Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

a)    Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.3 (C21/0767/14/LL) ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

b)    Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 5.8 (C21/0988/39/LL) ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn berchen maes carafanau

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

c)    Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd E Selwyn Griffiths (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C20/0649/44/LL) ar y rhaglen

·          Y Cynghorydd Berwyn P Jones  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/0934/15/AC) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Cemlyn Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C21/0767/14/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 (C21/1010/32/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gareth T M Jones  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 (C21/0859/42/DT) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd John Brynmor Hughes (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 (C21/0988/39/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 346 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13eg o Ragfyr 2021 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

6.

Cais Rhif C20/0649/44/LL Tir ger Gelert, Penamser, Porthmadog, LL49 9NX pdf eicon PDF 396 KB

Cais ar gyfer gosod pwerdy ~5MWe nwy wrth gefn gyda isadeiledd cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GWRTHOD

 

Rhesymau

 

  1. Nid oes tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno ar gyfer yr angen am y datblygiad na’i ddef-nydd o danwydd ffosil a fyddai’n tanseilio datganiad Cyngor Gwynedd o argyfwng hinsawdd. I'r perwyl hyn, ystyrir fod y bwriad yn groes i amcanion cyffredinol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017, ynghyd â pholisiau PS7 ac ADN3 yn be-nodol sy’n hyrwyddo darpariaeth ynni adnewyddadwy neu garbon isel, polisiau PS 5, PS6 ac PCYFF 5 ran lliniaru effeithiau hinsawdd a rheoli carbon, a Polisi Cynllunio Cymru, Ar-graffiad 11, 2021, paragraffau 5.7.2, 5.7.6 a 5.7.11.

 

  1. Nid oes cyfiawnhad penodol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar gyfer y bwriad ar y safle yma ac felly ni ellir cadarnhau fod y golled o dir cyflogaeth yn dderbyniol ac mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisïau PS5, PS13, CYF, CYF 3 na CYF 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 sy’n rheoli datblygiadau ar diroedd wedi eu dynodi ar gyfer defnydd cyflogaeth.

 

  1. Mae’r bwriad yn disgyn o fewn dosbarthiad datblygiad sy’n agored iawn i niwed, ac nid oes tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno er mwyn sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio a strategaeth y Cyngor, ac felly nid yw’r bwriad yn dderbyniol o ran llifogydd ac nid yw’n cydymffurfio a gofynion polisi PS 6 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a maen prawf (i) o baragraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd.

 

Cofnod:

Cais ar gyfer gosod pwerdy ~5MWe nwy wrth gefn gydag isadeiledd cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Ymhelaethodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer lleoli cyfleuster gorsaf cynhyrchu trydan yn gyflym ac hyblyg hyd at 5MWe ynghyd a gwaith cysylltiedig i gynnwys camerâu cylch-cyfyng, cabanau amwynder, ciosg nwy, tanciau, ffensio ac adeiladwaith amrywiol ar dir wrth ochr safle Gelert, Parc Busnes Penamser ar gyrion Porthmadog. Ategwyd bod y safle o fewn parth llifogi C1 ac yn safle Cyflogaeth i’w warchod fel y diffinnir o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)

 

Byddai’r bwriad, o'i ganiatáu, yn galluogi cynhyrchu trydan mewn amser byr pe byddai ei angen a phan na all y rhwydwaith lleol ei gynhyrchu. Eglurwyd y byddai’r cyfleuster yn rhedeg (er yn achlysurol) oddi ar nwy, ac felly yn ddibynadwy ar danwydd ffosil. Cydnabuwyd fod ceisiadau tebyg wedi eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol mewn lleoliadau eraill ar y sail y byddent yn ffurfio rhan o’r rhwydwaith cefnogol a gellid ei ddefnyddio pan nad yw’r cyflenwad adnewyddol yn ddigonol o fewn y rhwydwaith lleol. Erbyn hyn, mae cynigion tebyg wedi cael eu gwrthod ar apêl oherwydd eu dibyniaeth ar danwydd ffosil mewn amgylchiadau ble mae cynghorau wedi datgan argyfwng hinsawdd a ble mae diffyg tystiolaeth am yr angen i greu egni trwy losgi tanwydd ffosil. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi cydnabod a datgan argyfwng hinsawdd ym mis Mawrth 2019 ac yn hyrwyddo lleihau defnydd o garbon fel rhan o’u strategaeth.

 

I leddfu effeithiau newid hinsawdd, caniateir cynigion ar yr amod y gellid dangos bod ystyriaeth ac ymateb lawn i’r meini prawf sy’n cynnwys yr hierarchaeth ynni sy’n hyrwyddo lleihau’r galw am ynni, effeithlonrwydd ynni a defnyddio technolegau ynni carbon isel neu ynni di garbon lle bo hynny’n ymarferol manteisio i’r eithaf cyfraniad o dechnoleg ynni adnewyddadwy neu garbon isel i fodloni gofynion y cynnig am drydan a gwres. Amlygwyd bod datganiadau wedi eu cyflwyno gan yr asiant ond nad oedd tystiolaeth am angen penodol i’r ddarpariaeth yma, nac y byddai modd darparu’r cyflenwad drwy fodd arall carbon isel neu adnewyddadwy.  Nid oedd y  bwriad gerbron yn cynnig defnydd cyflogaeth, heibio’r cyfnod o osod y cyfarpar, ac er y cydnabuwyd bod y safle bwriedig yn fychan a lletchwith, ac unedau gwag o fewn y parc busnes, nid oedd cyfiawnhad penodol ar gyfer y bwriad ac na ellid cadarnhau bod colled o dir cyflogaeth yn dderbyniol yn nhermau polisïau PS13, CYF 1 na CYF 3 o’r CDLl.

 

Ategwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn parth llifogi C1 a’r bwriad yn un ar gyfer darparu pwerdy nwy ar gyfer creu trydan, sydd yn ôl diffiniadau a gynhwysir o fewn Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd yn ddatblygiad sy’n agored iawn i niwed.

 

Yn gryno, ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail diffyg cyfiawnhad ar ei gyfer, bod ei  leoliad o fewn tir sydd wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C21/0934/15/AC Glyn Rhonwy, Pumped Storage, Glyn Rhonwy, Llanberis, LL55 4EL pdf eicon PDF 527 KB

Cais ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C16/0886/15/LL ar gyfer gosod llinell cyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol

 

AELODAU LLEOL:  Cynghorwyr Kevin Morris Jones, Elfed Williams, Menna Baines, Elwyn Jones, Sion Wyn Jones a Berwyn Parry Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol.

 

  1. 5 mlynedd
  2. Cwblheir y diwygiad/au a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 22/10/2021, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C16/0886/15/LL

Cofnod:

Cais ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C16/0886/15/LL ar gyfer gosod llinell cyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir er mwyn ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod hyd y cysylltiad yn mesur oddeutu 9km ac yn gwbl danddaearol - yn rhedeg o fewn safle Glyn Rhonwy tuag at yr is-orsaf ym Mhentir. Eglurwyd bod y ceblau yn cael eu gosod o fewn dwythell wedi ei warchod mewn dyfnder o 1.7m yn y ffos.

Atgoffwyd yr Aelodau mai cais i newid amod 1 o ganiatâd cynllunio C16/0886/15/LL er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 2 flynedd ychwanegol oedd gerbron, heb newid i’r cynllun gwreiddiol. O ganlyniad, roedd egwyddor y bwriad eisoes wedi ei dderbyn a’i sefydlu gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol drwy ganiatâd cynllunio C16/0886/15/LL. Er hynny, amlygwyd yr angen i ystyried os oedd amgylchiadau neu’r sefyllfa polisi cynllunio wedi newid ers caniatáu’r cais yn wreiddiol. Ategwyd pwysigrwydd asesu a chadarnhau os yw’r sefyllfa, yn nhermau cydymffurfio â’r Polisïau Cynllunio, yn parhau i fod yr un fath.

Yn sgil polisïau lleol, penderfynodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol y cais gwreiddiol ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ond sydd bellach wedi ei ddisodli gan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, felly, rhaid oedd ystyried unrhyw newidiadau materol yn y polisïau ers penderfynu’r cais blaenorol. Eglurwyd mai’r polisïau perthnasol oedd yn ymwneud a derbynioldeb egwyddor y cais diweddarafoedd Polisi ISA 1 ‘Darpariaeth Isadeiledd’ a PS 7 ‘Technoleg Adnewyddadwy’.

Nodwyd bod rhan o'r bwriad yn arwain drwy'r Ardal Tirwedd Arbennig 'Ymylon Gogledd-orllewin Eryri', yn gyfan gwbl o fewn tirwedd hanesyddol eithriadol 'Dinorwig' ac union gyferbyn Ardal Treftadaeth y Byd 'Ardal y Llechi'. Drwy hynny, ystyriwyd fod y bwriad i osod y llinell gyswllt tan ddaearol yn cyd fynd ag arweiniad ym mholisi PS 7 ac yn parhau i gydymffurfio gyda pholisïau perthnasol

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd Aelod Lleol ward Cwm y Glo, y Cynghorydd Berwyn P Jones nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais.

c)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

      

PENDERFYNWYD Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol.

 

1.       5 mlynedd

 

2.       Cwblheir y diwygiad/au a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 22/10/2021, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio rhif C16/0886/15/LL.

 

8.

Cais Rhif C21/0767/14/LL Cyn rhandiroedd Cae'r Glyn, Ffordd Bethel, Caernarfon, LL55 1HW pdf eicon PDF 457 KB

Adeiladu 17 o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio’r cais er mwyn derbyn asesiad trafnidiaeth pellach ynghyd a mwy o luniau / fideo o’r safle a’i berthnasedd i’r ysgol uwchradd gyfagos

Cofnod:

Adeiladu 17 o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu 17 o dai fforddiadwy fyddai’n cynnwys 6 tŷ deulawr 4 person, 6 tŷ deulawr 5 person, 2 dŷ deulawr 7 person a 3 byngalo 3 person ynghyd ag adeiladu mynedfa a ffordd mynediad, llefydd parcio, tirlunio a phantiau draenio tir (swales) yng nghornel de ddwyreiniol y safle ar gyfer dal dŵr wyneb.  Lleolir y safle ymysg tai o fewn tref Caernarfon, gyferbyn ac Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen gyda’r safle oddeutu 0.55ha -  mae 17 uned yn golygu dwysedd o 30.9 tŷ i’r hectar sydd yn cydymffurfio efo Polisi PCYFF 2 yn y Cynllun.

 

Eglurwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle hwn wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 1, TAI 15 a PS 5 o’r CDLL lle nodir y caniateir cynigion tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau a chynigion eraill y Cynllun, polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill.

 

Yn ôl Polisi ISA 5, disgwylir i gynigion ar gyfer 10 tŷ neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig gynnig darpariaeth addas o fannau agored yn unol â safonau meincod Fields in Trust (FiT). Mae’r wybodaeth gyfredol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn dangos bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant yn lleol fel rhan o’r bwriad ac i’r perwyl hyn, felly, bydd angen gwneud cyfraniad ariannol ar gyfer cyfarfod a’r diffyg darpariaeth yma. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd yn datgan y byddai yn fodlon gwneud cyfraniad o £3346.16 a gellir sicrhau hynny trwy gytundeb cyfreithiol 106. Ni ystyriwyd bod y bwriad yn groes i ofynion Polisi ISA 5 o’r CDLL ynghyd a’r CCA: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd.

 

Nodwyd bod Uned Trafnidiaeth y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau yn datgan na fyddai'r bwriad yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd er cydnabuwyd sylwadau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r cais ar sail diogelwch ffyrdd. Gydag amodau a chyfraniad ariannol i sicrhau gwelliannau i’r ffordd trwy gytundeb 106, ystyriwyd y bwriad yn unol â’r polisïau trafnidiaeth.

 

Adroddwyd bod y Cyngor wedi derbyn gohebiaeth gan drigolion lleol yn datgan bod rhan isaf o’r safle yn gorlifo yn ystod cyfnod o law trwm ac yn pryderu y byddai'r datblygiad  yn gwaethygu'r sefyllfa yn hytrach na datrys y broblem gorlifo ar y safle. Er hynny, derbyniwyd gwybodaeth gyda’r cais i ddangos gellid dylunio system draenio gynaliadwy effeithiol ar gyfer y safle a fyddai’n gwella’r sefyllfa bresennol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod y safle tir glas yn wag ers i’r defnydd rhandiroedd ddod i ben ac nad oedd dyraniad tir penodol na chyfyngiad datblygiad iddo

·         Nad yw'r tir yn fan agored hygyrch i'r cyhoedd felly does neb yn cael defnydd ohono ar hyn o bryd.

·         Gan fod y safle yn wag  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C21/0431/45/LL Y Llew Du, Lôn Abererch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5LE pdf eicon PDF 434 KB

Dymchwel tŷ tafarn presennol a chodi chwech tŷ

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

Rhesymau:

1.    Wrth ystyried graddfa, dyluniad a nifer yr anheddau arfaethedig, ni chredir y byddai’r datblygiad yn gweddu i'r safle ac ni fyddai ei ymddangosiad yn dderbyniol o fewn yr ardal leol. Yn ogystal, o ystyried natur gyfyng y safle, nifer yr unedau sy'n rhan o’r cynllun a'r diffyg gofod amwynder ynghlwm a’r tai unigol, credir y byddai'r cynnig yn or-ddatblygiad o’r safle ac yn niweidiol i fwynderau preswyl. Fe ystyrir felly bod y cynnig yn groes i ofynion perthnasol polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

2.    Ar sail diffyg cymysgedd briodol o dai ynghyd â'r ddarpariaeth annigonol o dai fforddiadwy fe gredi’r bod y bwriad yn methu cyfarfod gofynion polisïau TAI 8 a THAI 15 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, ynghyd a'r cyngor perthnasol a roddir o fewn Canllawiau Cynllunio Atodol "Tai Fforddiadwy" a "Cymysgedd Tai".

 

3.    Ni chredir fod digon o wybodaeth wedi ei chyflwyno i asesu os yw’r bwriad yn cwrdd â gofynion maen prawf 1c o Bolisi PS1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn sydd yn gofyn am ddatganiad iaith Gymraeg fyddai’n dangos sut byddai datblygiadau arfaethedig yn gwarchod, hyrwyddo a chryfhau’r iaith Gymraeg. Ar y sail yma, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r bwriad yn cael effaith negyddol ar yr Iaith Gymraeg yn ardal y cynllun

 

4.    Ni chredir fod gwybodaeth ddigonol wedi ei chyflwyno i gyfiawnhau colli’r cyfleuster tafarn i gwrdd gyda'r gofynion perthnasol a nodir ym Mholisi ISA 2 C Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol: "Newid defnydd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol,

 

 

safleoedd cyflogaeth ac unedau manwerthu"; sy'n nodi'r angen i gadarnhau, trwy dystiolaeth, bod ymdrechion wedi bod i farchnata’r safle

 

  1. Mae'r safle yn gorwedd o fewn ardal mewn risg o lifogydd dŵr wyneb ac nid oes wybodaeth ddigonol yn yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd   i ddangos y gellir rheoli'r risg llifogydd yn dderbyniol dros oes y datblygiad ac felly mae'r cais yn groes i faen prawf 8 polisi PS 5 a maen prawf 4 polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd a chyfarwyddyd a roddir yn mharagraff 11.1 o Nodyn Cyngor Technegol 15.’

 

Cofnod:

Dymchwel tŷ tafarn presennol a chodi chwech tŷ

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel tŷ tafarn deulawr presennol ac adeiladu chwe thŷ dau neu dri llofft mewn rhes.

 

Eglurwyd bod y safle y tu mewn i ffin ddatblygu tref Pwllheli fel y'i nodir yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn a bod egwyddor y datblygiad yn cael ei ystyried yn erbyn Polisi PCYFF 1 ('Ffiniau Datblygu'), Polisi PS 5 (Datblygu cynaliadwy), Polisi TAI 1 (Tai yn y ganolfan isranbarthol a'r canolfannau gwasanaeth trefol), a Pholisi TAI 15 ('Trothwy a Dosbarthiad Tai Fforddiadwy'). Yng nghyd-destun polisi PCYFF 1, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor oherwydd lleoliad y safle o fewn y ffin ddatblygu gyfredol ac yn yr un modd, bod polisi PS 5 yn annog datblygiadau ar safleoedd a ddatblygwyd o'r blaen.

 

Er hynny, gan fod yr anheddle wedi gweld ei lefel twf disgwyliedig, trwy unedau wedi eu cwblhau yn y cyfnod 2011 i 2021, datblygu’r unedau yn y banc tir presennol a datblygu’r safleoedd wedi eu dynodi am dai, roedd angen cyfiawnhad ar gyfer y cais yn amlinellu sut byddai’r bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. Disgwylid i bob ymgeisydd sy’n cyflwyno cais cynllunio ar gyfer 5 neu fwy o unedau tai, gyflwyno Datganiad Tai i gefnogi cais cynllunio yn unol â'r fethedoleg a amlinellir yn Atodiad 2 o’r CCA Cymysgedd Tai: Ni ystyriwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o'r cais hwn yn ddigonol i ddangos yn eglur bod y datblygiad dan sylw yn cwrdd gydag angen penodol o fewn y gymuned leol.

 

Eglurwyd bod Polisi TAI 15 o'r CDLl yn datgan y bydd Cynghorau'n ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun, a nodwyd ym Mhwllheli, mai dau neu fwy o unedau tai yw'r trothwy ar gyfer angen darpariaeth o'r fath. Gan fod y datblygiad arfaethedig yn cynnig cynnydd o 6 uned, mae’n cyd-fynd â throthwy Polisi TAI 15 ar gyfer gwneud cyfraniad at dai fforddiadwy. Gan fod Pwllheli y tu mewn i ardal pris tai 'Aneddleoedd Arfordirol Mwy’ yn y CDLl nodwyd bod darparu 30% o dai fforddiadwy yn hyfyw - mae hyn yn gyfystyr â 1.8 uned yn y datblygiad yma. Amlygwyd mai un uned a gynigir yn y cais fel uned fforddiadwy ac felly byddai disgwyl swm cymunedol sy'n werth 0.8 o dŷ i gwrdd â'r gofyniad polisi. Ategwyd, petai'r ymgeisydd o’r farn nad yw’n hyfyw darparu’r elfen fforddiadwy ddisgwyliedig yma, yna eu cyfrifoldeb hwy fydd i amlygu’n glir ar bro-fforma asesiad hyfywdra'r amgylchiadau sydd yn cyfiawnhau darpariaeth tai fforddiadwy is. Er hynny, adroddwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth o ran ystyriaethau oedd yn ymwneud a hyfywdra'r datblygiad a phe byddai darparu’r elfen fforddiadwy ddisgwyliedig yn effeithio ar ystyriaethau o safbwynt yr elfen yma.

 

Yn ogystal, ac o safbwynt asesu egwyddor y bwriad, rhaid ystyried defnydd presennol a sefydledig yr adeilad fel tŷ tafarn. Eglurwyd bod y wybodaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais rhif C21/0820/30/LL Cwrt, Uwchmynydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8DA pdf eicon PDF 303 KB

Codi estyniad i'r sied wartheg bresennol ac addasiadau i greu storfa dail ac iard fwydo dan do

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn canlyniad boddhaol i'r Prawf Effaith Arwyddocaol Tebygol ar y safleoedd dynodedig cyfagos.

Amodau

  1. 5 mlynedd
  2. Datblygiad yn cydymffurfio gyda’r cynlluniau a gymeradwywyd
  3. Dim gwaith clirio safle yn ystod y tymor nythu adar heb gytundeb ymlaen llaw.

 

Nodiadau :     Cyfoeth Naturiol Cymru

                        Uned Draenio Tir

                        Angen gwarchod y llwybr cyhoeddus

 

Cofnod:

Codi estyniad i'r sied wartheg bresennol ac addasiadau i greu storfa dail ac iard fwydo dan do.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai bwriad y cais oedd codi estyniad i sied wartheg bresennol er mwyn creu storfa dail ac iard fwydo dan do. Eglurwyd y byddai'r estyniad yn 36.3m o hyd a 10.9m o led ac yn 4.7m o uchder at frig y to ac wedi ei ffurfio gan baneli cladin lliw llwyd ar wal isel o goncrid gyda’r to o ddeunydd proffil lliw llwyd.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio gan i’r ymgeisydd fod yn Aeod Etholedig o’r Cyngor

 

Eglurwyd na ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol ar gyfer y safle ac na fyddai’n debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol ar fwynderau lleol, bioamrywiaeth nag asedau treftadaeth.

 

b)    Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn canlyniad boddhaol i'r Prawf Effaith Arwyddocaol Tebygol ar y safleoedd dynodedig cyfagos.

 

Amodau

1.         5 mlynedd

2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda’r cynlluniau a gymeradwywyd

3.         Dim gwaith clirio safle yn ystod y tymor nythu adar heb gytundeb ymlaen llaw.

 

Nodiadau :     Cyfoeth Naturiol Cymru

                        Uned Draenio Tir

                        Angen gwarchod y llwybr cyhoeddus

 

11.

Cais Rhif C21/1010/32/LL Caerau, Llangwnnadl, Pwllheli, LL53 8NS pdf eicon PDF 421 KB

Trosi adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol presennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i dderbyn adroddiad pellach am fforddiadwyedd y tŷ

Cofnod:

Trosi adeilad allanol i ddarparu annedd fforddiadwy, ynghyd ag addasiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol, gosod gwaith trin pecyn a gwaith cysylltiedig.

 

a)            Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu  mai cais ydoedd ar gyfer trosi adeilad allanol presennol (a fu gynt yn dŷ annedd) yn dŷ fforddiadwy gyda dwy lofft, ystafell fyw ac ystafell fwyta / cegin ynghyd a chreu gardd gerllaw'r adeilad. Eglurwyd bod  bwriad cadw prif strwythur yr adeilad ond dymchwel waliau adeiladau allanol cysylltiedig â chodi estyniadau unllawr ar ochr a chefn y prif strwythur. Adroddwyd bod y safle mewn ardal wledig (ymhell o unrhyw ffin ddatblygu a'i diffinnir gan CDLl) , o fewn Ardal Tirwedd Arbennig a thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli ac yn rhannol o fewn Safle Bywyd Gwyllt Rhanbarthol Caerau.

 

Cyflwynwyd y cais gerbron y pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Ymhelaethodd y swyddog bod y safle tu allan i unrhyw ffin ddatblygu a'i hadnabyddir dan bolisi PCYFF 1 y CDLl lle nodi’r, y tu allan i ffiniau datblygu bydd cynigion yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â pholisi penodol yn y Cynllun. Yn yr achos yma, er i’r cais fod am drosi adeilad allanol presennol, bod amheuaeth os gellid ystyried y strwythur hwn fel "adeilad" yn hytrach nag adfail cyn eiddo anheddol.

 

Amlygwyd bod adroddiad strwythurol wedi ei gyflwyno gyda'r cais yn honni i'r waliau presennol fod yn strwythurol gadarn ac yn addas i'w cadw heb yr angen am ail-adeiladu sylweddol, ac yn ogystal, na fyddai angen ail-godi mwy na 10% o gyfanswm arwynebedd y waliau gwreiddiol. Wrth asesu’r adroddiad, adroddwyd bod cryn amheuaeth yn parhau ynglŷn âg addasrwydd strwythur yr adeilad i'w drosi neu a fyddai'r gwaith fyddai ynghlwm a'r datblygiad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn-gwlad yn groes i ofynion polisi PCYFF 1 y CDLl.

 

Ar sail yr asesiad, hyd yn oed pe derbynnir bod yr adeilad traddodiadol yng nghefn gwlad yn addas i'w drosi yn dŷ annedd, ni ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gydag un o'r meini prawf penodol ar gyfer datblygiadau o'r fath a restrir ym mholisi TAI 7 CDLl Er yn cydnabod bod yr ymgeisydd mewn angen tŷ fforddiadwy a bod dyluniad cyffredinol yr adeilad o ansawdd safonol, oherwydd y lleoliad gweledig, natur anghyfannedd y safle presennol a’r nifer newidiadau a fwriedir eu gwneud i'r strwythur, nid oedd dewis ond argymell gwrthod y cais.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Ei bod eisiau parhau i fyw yn Llangwnnadl ond bod prisiau tai lleol a chyfagos yn rhy bell o’i gafael.

·         Nad oedd tŷ fforddiadwy yn ei milltir sgwâr ac felly’r opsiynau yn gyfyngedig.

·         Yn lwcus iawn bod gan ei rhieni dir gyda hen dŷ arno fyddai’n rhoi cyfle i aros yn lleol gan fagu teulu, parhau i weithio yn ei swydd a pharhau i helpu ei rhieni ar y fferm a’i Nain gyda’r maes carafanau.

·         Bod yr hen dŷ wedi bod yn gartref i nifer o deuluoedd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C21/0859/42/DT Môn Arfon, Lôn Pen Rhos, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BL pdf eicon PDF 323 KB

Dymchwel garej presennol ac adeiladu garej newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

Rhesymau - gorddatblygiad

 

Cofnod:

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel modurdy presennol a chodi modurdy newydd yn ei le.

.

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu gyfredol Morfa Nefyn ac o  fewn ardal breswyl sydd yn gymysg o ran math a ffurf.  Ategwyd bod y  safle a’r ardal oddi amgylch wedi ei leoli oddi fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor ar gais yr aelod lleol ar sail gôr ddatblygiad o’r safle.

 

Cydnabuwyd bod pryderon wedi eu hamlygu gan gymydog, yr aelod lleol a’r Cyngor Cymuned ynglŷn â’r bwriad, ac yn benodol am ddefnydd yr adeilad i’r dyfodol. Eglurwyd na ellid rhagweld yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, ond bod rhaid ystyried yr hyn sydd gerbron, sef cais i ddymchwel modurdy presennol a chodi modurdy newydd yn ei le. Nodwyd fod gofod to'r adeilad newydd i’w ddefnyddio fel swyddfa, ond nad oedd unrhyw awgrymiad y byddai defnydd gwahanol i’r hyn a gyflwynwyd. Er hynny, ystyriwyd y byddai’n rhesymol cynnwys amod i sicrhau na ddefnyddir yr adeilad ar gyfer unrhyw reswm nad yw yn ddefnydd atodol i’r tŷ gan gynnwys ei osod fel uned gwyliau.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol gan gyflwyno fideo yn egluro’r rhesymeg y tu ôl i’r cais cynllunio ar gyfer adnewyddu’r adeilad allanol yn eu gardd

·         Eu bod wedi byw yn y tŷ ers 2016 a chyn hynny yn berchen Bodfan gerllaw

·         Y teulu wedi bod yn yr ardal ers y 1960au - ei  Nain a’i Daid a’i rieni yn berchen eiddo yn yr ardal ac felly wedi ymrwymo’n fawr i’r ardal – nid ydynt yn bwriadu gwerthu unrhyw eiddo, sy’n destun trafod y dyddiau hyn

·         Bod yr adeilad mewn cyflwr gwael ac angen gosod rhywbeth yn ei le sy'n ddiogel, yn fwy modern ac yn addas i'r pwrpas.

·         Bod bwriad i’w ddefnyddio ar gyfer storio cychod a thractorau

·         Y to yn sigo sy’n awgrymu bod y distiau yn rhoi. Ystyriwyd bod y distiau yn wreiddiol [o'r adeg y codwyd yr adeilad dros 100 mlynedd yn ôl]. Y landeri bellach wedi disgyn a holltau yn y waliau i gyd.

·         Yn ddiolchgar pe byddai’r Pwyllgor yn edrych yn ffafriol ar y cais.

 

c)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol:

·         Bod gofod yn y to yn cael ei addasu yn swyddfa

·         Trigolion lleol a Chyngor Tref yn gwrthwynebu ar sail gorddatblygiad - bod y bwriad yn sylweddol fwy na’r un presennol

·         Bod 6 tŷ yn ffinio gyda’r safle

·         Y tŷ hefyd wedi ei ymestyn yn ddiweddar

·         Digon o le parcio heb fod angen modurdy mwy

·         Bod Morfa Nefyn yn prysur droi yn bentref tai gwyliau - Môn Arfon yn dŷ haf - defnydd busnes fydd i’r modurdy i’r dyfodol.

·         Nad yw amod berthnasol yn ddigon clir i rwystro addasiad i’r dyfodol - angen cryfhau'r amod fel ei fod yn llai amwys

 

Mewn ymateb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C21/0988/39/LL Maes Carafanau Ty Newydd, Sarn Bach, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7LE pdf eicon PDF 324 KB

Ymestyn tymor gwyliau o 8 mis i 10.5 mis i bwrpas gwyliau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

  1. Cyfyngu ar y defnydd o'r safle i'r cyfnod rhwng y 1af o Fawrth hyd y 15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol
  2. Defnydd gwyliau yn unig a rhaid cadw cofrestr o’r holl ddefnyddwyr.
  3. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.

 

Nodyn - Swyddog Trwyddedu

Cofnod:

Ymestyn tymor gwyliau o 8 mis i 10.5 mis i bwrpas gwyliau

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i  ymestyn y cyfnod y gellid defnyddio'r unedau ar safle carafanau sefydlog presennol o 8 mis (rhwng y 1af o Fawrth hyd y 31ain o Hydref) i 10.5 mis (rhwng y 1af o Fawrth hyd y 15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol). Byddai’r bwriad yn cynyddu’r cyfnod meddiannu am 3.5 mis yn y flwyddyn yn unig ac nad oedd  bwriad ychwanegu at y nifer presennol o garafanau sefydlog megis 32. Ni fydd ychwaith newidiadau nac ychwanegiadau i’r cyfleusterau presennol sydd ar y safle. Fel rhan o’r cais cyflwynwyd Datganiad Dyluniad a Mynediad yn egluro cefndir i’r cais gan nodi bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am wyliau dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Nodwyd hefyd bod y safle  yn un parhaol sydd wedi ei sefydlu ers cyfnod hir gydag unedau o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer defnydd gaeaf.

 

Daw’r cais hwn gerbron y Pwyllgor yn unol â’r cynllun dirprwyo gan i arwynebedd y safle fod yn fwy na 0.5ha.

 

Ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa bresennol parthed ardrawiad y carafanau sefydlog ar yr amgylchedd, gan eu bod eisoes wedi eu gosod ar y safle trwy’r flwyddyn ac nid oedd bwriad ymestyn eu niferoedd. Gan na fydd unrhyw newid i fwynderau gweledol yr AHNE ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi AMG 1 y CDLL. Ystyriwyd hefyd bod diwygio'r cyfnod meddiannaeth yn dderbyniol dan bolisïau’r Awdurdod Cynllunio Lleol drwy osod amodau priodol er gosod cyfnod y tymor newydd a sicrhau y defnyddir y carafanau sefydlog ar gyfer defnydd gwyliau yn unig gyda chofrestr gyflawn o holl ddefnyddwyr yr unedau yn cael ei gadw.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol

·         Bod y cais yn cael ei gyflwyno oherwydd i berchnogion y carafanau wneud cais i’r ymgeisydd i gael mynychu eu carafanau tu allan i’r tymor

·         Bod y cais yn un teg

·         Bod y carafanau o ansawdd ac yn addas ar gyfer pob tywydd

·         Bod y maes mewn cyflwr da, yn drefnus ac yn lan

·         Bod polisïau yn cefnogi mewnbwn ymwelwyr dros y gaeaf -  creu gwaith yn lleol

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

 

c)            Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

d)            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen cadw cofrestr

·         Bod hawl gan y perchennog i fod yn agored am 12 mis

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.    Cyfyngu ar y defnydd o'r safle i'r cyfnod rhwng y 1af o Fawrth hyd y 15fed o Ionawr y flwyddyn ganlynol

2.    Defnydd gwyliau yn unig a rhaid cadw cofrestr o’r holl ddefnyddwyr.

3.    Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.

 

Nodyn - Swyddog Trwyddedu