skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Paul Rowlinson (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (C20/0805/13/LL)

·         Y Cynghorydd Dewi Roberts (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.2 a 5.9 ar y rhaglen, (C21/0367/39/DT) a (C21/0277/39/DT)

·         Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (C20/0485/18/AC)

·         Y Cynghorydd Owain Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.5 a 5.6 ar y rhaglen, (C21/0495/34/LL) a (C21/0376/34/LL)

·         Y Cynghorydd Angela Russell (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (C21/0337/38/DT)

·         Y Cynghorydd Judith Humphreys (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen (C19/1089/22/LL)

·         Y Cynghorydd Menna Baines (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) yn eitem 5.10 ar y rhaglen, (C20/1056/25/LL)

 

3.

MATERION BRYS

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 318 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12fed o Orffennaf 2021 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12fed o Orffennaf 2021 fel rhai cywir

 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

6.

Cais Rhif C20/0805/13/LL Tir ger Gwernydd, Bethesda, LL57 3TY pdf eicon PDF 469 KB

Creu maes parcio ar gyfer 30 o gerbydau, creu mynedfa gerbydol newydd, llwybrau troed ynghyd a gosod 2 bae gwefru ceir trydanol a pheiriant talu ac arddangos

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Paul Rowlinson

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

1.    5 mlynedd

2.    Cydymffurfio a chynlluniau

3.    Darparu CEMP

4.    Darparu Cynllun Tirlunio

5.    Darparu Cynllun Traffig Adeiladu

6.    Materion archeolegol

7.    Cydymffurfio a gofynion awgrymiadau’r Asesiad Amgylcheddol Cychwynnol

8.    Dim goleuo heblaw'r hyn sydd wedi ei gytuno

9.    Triniaeth ffin i’w gwblhau cyn defnyddio’r llecynnau parcio

 

Nodiadau

  • Ordinary Watercourse Consent
  • SUDS
  • Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Creu maes parcio ar gyfer 30 o gerbydau, creu mynedfa gerbydol newydd, llwybrau troed ynghyd a gosod 2 bae gwefru ceir trydanol a pheiriant talu ac arddangos

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli gyferbyn ffin datblygu canolfan wasanaeth lleol Bethesda. Nodwyd nad oedd unrhyw bolisi penodol o fewn CDLl yn cyfeirio’n arbennig tuag at ddarparu meysydd parcio o’r newydd ond ystyriwyd bod polisïau PCYFF 2, PCYFF 3, TRA 2 a TRA 4 yn berthnasol i’r achos yma.

 

Eglurwyd mai pwrpas y bwriad yw darparu llecynnau parcio cerbydol ar gyfer cymunedau Gerlan a Gwernydd. Adroddwyd, oherwydd natur adeiledd a strydoedd cul yr ardal breswyl yma, bod diffyg difrifol o lecynnau parcio (preifat a chyhoeddus) oddi ar y rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o hyrwyddo neu arwain at gynnydd defnydd cerbydau preifat, ond yn hytrach yn lleddfu trafferthion parcio presennol y gymuned.

 

Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi cadarnhau bod y bwriad yn cydymffurfio gyda safonau parcio ac na fyddai’r fynedfa arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch ffyrdd. Ystyriwyd fod lleoliad, maint a gosodiad y safle yn un rhesymegol ac yn dderbyniol ar sail egwyddor, dyluniad, graddfa, deunyddiau, ffurf adeiladu lleol, materion priffyrdd a mwynderau preswyl. Y bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn cefnogi’r cais

·         Bod gwir angen safleoedd parcio ychwaegol yn yr ardal - y strydoedd yn gul a diffyg lle parcio yn achosi pryder i nifer

·         Bod bysus yn cael trafferthion

·         Ei fod yn diolch i’r Cyngor Cymuned (yr ymgeisydd) am gyflwyno’r cais

·         Bod nifer wedi amlygu pryderon yn ymwneud a ymwelwyr i’r Carneddau yn parcio yn yr ardal - hyn yn digwydd beth bynnag

·         Ni fyddai creu'r safle parcio yn ychwanegu at bryderon llifogydd

·         Bydd y wal garreg draddodiadol yn cael ei dymchwel ai hail ddefnyddio

·         Bydd gwrychoedd yn cael eu plannu ar gyfer bywyd gwyllt

·         Croesawu gosod pwyntiau gwefru ceir trydan - hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir

·         Bod angen sicrhau bod y safle yn cael ei reoli yn dda

 

ch)  Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod parcio yn amlwg yn broblem yn yr ardal

·         Pryder y bydd preswylwyr yn gorfod talu am barcio, ond debyg mai mater i’r Cyngor Cymuned yw trafod a rheoli hyn

·         Awgrym bod angen cynnal asesiad dichonoldeb - a fydd trigolion lleol yn fodlon talu neu yn parhau i barcio ar y lon? Os na fydd digon yn talu am y safle parcio a fydd hyn yn cael effaith ar gynllun y Cyngor Cymuned i ad-dalu eu dyled?

 

       PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

 

1.         5 mlynedd

2.         Cydymffurfio a chynlluniau

3.         Darparu CEMP

4.         Darparu Cynllun Tirlunio

5.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C21/0367/39/DT Sandpiper, Lôn Rhoslyn, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7BD pdf eicon PDF 317 KB

Estyniadau ac addasiadau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts

 

Dolen i'r dogfen cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

Gor-ddatblygiad ac effaith andwyol ar eiddo cyfagos.

 

Cofnod:

Estyniadau ac addasiadau

            Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol

a)    Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y byddai’r gwaith yn cynnwys :

·         Codi estyniad ochr deulawr ar safle modurdy unllawr presennol - bydd yn ymestyn tua’r dwyrain (ochr) yr un pellter a´r modurdy presennol ond yn ymestyn 1.4m o flaen y presennol a 1.8m tua’r cefn ac o’r un uchder a tho’r presennol. Bydd modurdy, iwitiliti ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod a llofft ac ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf. Bydd talcenni newydd ar flaen a chefn y gyda balconi “Juliette” ar y llawr cyntaf yn y cefn

·         Codi estyniad deulawr cefn ar ben gorllewinol yr eiddo gydag ystafell ardd ar y llawr gwaelod a llofft ar y llawr cyntaf. Bydd yr estyniad yn ymestyn 3.7m tua’r cefn ac yn creu talcen newydd yn wynebu’r cefn.

·         Bydd gan yr estyniadau deulawr doeau brig o lechi gyda’r to brig newydd ar y blaen a’r cefn yn is na lefel to’r prif .

·         Bwriedir codi porth newydd ar y blaen ynghyd a tho llechi unllethr ar draws y porth ag estyniad unllawr presennol arall.

 

Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd a oedd yn awgrymu nad oedd y dyluniad yn gweddu’r stryd ac yn orddatblygiad fyddai’n cysgodi eiddo cymdogion. Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 3 y CDLL sy'n ymwneud a'r agwedd lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol gan ddatgan bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun yr amgylchedd adeiledig o gwmpas. Ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd gyda gofynion polisi PCYFF 3 y CDLl a rhestrwyd y rhesymau yn yr adroddiad.

 

Yng nghyd-destun gor-edrych a chysgodi eiddo cymdogion, ystyriwyd natur drefol y safle a’r rhyng-welededd sydd eisoes yn bodoli rhwng y tai a’r gerddi'n lleol. Ni ystyriwyd y byddai’r estyniadau yn cael niwed arwyddocaol ychwanegol ar breifatrwydd cymdogion nac y byddai niwed arwyddocaol ychwanegol i fwynderau cymdogion, na’r ardal yn gyffredinol, yn deillio o’r datblygiad. Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol dan bolisi PCYFF 2 y CDLl.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Adeiladwyd Sandpiper yn 1967 fel cartref gwyliau i'w Daid.

·         Yr eiddo mewn cyflwr enbyd – dim buddsoddiadau diweddar

·         Bod 2 ystafell wely i fyny'r grisiau ac 1 ystafell wely i lawr y grisiau gydag ystafell ymolchi; y yn cael ei wresogi gan storage heaters ond heb ei insiwleiddio - hyn yn anaddas i'r amgylchedd. Angen uwchraddio systemau trydan a dwr yn llwyr gan eu bod yn beryglus ac anaddas

·         Y bwriad yw ymestyn uwchben y garej ac allan i’r cefn i mewn i'r ardd  - yn debyg iawn i estyniadau eraill yn y stryd. Bydd hyn yn darparu 4 ystafell wely i fyny'r grisiau sy'n flaenoriaeth oherwydd nifer plant a Nain sy'n aros yn rheolaidd

·         Mae’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C20/0485/18/AC Victoria Terrace, High Street, Deiniolen, Gwynedd LL55 3LT pdf eicon PDF 350 KB

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu materion a gadwyd yn ôl

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau perthnasol sy’n ymwneud a:-

  1. Cyfnod dechrau’r gwaith
  2. Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.
  3. Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi naturiol i’r toeau).
  4. Mynediad a pharcio
  5. Tirweddu a thirlunio.
  6. Tynnu hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.
  7. Amodau Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.
  8. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr hwyneb.
  9. Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.
  10. Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n    hysbysu ac     yn hyrwyddo 'r datblygiad

 

Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Cofnod:

Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu materion a gadwyd yn ôl

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi bod ardal y cais erbyn hyn wedi ei ddynodi’n statudol gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Er y dynodiad ni ystyriwyd y byddai’r bwriad o’i ganiatáu yn tanseilio’r dynodiad gan ystyried sylwadau CADW.

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid amod 2 o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif C17/0438/18/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl. Eglurwyd, fel yn flaenorol, bod y manylion sy’n ymwneud a graddfa, golwg, tirweddu a mynedfa i’r safle wedi eu cadw’n ôl i’w hystyried yn y dyfodol trwy gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl. Nodwyd bod y bwriad yn parhau i olygu datblygu’r safle ar gyfer 27 o dai (gan gynnwys 5 fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol), creu mynedfa newydd ynghyd a darparu llecyn amwynder. Ategwyd bod y  cais gwreiddiol (C09A/0396/18/AM) yn destun cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn darparu elfen o dai fforddiadwy a bod y cytundeb cyfreithiol sydd wedi ei arwyddo yn wreiddiol gan yr ymgeisydd yn parhau i fod yn ddilys.

 

Adroddwyd bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer datblygiad preswyl eisoes wedi ei dderbyn boed hynny yn 2014 a 2017, ond bod angen ystyried os yw’r amgylchiadau neu’r sefyllfa gynllunio wedi newid ers caniatáu’r ceisiadau blaenorol. Yn sgil polisïau lleol, penderfynodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol y cais amlinellol ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd a’r cais i ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd rhannol ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol a rhannol ar sail y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn - Fersiwn Cyfansawdd.  Erbyn hyn, y ddogfen polisi cynllunio lleol mabwysiedig yw’r CDLL ac fe gyfeiriwyd at y polisïau perthnasol yn yr adroddiad.

 

Nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Deiniolen dros gyfnod y Cynllun yw 45 uned gyda disgwyl i’r cyflenwad dangosol gael ei gyfarch trwy safle dynodiad tai T65 a trwy safleoedd ar hap – o ganlyniad mae modd cefnogi’r bwriad o dan Polisi TAI3. Bydd 5 tŷ fforddiadwy yn cael eu cynnwys yn y bwriad sy’n gyfystyr ag 18% o’r datblygiad. I’r perwyl hyn, mae’r bwriad yn parhau i gwrdd â throthwy tai fforddiadwy a nodwyd o fewn Polisi TAI15.

 

Bydd y bwriad yn darparu cymysgedd ac amrywiaeth eang o dai i gyfarch yr angen am y fath dai yn Deiniolen yn unol ag Asesiad Angen Tai Gwynedd ac asesiad ar gyfer pentref Deiniolen sy’n dangos yr angen am dai fforddiadwy 2 a 3 llofft a thai marchnad agored 2, 3 a 4 llofft.

 

Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys y gwrthwynebiadau, ni ystyriwyd fod y bwriad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C21/0546/00/LL Richmond House, Stryd Fawr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1DW pdf eicon PDF 309 KB

Trosi islawr a llawr isaf yr adeilad yn siop fferm gan gynnwys bocs hysbysebu pren ar y cwrt flaen. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gethin Glyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu gydag amodau

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
  2. Unol gyda chynlluniau.
  3. Arwyddion Cymraeg a / neu ddwyieithog.

Cofnod:

Trosi islawr a llawr isaf yr adeilad yn siop fferm gan gynnwys bocs hysbysebu pren ar y cwrt blaen.

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn ymwneud â throsi rhan o islawr a llawr daear yr adeilad o ddefnydd preswyl i siop fferm.  Byddai’r islawr yn cynnwys dwy storfa ar gyfer y siop, ystafell baratoi bwyd a thoiled gyda’r siop fferm wedi ei lleoli ar y llawr daear. Bydd defnydd anheddol yn parhau i weddill yr adeilad. Bydd ffenestr bresennol ar yr edrychiad gogledd dwyreiniol yn cael ei disodli am ddrysau dwbl a blaen siop bren newydd.  Bwriedir fel rhan o’r datblygiad hefyd osod bocs hysbysebu pren yng nghwrt blaen yr eiddo. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac oddi fewn i ddynodiad canol y dref. 

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn Gynghorydd Sir ac yn Aelod Lleol.

 

Yn unol â Pholisi PS 15 a MAN 1 gwarchodir canol trefi ar gyfer defnyddiau sydd yn gysylltiedig â chanol trefi megis defnyddiau manwerthu, masnachol a hamdden cyn belled bod graddfa a math y datblygiad yn briodol i faint, cymeriad a swyddogaeth y ganolfan a chyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio a’r meini prawf a restrir yn y Polisi. Ystyriwyd fod egwyddor y bwriad yn dderbyniol o ran polisi PS 15 a MAN 1 CDLl o ran hyrwyddo bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi a bod yr addasiadau yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)    Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD:  Caniatáu gydag amodau

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda chynlluniau.

3.         Arwyddion Cymraeg a / neu ddwyieithog.

 

 

 

10.

Cais Rhif C21/0495/34/LL Penlon, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5PE pdf eicon PDF 419 KB

Adeiladu tŷ newydd 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Owain Williams

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r asiant i drafod ffordd ymlaen e.e. oes bwriad diwygio’r cynlluniau?

 

Cofnod:

Adeiladu newydd

 

a)    Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod cais gan yr asiant i’r Pwyllgor ohirio’r cais fel bod modd iddynt gael cyfle i ymateb i faterion sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais

 

PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r asiant i drafod ffordd ymlaen e.e. oes bwriad diwygio’r cynlluniau?

 

11.

Cais Rhif C21/0376/34/LL Tir ger Plas Beuno, Clynnog Fawr, Clynnog LL54 5BT pdf eicon PDF 342 KB

 

Cais ar gyfer codi ty deulawr gyda modurdy

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Owain Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod

 

  1. Mae’r tŷ bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 1 o bolisi PCYFF2 a meini prawf 1 a 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr sy’n golygu nad yw’r bwriad yn cydweddu a phatrwm adeiladu’r ardal.

 

  1. Mae’r tŷ bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 a maen prawf 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr a lleoliad y ffenestri ar yr edrychiad gogleddol sy’n golygu fod y bwriad yn achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd trigolion eiddo sydd gyfochrog y safle.

 

Cofnod:

 Cais ar gyfer codi tŷ deulawr gyda modurdy

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod safle’r cais o fewn ffin datblygu pentref Clynnog Fawr ar lecyn o dir gwag wedi ei leoli yn gyfochrog a mynedfa gerbydol safonol sydd yn arwain at dai preswyl sydd i gefn ac ochr lleoliad y datblygiad arfaethedig hwn.

Eglurwyd bod cais blaenorol ar gyfer y bwriad wedi ei wrthod o dan C20/1049/34/LL oherwydd maint, graddfa, dyluniad a’i effaith ar eiddo gerllaw. Cydnabuwyd fod y bwriad oddeutu 0.5m yn is na’r hyn a wrthodwyd o dan y cais blaenorol, ac mae asiant y cais wedi darparu cynlluniau ychwanegol sy’n cynnwys strydlun a chynllun lefelau presennol.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol

 

Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor 12.07.2021 er mwyn cywiro cyfeiriad y safle ac ail-ymgynghori er mwyn sicrhau fod ymgynghorwyr a chymdogion yn ymwybodol o safle’r cais.

 

Wrth ystyried mwynderau cyffredinol, gweledol a  phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn man gymharol amlwg, yn gyfochrog gyda’r brif ffordd i mewn ac allan o’r pentref ac wedi ei amgylchynu gan adeiladau o amrywiol faint, dyluniad ac edrychiadau.

 

Nid yw swyddogion wedi eu hargyhoeddi yn yr achos yma bod maint a dyluniad yr  adeilad yn addas ar gyfer y safle. Ystyriwyd fod angen ystyried ei leoliad a’r lefelau tir yn well  er mwyn galluogi’r datblygiad i gyfrannu tuag at gymeriad yr ardal yn ogystal â’i alluogi i integreiddio i batrwm a chymeriad yr ardal leol mewn modd derbyniol. Ni ystyriwyd fod y dyluniad yn cyfleu hyn ac felly ni ellid cefnogi’r datblygiad yn y ffurf y’i cyflwynwyd. Ystyriwyd fod y bwriad yn groes i ofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 a PS5 o’r CDLl.

 

Nodwyd bod y bwriad yn osgoi cynnwys ffenestri o ffurf a nifer (ar yr edrychiad gogleddol) a fyddai’n debygol o amharu ar drigolion yr eiddo cyfochrog. Er hyn mae’r cynllun yn arddangos y byddai rhai o’r ffenestri wedi eu cymylu ond ystyriwyd y byddai hyn yn cael effaith gwaeth na’r hyn a gymeradwywyd yn y gorffennol gan gyfleu teimlad o oredrych (oherwydd nifer a’u huchder) o safbwynt yr eiddo drws nesaf.

 

Yn ogystal, adroddwyd bod y safle yn sylweddol uwch na’r eiddo drws nesaf a byddai’r bwriad o godi eiddo deulawr llawn ar y lefel tir yma yn achosi nodwedd anghydnaws yn yr ardal ynghyd ac achosi effaith ormesol sylweddol ar yr eiddo drws nesaf. Ategywd y byddai’r lefel tir hefyd yn cynyddu’r elfen o oredrych i mewn i ardd gefn yr eiddo drws nesaf - er bod yr ardd yn weladwy yn bresennol o’r safle, nid oes defnydd o’r safle ac felly mae unrhyw oredrych presennol yn achlysurol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol yn nhermau graddfa, dyluniad, lleoliad a lefelau tir/llawr ar gyfer y safle hwn. Yn ogystal, ystyriwyd fod y bwriad yn cael effaith andwyol ar breifatrwydd a mwynderau'r eiddo drws nesaf o ran maint, uchder, lleoliad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C21/0337/38/DT Derwen Deg, Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7UA pdf eicon PDF 327 KB

Dymchwel modurdy unllawr. Codi modurdy dwbl gydag anecs trosodd at ddefnydd personol yr ymgeisydd a theulu a ffrindiau yn achlysurol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod

 

Rhesymau:

Gor-ddatblygiad ac effaith gweledol niweidiol

 

 

Cofnod:

Dymchwel modurdy unllawr. Codi modurdy dwbl gydag anecs trosodd at ddefnydd personol yr ymgeisydd a theulu a ffrindiau yn achlysurol.

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un ar gyfer dymchwel modurdy presennol a chodi adeilad deulawr yn ei le gyda modurdy dwbl ar y llawr gwaelod ac  anecs anheddol yn gysylltiedig â’r prif . Lleolir y safle o fewn gardd Derwen Deg sydd yn eiddo ar wahân o fewn ffin datblygu Llanbedrog

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Adroddwyd bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn gan gynnwys un gan y Cyngor Cymuned yn datgan pryder fod y bwriad yn orddatblygiad, bod y safle yn anaddas ac y byddai cael ffenestri ar y llawr cyntaf yn goredrych eiddo preifat gan greu effaith niweidiol ar gymdogion cyfagos

 

Nodwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol ar y cyfan er bod y bwriad yn sylweddol fwy o faint na’r hyn sydd yn bodoli yn barod. Er hynny, ystyriwyd bod y bwriad yn gweddu gyda’r ardal drefol sydd  o natur wasgaredig ac yn parchu cyd-destun y safle. Ategwyd bod y dyluniad yn dderbyniol ac nad oedd yn niweidiol i gymeriad yr ardal nac yn creu effaith arwyddocaol ar gymdogion - gellid gosod amod i sicrhau bod y ffenestri sy’n goredrych yn cael eu cadw’n afloyw yn barhaol ac y gellid rheoli’r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio drwy amod cynllunio priodol

 

Defnydd y bwriad yw fel modurdy ac anecs anheddol ac fe ellid rheoli’r defnydd drwy osod amod i sicrhau mai dim ond at ddefnydd atodol i’r prif y defnyddir yr anecs ac nid at unrhyw ddiben arall. Byddai angen caniatâd cynllunio ychwanegol ar gyfer unrhyw newid defnydd materol o’r anecs.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, yr effaith ar yr AHNE a mwynderau cyffredinol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Nifer o bryderon wedi eu hamlygu gan drigolion lleol

·         Bod yr eiddo wedi ei leoli ar odrau Mynydd Tir y Cwmwd

·         Bod y system garthffosiaeth ar y lleoliad yn anaddas

·         Bod yr anecs yn bell o’r tŷ - potential i’r uned fod yn hunangynhaliol i’r dyfodol

·         Gosod cynsail beryg o greu ail dy yn yr ardd

·         Estyniad fuasai’r syniad gorau os am gael un stafell wely ychwanegol

·         Materion croesi'r ffordd yn achosi pryder – y ffordd yn anaddas i’r tai

·         Bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais

·         Y bwriad yn orddatblygiad

 

c)    Cynigiwyd gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad am y rhesymau canlynol:

·         Bod y bwriad yn orddatblygiad o’r safle

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Byddai estyniad ar y yn fwy naturiol

·         Er o fewn y ffin datblygu, y bwriad yn ymddangos fel tŷ newydd yng nghanol cefn gwlad

·         Wedi ei leoli mewn safle amlwg o fewn y pentref

 

PENDERFYNWYD

 

Gwrthod

Rhesymau:

 

Gor-ddatblygiad ac effaith gweledol niweidiol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C19/1089/22/LL Treddafydd Stryd Fawr, Penygroes, Gwynedd, LL54 6PW pdf eicon PDF 467 KB

Cais llawn i godi 12 annedd-dy gyda mynediad, parcio ac is-adeiledd cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i gytuno ar lefel y cyfraniad ariannol addysgol ac i gwblhau Cytundeb Adran 106 i sicrhau’r cyfraniad ariannol tuag at fannau chwarae ac addysg ynghyd ag amod i ddarparu 2 dŷ fforddiadwy a’r amodau canlynol:-

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Llechi naturiol.
  4. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.
  5. Amodau Priffyrdd.
  6. Tirlunio meddal a chaled.
  7. Amodau Bioamrywiaeth
  8. Cytuno manylion parthed enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.
  9. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol.
  10. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys darpariaeth parcio cerbydau’r adeiladwyr, oriau gwaith, danfoniadau ayyb.
  11. Cyflwyno manylion goleuadau allanol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn iddynt gael eu gosod.
  12. Diogelu’r llecynnau agored ar gyfer y dyfodol
  13. Darpariaeth safleoedd biniau
  14. Materion tir llygredig
  15. Amodau draenio/Dŵr Cymru

 

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth ddraenio cynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.

Nodyn: Hysbysu’r ymgeisydd o ymateb Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nodyn: Amrywiol nodiadau Priffyrdd

 

Cofnod:

Cais llawn i godi 12 annedd-dy gyda mynediad, parcio ac isadeiledd cysylltiedig

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer;

·         Darparu 12 tŷ deulawr ar ffurf tai ar wahân, tai pâr a thai teras gan gynnwys 8 tŷ 3 ystafell wely a 4 tŷ 2 ystafell wely.

·         Creu isadeiledd i gynnwys ffordd stad a llwybrau troed cysylltiedig, ffensys/rheiliau a waliau cerrig.

·         Darparu llecynnau parcio ar gyfer pob tŷ, man cadw biniau a chreu gerddi unigol i ochr a chefnau’r tai.

·         Darparu llecynnau amwynder o fewn y safle ynghyd a llecyn ar gyfer crynhoi dŵr.

·         Diwygiwyd y cais o’i gyflwyniad gwreiddiol yn dilyn sylwadau gan yr Uned Drafnidiaeth a’r Uned Bwrdeistrefol ynglŷn â materion mynediad a lleoliad mannau casglu biniau.

 

Eglurwyd bod safle’r cais yn bresennol yn wag ond a fu yn y gorffennol yn safle masnachol prysur fel warws gwerthu nwyddau a chyn hynny, yn safle gyda modurdy trin ceir a gwerthu petrol. Nodwyd bod y safle, sydd wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Penygroes, yn weddol wastad ac wedi  ei amgylchynu gan dai preswyl.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y caniatawyd cais llawn yn ddiweddar ym Mhenygroes ar gyfer darparu 24 o unedau preswyl gyda phob un ohonynt yn dai fforddiadwy. Eglurwyd bod y safle hwnnw wedi ei gynnwys a’i ddynodi yn benodol ar gyfer datblygiad preswyl ac nid yn safle ar hap fel yn yr achos yma. Ni ystyriwyd fod y caniatâd a’r niferoedd ynghlwm yn newid y sefyllfa o ran niferoedd tai a adnabuwyd ar gyfer Penygroes ac nid yw’n effeithio ar y trothwy sydd wedi ei adnabod ar gyfer y pentref. Nodi’r Polisi TAI 15 o'r CDLl y bydd Cynghorau yn ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y Cynllun. Ym Mhenygroes, dau neu fwy o unedau tai yw'r trothwy gan nodi y dylai 20% o’r unedau fod yn fforddiadwy. Gan fod y datblygiad arfaethedig yn cynnig 12 uned, mae hyn yn cyd-fynd â'r trothwy a nodwyd ym Mholisi TAI 15 ar gyfer gwneud cyfraniad at dai fforddiadwy.

 

Yng nghyd-destun materion addysgol ac yn unol â gofynion CCA dylid ystyried sefyllfa'r ysgol sydd yn gwasanaethu’r dalgylch ble lleolir y datblygiad. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad statudol dywed Swyddog Gwybodaeth yr Adran Addysg bod Ysgol Gynradd Bro Lleu dros ei gapasiti. Yn arferol felly ac yn unol â gofynion fformiwla berthnasol y CCA, bod cyfiawnhad i ofyn am gyfraniad o £50,480 er mwyn diwallu’r diffyg capasiti yn yr ysgol gynradd.

 

Ategwyd, yn unol â Polisi ISA5 o’r CDLL disgwylir i gynigion ar gyfer 10 tŷ neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig gynnig darpariaeth addas o fannau agored yn unol â safonau meincnod Fields in Trust (FIT). Er bod y bwriad yn cynnwys llecynnau agored, nid ydynt yn cwrdd â’r angen ar gyfer llecynnau gydag offer. Er mwyn cydymffurfio a gofynion polisi ISA 5 o’r CDLl ynghyd a’r CCA: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd, derbyniwyd cadarnhad gan Uned Polisi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Cais Rhif C21/0277/39/DT Ty Coed, Lôn Gwydryn, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7EA pdf eicon PDF 322 KB

Estyniad llawr cyntaf uwchben modurdy presennol ynghyd ag estyniad llawr cyntaf i greu feranda

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod

Rhesymau: Gor-ddatblygiad, effaith gweledol niweidiol ac effaith niweidiol ar breifatrwydd tai cyfagos

 

Cofnod:

Estyniad llawr cyntaf uwchben modurdy presennol ynghyd ag estyniad llawr cyntaf i greu feranda

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un ar gyfer estyniad a newidiadau i eiddo anheddol presennol . Byddai’r newidiadau’n cynnwys :

·         Estyniad llawr cyntaf dros ben modurdy presennol – byddai’r estyniad terfynol yn 7.6m o uchder, 0.7m yn is na tho’r tŷ presennol, Bydd talcen do o lechi gyda balconi “Juliette” ar flaen y llawr cyntaf.

·         Codi balconi ar hyd llawr cyntaf yr eiddo presennol, (fyddai’n gweithredu fel feranda llawr gwaelod) – bydd sgrin preifatrwydd ar ddau ben y balconi

·         Codi estyniad unllawr ar gefn yr eiddo gyda thalcen do o lechi

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor ar gais yr aelod lleol.

Adroddwyd bod Polisi PCYFF 2 y CDLl yn annog gwrthod cynigion fydd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fwynderau eiddo lleol. Mynegwyd pryder gan gymydog y byddai creu balconi ar flaen yr eiddo yn galluogi gor-edrych a fyddai'n niweidiol i'w preifatrwydd ac yn sgil y sylwadau hynny fe ddiwygiwyd y cynlluniau i gynnwys sgriniau preifatrwydd ar ochrau’r balconi blaen. Er bydd posib gweld ychydig o erddi blaen eiddo cymdogion o’r balconi fel yr ail-ddyluniwyd, mae blaenau’r tai ar Lôn Gwydryn eisoes yn agored i'r stryd ac yn weladwy o fannau cyhoeddus. Ni ystyriwyd y byddai’r balconi’n ychwanegu’n arwyddocaol at niwed i breifatrwydd yr eiddo sy'n wynebu'r stryd.

Wedi asesu’r cais yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, yr effaith ar yr AHNE a mwynderau cyffredinol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod adroddiad y Swyddog, sy'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig, yn mynd i'r afael â'r holl bryderon sydd wedi'u nodi yn yr ymatebion.

·         Bod trafodaethau cyn cyflwyno cais wedi eu cynnal gyda swyddogion cynllunio a bod y sylwadau wedi eu hymgorffori'n llawn yn y dyluniad terfynol.

·         Bod rhai gwrthwynebiadau gan drigolion lleol yn cynnwys materion nad ydynt yn seiliedig ar faterion cynllunio ac felly yn amherthnasol

·         Bod y pryderon a godwyd mewn perthynas â sŵn ac aflonyddwch posibl o'r balconi arfaethedig yn rhagdybiaethau y bydd mwy o bobl yn byw yn y tŷ - nid yw hyn yn gywir gan nad yw nifer yr ystafelloedd yn newid. Yr un yw’r ymateb i bryderon cynnydd mewn traffig

·         Bod y gwrthwynebiadau i raddau helaeth yn nodi bod y datblygiad yn ormesol ac y byddai eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd

·         Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i ddyluniad yr ychwanegiadau gan ddefnyddio'r ôl troed presennol i wella'r eiddo. Er derbyn bod y bwriad yn creu'r argraff o faint mwy, byddai’r estyniad wedi'i leoli uwchben y garej bresennol, sydd  dros 5 metr i ffwrdd o'r eiddo cyfagos

·         Bod modd ymateb i faterion goredrych drwy osod amod bod ffenestri ychwanegol ar y cefn yn lleddfu pryderon - hapus i gydymffurfio â'r amod yma

·         Ni dderbyniwyd sylwadau gan yr Uned Priffyrdd ac ni chodwyd pryderon gan yr uned AHNE

·         Bod adroddiad y swyddogion yn cadarnhau bod graddfa'r bwriad yn briodol ar gyfer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Cais Rhif C20/1056/25/LL Ty Menai, Ffordd Penlan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4HJ pdf eicon PDF 430 KB

Newid defnydd adeilad o ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth D1 (sefydliadau dibreswyl) ynghyd a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad, creu ffordd fynedfa, parcio bysus a llwybrau cerdded

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Argymell fod yr apêl yn cael ei wrthod ar sail:-

 

  1. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi ISA3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) sy’n datgan dylid defnyddio’r prawf dilyniannol wrth bennu lleoliad datblygiadau addysg bellach ac uwch gyda blaenoriaeth yn gyntaf i safleoedd addysg bellach ac uwch bresennol neu, yn ail, i safleoedd a chanddynt gysylltiad agos gyda champws presennol. Ar y sail yma ni ystyrir fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf 1 a 2 o Bolisi ISA3 o’r CDLL nac ychwaith gyda polisiau cenedlaethol ar sail gofynion y dogfennau ‘Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 (2021)’ ac ‘Adeiladu Lleoedd Gwell: Y System Gynllunio yn Sicrhau Dyfodol Cydnerth a Mwy Disglair’ (Gorffennaf 2020).

 

  1. Mae’r bwriad arfaethedig yn groes i ofynion Polisi PS13 a CYF1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) sy’n datgan gwarchodir tir ac unedau ar safleoedd cyflogaeth presennol (mae Parc Menai wedi ei restru yn y Polisi) ar gyfer mentrau cyflogaeth/busnes.

 

  1. Mae'r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYF 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol: Newid Defnydd Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol, Safleoedd Cyflogaeth ac Unedau Manwerthu (2021) sy'n datgan y bydd cynigion i ryddhau tir ar safleoedd cyflogaeth presennol a ddiogelir at ddefnydd Dosbarth B1, B2 neu B8 yn unol â Pholisi PCYF1 at ddefnydd amgen yn gael eu cymeradwyo mewn achosion arbennig yn unig. Yn seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais (a'r rheswm ar wahân dros wrthod, yn seiliedig ar Bolisi ISA 3) nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried fod amgylchiadau eithriadol wedi'u profi. Ymhellach, a heb weithgaredd marchnata cadarn a thystiolaeth gadarn ynglŷn â pham na all adeiladau gael eu haddasu i oresgyn y materion a adnabuwyd,

 

nid oes tystiolaeth fod y safle'n annhebygol o gael ei ddefnyddio yn y tymor byr na hir at y diben gwreiddiol neu'r diben a ddiogelwyd, na chwaith nad oes defnydd busnes neu ddiwydiannol hyfyw ar gyfer y safle. Yn ogystal, nid oes gorddarpariaeth o safleoedd cyflogaeth yn y cyffiniau; byddai defnydd addysgol yn cael effaith andwyol ar ddefnydd cyflogaeth yn y safleoedd cyfagos ac nid yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi'i ddarbwyllo nad oes safleoedd amgen addas eraill yn bodoli at y diben a gynigiwyd.

 

  1. Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF2 o’r CDLL sy’n datgan gwrthodir cynigion os ydynt:- (i) yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch neu fwynderau meddiannwyr eiddo lleol, defnyddiau tir neu eiddo arall neu nodweddion yr ardal leol oherwydd mwy o weithgareddau, aflonyddwch swn, sbwriel neu ffurfiau eraill o lygredd neu aflonyddwch a (ii) tir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer datblygiadau eraill.  Rhagwelir byddai natur defnydd y cyfleuster addysg bellach ac uwch yn cynyddu’r swn/aflonyddwch a symudiadau cerddwyr/myfyrwyr oddi fewn i’r safle ac o amgylch y safle e.e yn ystod oriau cinio neu ddarlithoedd rhydd

 

 

Cofnod:

Newid defnydd adeilad o ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth D1 (sefydliadau dibreswyl) ynghyd a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad, creu ffordd fynedfa,  parcio bysus a llwybrau cerdded

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod cais i’r Pwyllgor gyflwyno barn ar yr adroddiad sy’n ffurfio datganiad apêl i’r arolygiaeth cynllunio i argymell gwrthod apêl cynllunio

 

Derbyniwyd cais llawn ar gyfer newid adeilad Tŷ Menai/Technium sydd wedi ei leoli ar safle Cyflogaeth Parc Menai ac sydd ar hyn o bryd yn wag o’i Ddosbarth Defnydd B1 (swyddfeydd) i Ddosbarth Defnydd D1 (sefydliad dibreswyl addysg) ynghyd a chreu ffordd fynedfa, parcio bysus, llwybrau cerdded a newidiadau i edrychiadau allanol yr adeilad.

 

Adroddwyd bod y datblygiad ar raddfa sy'n golygu y byddai wedi ei gyflwyno’r i bwyllgor cynllunio 6 Medi, 2021 ond bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl i'r arolygiaeth gynllunio ar sail diffyg penderfyniad. Eglurwyd, pan gyflwynir apêl am ddiffyg penderfyniad, mae cyfnod ychwanegol i awdurdod cynllunio lleol benderfynu cais yn ystod y 4 wythnos gyntaf o dyddiad cyflwyno’r apêl. Cyflwynwyd yr apêl ar 4 Awst 2021 ac felly daeth 4 wythnos i ben ar 1 Medi 2021. O ystyried yr amserlen a’r ffaith nad oedd cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn ystod mis Awst, nid oedd modd penderfynu ar y cais o fewn y cyfnod 4 wythnos. O dan amgylchiadau o'r fath, nid yw’r drefn yn caniatáu i’r Cyngor wneud penderfyniad ar y cais.

 

Ategwyd, fel rhan o’r broses apêl, mae’r arolygaeth cynllunio yn rhoi cyfle i'r awdurdod cynllunio lleol cyflwyno datganiad apêl, lle gall yr awdurdod fynegi barn ac argymell penderfyniad. Gan nad oes gan swyddogion hawl dirprwyedig i benderfynu’r cais, cyflwynwyd y cais i bwyllgor er mwyn derbyn eu barn. Bydd y farn yn cael ei gyflwyno i’r arolygiaeth cynllunio fel rhan o’r datganiad apêl.

 

Cyfeiriwyd at brif bryderon yr Awdurdod Cynllunio ynghyd ac Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd a oedd yn cynnwys:

 

1.    Cynllun Adfywio Canol Dinas Bangor

 

Bod dinas Bangor yn wynebu sawl her gyda chyflwr a pherfformiad canol y ddinas yn tanseilio ei swyddogaeth fel canolfan ranbarthol. Nodwyd bod siopau mawr fel Debenhams wedi cau ac Aldi yn adleoli i Ffordd Caernarfon wedi cael effaith andwyol ar hyfywedd canol y ddinas. Rhan o gynllun Adfywio’r ddinas yw cynyddu gweithgareddau a defnydd yng nghanol y ddinas.

 

Bod Coleg Menai yn gyflogwr a darparwr gwasanaeth pwysig i’r ddinas. Mae’r safle presennol o fewn cyrraedd canol y ddinas gyda mynediad a chysylltiadau hwylus. Mae pryderon y byddai ail-leoli’r campws i gyrion y ddinas yn debygol o danseilio prysurdeb a swyddogaeth canol y ddinas, a lleihau nifer o bobl yn ymweld â’r canol. O ganlyniad, ystyrir y byddai’r cais yn tanseilio egwyddor ‘Canol Trefi’n Gyntaf’

 

2.   Effaith ar Barc Menai

 

Bod safle Parc Menai yn un o safleoedd cyflogaeth fwyaf llwyddiannus Gwynedd. Mae’n cynnig amgylchedd o safon ac yn darparu safleoedd ac eiddo i ystod eang o gyflogwyr. Dylid sicrhau na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar batrwm defnydd y stad a thrwy hynny  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15.