skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Stephen Churchman a’r Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Cyhoeddwyd bod Dafydd Gareth Jones (Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff) yn ymddeol wedi 36 mlynedd o wasanaeth yn y Cyngor. Diolchwyd iddo am ei gyngor a’i gefnogaeth i’r Pwyllgor Cynllunio dros y blynyddoedd a dymunwyd y gorau iddo.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Datganodd yr aelod canlynol ei  fod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Dafydd Meurig (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C15/0966/16/MG) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10fed o Ionawr 2022 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i nodi bod Cais Cynllunio C21/0859/42/DT - Môn Arfon, Lon Pen Rhos, Morfa Nefyn (eitem 5.7) wedi ei wrthod ar sail gorddatblygiad.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C21/0587/14/AC Gwynedd Skip Hire, Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD pdf eicon PDF 442 KB

Cais o dan Adran 73 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL (Estyniad i’r safle ailgylchu presennol, codi adeilad trosglwyddo gwastraff newydd, cyfleusterau parcio a chodi sgrin perimedr 5 metr o uchder) i gynyddu’r uchafswm trwygyrch flynyddol o wastraff i 125,000 tunnell ar gyfradd uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Jason W Parry

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL er mwyn cynyddu’r uchafswm mewnbwn blynyddol o wastraff i 125,000 tunnell ar gyfradd uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos i:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw yr awdurdod cynllunio gwastraff ni chaniateir symud mwy na 125,000 tunnell o wastraff tŷ, masnachol a diwyd-iannol sych solet drwy’r orsaf trosglwyddo gwastraff mewn blwyddyn ar uchafswm raddfa o 1,200 tunnell y diwrnod a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau o’r gwastraff yn mynd drwy’r safle dros unrhyw gyfnod pen-odedig ar gael i’r awdurdod cynllunio gwastraff, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

  • Adolygu amodau monitro a rheolaeth Sŵn, Llwch, Arogleuon, sbwriel yn unol â’r manylion lliniaru a gyflwynwyd.

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio Amod 8 ar ganiatâd cynllunio C08A/0209/14/LL (Estyniad i’r safle ailgylchu presennol, codi adeilad trosglwyddo gwastraff newydd, cyfleusterau parcio a chodi sgrin perimedr 5 metr o uchder) i gynyddu’r uchafswm trwygyrch blynyddol o wastraff o 75,000 i 125,000 tunnell ar gyfradd uchaf o 1,200 tunnell y dydd a dim mwy na 2,800 tunnell yr wythnos

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi bod y safle wedi sefydlu ar Ystâd Ddiwydiannol yng Nghibyn ers dros 20 mlynedd sydd wedi’i warchod ar fap cynigion y Cynllun Datblygu lleol, ar gyfer defnydd cyflogaeth B1, B2 & B8. Ategwyd bod Polisi GWA 2 (Rheoli Gwastraff a Safleoedd a Ddyrannwyd) yn nodi y dylid cymeradwyo cynigion rheoli gwastraff ar safleoedd priodol ar yr amod bod y cynnig yn unol â'r hierarchaeth wastraff a bod angen amlwg am y datblygiad a gefnogir gan Asesiad Cynllunio Gwastraff. Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau adeiladol na gweithredol eraill i'r datblygiad.

 

Nodwyd bod y safle yn darparu gwasanaeth trosglwyddo ac ailgylchu gwastraff masnachol yn unol â thelerau’r caniatâd presennol. Eglurwyd bod y gwastraff a derbyniwyd yn cynnwys gwastraff a gesglir mewn sgips sef, gwastraff tŷ, gwastraff masnachol a diwydiannol a gwastraff o waith glanhau ffyrdd ynghyd a rhai eitemau a ddisgrifir fel gwastraff peryglus i gynnwys batris ceir, llenni asbestos wedi’i bondio â sment a gwastraff trydan. Bydd y gwastraff sydd yn cael ei gludo i'r safle yn cael ei ddidoli ar gyfer ailgylchu neu ei ailddefnyddio.

 

Amlygwyd bod y cyfleuster wedi gweithredu'n llwyddiannus i'r graddau bod y galw gan gwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid yn tyfu ar gyfradd a fyddai'n fwy na'r hyn a osodir o dan amod cynllunio ac felly gwnaed cais am gynnydd yn y mewnbwn gwastraff a ganiateir. Ategwyd bod uwchraddiad diweddar i'r orsaf trosglwyddo gwastraff wedi arwain at gapasiti ychwanegol sef, gwastraff adeiladu a dymchwel yn bennaf a chyda contract gyda safleoedd ynni o wastraff yng Nghymru a Lloegr yn golygu cyflenwad deunydd sy'n deillio o brosesu gwastraff o ffynonellau adeiladu, cartrefi a masnachol, rhagwelir y bydd y llif gwastraff hwn yn parhau. Bydd angen mwy o gapasiti hefyd i ddarparu ar gyfer cynnydd mewn cynhyrchu a dosbarthu biomas i weithfeydd biomas lleol. Nodwyd bod y safle gyda’r capasiti i ehangu a buasai’r bwriad yn sicrhau bod y cyfleuster presennol yn parhau i ddidoli a phrosesu deunyddiau yn gynaliadwy a chyfrannu at gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru i ddargyfeirio gwastraff o dirlenwi.

 

O ran gosod targedau ar gyfer rheoli gwastraff cartref, diwydiannol a masnachol, mae ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ yn mynnu y dylai o leiaf 70% o'r gwastraff o'r fath gael ei ailddefnyddio ac / neu ei ailgylchu erbyn 2025. Ystyriwyd y byddai’r cais hwn yn cyfrannu at yr hyn mae’r ardal yn ei ailgylchu ac yn lleihau'r gwastraff sydd yn cael ei dirlenwi. Adroddwyd, ar gyfer pob math o wastraff, mae Polisi Cynllunio Cymru  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C15/0966/16/MG Tir yn Pentwmpath, Llandygai, LL57 4LG pdf eicon PDF 511 KB

Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 15 tŷ gan gynnwys 3 tŷ fforddiadwy, yn dilyn caniatâd amlinellol o dan gyfeirnod C09A/0518/16/AM

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Rhesymau:

 

  1. O ganlyniad i’r newidiadau i’r cynllun nad yw’n cael eu adlewyrchu yn y datganiad cymysgedd tai a’r diffyg gwybodaeth o ran prisiad,  ni ystyrir fod y bwriad gerbron yn ei gyfan-rwydd yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau TAI 8 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 a CCA Cymysgedd Tai o ran cyfiawnhau’r cymysgedd a ddarperir, na polisïau PS18 a TAI 15 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 a CCA Tai Fforddiadwy o ran cyfiawnhau arwynebedd llawr yr unedau fforddiadwy a sicrhau fod yr unedau yn fforddiadwy am byth o ran pris.

 

  1. Ystyrir y byddai’r bwriad, oherwydd agosatrwydd y tai a lleini caled bwriedig, yn debygol o gael effaith andwyol ar iechyd a dyfodol y gwrych a fyddai’n cyfrannu at golli rhannau sylweddol o’r gwrych ar y ffin orllewinol ac y byddai hyn yn cael effaith andwyol sylweddol ar gymeriad yr ardal ac felly mae’r bwriad yn groes i ofynion meini prawf 2 a 3 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ran parchu cyd-destun y safle ac ymgorffori tirlunio meddal pan fo hynny’n briodol, a meini prawf 3, 4 a 6 o bolisi PCYFF 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 o ran parchu ac amddiffyn golygfeydd lleol ac unrhyw nodweddion naturiol cadarnhaol sy’n bodoli a rhoi cyfiawnhad dros amgylchiadau lle nad oes modd osgoi tynnu/colli coed neu wrychoedd.

 

  1. Mae’r bwriad yn golygu darparu datblygiad lloriau caled, a gweithgareddau atodol i’r tai megis parcio a gerddi yn union ar y ffin ar gyfer ardaloedd gwarchod gwreiddiau coed sydd wedi eu dynodi yn goetir hynafol ac wedi eu gwarchod o dan Gorchymyn Gwarchod Coed ac i’r perwyl hyn, ystyrir y

 

 

 

byddai’r bwriad yn debygol o gael effaith andwyol ar y coed a warchodir ac fod y bwriad yn groes i ofynion maen prawf 8 o bolisi PS19 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 gan nad yw’r bwriad yn sicrhau cadw neu wella coed, gwrychoedd a choetiroedd o werth.”

 

 

Cofnod:

Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 15 tŷ gan gynnwys 5 tŷ fforddiadwy, yn dilyn caniatâd amlinellol o dan gyfeirnod C09A/0518/16/AM

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y caniatawyd y cais amlinellol ar gyfer codi 15 tŷ i gynnwys 5 tŷ fforddiadwy gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl, ac felly’r cais gerbron ar gyfer cytuno’r holl faterion oedd yn weddill, megis  llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu. 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Llandygai ac o dan y Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (2009) pryd caniatawyd y bwriad yn amlinellol, roedd y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai, Erbyn hyn, nid yw’r safle wedi ei ddynodi, ond yn parhau oddi fewn y ffin ddatblygu. Eglurwyd mai tir pori yw defnydd y tir ar hyn o bryd gyda wal garreg a gwrych yn rhedeg ar hyd ffin orllewinol y safle gyda’r ffordd  gyhoeddus gyfochrog. Ategwyd bod presenoldeb coed aeddfed sydd wedi eu gwarchod o dan Orchymyn Gwarchod Coed diweddar (04.10.2019) ar hyd ffin ogleddol y safle a ffordd breifat yn arwain tuag at glwstwr o dai ar y ffin ddeheuol.

Adroddwyd bod y cais wedi bod yn destun trafodaethau health gyda’r asiant dros gyfnod o amser, a’r cynlluniau diweddaraf wedi eu cyflwyno (13.08.2021) yn cynnig lleihau’r nifer o dai fforddiadwy o 5 i 3 a chadw ardal ‘buffer’ rhwng y coed sydd wedi eu gwarchod a’r datblygiad tai. Ategwyd bod bwriad darparu un fynedfa gerbydol i’r stad ynghyd a mynedfa droed drwy’r gwrych presennol  - byddai’r gwrych yn cael ei waredu yn gyfan gwbl i’r rhan sydd wedi ei leoli i’r de o’r fynedfa.

Er bod y cynlluniau diwygiedig yn cynnig lleihau’r nifer o dai fforddiadwy o 5 i 3 nodwyd, er y byddai modd diwygio’r nifer o dai fforddiadwy o dan gais arall ar wahân, nid oedd posib gwneud hynny drwy gais materion a gadwyd yn ôl oherwydd bod y ffurflen gais a’r caniatâd cynllunio amlinellol yn cyfeirio’n benodol tuag ar ddarparu 5 uned fforddiadwy yng nghyswllt y bwriad yma. Er y trafodaethau am leihau’r nifer o dai fforddiadwy i 3 ac y byddai’n bosib gwneud hynny drwy gais ar wahân, nid oedd y ffurflen gais na’r cynlluniau diwygiedig yn cadarnhau’r newid i 3 eiddo fforddiadwy yn glir. Amlinellwyd bod y cais wedi ei asesu ar gyfer 5 tŷ fforddiadwy.

Eglurwyd y rhesymau dros wrthod y cais gan nodi bod rheswm gwrthod 4 bellach wedi ei ddiddymu oherwydd bod yr asiant wedi darparu gohebiaeth rhyngddynt hwy a Dŵr Cymru yn cadarnhau fod Dŵr Cymru yn fodlon iddynt gysylltu i'r brif garthffos.  Nodwyd bod caniatâd cynllunio amlinellol wedi ei gymeradwyo ar gyfer y bwriad sydd yn cynnwys darparu system trin carthffosiaeth ac nad oes modd ymdrin â’r newid i gysylltu i'r brif garthffos drwy gais materion a gadwyd yn ôl.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd yn sylwadau canlynol:

·         Bod adroddiad y pwyllgor a’r argymhelliad yn annisgwyl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.