skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu  bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd Elwyn Jones (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C21/1028/18/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gareth A Roberts (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C22/1020/11/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Ionawr 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

Cais Rhif C21/1028/18/LL Cartref Nyrsio Penisarwaun, Penisarwaun, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3DB pdf eicon PDF 439 KB

Newid defnydd o gartref gofal (Dosbarth Defnydd C2 - sefydliadau preswyl) i hostel gwasanaethol ar gyfer defnydd gwyliau (Defnydd Unigryw) ynghyd a llety byw warden cysylltiedig.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones

Dolen i'r dogfennau cefndirol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Gwrthod y cais yn seiliedig ar y rhesymau isod:

 

  1. Ystyrir bod y bwriad fel y’i cyflwynwyd yn groes i ofynion Polisi PCYFF 1, PCYFF 2 a TWR 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid ar sail diffyg gwybodaeth sy’n cadarnhau'r niferoedd o wlâu a fwriedir ei ddarparu fel rhan o’r bwriad ac o ganlyniad i’r diffyg hyn, ni ellir rhoi ystyriaeth lawn i effaith y bwriad ar fwynderau trigolion lleol. Er hyn, ac yn seiliedig ar y wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno gyda’r cais, rhagwelir byddai’r bwriad, oherwydd y nifer o ystafelloedd gwlâu a’r gallu i’r atyniad lletya nifer sylweddol o breswylwyr, cael ad-drawiad ar fwynderau preswyl trigolion lleol ar sail cynnydd mewn aflonyddwch sŵn a chyffredinol a fyddai’n tarddu o’r llety gwyliau/hostel arfaethedig.

 

  1. Ystyrir bod y bwriad fel y’i cyflwynwyd yn groes i Bolisi PCYFF 1 a gofynion Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy oherwydd diffyg gwybodaeth sydd wedi ei gyflwyno parthed natur ac ehangder y llety rheolwr/warden o fewn y llety gwyliau/hostel arfaethedig.

 

  1. Ystyrir bod y bwriad fel y’i cyflwynwyd yn groes i ofynion Polisi TRA 2 a TRA 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a’r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 18: Trafnidiaeth gan nad oes darpariaeth ddigonol o barcio o fewn y safle wedi ei gynnig ac fe all hyn, yn ei dro, gorfodi cerbydau i barcio ar ochr (verge) y ffordd sirol gyfochrog ar draul diogelwch ffyrdd.

 

Cofnod:

Newid defnydd o gartref gofal (Dosbarth Defnydd C2 - sefydliadau preswyl) i hostel gwasanaethol ar gyfer defnydd gwyliau (Defnydd Unigryw) ynghyd a llety byw warden cysylltiedig.

Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd cyn-gartref nyrsio’r henoed (Defnydd Dosbarth C2) i ddefnydd hostel gwyliau gwasanaethol (Defnydd Dosbarth C1 - gwestai) ynghyd a darparu llety byw warden cyfannol ar safle ar gyrion dwyreiniol anheddle Penisarwaun. Eglurwyd bod yr adeilad presennol yn cynnwys 30 ystafell wely; storfeydd; ceginau; ystafelloedd eistedd; ystafell offer gwresogi; ystafelloedd ymolchi ynghyd ag ystafelloedd gweinyddol/staff.

 

Adroddwyd bod nifer o bolisïau lleol a chenedlaethol yn ymwneud a’r egwyddor o ddarparu llety gwyliau gwasanaethol gyda Pholisi TWR 2 o’r CDLl yn hwyluso cynigion ar gyfer llety gwyliau gwasanaethol cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio gyda nifer o feini prawf.

 

Un o’r meini prawf hynny yw, bod graddfa’r datblygiad arfaethedig yn briodol gan ystyried y safle, y lleoliad a/neu anheddiad dan sylw a’i fod yn gallu cydweddu a ffitio’n gyffyrddus i’w amgylchfyd. Mewn ymateb i’r maen prawf nodwyd, bod y bwriad, ymysg defnyddiau cysylltiedig eraill, yn golygu darparu 30 ystafell wely/cysgu o fewn yr adeilad presennol er nad oedd gwybodaeth bellach wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd yn cyfeirio at faint o ddarpariaeth gwlâu sydd yn cael eu cynnig o fewn yr ystafelloedd. Er nad oes bwriad i ymestyn yr adeiladwaith presennol (ar wahân i osod to gwastad o raddfa fechan uwchben y brif fynedfa bresennol), ystyriwyd y gallai’r bwriad, o’i ganiatáu, olygu byddai darpariaeth ar gyfer rhwng 60 a 120 o ddeiliaid /preswylwyr yn bosibl o fewn y cyfleuster ar yr un pryd ac, o bosib, yn barhaol drwy’r flwyddyn.

 

Ystyriwyd nad yw’r datblygiad wedi ei leoli mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad preswyl yr ardal, ond oherwydd graddfa’r bwriad (yn nhermau’r nifer o bobol all aros yno ar yr un adeg) a’r mynd a dod cyson o’r safle all deillio o’r defnydd, byddai caniatáu'r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau trigolion lleol. Amlygwyd bod y pryder yma yn adlewyrchu’r sylwadau a dderbyniwyd gan wrthwynebwyr i’r cais.

 

Yr ail faen prawf yw nad yw’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal. Mewn ymateb, ystyriwyd na fyddai caniatáu’r bwriad yn golygu gormodedd o’r fath ddefnyddiau o fewn gymuned er gwaethaf pryderon y gwrthwynebwyr ynglŷn â’r elfen yma o’r bwriad.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod Polisi TWR 2 ynghyd a’r CCA: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid yn ategu amcanion y polisi gan  y dylai unrhyw ddatblygiad ar gyfer llety gwyliau warchod buddion preswyl ynghyd a bod yn ddefnydd a fyddai’n cydweddu a defnyddiau eiddo cyffiniol (eiddo preswyl yn yr achos hwn) o ran sŵn; aflonyddwch traffig a diffyg preifatrwydd ar gyfer unrhyw eiddo/cyffiniol/gerllaw.

 

Ategwyd bod natur llety gwyliau math hostel yn gallu creu ad-drawiad sylweddol ar draul mwynderau drwy greu aflonyddwch sŵn naill a’i ar ffurf symudiadau cerbydau/cyffredinol neu ar sail ymgynnull/cymdeithasu’n allanol yn ystod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C22/1020/11/LL Hen Ysgol Glanadda, Llwybr Yr Ysgol, Bangor, Gwynedd, LL57 4SG pdf eicon PDF 379 KB

Adeiladu ysgol gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa 20 lle a Chylch Meithrin 30 lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin ffiniau, trefniadau parcio newydd a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer adleoli Ysgol Ein Harglwyddes ar hen safle Ysgol Glanadda.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn ymgynghori gyda’r holl aelodau lleol perthnasol

 

Cofnod:

Adeiladu ysgol gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa 20 lle a Chylch Meithrin 30 lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin ffiniau, trefniadau parcio newydd a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer adleoli Ysgol Ein Harglwyddes ar hen safle Ysgol Glanadda.

a)    Amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol bod sefyllfa unigryw wedi codi fore y Pwyllgor lle ymddengys nad oedd y swyddogion cynllunio wedi ymgynghori gyda’r holl aelodau lleol perthnasol. Er bod mwyafrif o safle’r bwriad o fewn ward Dewi cyfeiriwyd at ran fechan o’r safle o fewn ward Canol Bangor. Awgrymwyd gohiro’r penderfyniad fel bod modd ymgynghori gydag Aelodau Lleol ward Canol Bangor – y Cynghorydd Huw Wyn Jones a’r Cynghorydd Medwyn Hughes.

 

b)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu gohirio’r cais

 

PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn ymgynghori gyda’r holl aelodau lleol perthnasol