Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon LL55 1SH and Virtually via Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 – 2024

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

I AIL-ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN GADEIRYDD AR GYFER 2023 / 2024

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD EDGAR OWEN YN GADEIRYDD AR GYFER 2023 / 2024

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023 - 2024

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

I AIL-ETHOL Y CYNG. ELWYN EDWARDS YN IS-GADEIRYDD AR GYFER

2023 / 24

 

Cofnod:

Cynigiwyd ac eiliwyd dau enw am yr is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorydd Elwyn Edwards a’r Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynigion:-

 

O blaid y Cynghorydd Elwyn Edwards: (10) Y Cynghorwyr:- Elwyn Edwards, Elin Hywel, Huw Wyn Jones, Edgar Owen, Huw Rowlands, Delyth Lloyd Griffiths, Gareth Tudor Jones, Cai Larsen, Gareth A Roberts, Gareth Coj Parry

 

O blaid y Cynghorydd Gruffydd Williams: (4) Y Cynghorwyr:- Anne Lloyd-Jones, Gruffydd Williams, Elwyn Jones, John Pughe Roberts

 

Atal (0)

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Pughe (Aelod Lleol)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Huw Wyn Jones  (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 8.4 (C23/0148/17/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn adnabod y teulu

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

Y Cynghoyrdd John Pughe Roberts (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn yn eitem 8.1 (C23/0116/09/LL) oherwydd bod ganddo gyfranddaliadau yng nghwmni Wynnstay.

 

Nododd y Swyddog Monitro nad oedd cyfeiriad at gwmni Wynnstay yn yr adroddiad ar gyfer cais Cynllunio 8.1 ac felly penderfynodd y Cynghorydd nad oedd y buddiant yn un a oedd yn rhagfarnu ac felly ni fu rhaid iddo adael y cyfarfod.

 

b)            Datganodd yr aelodau canlynol eu  bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·           Y Cynghorydd Dewi Jones yn eitem 7 ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Anwen Davies (ar ran y Cyng Gareth Williams) ac nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn, yn eitem 8.2 (C23/0212/30/LL) ar y rhaglen

·           Y Cynhorydd Arwyn Herald Roberts (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 8.4 (C23/0148/17/Ll) ar y rhaglen

 

5.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 367 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17 Ebrill  2023 fel rhai cywir.

 

7.

CAIS AM ORCHYMYN DAN DDEDDF RHEOLI TRAFFIG Y FFYRDD 1984 pdf eicon PDF 1 MB

GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD GWAHARDDIADAU, CYFYNGU AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD A DIRYMU (ARDAL ARFON RHIF 20) (CAERNARFON) 2023

 

Ystyried yr adroddiad i gymeradwyo cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg, ‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis, Rhosbodrual

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Cymeradwyo cyflwyno gwaharddiadau dim aros ar unrhyw adeg, ‘Llinellau Melyn Dwbl’ ar Ffordd Dosbarth 1 A4086 - Ffordd Llanberis, Rhosbodrual, Caernarfon

 

Cofnod:

GORCHYMYN CYNGOR GWYNEDD GWAHARDDIADAU, CYFYNGU AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD A DIRYMU (ARDAL ARFON RHIF 20) (CAERNARFON) 2023

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau bod y Gwasanaeth wedi derbyn cwyn gan berchnogion eiddo cyfagos parthed  cerbydau yn parcio ar y palmant ac ar lecyn o wair gyferbyn ag eiddo Tanffordd, Ffordd Llanberis, Caernarfon. Yn dilyn archwiliad ac asesiad o’r sefyllfa, ymgynghorodd y Gwasanaeth ar gyflwyno argymhelliad i ymestyn y llinellau melyn dwbl i atal cerbydau rhag parcio ar y palmant a’r llecyn gwair. Yn ystod y cyfnod ymgynghori (Mawrth 2022) fe dderbyniwyd un gwrthwynebiad i’r cynllun arfaethedig. O ganlyniad, adolygwyd y cynllun yn Awst 2022 a phenderfynwyd peidio addasu’r bwriad gan fod cyfiawnhad derbyniol dros fwrw ymlaen a’r cynllun. Cafodd y cynllun arfaethedig i wahardd parcio ar Ffordd Llanberis ei gyflwyno fel rhan o’r gorchymynGwaharddiadau, cyfyngu aros a mannau parcio ar y stryd a dirymu (ardal Arfon rhif 20) (Caernarfon) 2023’ ac fe dderbyniwyd gwrthwynebiad am yr ail dro. Cyflwynwyd y gorchymyn i’r Pwyllgor am gymeradwyaeth.

 

Roedd y Swyddog o’r farn y byddai cyflwyno llinellau melyn yn y lleoliad  yn atal cerbydau rhag gyrru dros y palmant i barcio ar y gwair ger eiddo Tanffordd. Byddai hynny yn ei dro yn lleihau’r nifer o achosion lle byddai mwd yn cael ei gario ar y palmant a’r ffordd, sy’n arwain at broblem diogelwch defnyddwyr y ffordd. Byddai llinellau melyn hefyd yn cadw’r llain welededd yn glir i drigolion Stad Llain y Felin yn ogystal â eiddo Tanffordd.

 

b)    Amlygodd yr Aelod Lleol, y sylwadau canlynol:

 

·         Ei fod yn cydymdeimlo gyda’r gwrthwynebydd gan fydd hyn yn creu anawsterau iddo, ond yn hyderus bod y buddion yn fwy na’r sgil effeithiau negyddol.

·         Yn bwysig nodi bod yr adran wedi gwneud asesiad effaith cydraddoldeb a daeth hwnnw yn ei ôl yn glir.

·         Yr hyn sydd dan sylw ydi mater iechyd a diogelwch. Bwriad y llinellau melyn yw atal faniau a cherbydau eraill rhag parcio ar lain o dir, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae hyn yn broblem oherwydd:

§  Mae’n ffordd cymharol gyflym - mae’r cerbydau yn rhwystro traffig rhag gweld y ffordd o’u blaen.

§  Mae cerbydau sy’n parcio yma yn cario mwd i’r ffordd sy’n beryglus ac yn creu risg o lithro.

§  Mae parcio yma yn dinistrio’r llecyn o wair, mwd sydd yma nid gwair erbyn hyn.

·           Mae hefyd yn bwysig nodi bod llawer o drigolion lleol wedi cefnogi’r camau hyn yn ystod y broses ymgynghori.

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r gorchymyn

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelodau:

·         Bod angen sicrhau diogelwch ar ddarn cyflym o ffordd

·         Bod mwd ar y palmant ac felly gorfod cerdded ar y lôn

·         Bod uchder camper van, wrth barcio ar y gwair, yn cuddio arwydd 40mya

 

e)    Mewn ymateb i gwestiwn y byddai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

DECISION:

 

To approve the introduction of 'no waiting at any time' Double Yellow Lines on a Class 1 Road A4086 – Ffordd Llanberis, Rhosbodrual, Caernarfon

 

Cofnod:

9.

Cais Rhif C23/0116/09/LL 1 Idris Villas, Tywyn, Gwynedd, LL36 9AW pdf eicon PDF 458 KB

Ail- gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig a'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe

Dolen i ddogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i’r argymhelliad

 

  1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 
  2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif  80 1 - 22 - 0 5; 801 - 22 - 70; 22/115/P 09; 22/115/P 04 a 22/115/P 03 Amendment A a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
  3. Cyn i’r cyfleuster a ganiateir drwy hyn ddod yn weithredol fel iard storio/gwerthiant, rhaid yn gyntaf cyflwyno manylion i’w gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol o unrhyw adeilad a/neu strwythur bwriedir ei godi fel rhan o’r cyfleuster arfaethedig gan gynnwys dyluniad ac uchder.
  4. Rhaid i’r cyfleuster a ganiateir drwy hyn fod yn gysylltiedig â defnydd bwriedir ei wneud gan yr ymgeisydd o’r adeilad masnachol ar y Stryd Fawr fel canolfan busnes cyflenwr nwyddau/deunyddiau amaethyddol ac sydd wedi ei amlinellu mewn glas yng nghynllun rhif 22/115/P 03 Amendment A.
  5. Rhaid cyflawni'r cynllun plannu clawdd draenen gymysg a gynhwysir yng nghynllun rhif 22/115/P 03 Amendment A yn ystod y tymor plannu cyntaf ar ôl i'r defnydd ddod yn weithredol. Yn achos unrhyw rhan o’r clawdd a fydd o fewn cyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad plannu farw, a symudir neu a niweidir yn ddifrifol neu a ddaw'n heintus rhaid eu symud a phlannu yn eu lle yn ystod y tymor plannu nesaf eraill cyffelyb o ran maint a rhywogaeth oni bai i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ganiatáu ymrwymiad mewn ysgrifen.
  6. Cyn i'r cyfleuster ddod yn weithredol, rhaid yn gyntaf cyflwyno manylion i’w gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer unrhyw arwyddion sydd i’w codi ar y safle a bydd yr arwyddion hyn yn y Gymraeg yn unig, neu'n ddwyieithog gyda blaenoriaeth i'r Gymraeg.
  7. Rhaid cydymffurfio gyda Rhan 6.0 (Crynodeb a Chasgliadau) yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd (cyf. KRS.0639.001.R001.A) dyddiedig Medi, 2022 gan KRS Environmental.
  8. Rhaid i’r gwelliannau i’r fynedfa bresennol cael eu cario allan yn hollol unol  a’r manylion a gynhwysir o fewn cynllun rhif  22/115/P 03 Amendment A.
  9. Ni chaniateir derbyn nwyddau neu eu dosbarthu o'r safle a ganiateir drwy hyn y tu allan i'r oriau 08:00 i 18:00 Llun i Gwener; 08:00 i 12:00 dydd Sadwrn a dim o gwbl ar ddydd Sul.

 

Y rhesymau am ddyfarniad y Cyngor i ganiatáu'r datblygiad yn ddarostyngedig i'r amodau a nodwyd eisoes:

 

  1. Cydymffurfio â Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref.
  2. Cydymffurfio a darpariaethau Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref ac i sicrhau datblygiad boddhaol y safle, ac i ddiogelu mwynderau gweledol y cylch
  3. I sicrhau datblygiad trefnus y safle ac i ddiogelu mwynderau gweledol.
  4. I sicrhau datblygiad trefnus y safle.
  5. I ddiogelu mwynderau gweledol ac i sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth.
  6. I ddiogelu ac i hybu’r iaith Gymraeg.
  7. I gydymffurfio a gofynion Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd.
  8. Er budd diogelwch y ffyrdd.
  9. I ddiogelu mwynderau  ...  view the full Penderfyniad text for item 9.

Cofnod:

 

 

Ail- gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig â'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld ar safle 15-05-23

           

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd tir i greu iard storio / gwerthiant ar dir gyferbyn ac Idris Villas, Tywyn fyddai’n gysylltiedig ag eiddo masnachol presennol sydd wedi ei leoli ar y Stryd Fawr. Byddai’r bwriad yn cynnwys codi ffens diogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol i greu mynedfa gerbydol addas. Ategwyd bod Datganiad Cynllunio, Asesiad Canlyniadau Llifogydd ac Adroddiad Ecolegol Cychwynnol wedi eu cyflwyno fel rhan o’r cais ac yn ddiweddarach ar y 29 Mawrth 2023 cyflwynwyd Cynllun Tirlunio o amgylch y ffens derfyn.  Yn dilyn y Pwyllgor diwethaf cyflwynwyd manylion  llwybrau ymadawiad cerbydau trwm o’r safle ar y 28 Ebrill 2023.

 

Cyfeiriwyd at effaith gweledol ymysg y rhesymau gwrthod ar y cais blaenorol C22/1050/09/LL gyda’r swyddogion yn amlygu bod yr un pryderon yn parhau’n berthnasol. Er derbyn cynllun tirlunio oedd yn dangos bwriad i dirlunio ochr allanol y ffens ddiogelwch, ystyriwyd y byddai hyn yn lleddfu ychydig ar effaith gweledol y datblygiad, fodd bynnag, nid yw’n llwyr oresgyn y pryderon.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad a sylwadau’r Uned Priffyrdd (ers y  Pwyllgor diwethaf 17 Ebrill 2023) derbyniwyd cynlluniau o lwybrau ymadawiad cerbydau trwm o’r safle yn ogystal â manylion sut mae’r cerbydau yn troi o fewn y safle. Nodwyd bod y safle yn ganolog yn y dref a byddai’r fynedfa ar ochr allanol ym mwa’r ffordd. O’r archwiliad safle ystyriwyd fod gwelededd agored boddhaol i’r ddau gyfeiriad. Byddai parcio o fewn y safle i gwsmeriaid a ystyrir yn dderbyniol i fodloni gofynion TRA 2 y CDLl. Derbyniwyd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth ar y wybodaeth ychwanegol ddiweddaraf, sy’n datgan eu bodlonrwydd gyda’r cynlluniau sy’n dangos symudiadau ymadawiadau cerbydau o’r safle ac nad oes ganddynt wrthwynebiad. Ar sail y sylwadau diweddaraf ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol i sicrhau gweithrediad diogel o’r briffordd a chydymffurfio a pholisïau TRA 4, maen prawf 6 polisi MAN 6 y CDLl a NCT 18: Trafnidiaeth

 

Nodwyd bod y swyddogion yn ystyried fod y datblygiad yn parhau’n annerbyniol ar sail pryderon llifogydd, effaith ar fwynderau gweledol yr ardal a mwynderau'r preswylwyr cyfagos. Er bod elfennau yn dderbyniol, nid yw’n gorbwyso’r ffaith fod egwyddor y bwriad yn methu cyfarfod profion cyfiawnhad polisi Cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol 15. Cafodd y pryderon hyn eu codi mewn ymateb i Ymholiad Cyn Cais ble  argymhellwyd yn erbyn cyflwyno cais, ar sail na ellid cyfiawnhau lleoli’r bwriad mewn parth llifogydd C1. Mae cynllun tirlunio wedi ei gyflwyno bellach sy’n golygu ychydig o welliant yn nhermau mwynderau gweledol, ond nid yw’n goresgyn ein pryderon yn llwyr. Mae’r wybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r llwybrau mynediad ac ymadawiad cerbydau, wedi goresgyn ein pryderon gwreiddiol am ddiogelwch ffyrdd ac felly gellid diddymu rheswm 4 o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C23/0212/30/LL Pant Valley, Rhydlios, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8LF pdf eicon PDF 425 KB

Codi adeilad newydd i'w ddefnyddio fel storfa amaethyddol ynghyd a gwaith tirlunio cysylltiol (ail gyflwyniad)

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: GWRTHOD YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD

 

RHESYMAU:

 

1.    Ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi yn ddiamheuol fod angen gwirioneddol i godi adeilad amaethyddol o’r maint a’r raddfa a fwriedir yn y lleoliad hwn wedi cael ei brofi'n ddiamheuol. Mae’r cais, felly’n, groes i ofynion Polisi PCYFF 1 a PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 sy’n annog gwrthod cynigion y tu allan i ffiniau datblygu oni bai bod cyfiawnhad yn dangos bod lleoliad cefn gwlad yn hanfodol ac sydd ddim yn cydymffurfio gyda pholisïau eraill o fewn y Cynllun ei hun.

 

2.    Byddai graddfa'r bwriad yn golygu codi adeilad sylweddol ei faint, wedi ei leoli mewn man amlwg, ynysig, gerllaw ffordd a llwybr cyhoeddus ac o fewn Ardal o Dirwedd Arbennig. Ni fyddai’r datblygiad hwn yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol ac o’r herwydd fe fyddai’r datblygiad yn niweidiol i fwynderau gweledol yr ardal. Mae’r cais felly’n groes i ofynion meini prawf perthnasol polisïau PCYFF 2, PCYFF 3 ac AMG 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd a'r cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a Nodyn Cyngor Technegol 12 : Dylunio sy’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau gweledol lleol a'r amgylchedd

Cofnod:

 

Codi adeilad newydd i'w ddefnyddio fel storfa amaethyddol ynghyd a gwaith tirlunio cysylltiol (ail gyflwyniad)

 

a)      Amlygodd y Rheolwr Cynllunio  mai cais ydoedd i godi sied fel storfa amaethyddol ar safle gwledig o fewn daliad tir eiddo a elwir yn Pant Valley, Rhydlios. Eglurwyd bod y cynlluniau yn dangos adeilad fyddai’n mesur 22.86m x 13.74m  gan roi cyfanswm arwynebedd llawr mewnol o 314 m² ac yn 5.8m o uchder i'r crib. Roedd y cais yn ail gyflwyniad o gais llawn a wrthodwyd yn flaenorol. Amlygwyd bod maint, ffurf ac edrychiad y sied arfaethedig yn unol â’r manylion a wrthodwyd yn flaenorol. Lleolir y safle a'r ardal ehangach o fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn ynghyd a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli gan CADW. Nid ydyw o fewn yr AHNE.

 

Gwrthodwyd y cais blaenorol oherwydd diffyg gwybodaeth a chyfiawnhad ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Nodwyd ar y pryd nad oedd cynllun busnes wedi ei gyflwyno. Nid yw’n arferol gofyn am gynllun busnes gyda cheisiadau amaethyddol ble mae’r daliad amaethyddol wedi sefydlu, ond yn yr achos yma, nid yw’r ymgeisydd yn gweithredu daliad amaethyddol ac, felly, ystyriwyd ei fod yn gais gwbl rhesymol i ofyn am wybodaeth o’r fath er mwyn canfod sut fyddai’r menter yn debygol o weithredu i’r dyfodol. Fel rhan o’r cais presennol, roedd yr asiant wedi cyflwyno datganiad i gefnogi a chyfiawnhau’r bwriad.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor am benderfyniad ar gais yr Aelod Lleol

 

Nid bwriad yr Awdurdod Cynllunio Lleol yw atal dyhead unigolion i gynnal gweithgareddau amaethyddol i'r dyfodol, ond nid yw wedi ei argyhoeddi’n ddiamheuol bod angen gwirioneddol am sied amaethyddol newydd ar y safle hwn wedi ei brofi ac felly’r bwriad yn groes i egwyddor datblygu amaethyddol sylfaenol a Pholisi PCYFF 1 a PCYFF 2 y CDLl yn benodol gan nad oes cyfiawnhad ddigonol o fewn lleoliad gwledig ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Yn ogystal, oherwydd ei faint, gorffeniad a’i leoliad ynysig, byddai’r adeilad yn ffurfio nodwedd anghydnaws yn y dirwedd gan niweidio mwynderau gweledol lleol yn groes i feini prawf perthnasol polisïau, PCYFF 2 a PCYFF 3 y CDLl.

 

Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell gwrthod y cais

 

b)      Yn manteisio ar y cyfle i siarad nododd y Cynghorydd Anwen Davies (ar ran yr Aelod Lleol) y sylwadau canlynol.

·         Bod gwir angen am sied i sicrhau lle i gadw defaid – ar gyfer porthi ac i wneud ymweliad gan y milfeddyg yn haws

·         Bod cynnig i leihau lefel y tir wedi ei gyflwyno a bod bwriad defnyddio’r pridd i godi cloddiau o amgylch y sied

·         Bod bwriad plannu coed ac ailgylchu dwr glaw

·         Bod yr ymgeisydd yn Gymro gweithgar ifanc gyda dymuniad o sefydlu menter amaethyddol yn Pant Valley

·         Bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais

·         Na fyddai’r sied ddim mwy gweledol nag eraill yn yr ardal

·         Bod y sied bresennol yn rhy agos i’r tŷ

·         Cynnig bod Aelodau’r Pwyllgor yn ymweld â’r safle

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cynorthwyol nad yw’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C23/0089/39/AM Garej Mynytho, Mynytho, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7RH pdf eicon PDF 530 KB

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i ddymchwel tŷ annedd a chyn fodurdy fasnachol ynghyd ag adeiladau cysylltiol a chodi 5 tŷ deulawr marchnad leol, gosod 16 uned gwyliau hunan wasanaeth, adeiladu tafarn/tŷ bwyta, tirlunio, creu safleoedd parcio a gwaith i addasu mynedfa gerbydol bresennol

AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL

 

Cofnod:

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i ddymchwel annedd a chyn fodurdy masnachol ynghyd ag adeiladau cysylltiol a chodi 5 deulawr marchnad leol, gosod 16 uned gwyliau hunan wasanaeth, adeiladu tafarn/ bwyta, tirlunio, creu safleoedd parcio a gwaith i addasu mynedfa gerbydol bresennol.

 

CAIS WEDI EI DYNU YN OL

 

12.

Cais Rhif C23/0148/17/LL Uwchlaw'r Rhos, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE pdf eicon PDF 438 KB

Adeiladu tŷ menter gwledig a gwaith cysylltiol.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Arwyn Herald Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu yn groes i’r argymhelliad. O ganlyniad, bydd y cais yn cael ei gyfeirio at gyfnod o gnoi cil cyn dychwelyd i’r Pwyllgor am benderfyniad terfynol.

 

Cofnod:

Adeiladu menter wledig a gwaith cysylltiol

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd i adeiladu menter wledig ynghyd a gwaith cysylltiol. Byddai'r ar ffurf byngalo gromen ac yn mesur 115 medr sgwâr ac yn cynnwys porth, swyddfa, toiled, ystafell amlbwrpas, ystafell eistedd ystafell fwyta a chegin ar lefel daear a 3 ystafell wely a baddon ar y llawr cyntaf.

 

Disgrifiwyd y fferm fel un sydd yn ymestyn i 84ha; yr ymgeisydd yn berchen ar 59ha ac yn rhentu 24.3 ar denantiaeth hir gyda 84ha yn cael ei ddefnyddio fel porfa, 20ha ar gyfer silwair (un toriad) a 8ha ar gyfer silwair (dau doriad) ac yn cael ei ddefnyddio fel porfa. Mae’r fferm yn cynnwys 118 o wartheg gyda lloeau, 120 o ddefaid, a 4 hwch a 12 bau a 27 o foch bach. Mae’r ymgeisydd hefyd mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pori 1,618ha dir comin.

 

Cyflwynwyd Datganiad Cynllunio, cyfrifon y busnes,  fel rhan o’r cais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr aelod Lleol

 

Amlygwyd y byddai’r safle y tu hwnt i iard y fferm a thu allan i unrhyw ffin datblygu fel y diffinnir gan Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) gyda pholisi PCYFF 1 yn datgan, tu allan i ffiniau datblygu bydd cynigion yn cael ei gwrthod oni bai eu bod yn unol â pholisïau eraill o fewn y cynllun datblygu lleol, polisïau cenedlaethol neu fod y cynnig yn dangos bod ei lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Ategwyd, yn sgil yr angen i gynnal a gwarchod cefn gwlad bod angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu adeiladu tai newydd yno ac felly dim ond mewn amgylchiadau arbennig y caniateir tai newydd yng nghefn gwlad. Bydd yr amgylchiadau arbennig hynny yn cael eu cynnwys yn Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy - Gorffennaf 2010 (NCT6) a baratowyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ynglŷn â’r ddogfen Arweiniad Ymarferol ar ei gyfer.

 

Cyfeiriwyd at baragraff 4.3.1 o TAN6, sy’n amlygu mai un o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored yw pan fo angen llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato. Bydd p’un a yw hyn yn hanfodol ai peidio mewn unrhyw achos penodol yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r unigolion cysylltiedig. Mae TAN 6 hefyd yn nodi y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol asesu ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer anheddau mentrau gwledig newydd yn ofalus i sicrhau y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi arferol o gyfyngu ar ddatblygiad nghefn gwlad agored drwy gyfeirio at dystiolaeth ategol gadarn.

 

Datgan yr ymgeisydd bod y busnes wedi ei bodoli ers dros 3 mlynedd. Cyflwynwyd cyfrifon busnes ar gyfer y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.