skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (C21/0106/40/LL) oherwydd ei fod yn berchen maes carafanau llai na 7 milltir i ffwrdd o’r safle

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Peter Read (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen (C19/1215/40/EIA)

·         Y Cynghorydd Dilwyn Lloyd (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (C21/0647/17/DT)

·         Y Cynhgorydd Elwyn Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen (C21/0085/18/LL)

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 348 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6ed o Fedi 2021 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6ed o Fedi 2021 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C19/1215/40/EIA Parc Gwyliau Hafan y Mor, Pwllheli, LL53 6HX pdf eicon PDF 745 KB

Prif gynllun arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio, mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle (yn ddarostyngedig i gynnal asesiad risg fyddai’n ystyried priodoldeb a mesurau diogelwch yng nghyd-destun canllawiau covid 19)

 

Cofnod:

Prif gynllun arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio, mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais. Rhannwyd y datblygiad yn barseli:

·      Parsel B - Lleoli 27 o garafanau sefydlog.

·      Parsel E - Lleoli 3 carafan sefydlog a codi dau adeilad deulawr i ddarparu llety i staff.

·      Parsel F - Dymchwel 4 bloc rhandai (56 rhandy / 272 gofod i ymwelwyr) a lleoli 26 o garafanau sefydlog.

·      Parsel G - Lleoli 80 o garafanau sefydlog.

·      Parsel H - Ailddatblygu cyn safle gwaith trin carthion a chodi caffi unllawr gyda theras yn y blaen a maes parcio

·      Parsel I - Lleoli 18 o garafanau sefydlog.

·      Parsel J - Gwaith amddiffyn yr arfordir sy'n cynnwys gwaith ar 320m o'r arfordir. Mae’r bwriad yn golygu ail-linio'r arfordir i gyfeiriad y tir i greu traethau tywod a graean rhwng pedwar morglawdd cerrig amddiffyn ar siâp cynffon pysgodyn.  Bydd oddeutu 120m o'r gwaith yn cymryd lle yr amddiffynfeydd carreg llinellol presennol. Bydd Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn cael ei ail-alinio.

 

Oherwydd maint y safle, diffinwyd y cais fel ‘datblygiad mawr’ ac o ystyried bod sawl elfen i’r cynllun aseswyd pob un ar wahân.

 

Adeiladu Caffi un-llawr newydd ar ffin ddwyreiniol y safle fyddai’n cynnwys gofod parcio ceir, tirlunio a gwaith plannu.

 

O ystyried bod y safle ar dir a oedd yn ffurfio rhan o'r cyn safle trin carthion, ystyriwyd bod hwn yn dir a ddatblygwyd o'r blaen gyda’r defnydd hefyd yn briodol yng nghyd-destun defnydd y safle ehangach fel parc gwyliau. Er bod adeiladau mwy wedi'u lleoli tuag at ganol y parc gwyliau, mae'r strwythurau sydd i'w gweld ar hyd y morlin yn bennaf yn siales a charafanau un-llawr.  Amlygwyd bod y cynllun gwreiddiol yn cynnwys adeilad caffi deulawr. Yn dilyn cynnal trafodaethau gyda swyddogion, cytunwyd i’r  adeilad fod yn un-llawr  a  bod gyda gostyngiad yn raddfa a chymeriad yr adeilad bellach yn briodol ar gyfer ei leoliad arfordirol. Ystyriwyd bod y dyluniad yn un o ansawdd uchel o ran ei ddyluniad, gosodiad ac ymddangosiad ac y byddai yn ymestyn yr amrediad o gyfleusterau yn ardal y cynllun. Cefnogwyd y bwriad gan Ddatganiad Economaidd oedd yn amlygu y byddai’r cynllun yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth leol.

 

Adroddwyd bod modd cael mynediad at y safle gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus, beicio a cherdded gyda’r safle wedi'i leoli union gyferbyn â'r llwybr Arfordir  -  nodwyd bod y datganiad cefnogi cynllunio yn cadarnhau bod y Caffi ar gael i ddefnyddwyr y Llwybr Arfordir. Ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â gofynion polisi MAN 1, MAN 6 a TWR 1 a bod yr egwyddor o adeiladu caffi yn dderbyniol.

 

Gwaith Amddiffyn i 320m o'r morlin, gan gynnwys ail-alinio'r tir ar y traethlin, gosod pedwar morglawdd 'rock-armour' mewn siâp cynffon pysgodyn a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C21/0106/40/LL Fferm Llwyndyrys, Llwyndyrys, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6RH pdf eicon PDF 454 KB

Newid defnydd tir ar gyfer gosod 10 pod gwyliau ynghyd a newidiadau i fynedfa bresennol, creu llecynnau pasio, creu ffordd fynediad mewnol a thirlunio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio, yn dilyn cais gan yr asiant i gynnal trafodaethau pellach

 

Cofnod:

Newid defnydd tir ar gyfer gosod 10 pod gwyliau ynghyd a newidiadau i fynedfa bresennol, creu llecynnau pasio, creu ffordd fynediad mewnol a thirlunio

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais wedi dod i law gan asiant yr ymgeisydd i ohirio’r penderfyniad fel bod modd cynnal trafodaethau pellach. Nodwyd bod yr aisant wedi cyflwyno sylwadau ychwanegol mewn ymateb i’r rhesymau gwrthod ac y byddai gohirio yn rhoi cyfle i asesu’r sylwadau hynny a diwygio’r adroddiad fel boangen.

b)    Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r penderfyniad

 

PENDERFYNWYD: Gohirio, yn dilyn cais gan yr asiant i gynnal trafodaethau pellach

 

8.

Cais Rhif C21/0647/17/DT 1 Tai Trallwyn, Cilgwyn, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7SB pdf eicon PDF 302 KB

Cais i adeiladau Sied a Swyddfa at flaen tŷ annedd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda chynlluniau.

3.         Defnydd atodol i’r tŷ annedd.

 

Cofnod:

Cais i adeiladau sied a swyddfa at flaen tŷ annedd

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn gyflogedig i Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd a bod angen caniatâd cynllunio oherwydd bod y bwriad yn golygu codi adeiladu o flaen prif edrychiad y .

 

Nodwyd nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn a chyfeiriwyd at Polisi PCYFF3 sy’n datgan bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun yr amgylchedd adeiledig o gwmpas. Ystyriwyd bod y dyluniad yn un syml ac o faint bychan sy’n adlewyrchu strwythurau tebyg a ddisgwylir gweld fel defnydd atodol o fewn ardd annedd. Mae’r strwythurau dan sylw yn guddiedig, tu ôl i wrychoedd uchel ar waelod ardd sydd ar ddiwedd rhes o dai ac yn gweddu’n briodol gyda’i leoliad.

 

Tynnwyd sylw at Polisi PCYFF 2 sy'n annog gwrthod cynigion fydd yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau eiddo lleol. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan gymdogion yn dilyn gosod rhybudd safle ac wedi ystyried yr holl faterion perthnasol cynllunio, ni fyddai niwed arwyddocaol ychwanegol i fwynderau cymdogion, na’r ardal yn gyffredinol, yn deillio o’r datblygiad. Ystyriwyd fod y bwriad o osod sied a swyddfa at flaen annedd yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion y polisïau perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r bwriad

·         Bod y safle yn guddiedig a’r gwrychoedd yn uchel

·         Dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol gyda chynlluniau.

3.         Defnydd atodol i’r tŷ annedd

 

9.

Cais Rhif C21/0085/18/LL Maes Carafanau Tros Y Waen Lôn Castell, Rhiwlas, Bangor, Gwynedd, LL57 4EF pdf eicon PDF 343 KB

Ail-ddylunio lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán teithiol ychwanegol a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais.

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau/dogfennau.
  3. Tymor gwyliau parthed y 5 carafán deithiol ychwanegol - 1af Mawrth - 31ain Hydref.
  4. Cynllun tirlunio.
  5. Mesurau lliniaru o fewn yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol.
  6. Amod cyfyngu deiliadaeth yr unedau statig a teithiol i ddefnydd gwyliau yn unig.
  7. Cyfyngu ar niferoedd unedau statig i 8 (gan eithrio llety’r rheolwr/staff) a’r unedau teithiol i 50.
  8. Dim storio carafanau teithiol oni bai bod caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei dderbyn.
  9. Dim torri coed.

 

Cofnod:

Ail-ddylunio lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán deithiol ychwanegol a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer ail-ddylunio lleiniau carafanau teithiol presennol, creu 5 llain carafán deithiol ychwanegol a lleoli 8 carafán statig i ddisodli lleiniau carafanau teithiol presennol ar safle Maes Carafanau Tros y Waen a sefydlwyd yn ôl yn 1979. Ategwyd bod y bwriad hefyd yn cynnwys yr elfennau canlynol:-

 

     Gwella’r cyfleusterau ymolchi/toiledau presennol sydd ar y safle.

     Gosod cyfarpar offer trin carthion preifat ar ymylon gorllewinol y safle.

     Ymgymryd â gwaith tirlunio (coed a llwyni) o fewn y safle.

     Lledu’r rhodfa breifat sy’n gwasanaethu’r maes carafanau lle bo angen.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod ardal y datblygiad yn fwy na’r hyn a ganiateir o dan y drefn dirprwyo.

 

Ategwyd bod diwygiadau i’r cais a gyflwynwyd yn wreiddiol yn cynnwys man addasiadau tirlunio gan gynnwys cadw coed yn ogystal â chadarnhau gwneuthuriad y lleiniau.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli i’r de-orllewin o bentref Rhiwlas yng nghefn gwlad agored gyda sgrin ar ffurf Coedlan Tros y Waen ar ymylon dwyreiniol, deheuol a gorllewinol y safle. Er bod yr ymylon gogleddol yn fwy agored a gweledol o’r gogledd-orllewin mae wal garreg ynghyd a thopograffi’r dirwedd leol yn lleihau’r olygfa. Nodwyd bod y safle yn rhannu mynediad gydag anheddau preswyl gerllaw.

 

O ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ar sail y materion a nodir yn yr adroddiad ac na fyddai’n cael effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd, mwynderau’r gymdogaeth na diogelwch ffyrdd. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cynllun cyn belled bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda’r gofynion / amodau a restrwyd

 

c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD:  Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais.

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r cynlluniau/dogfennau.

3.    Tymor gwyliau parthed y 5 carafán deithiol ychwanegol - 1af Mawrth - 31ain Hydref.

4.    Cynllun tirlunio.

5.    Mesurau lliniaru o fewn yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol.

6.    Amod cyfyngu deiliadaeth yr unedau statig a teithiol i ddefnydd gwyliau yn unig.

7.    Cyfyngu ar niferoedd unedau statig i 8 (gan eithrio llety’r rheolwr/staff) a’r unedau teithiol i 50.

8.    Dim storio carafanau teithiol oni bai bod caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei dderbyn.

9.    Dim torri coed.