Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Elin Hywel a’r Cynghorydd Rheinallt Puw (Aelod Lleol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/0256/13/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd ADRA

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 27 Chwefror 2023 yn ddarostyngedig ar nodi:

 

·         bod y Cyng. Louise Hughes yn bresennol

·         bod  rheswm gwrthod Saesneg cais cynllunio C21/1038/41/LL Tŷ'n Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6TX yn cyfateb i’r rheswm gwrthod Cymraeg

·         bod pleidlais gofrestredig i gynnig caniatáu cais cynllunio C21/1038/41/LL Tŷ'n Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6TX wedi ei gofnodi

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid (6) Y Cynghorwyr:- Louise Hughes, Elwyn Jones, Huw Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Edgar Owen, John Pughe Roberts

 

Yn erbyn (7) Y Cynghorwyr:- Elwyn Edwards, Delyth Lloyd Griffiths, Gareth Morris Jones, Cai Larsen, Gareth Anthony Roberts, Huw Rowlands, Gruffydd Williams

 

Atal (0)

 

Nododd y Cadeirydd fod y cynnig i ganiatáu wedi disgyn. 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

Cais Rhif C18/0238/11/LL Cyn Iard gychod Dickies, Beach Road, Bangor, LL57 2SZ pdf eicon PDF 564 KB

Cais llawn ar gyfer ail-ddatblygu safle gwag er mwyn adeiladu 55 uned byw ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd, ffordd stad a llwybrau cysylltiedig, mannau parcio a thirlunio.

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Huw Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Y CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL GAN YR ASIANT CYN Y PWYLLGOR CYNLLUNIO

 

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer ail-ddatblygu safle gwag er mwyn adeiladu 55 uned byw ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd, ffordd stad a llwybrau cysylltiedig, mannau parcio a thirlunio.

 

Y CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL GAN YR ASIANT CYN Y PWYLLGOR CYNLLUNIO

 

7.

Cais Rhif C22/0950/11/LL 340 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1YA pdf eicon PDF 506 KB

Newid defnydd cyn glwb nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely

Aelod Lleol: Cynghorydd Nigel Pickavance a’r Cynghorydd Dylan Fernley

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GOHIRIO ER MWYN CWBLHAU'R BROSES CYHOEDDUSRWYDD YN GYWIR

 

 

Cofnod:

Newid defnydd cyn glwb nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely

 

Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod yr argymhelliad i ganiatáu'r cais bellach wedi ei ddiwygio i ohirio’r drafodaeth tan y cyfarfod nesaf (17-04-23) oherwydd bod gohebiaeth wedi ei dderbyn gan drydydd parti yn nodi nad oeddynt yn ymwybodol o’r cais a hwythau yn denant ar lawr gwaelod adeilad y cais. Amlygwyd mai siop wag oedd llawr gwaelod yr adeilad. Argymhellwyd gohirio fel bod modd ail ymgynghori.

 

Ategodd y Swyddog Monitro mai priodol fyddai gohirio er mwyn ymgynghori yn llawn.

 

a)    Cynigiwyd  ac eiliwyd gohirio y cais

 

PENDERFYNWYD: GOHIRIO ER MWYN CWBLHAU'R BROSES CYHOEDDUSRWYDD YN GYWIR

 

8.

Cais Rhif C22/0256/13/LL Brig Y Nant, Coetmor New Road, Bethesda, LL57 3LU pdf eicon PDF 536 KB

Codi 18 tŷ, ffordd newydd a thirlunio.

Aelod Lleol: Cynghorydd Rheinallt Puw

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GOHIRIO ER MWYN CYNNAL YMWELIAD SAFLE

 

Cofnod:

Codi 18 tŷ, ffordd newydd a thirlunio

a)      Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu  mai cais ydoedd ar gyfer codi 18 tŷ fforddiadwy, ffordd stad newydd a thirlunio ar safle segur ym Methesda. Rhannwyd y cais i’r elfennau canlynol: -

·         Darparu 18 uned breswyl deulawr fforddiadwy i gynnwys 12 tŷ 2-lofft; 4 tŷ 3-llofft a 2 dŷ 4-llofft - yn amrywio mewn arwynebedd llawr ac i ofynion Dylunio Llywodraeth Cymru.

·         Darparu llecynnau parcio o fewn cwrtil bob tŷ ac oddi ar y ffordd.

·         Mynedfa i’r safle yn fynedfa gyfrannol gyda chynllun mwy traddodiadol ar gyfer ffordd y stad ei hun.

·         Tirlunio a thirweddu o fewn ac ar ymylon y safle.

·         Cynllun gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys blychau/clwyd fannau i ystlumod a phlannu coed a llwyni ar gyfer cefnogi bioamrywiaeth leol.

·         Defnyddio deunyddiau sy’n adlewyrchu deunyddiau lleol ar gyfer edrychiadau allanol y tai i gynnwys llechi naturiol, gwaith cerrig, rendr wedi ei baentio ynghyd a ffenestri effeithiolrwydd ynni.

·         Gosod paneli solar ar y toeau.

·         Y tai wedi ei dylunio ar sail egwyddorion diogelu trwy ddyluniad.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli ar lwyfandir ar ymylon gogleddol y dref ac oddi fewn ffin datblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Bethesda fel y’i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 (CDLl). Byddai’r safle yn cael ei wasanaethu oddi ar ffordd sirol dosbarth III gyfagos (Coetmor New Road) gan ddefnyddio’r fynedfa bresennol.

 

Eglurwyd, bod yr egwyddor o godi tai ar y safle  wedi ei selio ym Mholisi CYFF 1, CYFF 2, TAI 2, TAI 15 a PS 5 o’r CDLL. Dywed Polisi PCYFF1 y byddai cynigion tu mewn i ffiniau datblygu yn cael eu caniatáu yn unol â pholisïau a chynigion eraill y CDLl, polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill.

 

Gyda Chanolfan Gwasanaeth Lleol Bethesda wedi gweld ei lefel twf disgwyliedig ar safleoedd ar hap trwy unedau wedi eu cwblhau yn y cyfnod 2011 i 2021, cyflwynwyd gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd yn amlinellu sut byddai’r bwriad yn cyfarch anghenion y gymuned leol:

·         Bod cymysgedd yr unedau yn seiliedig ar ffigyrau galw am anghenion lleol ar gyfer yr ardal leol ac yn hyblyg eu daliadaeth. Er na fydd y datblygiad yn destun Grant Cymdeithasol Tai Llywodraeth Cymru nac yng Nghynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd yn bresennol, mae’r angen am y math yma o dai yn parhau’n gryf o fewn y gymuned leol.

·         Bod dogfen Asesiad Marchnad Dai Lleol yng Ngwynedd (2018) yn nodi bydd galw am 707 uned fforddiadwy ychwanegol rhwng 2018 a 2023 er mwyn cyfarfod a’r angen am y fath yma o lety. Bydd y cymysgedd tai yn ymateb i  ffactorau fel nodweddion y safle, yr angen am dai cymdeithasol ym Methesda a demograffeg leol.

·         Darparu 18 uned breswyl 100% fforddiadwy ar safle tir llwyd hygyrch oddi fewn i’r ffin datblygu gyda’r unedau yn cael eu dylunio i ofynion Ansawdd Datblygu Cymru – Mannau a Chartrefi Prydferth, (2021).

·         Uned Strategol Tai wedi cadarnhau bod y bwriad yn cyfarch yr angen am dai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.