Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Elin Hywel a’r Cyng. Gareth Coj Parry

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd Rhys Tudur (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C21/1038/41/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gareth Roberts a’r Cynghorydd Huw Wyn Jones (oedd yn Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C22/1020/11/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Stephen Churchman (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/1102/36/AC), ar y rhaglen

 

Amlygodd y Cyng. Gruffydd Williams ei fod wedi derbyn llythyr yn gwrthwynebu cais C21/1038/41/LL Tŷ'n Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd. Cyfeiriodd y llythyr ymlaen i’r Rheolwr Cynllunio.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6 Chwefror 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

Cais Rhif C21/1038/41/LL Ty'n Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6TX pdf eicon PDF 432 KB

Sefydlu maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Gwrthod y cais, yn groes i’r argymhelliad.

 

Byddai’r bwriad yn sefydlu safle carafanau teithiol newydd mewn lleoliad ble ceir gormodedd o safleoedd carafanau teithiol a sefydlog presennol, gan beri niwed i ansawdd gweledol y dirwedd yn ogystal ac achosi aflonyddwch sŵn a fyddai’n cael effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau’r cymdogion cyfagos, yn groes i amcanion polisi TWR 5 a PCYFF 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

Cofnod:

Sefydlu maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig

 

Bu i rai Aelodau ymweld â’r safle a’r ardal o gwmpas Afonwen bore 27ain Chwefror 2023

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol, i sefydlu safle carafanau teithiol i 19 uned, ymestyn adeilad presennol i greu bloc toiledau a gwaith cysylltiedig ar dir yn Nhŷ’n Lôn, Afonwen. Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 16 Ionawr 2023 er mwyn i’r Aelodau gynnal ymweliad safle. Ers cyflwyno’r cais i gyfarfod 16 Ionawr 2023, derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu’r bwriad.

 

Nodwyd, gan mai’r bwriad yw creu safle ar gyfer carafanau teithiol, ystyriwyd y cais o dan Bolisi TWR 5 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) sy’n gosod cyfres o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath.  Mynegwyd bod maen prawf 1 o’r polisi yn datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol. 

 

Eglurwyd y byddai’r bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn cae gwastad gyda choed aeddfed ar y terfynau ac felly’n guddiedig o leoliadau cyhoeddus. Ategwyd bod bwriad atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy blannu gwrych newydd o goed cynhenid fel ffin orllewinol newydd i wahanu’r cae carafanau o’r cae ehangach. Nid yw’r safle o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) nac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig a ni ystyriwyd y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y dirwedd. Amlygwyd bod y bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o safbwynt gofod a chyfleusterau - derbyniwyd fod y datblygiad yn un safonol.

 

Ym mhwyllgor Ionawr 2023, amlygwyd pryderon am yr ‘effaith gronnus’ o ran agosatrwydd y safle at safleoedd carafanau sefydlog eraill megis Hafan y Môr ac Ocean Heights a safle teithiol Afon Wen gyferbyn a Sŵn y Môr i’r cefn. Er bod sawl safle sefydlog a teithiol yn y cyffiniau, ni ystyriwyd yr ardal dan sylw yn esiampl o leoliad sydd o dan bwysau aruthrol o ran datblygiadau twristiaeth o’r fath. Mynegwyd, yn wahanol i bolisi TWR 3 sy’n ymwneud a safleoedd carafanau sefydlog, nid yw effaith gronnus yn ystyriaeth ym meini prawf polisi TWR 5 gan mai defnydd dros dro yw’r defnydd teithiol gyda llai o effaith na strwythurau sefydlog. Fodd bynnag, mae’r meini prawf eu hunain yn ymateb i’r effaith gronnus yn yr ystyr na ddylid caniatáu safleoedd mewn mannau ymwthiol nad ydynt yn agos i’r prif rwydwaith ffyrdd.

 

Cyfeiriwyd at baragraff 6.3.81 o’r polisi sydd yn nodi na ddylid caniatáu carafanau mewn lleoliadau agored ger yr arfordir nac mewn AHNE - y safle yma wedi ei leoli i ffwrdd o leoliad arfordirol agored a heb unrhyw ddynodiad tirwedd i’r cyffiniau.

 

Yng nghyd-destun materion cyffredinol a phreswyl nodwyd, ar sail y pellter a natur guddiedig y cae, ni ystyriwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C22/1020/11/LL Cyn Ysgol Gynradd - Ysgol Glanadda, Llwybr Yr Ysgol, Bangor, Gwynedd, LL57 4SG pdf eicon PDF 383 KB

Adeiladu ysgol gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa 20 lle a Chylch Meithrin 30 lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin ffiniau, trefniadau parcio newydd a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer adleoli Ysgol Ein Harglwyddes ar hen safle Ysgol Glanadda

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Gareth Roberts, Cynghorydd Huw Wyn Jones a’r Cynghorydd Medwyn Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i amodau'n ymwneud a'r materion canlynol:

1.      Amser (5 mlynedd)

2.      Yn unol â’r cynlluniau

3.      Amod Tir Llygredig

4.      Rhaid dilyn argymhellion yr Arolwg Ecolegol

5.      Rhaid cwblhau arolwg ffotograffig

6.      Sicrhau enw ac arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

7.      Rhaid cytuno Cynllun Teithio i'r Ysgol gyda'r Uned Trafnidiaeth a gweithredu'n unol â gofynion y cynllun hwnnw

 

Nodiadau

1.   Dŵr Cymru

2.   Cyfoeth Naturiol Cymru

3.   Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Adeiladu ysgol gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa 20 lle a Chylch Meithrin 30 lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin ffiniau, trefniadau parcio newydd a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer adleoli Ysgol Ein Harglwyddes ar hen safle Ysgol Glanadda.

a)    Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu  mai cais ydoedd ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer 200 o ddisgyblion a fyddai'n cynnwys meithrinfa a chylch meithrin. Byddai’r datblygiad yn galluogi adleoli Ysgol Ein Harglwyddes o'i safle presennol ger y bont rheilffordd ar Ffordd Caernarfon, Bangor, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu o fewn adeilad a safle cyfyngedig, sy’n gwneud dysgu ac addysgu dyddiol yn heriol. Ategwyd bod yr adeilad presennol yn dod at ddiwedd ei oes wasanaethol ac mae problemau cynnal a chadw parhaus yno.

 

Adroddwyd bod y cynnig yn cwrdd gyda holl feini prawf Polisi ISA 2, sef polisi sy’n gefnogol i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd, ynghyd a Pholisi ISA 4 sy’n dynodi Llecynnau Agored sydd i'w gwarchod rhag datblygiad (y cae chwarae ar y safle wedi ei ddiogelu dan y dynodiad hwn).

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol ystyriwyd bod y dyluniad a gyflwynwyd yn cynnig datblygiad a fyddai o raddfa a gwedd a fyddai'n addas ar gyfer ei safle dinesig. Mae'r ffaith y bydd nodweddion o gymeriad yr ysgol bresennol, megis brics Rhiwabon coch, yn cael eu hymgorffori yn y dyluniad yn pwysleisio'r dilyniant o'r sefyllfa bresennol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd, wrth gynyddu maint yr ysgol ac annog y defnydd o fannau allanol, y gall bod cynnydd mewn sŵn i drigolion tai cyfagos. Wedi dweud hynny, dim ond am oriau cyfyngedig bydd yr ysgol yn agored a’r rhan fwyaf o’r amser hynny bydd y plant yn yr adeilad. Ar y cyfan, wrth ystyried nad oes newid defnydd i'r safle, ni ystyriwyd bydd y datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r ardal leol na’i thrigolion yn y tymor hir er, yn anorfod, bydd peth sŵn ac aflonyddwch yn ystod y cyfnod adeiladu.

 

Wrth drafod materion priffyrdd nodwyd bod Asesiad Trafnidiaeth wedi ei gyflwyno gyda'r cais oedd yn nodi, er bod y safle wedi gweithredu’n flaenorol fel ysgol sydd â threfniant mynediad hanesyddol, bod gwelliannau ychwanegol. Derbyniwyd sylwadau oddi wrth yr Uned Trafnidiaeth oedd yn datgan pryder ynghylch effeithiau posibl y datblygiad ar lif trafnidiaeth a pharcio yn yr ardal ac ynghylch y llwybrau cerdded fydd ar gael i blant fynychu'r ysgol. Er hynny, ystyriwyd bod posib rheoli’r materion hynny os byddai’r Ysgol yn ymrwymo i Gynllun Teithio i'r Ysgol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol hirdymor i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol ac y bydd modd rheoli unrhyw effeithiau byrdymor trwy osod amodau priodol ar y datblygiad.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelodau Lleol y sylwadau canlynol:

·         Eu bod yn gefnogol i’r cais

·         Bod yr hen ysgol mewn lle annifyr a phrysur

·         Bod symud i leoliad agos yn gwneud synnwyr

·         Bod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C22/1102/36/AC Tir i’r de o’r A487 ac i’r dwyrain o’r B4411 pdf eicon PDF 356 KB

Diwygio amod 1 (cyfnod cychwyn gwaith) ar ganiatâd cynllunio C17/0772/36/LL er ymestyn y cyfnod i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd bellach 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.         5 mlynedd

2.         Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau a dogfennau a gyflwynwyd yng nghais C17/0772/36/LL ynghyd a’r cynllun diwygiedig o ran gwyro’r llwybr cyhoeddus ganiatawyd yng nghais C18/0168/36/LL a’r Adroddiad Gwerthusiad Ecolegol a’r Adroddiad Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd ar y cais cyfredol.

3.         Gorffeniad i'w gytuno (gan gynnwys lliw'r ffens)

4.         Cytuno cynllun i waredu dŵr brwnt a dŵr wyneb

5.         Cytuno cynllun rheoli amgylcheddol adeiladu

6.         Cytuno cynllun rheoli traffig adeiladu a derbyn cymeradwyaeth Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru ar faterion mynediad (ac unrhyw amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i hyn).

7.         Cwblhau’r tirweddu o fewn y tymor plannu cyntaf yn dilyn cwblhau’r bwriad.

8.         Sicrhau gwyro / gwarchod y llwybr.

9.         Amodau Archeolegol.

10.       Amser gweithio.

 

Nodyn Dŵr Cymru ac Uned Dŵr ac Amgylchedd YGC

 

Cofnod:

Diwygio amod 1 (cyfnod cychwyn gwaith) ar ganiatâd cynllunio C17/0772/36/LL er ymestyn y cyfnod i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd bellach

 

a)      Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu  mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod C17/0772/36/LL ar gyfer is-orsaf newydd a seilwaith cysylltiedig er mwyn ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad am 5 mlynedd ychwanegol. Mynegwyd bod angen compownd yr is-orsaf i roi lle i'r trawsnewidydd trydanol sengl a fyddai'n 'gostwng' foltedd 400kv cylched Pentir -Trawsfynydd i foltedd o 132kv.  Pan gyflwynwyd cais C17/0772/36/LL roedd y gwaith yn gysylltiedig gyda’r Wylfa newydd arfaethedig.  Pan ddisgynnodd y cynlluniau ar gyfer Wylfa newydd drwodd ni ymgymerwyd gyda’r gwaith yn gysylltiedig gyda’r is-orsaf drydan.  Erbyn hyn mae angen yr un gwaith ar gyfer cysylltu i ffermydd gwynt alltraeth (offshore) fel y gallent gysylltu i’r rhwydwaith trydan ehangach. 

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor am ei fod yn ymwneud gyda safle dros 0.5 hectar.

 

Eglurwyd mai cais i ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 5 flynedd ychwanegol oedd gerbron, ac nad oedd bwriad newid i’r cynllun. Ategwyd bod egwyddor y bwriad wedi ei dderbyn a’i sefydlu eisoes gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol drwy ganiatâd cynllunio C17/0772/36/LL. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyrued felly os yw’r amgylchiadau neu’r sefyllfa bolisi cynllunio wedi newid ers caniatáu’r cais hwn yn wreiddiol.

 

Nodwyd bod polisi ISA 1 yn berthnasol i’r ddarpariaeth o isadeiledd newydd ac yn datgan bydd cynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i wella’r ddarpariaeth, yn cael ei ganiatáu yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl. Ategwyd bod Polisi Strategol PS5 yn y CDLl cyfredol yn cefnogi cynigion datblygu lle gellid dangos eu bod yn gyson gydag egwyddorion datblygu cynaliadwy. O safbwynt y datblygiad yma, dangoswyd yr angen amlwg am yr is-orsaf arfaethedig ac er wedi ei lleoli y tu allan i unrhyw derfynau datblygu penodol; mae'r is-orsaf wedi mynd drwy broses arfarnu dylunio a lleolwyd yr opsiwn a ffafrir ger bodolaeth llinell drydan uwchben 400kv Pentir - Trawsfynydd.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, llifogydd a draenio, nodwyd na dderbyniwyd gwrthwynebiadau gan  Gyfoeth Naturiol Cymru, yr Uned Bioamrywiaeth nac Uned Dwr ac Amgylchedd YGC

 

Ni ystyriwyd fod y bwriad o ymestyn yr amser a roddwyd o dan ganiatâd rhif C17/0772/36/LL er mwyn cychwyn ar y datblygiad yn groes i’r polisïau na’r canllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol a bod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol fel y cynhwyswyd o fewn y caniatâdau blaenorol. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Bod y cais yn un syml a chlir

·         Bod yr angen am y compownd yn parhau

·         Nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi eu derbyn

·         Ei fod wedi ymgynghori gyda thrigolion lleol yn ystod y cais gwreiddiol

·         Yr unig ‘effaith’ fydd ger y brif ffordd  yn ystod y gwaith adeiladu

·         Dim gwrthwynebiad gan y Cyngor Cymuned

 

c)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.         5 mlynedd

2.         Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.