Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Coj Parry a’r Cynghorwyr Rheinallt Puw a Dafydd Meurig (Aelodau Lleol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 (C22/0256/13/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd ADRA

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)            Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·           Y Cynghorydd Elin Walker Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0179/11/DT) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd John Pughe (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 (C23/0116/09/LLL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20 Mawrth 2023 fel rhai cywir.

 

 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

To submit the report of the Head of Environment Department.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

Cais Rhif C23/0179/11/DT 33 Bryn Eithinog, Bangor, Gwynedd, LL57 2LA pdf eicon PDF 327 KB

Estyniad a newidiadau i eiddo, ynghyd â throsi gofod y to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs yng nghefn yr annedd.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Rheswm:

 

Byddai'r bwriad arfaethedig yn gyfystyr a gor-ddatblygiad o eiddo anheddol domestig ac oherwydd graddfa, gosodiad ac uchder bydd yn creu elfen ormesol a fyddai'n dominyddu eiddo preifat cyfagos gan niweidio mwynderau trigolion lleol yn groes i ofynion Polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017.

 

Cofnod:

Estyniad a newidiadau i eiddo, ynghyd â throsi gofod y to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs yng nghefn yr annedd.

           

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer ymgymryd â newidiadau i dŷ deulawr presennol. Byddai'r gwaith yn cynnwys :

-       codi estyniad llawr cyntaf ar ben modurdy unllawr presennol sydd ar flaen yr eiddo

-       codi estyniad unllawr blaen gyda tho unllethr wrth ochr y modurdy presennol

-       Trosi gofod to'r tŷ presennol yn ofod byw ychwanegol, a

-       Codi estyniad deulawr cefn i weithredu fel "anecs" i'r prif dŷ.

 

Eglurwyd bod y safle o fewn cwrtil tŷ ‘33 Bryn Eithinog sy’n eiddo ar wahân mewn ardal anheddol o fewn ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y’i diffinnir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl). Byddai'r eiddo yn cynyddu o dŷ pedair llofft, i dŷ gydag anecs a fyddai â chyfanswm o chwe llofft. Ategwyd bod y cynllun yn un diwygiedig i’r un a wrthodwyd yn flaenorol gan i'r Pwyllgor ystyried y byddai'r bwriad yn gyfystyr a gorddatblygiad o'r eiddo ac, oherwydd graddfa, gosodiad ac uchder yr estyniadau, y bydd yn creu elfen ormesol a fyddai'n dominyddu eiddo preifat cyfagos (cais cynllunio C22/0608/11/LL)

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

Cyfeiriwyd at brif newidiadau i'r cynlluniau  - lleihau lled llawr gwaelod yr anecs; cael gwared â ffenestri cromen o'r edrychiad deheuol a gosod ffenestri to yn eu lle; gosod ffenestr do ychwanegol yn llethr cefn (gogleddol) to'r anecs. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, mwynderau preifat a mwynderau cyffredinol ac argymhellwyd caniatáu’r cais yn unol â gosod amodau perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Er bod yr estyniad ychydig yn llai, yr un yw’r rhesymau gwrthod

·         Pryderon cymdogion yn parhau'r un fath

·         Bod graddfa a gosodiad y bwriad yn ormesol

·         Bod y newid yn rhy fach – nid yn ddigonol i gysuro trigolion cyfagos

·         Pryder y bydd yr anecs yn cael ei defnyddio fel AirBnB – dim angen hyn mewn ardal breswyl

·         Bod y bwriad ar brif lwybr mynediad Ysgol Friars

·         Cynyddu traffig

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais gan fod graddfa a maint y bwriad yn ormod i’r safle

 

    ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelod:

·        Pryder bod y tŷ yn cael ei ddefnyddio fel Tŷ Amlfeddiannaeth er nad oes tystiolaeth ffurfiol o hyn

 

            PENDERFYNWYD GWRTHOD

 

Byddai'r bwriad arfaethedig yn gyfystyr a gorddatblygiad o eiddo anheddol domestig ac oherwydd graddfa, gosodiad ac uchder bydd yn creu elfen ormesol a fyddai'n dominyddu eiddo preifat cyfagos gan niweidio mwynderau trigolion lleol yn groes i ofynion Polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017.

7.

Cais Rhif C22/0950/11/LL 340 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1YA pdf eicon PDF 509 KB

Newid defnydd cyn glwb nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely 

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Dylan Fernley a’r Cynghorydd Nigel Pickavance

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau:

 

1.              Amser 5 mlynedd.

2.              Yn unol â’r cynlluniau

3.              Cyfyngu'r defnydd i anheddau preswyl dosbarth defnydd C3 yn unig

 

Nodyn : Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Newid defnydd cyn glwb nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely

 

a)      Amlygodd y Rheolwr Cynllunio  mai cais llawn ydoedd ar  gyfer trosi tri llawr uchaf adeilad pedwar llawr a fu gynt yn glwb nos ar Stryd Fawr Bangor yn naw fflat un llofft - byddai’r  llawr  gwaelod  yn parhau fel uned mân-werthu. Eglurwyd bod caniatâd wedi ei roi yn 2017 i newid defnydd y cyn clwb nos yn siop ar y llawr gwaelod a thri fflat hunangynhaliol a llety myfyrwyr 11 ystafell wely (Tŷ Aml Feddiannaeth - TAF) ar y lloriau uwch - y gwaith ar y datblygiad hwnnw wedi dechrau ac felly'r caniatâd cynllunio yn parhau i fod yn weithredol.

 

Saif yr adeilad o fewn ffin ddatblygu'r Ganolfan Isranbarthol fel y'i diffinnir yn y CDLl. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan iddo fod am 5 neu ragor o anheddau newydd. Ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r safle yn erbyn Polisi PCYFF 1 a Pholisi TAI1 o’r CDLl. Nodwyd y bu i'r cais fod gerbron y Pwyllgor ar 20/03/23 pryd gohiriwyd y drafodaeth er mwyn cynnal ymgynghoriad gyda 3ydd parti oedd heb ei gwybyddu am y cais.

 

Ystyriwyd fod y bwriad i greu 9 fflat yn dderbyniol o safbwynt defnydd, lleoliad a graddfa a’r effeithiau posibl ar fwynderau cyffredinol yr ardal ac ar fwynderau unigolion. Byddai’r datblygiad yn cyfrannu tuag at dargedau tai’r CDLl mewn ffordd sydd yn ymateb yn gadarnhaol i ofynion y farchnad dai lleol. Yng nghyd-destun fforddiadwyedd, wedi ystyried maint a lleoliad y fflatiau, ni ddisgwylid i’r prisiau godi allan o afael trigolion lleol a bydd y fflatiau hyn oll yn’ fforddiadwy trwy ddyluniad’ - ni ystyriwyd felly bod angen cyfiawnhad drwy gael trefniant ffurfiol i sicrhau fforddiadwyedd cyfran o’r unedau hyn.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelod:

·      Nad oes defnydd gwahanol i’r Stryd Fawr bellach

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau:

 

1. Amser 5 mlynedd.

2. Yn unol â’r cynlluniau

3. Cyfyngu'r defnydd i anheddau preswyl dosbarth defnydd C3 yn unig

 

Nodyn : Dŵr Cymru

 

 

8.

Cais Rhif C23/0072/16/LL Plot C6, Parc Bryn Cegin, Llandegai, Bangor, LL57 4BG pdf eicon PDF 425 KB

Codi adeilad ar gyfer Dosbarthiadau Defnydd B1/B2,/B8 (gyda Chownter Masnach mewn unrhyw uned B8) ac adeilad i'w ddefnyddio fel Masnachwr Adeiladwyr (storio, dosbarthu, cownter masnach, swyddfeydd a manwerthu ategol) gyda storfa allanol gysylltiedig, ardal arddangos, mynediad, parcio, goleuadau, ffensys, tirweddu caled a meddal.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i'r Uwch Swyddog Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau trafodaethau ynghylch materion priffyrdd ac archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.    Amser

2.    Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

3.          Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad ecolegol / cynllun tirlunio

4.    Amodau Archeoleg

5.          Caniateir defnyddio Unedau 1 - 6 (Adeilad 1) at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8

6.    Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

7.          Oriau Agor  : 06:30 i 18:00 Llun i Gwener, 06:30 i 17:00 Dydd Sadwrn a 08:00 i 16:00 ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc

 

Nodiadau

1.              Dŵr Cymru

2.              Uned Draenio Tir

3.              Network Rail

 

Cofnod:

Codi adeilad ar gyfer Dosbarthiadau Defnydd B1/B2,/B8 (gyda Chownter Masnach mewn unrhyw uned B8) ac adeilad i'w ddefnyddio fel Masnachwr Adeiladwyr (storio, dosbarthu, cownter masnach, swyddfeydd a manwerthu ategol) gyda storfa allanol gysylltiedig, ardal arddangos, mynediad, parcio, goleuadau, ffensys, tirweddu caled a meddal.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn un am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer codi dau adeilad  ar un o leiniau gweigion o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai. Byddai un o'r adeiladau (Adeilad 1) wedi ei rannu'n chwe uned, gyda'r bwriad o gael caniatâd hyblyg er mwyn caniatáu defnyddiau o fewn Dosbarthiadau Defnydd B1 (Busnes), B2 (Diwydiannol cyffredinol) neu B8 (Gwasanaethau Storio neu Ddosbarthu) o fewn yr unedau. Byddai'r ail adeilad (Adeilad 2) ar gyfer defnydd gan fusnes masnachwyr adeiladu (Defnydd Unigryw).

Eglurwyd bod Parc Bryn Cegin yn cael ei warchod fel Safle Busnes Strategol Rhanbarthol ar gyfer busnesau yn Nosbarthiadau Defnydd B1, B2 & B8 gan bolisi CYF 1 y CDLl – y cynnig ar gyfer Adeilad 1 yn gyson gyda'r polisi hwnnw a defnydd  Adeilad 2  fel masnachwr adeiladu yn ddefnydd unigryw nad ydyw'n disgyn dan unrhyw ddosbarth defnydd penodol. Mae Polisi CYF 3 yn annog gwarchod safleoedd busnes dynodedig ar gyfer y defnydd a glustnodwyd  oni bai bod amgylchiadau eithriadol ar gyfer defnydd amgen. Mae’r polisi’n gosod pedwar maen prawf ar gyfer asesu cynigion sy’n cynnwys;

·         bod cyfiawnhad gorbwysol ar gyfer y datblygiad

·         bod graddfa’r cynllun yn cyd-fynd yn bennaf ag angen y gweithlu ar safle cyflogaeth

·         Na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn tanseilio swyddogaeth y safle cyflogaeth

·         Na fydda’r datblygiad yn arwain at tan-ddarpariaeth o dir cyflogaeth defnydd B1

 

Wedi ystyried pwysigrwydd y cynllun ar gyfer sicrhau datblygiad busnes ar safle o strategol bwys sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd maith, nodwyd bod cyfiawnhad eithriadol dros ganiatáu’r datblygiad arfaethedig ar safle cyflogaeth ddynodedig yn unol â Pholisi CYF 3 y CDLl.

 

Yng nghyd-destun materion archeolegol, nodwyd bod safle Bryn Cegin wedi bod yn destun cloddio archeolegol helaeth sydd wedi adnabod ei fod yn lleoliad o bwys hanesyddol yn olrhain tystiolaeth o Oes yr Haearn a'r berthynas â'r Feddiannaeth Rufeinig. Am resymau ymarferol, ni chloddiwyd pob rhan o'r safle yn ystod y gwaith blaenorol a chyfeiriwyd at stribed o dir ar gyrion y safle sydd â photensial i fod â deunydd archeolegol o bwys. Awgrymodd Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd (GCAG) bod angen amod cynllunio er sicrhau bod gwaith archwilio priodol yn digwydd cyn i'r tir  gael ei effeithio gan ddatblygiad.

Yng nghyd-destun materion isadeiledd a chynaliadwyedd nodwyd bod Bryn Cegin wedi ei glustnodi fel lleoliad cynaliadwy ar gyfer busnes ac wedi ei ddatblygu gyda lleiniau sydd wedi'u gwasanaethu gyda'r gwasanaethau priodol ar gyfer y busnesau disgwyliedig. Nid oedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad a cadarnhaodd Dŵr Cymru bod capasiti digonol gan y system garthffosiaeth leol i gwrdd gyda gofynion y datblygiad ac y gellid sicrhau cysylltiad i'r cyflenwad dŵr. Bydd angen systemau draenio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C23/0122/14/DT Bron Y Gaer Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1DY pdf eicon PDF 303 KB

Cais deiliad tŷ i ddymchwel estyniad cefn, lolfa haul ac adeilad allanol presennol a codi estyniad deulawr ochr ac estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo yn ei le. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.              Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.              Unol a’r cynlluniau

3.              Llechi to

4.              Deunyddiau i weddu. 

5.              Amod draenio dŵr wyneb

 

Cofnod:

Cais deiliad tŷ i ddymchwel estyniad cefn, lolfa haul ac adeilad allanol presennol a chodi estyniad deulawr ochr ac estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo yn ei le.

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais deiliaid tŷ ydoedd i adeiladu estyniad deulawr ochr ac estyniad unllawr ar gefn yr eiddo. Bydd gwaith yn cynnwys dymchwel yr adeilad allanol sydd yn bresennol yn yr ardd gefn ynghyd â dymchwel yr estyniadau unllawr cefn presennol a’i disodli gydag estyniad ochr deulawr ac estyniad unllawr yn y cefn.

 

Eglurwyd bod gan yr eiddo gwrtil eithaf helaeth gyda gardd fawr yng nghefn yr eiddo ei hun wedi ei sgrinio gan lwyni, coed a chloddiau sefydledig - wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu’r dref ac oddi fewn i ardal sefydledig breswyl ar gyrion Caernarfon.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn gyflogedig gan yr Adran Cynllunio.

 

Nodwyd bod yr egwyddor o godi estyniad ar y safle yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gyfres o feini prawf. Ystyriwyd, yng nghyd-destun lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol bod y cynllun a gyflwynwyd, ei raddfa, deunydd a dyluniad yn gweddu’n briodol gyda’r eiddo presennol ac felly yn cydymffurfio gydag anghenion Polisi PCYFF 3.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Llechi to

4.         Deunyddiau i weddu. 

5.         Amod draenio dŵr wyneb

 

10.

Cais Rhif C22/0256/13/LL Brig Y Nant, Coetmor New Road, Bethesda, LL57 3LU pdf eicon PDF 549 KB

Codi 18 tŷ, ffordd newydd a thirlunio.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rheinallt Puw

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol addysgol a llecynnau agored ac i’r amodau isod; -

 

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.          Cyflwyno a chytuno cynllun tirlunio a thirweddu meddal a chaled sy’n cadarnhau rhywogaethau coed.

4.          Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.

5.          Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; Arolwg Ymlusgiaid; Asesiad Effaith Coedyddiaeth; Arolwg Coed ac Adroddiad Arolwg Botanegol.

6.          Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.

7.          Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.

8.          Cyflwyno a chytuno gyda Chynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w gytuno gyda’r ACLl.

9.          Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth parthed gwelliannau i’r fynedfa a’r llecynnau parcio.

10.        Cyflwyno a chytuno gydag esiamplau o ddeunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr anheddau preswyl.

11.        Cyflwyno a chytuno gyda chynllun gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys manylion goleuo chlwydfanau ystlumod.

12.        Cyflwyno a chytuno gydag Asesiad Risg Bioddiogelwch ar gyfer difa llysiau’r dial sydd ar rannau o’r safle.

13.        Cyflwyno a chytuno manylion y paneli solar.

14.        Cyflwyno a chytuno manylion Arolwg Tir Rhan 2 ar gyfer asesu sefydlogrwydd y safle.

15.        Creu mynediad o’r safle i’r llwybr troed

 

Nodyn - angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

 

Nodyn - cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a chyngor diwygiedig Dwr Cymru.

 

Nodyn - cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Cofnod:

 

Codi 18 tŷ, ffordd newydd a thirlunio

 

a)      Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 20.03.23 er mwyn cynnal ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad safle bore 17-04-23 pryd cafodd rhai o’r Aelodau gyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei amgylchedd a’r rhwydwaith ffyrdd lleol.

 

Yn unol â chais un o’r Aelodau cyflwynwyd llun o’r awyr o’r safle yn y Pwyllgor

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai cais ydoedd ar gyfer codi 18 tŷ fforddiadwy, ffordd stad newydd a thirlunio ar safle segur o fewn ffin datblygu Bethesda. Amlygwyd hefyd bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau bod y bwriad yn cyfarch yr angen am dai fforddiadwy yn yr ardal a bod y safle yn ‘un a ddatblygwyd o’r blaen’ ac yn addas ar gyfer adeiladu 18 tŷ fforddiadwy arno.

 

Yng nghyd-destun materion gweledol, eglurwyd bod y safle wedi ei leoli ar lwyfandir sy’n segur ei ddefnydd er gellid ei ddisgrifio fel tir llwyd. Nodwyd, bod y bwriad yn dderbyniol ar sail effaith mwynderau gweledol ac y byddai’r bwriad yn creu cyfraniad positif i gymeriad adeiledig y rhan yma o’r strydlun.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd gwrthwynebiadau gan rhai o ddeiliaid anheddau cyfagos o safbwynt mwynderau yn ymwneud a gor-edrych, colli preifatrwydd ac aflonyddwch sŵn. Er hynny, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn golygu colli preifatrwydd a chreu gor-edrych sylweddol nac arwyddocaol i mewn i gefnau tai Rhos y Coed sy’n cefnu a safle’r cais. Cydnabuwyd y bydd rhyw faint o gynnydd mewn sŵn ac aflonyddwch yn deillio o’r datblygiad ond na fyddai’n wahanol i unrhyw aflonyddwch sŵn sy’n deillio o fewn ardaloedd preswyl yn gyffredinol megis gweithgareddau domestig a thrafnidiaeth gysylltiedig. Fodd bynnag, gellid cynnwys amodau sy’n cyfyngu ar oriau gweithio gyda’r ymgeisydd eisoes wedi cadarnhau byddai unrhyw gontractwr yn gweithio i ofynion Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol.

 

Mewn ymateb i bryderon lleol, yr Uned Trafnidiaeth ar Awdurdod Cynllunio Lleol, cyflwynwyd Datganiad Trafnidiaeth cais mewn ymateb i’r pryderon a godwyd ar sail diogelwch ffyrdd oedd yn cyfeirio at faterion penodol.

·         Bod y gyffordd bresennol i’r A5 yn gweithredu’n effeithlon ac yn ddiogel yn dilyn asesiad o data Crash Map. Er bod yr Aelod Lleol wedi tynnu sylw bod damwain wedi cymryd lle ar ddechrau’r flwyddyn ger y gyffordd, mae’r asiant ynghyd ag ymgynghorwr trafnidiaeth yr ymgeisydd wedi ymchwilio erthyglau papur newydd ac nid yw’n ymddangos bod y damwain wedi cymryd lle ar y gyffordd rhwng yr A5 a Coetmor New Road ac mai digwyddiad unigol ydoedd yn cynnwys un car wedi colli rheolaeth. Yn ychwanegol, dywed yr ymgynghorwr na ellid datgan fod y gyffordd ei hun yn gweithredu’n anniogel gan mai un ddamwain yn unig sydd wedi cymryd lle yno o fewn y 5 mlynedd diwethaf ac nid yw hyn yn cael ei ystyried fel amlder anghyffredin ar gyfer unrhyw gyffordd.

·         Mae’r Datganiad Trafnidiaeth yn rhagweld byddai’r datblygiad yn cynhyrchu 9 symudiad dwyffordd gan gerbydau yn ystod oriau brig ac ni fyddai hyn yn gynnydd materol i lefel llif traffig presennol sy’n defnyddio Coetmor New Road.

·         Ymgymerwyd â  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C23/0116/09/LL 1 Idris Villas, Tywyn, Gwynedd, LL36 9AW pdf eicon PDF 451 KB

Ail- gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig a'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Ail- gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig â'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio at gynlluniau diwygiedig oedd wedi eu cyflwyno.

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd  (ac nid deiliad tŷ fel ymddangoswyd ar flaen yr adroddiad) ar gyfer newid defnydd tir i greu iard storio / gwerthiant ar dir gyferbyn ac Idris Villas, Tywyn fyddai’n gysylltiedig ag eiddo masnachol presennol sydd wedi ei leoli ar y Stryd Fawr. Byddai’r bwriad yn cynnwys codi ffens diogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol i greu mynedfa gerbydol addas.

 

Adroddwyd mai tir amaethyddol yw safle’r cais wedi ei leoli tu allan, ond yn cyffwrdd gyda ffin datblygu Tywyn, felly yn cael ei ystyried yn safle cefn gwlad. Datgan polisi PCYFF 1 y CDLl, bydd cynigion tu allan i ffiniau datblygu yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â pholisi penodol yn y Cynllun neu ym mholisïau cenedlaethol neu fod y cynnig yn dangos fod ei leoliad cefn gwlad yn hanfodol.

 

Y bwriad yw sefydlu iard manwerthu allanol tu ôl i’r cyn siop ddodrefn er ehangu’r busnes ymhellach. Datgan polisi MAN 6 y caniateir cynigion am siopau graddfa fechan neu estyniad i siopau presennol sydd tu allan i ffin os gellid cydymffurfio a chwe maen prawf perthnasol. Er hynny amlygwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda thri o’r meini prawf hynny:

·           Nid yw’r bwriad yn cydymffurfio yn dechnegol gyda maen prawf 1 gan nad  yw’r cynnig yn ymwneud a busnes sydd eisoes yn bodoli ar y safle.

·           Byddai’r bwriad o ail leoli’r busnes a gwneud defnydd o adeilad masnachol presennol gwag yn cael ei ffafrio, fodd bynnag mae’r angen i ymestyn y defnydd i dir gwyrdd cefn gwlad yn bryder.

·           Byddai ymestyn defnydd manwerthu diwydiannol i gefn gwlad yn cael effaith niweidiol yn weledol ac ar fwynderau’r trigolion cyfagos gyferbyn, ac fe drafodir hyn ymhellach yn rhan mwynderau’r adroddiad.

 

Yng nghyd-destun materion llifogydd, amlygwyd bod rhan helaeth o’r safle’r cais o fewn parth llifogydd C1 fel y dangosir ym Mapiau Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru. Datgan maen prawf 4 o bolisi Strategol PS 6 y dylid lleoli datblygiadau newydd i ffwrdd o ardaloedd lle mae risg llifogydd, oni bai y gellid dangos yn glir nad oes unrhyw risg yn bodoli neu fod modd rheoli’r risg. Rhaid asesu derbynioldeb y cynnig o dan ystyriaethau polisi cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd yn yr achos yma.

 

Cyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd fel gwybodaeth ar y cais ac fe ymgynghorwyd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) arno. Ymddengys bod yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd wedi ystyried effaith y datblygiad ar berygl llifogydd, llwybrau llifogydd a storio gorlifdir. Nodwyd bod yr asesiad yn dangos fod perygl llifogydd i’r safle ddatblygu o lifogydd llanw, ond yn dangos y gellid rheoli’r risgiau a’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.