skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu  bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd Huw Wyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C22/0662/11/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Craig ab Iago  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C22/0570/22/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Kim Jones (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/0676/15/LL) ar y rhaglen

 

Amlygodd y Swyddog Monitro fod gan y Cynghorydd Medwyn Hughes (Aelod Lleol mewn perthynas â chais 5.1 ar y rhaglen) fuddiant personol ar yr eitem a’i fod wedi ei gynghori i beidio cymryd rhan yn y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 26ain o Fedi fel rhai cywir

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

Cais Rhif C22/0662/11/LL Ysgol Hillgrove, Ffordd Ffriddoedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2TW pdf eicon PDF 449 KB

Newid defnydd o cyn-ysgol (Defnydd Dosbarth D1) i hostel (Defnydd Dosbarth C2) sy'n cynnig cefnogaeth byw i breswylwyr gan gynnwys estyniad a gwaith adeiladu cysylltiedig.

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Huw Wyn Jones a’r Cynghorydd R Medwyn Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio

 

-       Rhoi cyfle i swyddogion asesu sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ac addasu’r adroddiad yn unol â hynny

-       Cynnal ymweliad safle i asesu addasrwydd yr ardal at ddefnydd y cais

 

Cofnod:

Ysgol Hillgrove, Ffordd Ffriddoedd, Bangor Gwynedd, LL57 2TW

 

Newid defnydd o cyn-ysgol (Defnydd Dosbarth D1) i hostel (Defnydd Dosbarth C2) sy'n cynnig cefnogaeth byw i breswylwyr gan gynnwys estyniad a gwaith adeiladu cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod gwybodaeth ychwanegol wedi cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd ac awgrymwyd i’r Aelodau ohirio trafod y cais fel bod modd i’r swyddogion Cynllunio gael cyfle i ymateb i’r sylwadau ac addasu’r adroddiad yn unol â hynny. Awgrymwyd hefyd y byddai’n fuddiol i’r Aelodau ymweld â’r safle i asesu addasrwydd yr ardal at ddefnydd y cais.

 

b)            Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio’r penderfyniad

 

PENDERFYNWYD: gohirio

 

Rhesymau:

 

-       Rhoi cyfle i swyddogion asesu sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ac addasu’r adroddiad yn unol â hynny

-       Cynnal ymweliad safle i asesu addasrwydd yr ardal at ddefnydd y cais

 

 

 

7.

Cais Rhif C22/0570/22/LL Lock Up, Uned Storio, Penygroes, LL54 6DB pdf eicon PDF 338 KB

Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr 'mezzanine', a cysylltiad i'r adeilad presennol.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau -

 

  1. 5 Mlynedd
  2. Yn unol â’r cynlluniau
  3. Deunyddiau
  4. Mesurau lliniaru iaith (arwyddion, gohebiaeth ayyb)

 

Cofnod:

Lock Up, Self Storage, Penygroes, LL54 6DB

Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr 'mezzanine' a chysylltiad i'r adeilad presennol.

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu sied storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr mezzanine, gyda estyniad ochr i gysylltu’r adeilad bwriadedig i’r adeilad cyfochrog presennol. Byddai’r adeilad bwriadedig yn cael ei rhannu i 2 rhan - prif adeilad 3 llawr ar gyfer storio a’r ail ran yn sylweddol llai ar gyfer cegin fach, ystafell ymweld a swyddfa ar y llawr cyntaf. Byddai'r adeilad yn mesur 34 medr mewn hyd, 15.5 medr mewn lled a 11 medr mewn uchder.

 

Adroddwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y bydd  cynigion yn cael eu caniatáu, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r drychiadau; ei fod yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol.

 

Amlygwyd fod y bwriad yn golygu codi adeilad sylweddol ei faint ac uchder ar gyrion gorllewinol ystâd ddiwydiannol ar safle rhwng dau adeilad ac ar bwys clawdd terfyn gyda chefnffordd gyfochrog. Eglurwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos y byddai’r adeilad yn sylweddol uwch na’r adeiladau gerllaw a’r clawdd terfyn ac felly yn creu nodwedd uchel, amlwg ac anghydnaws o’r gefnffordd a niwed i fwynderau gweledol yr ardal.

 

Derbyniwyd bod elfennau o’r adeiladau  presennol gerllaw yn weladwy o ffordd osgoi Penygroes, ond byddai uchder a graddfa'r adeilad bwriadedig yn sefyll allan fel nodwedd anghyson yn y patrwm datblygu ac yn tynnu sylw, ac yn ychwanegu yn sylweddol at nodweddion dynol sy’n weladwy o’r ffordd honno. Er bod y safle yn ffurfio rhan o ystâd ddiwydiannol amlygwyd bod y safle yn ffinio gyda chefn gwlad agored lle mae’r dirwedd yn llawer mwy sensitif i newid. 

 

Nodwyd bod yr adeiladau presennol oherwydd eu maint, uchder a graddfa yn cael eu cysgodi i raddau gan glawdd a llystyfiant presennol, er hynny, y llystyfiant yn bennaf yn blanhigion collddail a’r adeilad felly yn llawer mwy amlwg yn y gaeaf.

 

Yng nghyd-destun materion yn ymwneud a’r Iaith Gymraeg, nodwyd na ofynnwyd i'r ymgeisydd baratoi a chyflwyno datganiad o'r fath oherwydd na fyddai’n newid barn y Gwasanaeth Cynllunio o ran yr effaith gweledol. Er hynny, heb asesiad priodol nid oedd yn bosib asesu effaith y bwriad ar yr iaith.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun y polisïau perthnasol, ni ystyriwyd ei fod yn dderbyniol i’w ganiatáu. Ystyriwyd y byddai'r adeilad oherwydd ei raddfa a maint  yn ychwanegiad anghydnaws ac y byddai'n cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr ardal  (yn groes i Bolisi PCYFF2, PCYFF3, PCYFF4 a PS 19). Y bwriad hefyd yn groes i bolisi PS 1 o fewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C22/0676/15/LL Maes Parcio, Y Glyn, Llanberis, LL55 4EL pdf eicon PDF 337 KB

 

Ail-wynebu ac ail-drefnu meysydd parcio y Glyn gan gynnwys creu llwybr cerdded hygyrch gydag arwyneb tarmac a gosod wyneb system celloedd graean o fewn yr ardaloedd parcio.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar dderbyn sylwadau cadarnhaol oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru a'r Uned Goed ynghylch gwybodaeth bellach a gyflwynwyd mewn ymateb i'w sylwadau cychwynnol:

 

            1. Amser

            2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

            3. Amodau priffyrdd

            4. Rhaid gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad o Effeithiau Ecolegol

5. Rhaid gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth

6. Unrhyw amodau Bioamrywiaeth / Coedyddiaeth eraill angenrheidiol

 

            Nodiadau

 

1.    Dŵr Cymru

2.    Cyfoeth Naturiol Cymru

3.    Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Maes Parcio, Y Glyn, Llanberis, LL55 4EL

 

Ail-wynebu ac ail-drefnu meysydd parcio Y Glyn gan gynnwys creu llwybr cerdded hygyrch gydag arwyneb tarmac a gosod wyneb system celloedd graean o fewn yr ardaloedd parcio.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i  ail-drefnu'r tri maes parcio presennol sydd wedi eu lleoli  yn ardal Y Glyn ar lan Llyn Padarn, Llanberis. Bydd yr aildrefnu yn gwelliannau i'r meysydd parcio yn unig – nid oes bwriad newid defnydd y tir a bydd y meysydd parcio yn parhau o dan reolaeth y Cyngor Sir. Bydd y gwaith yn cynnwys:

·         Ardal maes Parcio Rhif 1: 52 x bae parcio car, 3 x bae parcio anabl & 9 x bae parcio ‘camper van’. Bydd yr ardal hon hefyd yn cynnwys ardal ar gyfer glanhau canŵ/offer gyda waliau uchel o'i amgylch, ffynnon ddŵr yfed, cysgodfa ar gyfer cadw hyd at 10 o feics gyda tho gwyrdd a chladin coed a thri phwynt gwefru EV ar gyfer ceir trydanol.

·         Ardal maes Parcio Rhif 2: 57 x bae parcio car, 1 x bae parcio trelar & 13 x bae parcio ‘camper van’.

·         Ardal maes Parcio Rhif 3: 20 x bae parcio car, 2 x bae parcio anabl & 4 x bae parcio ‘camper van’.

 

Ategwyd y bydd y llwybr troed yn cael ei orffen gyda tharmac a bydd y lon a'r baeau parcio newydd i gyd yn cael eu gorffen gyda gridiau cellog wedi eu llenwi gyda cherrig mân gyda cherrig lliw llwyd golau yn cael eu defnyddio yn y baeau parcio a charreg lliw llwyd tywyll yn ardal y lon er mwyn creu cyferbynnedd gweledol.

 

Nodwyd bod Polisi Strategol PS 5 : Datblygu Cynaliadwy’n ymrwymo’r Awdurdod Cynllunio i gefnogi datblygiadau ble gellid dangos eu bod yn gyson ag egwyddorion datblygiad cynaliadwy. Mae'r polisi hwnnw'n rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o'r blaen ac i hyrwyddo safonau dylunio o ansawdd uchel sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r ardal leol; Bydd y cynllun hwn yn cynnig cyfle i wella ansawdd yr adnodd parcio sydd ar gael yn y lleoliad hwn ac yn sicrhau bod y tair ardal yn cael eu tacluso a'u gosod yn fwy trefnus er budd defnyddwyr a rheolaeth hir dymor y safle.

 

Yng nghyd-destun materion priffyrdd nodwyd nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i'r cynlluniau o safbwynt diogelwch y briffordd ac fe ystyriwyd bod y trefniant parcio'n dderbyniol. Byddai'r gysgodfa’n beics yn annog y defnydd o ddull trafnidiaeth gynaliadwy tra byddai gosod llwybr llawr caled yn hwyluso mynediad ar gyfer y rheiny sydd â phroblemau symudedd.

 

Yng nghyd -destun bioamrywiaeth a choed nodwyd bod y safle o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac fe gyflwynwyd Gwerthusiad Ecolegol Cychwynnol a daeth hwnnw i'r casgliad ei bod yn annhebygol y byddai'r cynllun arfaethedig yn arwain at effeithiau gweddilliol sylweddol ar nodweddion ecolegol pwysig yn y tymor hir pe bai'r holl fesurau lliniaru a digolledu a gynigiwyd yn cael eu dilyn. Yn ogystal  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.