

Yng nghyd-destun effaith ieithyddol, er nad oedd angen datganiad ffurfiol y dylid parhau i roi ystyriaeth i'r iaith Gymraeg yn unol â chanllawiau Atodiad 5 CCA 'Cynnal a Chreu Cymunedau Ffyniannus a Chynaliadwy'. Amlygwyd bod yr  ymgeisydd wedi ystyried yr iaith Gymraeg a bod y cais yn cydymffurfio â gofynion adran 'CH', Atodiad 5 y CCA. Serch hynny, nid oedd y wybodaeth a gyflwynwyd yn cydymffurfio yn llawn gyda gofynion meini prawf 4 a 5 polisi PS 1 o ran arwyddion, enwau strydoedd ac enwau tai. Gellid sicrhau cydymffurfiaeth â’r polisi drwy osod amod yn sicrhau bod y manylion ar y deunydd marchnata yn Gymraeg neu'n ddwyieithog a bod enwau'r stad a'r tai yn enwau Cymraeg.

 

Yng nghyd-destun effeithiau priffyrdd, tynnwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Cais Rhif C21/0368/42/DT Tyn y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6LN pdf eicon PDF 303 KB

Estyniad ochr unllawr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad

 

  • Dyluniad a deunyddiau yr estyniad yn estronol
  • Effaith ar yr AHNE a Statws Awyr Dywyll

 

Cofnod:

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn i adeiladu estyniad unllawr yn mesur 4.5 medr x 3.6 medr fyddai’n cynnwys ystafell gardd ar fwthyn unllawr wedi ei leoli ar lethrau Mynydd Nefyn. Nodwyd bod y tai preswyl agosaf dros 40 medr i’r gogledd a gogledd ddwyrain o’r estyniad bwriededig a bod y cais wedi ei gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

Eglurwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y caniateir cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys, bod y cynnig

·         yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r drychiadau

·         parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol;

·         defnyddio deunyddiau sy’n briodol i’r hyn sydd o’u hamgylch ac yn ymgorffori tirlunio meddal;

·         gwella rhwydwaith cludiant a chyfathrebu diogel ac integredig;

·         cyfyngu rhediad dwr a pherygl risg llifogydd ac atal llygredd;

·         cyflawni dyluniad cynhwysol

·         galluogi mynediad i bawb

·         helpu creu amgylcheddau iach a bywiog gan ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol.

Amlygwyd bod yr estyniad yn cynnwys ystafell gardd gyda ffenestri gwydr sylweddol o faint a graddfa dderbyniol ac addas ar gyfer y lleoliad. Er bod y safle yn uchel ar lethrau Mynydd Nefyn gyda golygfeydd dros  yr arfordir, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fwynderau a chymeriad yr AHNE cyfagos oherwydd natur y tirwedd lleol a llys tyfiant o fewn yr ardal leol.  Mewn ymateb i wrthwynebiad a dderbyniwyd yn honni effaith y bwriad ar y bwthyn ynghyd a’r AHNE nodwyd, er bod bwriad adeiladu’r estyniad o ddeunydd a dyluniad cyfoes, ni fyddai lleoliad yr estyniad ar dalcen y bwthyn ynghyd a’i faint yn amharu yn sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr eiddo na’r AHNE.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Cais ydoedd am ystafell ardd fach ar ochr ffrynt Orllewinol y bwthyn.

·         Pwrpas yr estyniad fyddai darparu lle byw ychwanegol a chael mwy o olau i mewn i'r eiddo.

·         Gan ei fod yn fwthyn bach Cymreig mae'n eithaf tywyll gyda ffenestri bach iawn yn wynebu'r Gogledd.

·         Trwy agor pen y talcen  a gosod gwydr, y gobaith yw cael mwy o oleuni i mewn i’r eiddo a chaniatáu iddynt wneud y gorau o'r golygfeydd hyfryd ar draws Bae Nefyn a Phorthdinllaen.

·         Byddai'r estyniad ar y talcen yn cael ei adeiladu o wydr yn bennaf, ond defnyddio teils llechi Cymreig ar y to i gyd-fynd â'r teils presennol gan gadw cymeriad yr adeiladwaith gwreiddiol.

·         Bod y cynnig yn unol â chymeriad yr ardal ac yn gynnig cymharol gymedrol o'i gymharu â llawer o estyniadau tebyg

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Atgoffwyd yr Aelodau o ofynion statudol gwarchod yr AHNE

·         Bod bythynnod traddodiadol ar hyd y mynydd

·         Dim angen gor-ddatblygiadau ar lechweddau’r Mynydd

·         Bod tri llwybr cyhoeddus yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.