skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elwyn Jones a  Gareth Coj Parry; Kim Jones (Aelod Lleol)

 

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Elwyn Jones, ar golli ei wraig. Anfonwyd cofion at y Cadeirydd a’r teulu yn eu colled. Ymdawelodd yr Aelodau a’r swyddogion  fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

 

a)         Datganodd yr aelodau canlynol eu bod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Elin Hywel yn eitem 5.2 (C22/0242/34/LL) ar y rhaglen oherwydd bod ganddi gysylltiad gyda'r Aelod Lleol

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

O ran materion protocol, mynegodd y Cyng. Gruffydd Williams bod Aelod Lleol eitem 5.2 (C22/0242/34/LL) ar y rhaglen wedi bod mewn cyswllt gydag ef

 

b)          Datganodd yr aelodau canlynol eu  bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem      a nodir:

·         Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C21/1111/14/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C21/0573/33/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gareth A Roberts (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C22/0525/11/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gwilym Jones (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C21/1151/44/LL) ar y rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 4ydd o Orffennaf fel rhai cywir yn ddarostyngedig ar nodi nad oedd y Cyng. Gareth M Jones yn bresennol.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

PENDERFYNWYD

 

6.

Cais Rhif C21/1111/14/LL Canolfan Arddio Fron Goch, Ffordd Pant, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5RL pdf eicon PDF 450 KB

Cais i godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r faes parcio cwsmeriaid presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

  1. 5 mlynedd. 
  2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.
  3. Defnydd atodol i’r prif ganolfan garddio.
  4. Cwblhau'r parcio ychwanegol cyn defnyddio’r adeilad. 
  5. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.
  6. Amodau bioamrywiaeth (golau, gwelliannau bioamrywiaeth.
  7. Tirweddu.
  8. Cytuno cynllun draenio tir.
  9. Cyfyngu i werthiant o nwyddau cymharol yn unig, dim gwerthiant o nwyddau cyfleus (bwyd)

 

Cofnod:

Cais i godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd â chodi adeilad cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored ac estyniad i'r maes parcio cwsmeriaid presennol

 

Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol. 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer ymestyn canolfan arddio Fron Goch drwy godi adeilad i storio dodrefn ardd ynghyd a gofod cyfagos i arddangos a gwerthu dodrefn, ardal storio agored. Byddai'r adeilad yn mesur 46.2 medr o hyd (yn ei fan hiraf), 22.7 medr o led a 7.8 medr i ran uchaf y to yn gwneud cyfanswm o 977 medr sgwâr. Bwriedir hefyd ymestyn y lle parcio ceir cwsmeriaid presennol ynghyd a chreu ardal storio yn mesur 1452 medr sgwâr a leolir rhwng yr adeilad bwriededig a therfyn newydd de orllewinol y safle.

 

Gan fod defnydd manwerthu yn bodoli eisoes ar y safle awgrymwyd y dylid ystyried egwyddor y bwriad yn erbyn Polisi MAN6 (Manwerthu yng nghefn gwlad). Yn unol â pholisi MAN6, caniateir cynigion ar gyfer siopau ar raddfa fechan ac estyniadau i siopau presennol sydd tu allan i’r ffin datblygu, cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio gyda meini prawf y polisi. Amlinellir yn y maen prawf cyntaf y dylai’r  bwriad fod yn elfen israddol o fusnes presennol ar y safle. Datgan yr eglurhad i Bolisi MAN 6 mai’r lleoliad mwyaf addas i siopau yw o fewn ffiniau aneddiadau trefi a phentrefi. Fodd bynnag, gall siopau ar raddfa fechan sy’n cael eu rhedeg ar y cyd a busnes sydd eisoes ar y safle yn debygol o ddarparu gwasanaeth a chyflogaeth ddefnyddiol i gymuned wledig.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun y polisïau perthnasol ni ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu oherwydd bod lleoliad, dwysedd, y cynnydd mewn maint yn afresymol ac y byddai'r bwriad yn cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr ardal sydd yn groes i sawl polisi. Yn ychwanegol nid yw’n glir os yw’r effaith ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol yn dderbyniol ac  ni ystyriwyd fod cyfiawnhad am y golled o dir amaethyddol fyddai’n deillio o’r bwriad.

 

Wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol ni ystyriwyd fod y bwriad yn cyfarfod amcanion polisïau cynllunio.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais ac yn anghytuno gyda’r seiliau gwrthod

·         Elfennau bioamrywiaeth - hyderus bydd modd symud ymlaen heb greu effaith ar y coed hynafol a’r gwrychoedd aeddfed. Gwarchod y rhain yn fantais i ddenu pobl i leoliad hyfryd a naturiol

·         Bod y datblygiad yn un sylweddol ond nid yw’r safle yn agored. Nid yw’n weladwy hyd nes ei gyrraedd. Nid yw’r adeilad arfaethedig yn cwrdd â throthwy ‘adeilad mawr’

·         Nid yw’r bwriad yn is-raddol i’r busnes presennol -  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C22/0242/34/LL Tir ger Penlon, Clynnog Fawr, LL54 5PE pdf eicon PDF 509 KB

Adeiladu tŷ newydd a llecynnau parcio

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Davies

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Rhesymau

 

  1. Mae’r bwriad, oherwydd ei faint a gosodiad yn groes i ofynion Polisïau PCYFF3, TAI 4, o’r CDLL. Ystyrir byddai’r bwriad yn groes i’r patrwm datblygu oherwydd diffyg cwrtil / man agored o gwmpas y tŷ. Ni ystyrir byddai’r bwriad yn ychwanegu at nac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle a byddai colled o wagle agored rhwng anheddau presennol yn niweidio edrychiad a chymeriad y strydlun a’r ardal cadwraeth.

 

  1. Ystyrir bod y bwriad yn groes i ofynion polisïau PS19, PS20, AT 1 a AMG 1 o’r CDLL gan na fyddai’r bwriad, oherwydd y golled o lecyn agored ynghyd a maint ac edrychiad y tŷ, yn diogelu nac yn gwella’r gosodiad ac edrychiad yr ardal cadwraeth a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a golygfeydd pwysig i mewn ac allan o’r ardal.

 

Cofnod:

Adeiladu tŷ newydd a llecynnau parcio

 

Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol. 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi tŷ deulawr ar lain o dir ger Pen Lôn, o flaen anheddau a adnabyddir fel Y Ficerdy a Clynnog House gydag annedd preswyl Tŷ Isaf a Court Cottages at gefn y safle o fewn ardal breswyl a ffin datblygu Clynnog Fawr. Ceir hefyd yma fynediad cefn at Eglwys Beuno Sant sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y pum tŷ presennol cyfagos. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn union gerllaw Adeiladau Rhestredig, wedi lleoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a hefyd o fewn Ardal Cadwraeth ac er derbyn nifer o sylwadau ynglŷn a pharcio a man troi, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais gan yr aelod lleol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, amlygwyd na ellid argymell caniatáu’r cais oherwydd y methiant i fodloni gofynion polisïau TAI y CDLL sy’n ymwneud ag addasrwydd y datblygiad i gydymffurfio â chymeriad yr anheddle ar ran ei faint a graddfa a bod angen amddiffyn y llecyn agored rhag gor-ddatblygiad er mwyn diogelu edrychiad a chymeriad yr ardal cadwraeth leol.   

 

b)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

Rhesymau: Hawl i berson godi tŷ a byw yn ei gynefin; plwyf yw Clynnog ac nid Eglwys yn unig; y dyluniad yn dderbyniol - mater o farn; Dim gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth na’r AHNE.

 

c)      Mewn ymateb i’r cynnig a sylw bod y Cyngor Cymuned yn cefnogi cartref i deulu lleol, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai tŷ marchnad agored oedd dan sylw ac nad oedd modd cyfyngu pwy fydd yn gallu byw yn yr eiddo.

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod y dyluniad yn rhy fodern, yn amhriodol ac yn sefyll allan yn y lleoliad yma

·         Bydd yn creu effaith ar yr eglwys – yn anaddas i’w leoliad

·         Mater o farn yw'r dyluniad – tir gwag yng nghanol y pentref

·         Bod y tir ym meddiant person lleol sydd eisiau dychwelyd i fyw yn y pentref

·         A yw polisïau yn gwarchod pobl ynteu adeiladau? Blaenoriaethu pwysigrwydd yr eglwys ynteu gadw pobl yn lleol?

·         Dyluniad yn dderbyniol – awgrym cynnwys amod i osod cerrig blaen

 

d)    Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatáu.

 

Disgynnodd y cynnig

 

e)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol ar argymhelliad

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod

 

Rhesymau

 

1.    Mae’r bwriad, oherwydd ei faint a gosodiad yn groes i ofynion Polisïau PCYFF3, TAI 4, o’r CDLL. Ystyrir byddai’r bwriad yn groes i’r patrwm datblygu oherwydd diffyg cwrtil / man agored o gwmpas y tŷ. Ni  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C22/0182/30/DT Pelydryn, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8BE pdf eicon PDF 393 KB

Estyniad unllawr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau:

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         To llechi

4.         Deunyddiau i weddu

5.         Amod Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Estyniad unllawr

 

Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr amgylchedd lleol. 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. 

 

a)   Amlygodd y Rheolwr Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad unllawr ar flaen tŷ unllawr. Adroddwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys ymestyn modurdy presennol, sy'n ffurfio rhan integredig o'r tŷ, 1.5m yn ei flaen. Byddai’r elfen newydd yma gyda tho brig, 3.8m o uchder (1.2m yn is na brig to'r tŷ ei hun)  gyda drws garej ar ei flaen.

 

Nodwyd bod yr eiddo yn un o res o dai ar wahân gerllaw ffordd ddosbarth 2 y B4413 mewn ardal anheddol o fewn ffin datblygu Pentref Arfordirol - Gwledig Aberdaron fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd ac Ynys Môn; Yr eiddo hefyd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ar gais y cyn aelod lleol, y Cynghorydd W Gareth Roberts, oedd yn gwrthwynebu cais ar sail effaith weledol y datblygiad ar y strydwedd ac oherwydd pryderon ynghylch yr effaith mwynderol ar gymdogion.

 

Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF 3 y CDLL sy'n datgan bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi llawn ystyriaeth i gyd-destun yr amgylchedd adeiledig o gwmpas. Yn yr achos hwn, wrth ystyried graddfa, dyluniad a deunyddiau'r estyniad,  ystyriwyd mai bychan iawn fyddai'r newid i edrychiad y safle o'i gymharu â'r tŷ presennol ac na fyddai unrhyw niwed i ansawdd adeiledig yr eiddo'n deillio o'r datblygiad. Nodwyd y gellid gosod amodau yn sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir yn gweddu gweddill y tŷ.

 

Yn ogystal, adroddwyd, er y byddai peth cynnydd yn swmp yr adeilad ynghyd ag ymestyniad o'r "llinell adeiladu" yn ei flaen ychydig, nid oes unrhyw batrwm adeiladu pendant i ddatblygiadau yn yr ardal ac oherwydd mai bychan yw’r newid a byddai’r cynnig yn parchu cyd-destun adeiledig y safle ac yn gweddu gyda’r ardal o gwmpas. O ganlyniad, ystyriwyd bod y cynllun a gyflwynwyd, oherwydd ei raddfa, deunyddiau a dyluniad, yn gweddu’n briodol gyda'r eiddo presennol ac felly’n cydymffurfio gydag anghenion polisi PCYFF 3.

 

Er bod y safle’n gorwedd o fewn yr AHNE, ac o ystyried ei leoliad trefol, ni fyddai’r bwriad dan sylw yn effeithio ar gymeriad tirwedd yr AHNE.  Yn yr un modd ni ystyriwyd y bydd niwed i'r Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol - y bwriad yn dderbyniol dan ofynion Polisïau AMG 1 ac AT 1 y CDLl ac felly hefyd dim effaith ar gymdogion na’r strydlun.

 

      b)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn cytuno’n llwyr gyda sylwadau’r cyn Cynghorydd

·         Nid ‘angen’ i ehangu sydd yma ond perchennog yn dewis ymestyn ar gyfer storio cwch a thractor yn ei ail dŷ. Addasiad ’yn ddymunol’ ar gyfer ‘hamddena’ -  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C22/0525/11/LL Cyn Ysgol Babanod Coed Mawr, Bangor, LL57 4TW pdf eicon PDF 364 KB

 

Codi 10 tŷ fforddiadwy canolradd a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Cydymffurfio a’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
  4. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r anheddau fforddiadwy e.e. meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
  5. Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Arolwg Ecolegol ac Asesiad Effaith Coedyddiaeth.
  6. Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ac ar gyfer yr anheddau oddi fewn y datblygiad cyn i’r anheddau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
  7. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.
  8. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu i’r ACLL i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad, parcio cerbydau gweithredwyr y datblygiad, llwytho/dadlwytho nwyddau, storio cyfarpar offer ar y safle, ffensys diogelwch, cyfleusterau golchi olwynion a chynllun ail-gylchu/gwaredu sbwriel.
  9. Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth gan gynnwys sicrhau gwelededd o 33m i’r de-orllewin o’r brif fynedfa.
  10. Cytuno gyda gorffeniadau allanol yr anheddau.
  11. Llechi naturiol i’r toeau.
  12. Cytuno ar ffens acwstig
  13. Cytuno ar gyfarpar chwarae i plant.

 

Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Cofnod:

Codi 10 tŷ fforddiadwy canolradd a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. 

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn oedd dan sylw i godi 10 tŷ fforddiadwy canolradd ynghyd a gwaith cysylltiedig. Disgrifiwyd y safle fel safle segur cyn-Ysgol Babanod Coed Mawr i’r de o ganol dinas Bangor; oddi fewn i ardal breswyl rhwng Ffordd Caernarfon a Ffordd  Penrhos ac oddi fewn i ffin datblygu Bangor fel y’i cynhwysir yn y CDLL . Ategwyd nad oedd wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd arbennig. Rhannwyd y cais i sawl elfen wahanol oedd yn cynnwys:

 

     Darparu tai fforddiadwy canolradd ar ffurf: 4 tŷ par deulawr 2 lofft (4 person); 4 tŷ par deulawr 3 llofft (5 person) a 2 dy deulawr 3 llofft (5 person) gyda deiliadaeth ecwiti a rennir.

     Darpariaeth llecynnau parcio oddi ar y ffordd.

     Creu ardaloedd gerddi, palmentydd a chwrtilau preifat.

     Addasiadau i’r fynedfa bresennol a darparu ffordd a llwybrau i gerddwyr o fewn y safle.

     Tirweddu caled a meddal gan gynnwys plannu amrywiaeth o goed a llwyni.

     Creu llecyn chwarae i blant.

     Gosod system draenio dŵr aflan i wasanaethu’r anheddau ynghyd a system dwr wyneb.

 

Eglurwyd bod y safle’n presennol yn cynnwys gweddillion adeiladwaith y cyn-ysgol sy’n cynnwys hwynebau caled (concrid) a hwynebau meddal (glaswellt). Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol ar sail lleoliad, angen, cymysgedd tai, defnydd, tai fforddiadwy a dwysedd ynghyd a’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol ar sail mwynderau gweledol a rhagwelwyd y byddai yn y pendraw, yn creu cyfraniad positif i gymeriad y rhan yma o’r strydlun.

 

Yng nghyd destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn gan rai o ddeiliaid Lôn Bedw a Bron y De yn ymwneud a cholli preifatrwydd ac aflonyddwch sŵn y gall ddeillio o ddefnyddio’r llecyn chwarae arfaethedig sydd wedi ei leoli yng nghornel de-gorllewinol y safle. Fodd bynnag, o ystyried bod llystyfiant eisoes yn bodoli rhwng cefnau anheddau Lôn Bedw a Bron y De gyda safle’r cais; defnydd blaenorol y safle fel defnydd addysgol; y bwriad i godi ffens coedyn 1.8m o uchder o amgylch ffin allanol y safle; bod y llecyn tir wedi ei ddewis ar sail hybu gwyliadwriaeth oddefol gan y cyhoedd ynghyd a’r bwriad o blannu mwy o lystyfiant cyfagos ac oddi fewn i’r llecyn chwarae. O ganlyniad, ystyriwyd na fydd y bwriad o leoli’r llecyn chwarae o fewn y rhan yma o’r safle yn mynd i darfu’n sylweddol ar fwynderau preswyl na chyffredinol deiliaid cyfagos. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi bwriad o osod ffens acwstig fyddai’n lleihau sŵn a bod modd gosod amod perthnasol i sicrhau hyn.

 

Wedi asesu’r bwriad cyfredol yn ei gyfanrwydd, ni adnabuwyd unrhyw effaith sylweddol niweidiol fyddai’n groes i bolisïau cynllunio lleol a chyngor cenedlaethol perthnasol. I’r perwyl hyn, ystyriwyd y bwriad yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C22/0529/15/DT Cil Melyn, 8 Stryd Warden, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4HP pdf eicon PDF 386 KB

Trosi to fflat yn deras to. Ffenestr gefn llawr cyntaf i'w thrawsnewid yn ddrws i ganiatáu mynediad a rhwystr o amgylch perimedr y to fflat a decin ar y llawr.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Rheswm

 

  1. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych sylweddol a fyddai’n niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn ogystal â chreu elfen ddominyddol a fyddai'n ffynhonnell posib sŵn ac aflonyddwch. Mae'r cais felly'n groes i bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y mae’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau trigolion lleol.

 

 

Cofnod:

Trosi to fflat yn deras to. Ffenestr gefn llawr cyntaf i'w thrawsnewid yn ddrws i ganiatáu mynediad a rhwystr o amgylch perimedr y to fflat a decin ar y llawr.

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer creu teras trwy osod decin ar do fflat sydd ar estyniad presennol ar gefn eiddo anheddol. Bwriedir gosod drws yn lle ffenestr llawr cyntaf er caniatáu mynediad at y cyfleuster. Mae'r to yn mesur 5.2m x 4.2m o arwynebedd llawr ac mae'n 3.8m uwch lefel y llawr. Eglurwyd bod yr eiddo yn dŷ deulawr pen teras mewn ardal anheddol o Ganolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn. Saif hefyd oddi fewn i Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig.

 

Nodwyd bod y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod sylwadau wedi eu derbyn  ar y cais gan Bennaeth Adran yr Amgylchedd. Ategwyd bod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu'r cais oherwydd ei fod yn ymyrryd ar breifatrwydd cymdogion

 

Yng nghyd destun egwyddor y datblygiad ystyriwyd byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych sylweddol, yn niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn ogystal â chreu elfen ddominyddol.

 

b)    Cynigiwyd  ac eiliwyd gwrthod y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

 

·         Byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar breifatrwydd cymdogion

·         Yn creu teimlad gormesol

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod – rhesymau

 

Byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych sylweddol a fyddai’n niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn ogystal â chreu elfen ddominyddol a fyddai'n ffynhonnell posib sŵn ac aflonyddwch. Mae'r cais felly'n groes i bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y mae’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau trigolion lleol.

 

11.

Cais Rhif C21/1151/44/LL Tyddyn Adi Camping Site, Morfa Bychan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9YW pdf eicon PDF 476 KB

Uwchraddio cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod glampio yn lle 25 pabell awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon C12/1554/44/TC 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gwilym Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i’r Rheolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

  1. Amser
  2. Yn unol â’r cynlluniau.
  3. Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 10 uned deithiol, 6 pod a 50 pabell. 
  4. Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.
  5. Tymor gwyliau - 1af Mawrth i 31 Hydref
  6. Symud y podiau i safle storio a ddangosir yn y cynllun rhwng 1 Tachwedd a 29 Chwefror. 
  7. Cwblhau’r gwaith tirweddu yn y tymor plannu cyntaf.
  8. Unol ac argymhellion Adroddiad Ecolegol

 

  • Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau Swyddog Trwyddedu Carafanau
  • Nodiadau: Tynnu sylw at sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â chael cynllun llifogydd mewn lle.

 

Cofnod:

Uwchraddio cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod glampio yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon C12/1554/44/TC

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer uwchraddio cyfleusterau yn cynnwys gosod 10 uned deithiol a 6 pod glampio symudol yn lle 25 pabell a awdurdodwyd gan Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon C12/1554/44/TC yn safle Tyddyn Adi, Morfa Bychan. Byddai’r gwaith hefyd yn cynnwys tirlunio rhwng y lleiniau carafanau a thirlunio i amgáu safle’r podiau.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau’r Cyngor Cymuned oedd wedi gwrthwynebu’r cais oherwydd bod y podiau glampio yn ymddangos fel nodwedd barhaol. Adroddwyd bod   gwybodaeth ychwanego wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd yn nodi bod y podiau yn rhai un stafell ac yn rhai symudol y gellid eu storio ar ddiwedd y tymor.

 

Cyfeiriwyd ar Polisi TWR5 o’r CDLl sydd yn caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd teithiol a llety gwersylla amgen dros dro os ydynt yn cydymffurfio a’r cyfan o’r meini prawf. Ystyriwyd fod dyluniad, gosodiad ac edrychiad y bwriad o ansawdd derbyniol a’i fod wedi ei leoli mewn lleoliad anymwthiol wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd. Ni chredir byddai cyfnewid yr unedau o bebyll i garafanau a phodiau yn peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd yn y safle yma.

 

Amlygwyd bod cynllun safle yn nodi nad yw’n fwriad gosod lleiniau caled i’r unedau ac mae’r Datganiad Cynllunio yn datgan nad yw’n fwriad cysylltu’r podiau i system ddraenio. Bydd y podiau yn cael eu symud i safle storio dros y gaeaf, felly bydd cysylltiad ffisegol i’r ddaear yn gyfyngedig. Mae blociau cawod a thoiledau presennol yn bodoli eisoes ar y safle, a bydd defnyddwyr y carafanau a podiau arfaethedig yn defnyddio’r ddarpariaeth bresennol. Nid oes bwriad adeiladu adeilad newydd fel rhan o’r cais.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y safle yn gorwedd  mewn lleoliad cefn gwlad. Ystyriwyd bod y safle ar y cyfan wedi cael ei sgrinio’n dda o ran helaeth o olygfeydd, gyda mannau gwan yma thraw yn y tirlunio. Ategwyd bod y safle yn weladwy o fannau agos o’r llwybr cyhoeddus ond bod cynllun yn dangos bwriad i dirweddu gyda gosodiad dwysedd isel, mannau agored a rhesi o wrychoedd oddi fewn y safle.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod rhan o’r cae o fewn parth llifogydd C2 a phetai’n ddatblygiad o’r newydd y byddai’n groes i bolisi. Fodd bynnag, o ystyried sefyllfa ‘fall back’ a’r safle eisoes â chaniatâd am 75 pabell, ni fyddai cyfnewid yr unedau yn groes i bolisi gan nad yw’n cynyddu risg yn yr achos yma. Gellid dadlau oherwydd y gostyngiad niferoedd, y byddai’r risg yn lleihau.  O ystyried mai rhan fechan o’r cae yn unig sydd o fewn Parth C2 a sefyllfa caniatâd presennol y safle, cesglir na fyddai’r bwriad yn gwaethygu na chynyddu risg llifogydd yn yr achos yma. Awgrymwyd felly fod y sefyllfa ‘fall back’ yn golygu nad yw’r bwriad yn groes i bolisi NCT 15  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.