Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon LL55 1SH and Virtually via Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Hywel a’r Cynghorydd Gareth Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Huw Wyn Jones  (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0148/17/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn adnabod y teulu

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)            Datganodd yr aelodau canlynol eu  bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·           Y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0148/17/Ll) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Elwyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C23/0212/30/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22 Mai 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

Cais Rhif C23/0148/17/LL Uwchlaw'r Rhos, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE pdf eicon PDF 339 KB

Adeiladu tŷ menter gwledig a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Arwyn Herald Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu yn groes i’r argymhelliad

 

Amodau:

·         5  mlynedd

·         Unol a’r cynlluniau

·         Mesurau i wella bioamrywiaeth

·         Archwiliad archeolegol

·         Cynllun draenio

·         Gwarchod y llwybr cyhoeddus

·         Tynnu hawliau a ganiateir

·         Amod gweithwyr amaethyddol / menter gweledig

 

Cofnod:

 

Adeiladu menter wledig a gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau ychwanegol

 

a)    Amlygodd Pennaeth Cynorthwyol, Adran Amgylchedd bod y penderfyniad wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 22/05/2023 yn unol â’i gyfarwyddyd gan fod risg sylweddol i’r Cyngor o ran bwriad y Pwyllgor Cynllunio i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad swyddogion. Cyfeiriwyd y mater i gyfnod cnoi cil yn unol â rheolau sefydlog y Pwyllgor. Pwrpas adrodd yn ôl i’r Pwyllgor oedd amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol ar y cais.

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai cais llawn ydoedd am ganiatâd cynllunio i adeiladu menter wledig ar Fferm Uwchlaw’r Rhos tu allan i bentref Penygroes ar safle tu allan i unrhyw ffin pentref fel y dynodir yn Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl).

 

Wrth gyflwyno asesiad o’r ystyriaethau Cynllunio amlygwyd, parthed gwarchod cefn gwlad, bod angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu adeiladu tai newydd ac mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig y bydd ceisiadau yn cael eu caniatáu. Nodwyd bod yr amgylchiadau arbennig hynny yn cael eu cynnwys yn Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy - Gorffennaf 2010 (NCT6) ac mai un o’r gofynion oedd yr angen i gyflwyno gwybodaeth sy’n ymwneud a’r profion swyddogaethol, amser, ariannol ac anheddau amgen er mwyn profi’r angen a chyfiawnhad am godi tŷ yng nghefn gwlad agored.

 

Yng nghyd-destun y prawf swyddogaethol a’r prawf amser nodwyd bod tri partner i’r busnes gydag un o’r partneriaid (mab yr ymgeisydd) yn byw ar y fferm yn barhaol, yn gweithio yn achlysurol ar y fferm ac mewn sefyllfa i oruchwylio gweithgareddau’r fferm dros oriau anodd. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn byw 1.6 milltir o’r safle ac wedi gwneud hynny ers prynu’r busnes yn 2018 ac mai chwaer yr ymgeisydd oedd yn byw yn yr ail dŷ ar y safle - ail dŷ o fewn perchnogaeth teulu'r ymgeisydd fyddai’n cyfiawnhau goruchwyliaeth ddigonol ar y safle. Ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth yn dangos bwriad i newid y system ffermio a fyddai’n newid y sefyllfa i olygu presenoldeb parhaol ar y tir. Nid oedd y Cyngor wedi ei argyhoeddi bod tystiolaeth rymus wedi ei gyflwyno fel cadarnhad penodol fod angen i’r ymgeisydd fod wrth law yn barhaol ar y fferm o ystyried amgylchiadau'r daliad.

 

Yng nghyd-destun prawf ariannol, nodwyd bod angen i’r ymgeisydd ddarparu prawf ariannol ar gyfer cyfnod o leiaf 3 mlynedd ynghyd ag asesu maint a chost yr annedd arfaethedig yn gymesur a gallu’r fenter i’w hariannu a’i chynnal heb niweidio hyfywedd parhaus y fenter, a dangos tebygolrwydd rhesymol y byddant yn cynnal enillion i’r llafur a gyflogir am o leiaf y pum mlynedd ddilynol. Yn ogystal, dylai’r ffigyrau ddangos fod y busnes yn gallu ymdopi a thalu cyflog i’r gweithwyr (1.5 yn yr achos yma) a bod enillion ar ôl i gynnal y busnes ac i adeiladu’r tŷ. Er bod cyfrifon wedi eu cyflwyno yn dangos elw a’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C17/0846/18/LL Tir yn Bro Rhiwen, Rhiwlas, LL57 4EL pdf eicon PDF 450 KB

Datblygiad preswyl o 4 tŷ fforddiadwy ynghyd a mynedfeydd cysylltiedig a pharcio (cynllun diwygiedig i'r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Cynorthwyol i wrthod y cais ar sail y rhesymau isod: -

1.      Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PCYFF 2 (meini prawf datblygu) o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, Gwynedd a Môn, 2017 gan nad yw’n cydymffurfio a holl bolisïau perthnasol o fewn y Cynllun sy’n ymwneud a chynigion ar gyfer darparu tai fforddiadwy.

2.      Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi TAI 8 (cymysgedd priodol o dai), Polisi TAI 15 (trothwy tai fforddiadwy a’u dosbarthiad), Polisi TAI 16 (safleoedd eithrio) ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol: Cymysgedd Tai a Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy gan nad oes tystiolaeth rymus wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd sy’n cadarnhau’n ddi-amheuol bod yr angen am dai fforddiadwy ar safle eithrio yn Rhiwlas wedi ei brofi a bod prisiad y tai eu hunain yn fforddiadwy i bobl leol.

3.      Mae’r bwriad yn groes i ofynion Polisi PS 1 (yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig) ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy gan nad oes tystiolaeth rymus wedi ei dderbyn sy’n cadarnhau bod y datblygiad yn cyfarch anghenion y gymuned leol a fyddai’n diogelu a/neu hybu’r iaith Gymraeg o fewn Rhiwlas.

 

Cofnod:

Datblygiad preswyl o 4 fforddiadwy ynghyd a mynedfeydd cysylltiedig â pharcio (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i godi 4 fforddiadwy ar gyfer angen lleol ar safle ar gyrion pentref Rhiwlas. Nodwyd fod y cais yn gais diwygiedig i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio yn Chwefror 2018 ar gyfer 5 fforddiadwy pryd y’i gohiriwyd ar sail: (i) gofyn i’r datblygwr am dystiolaeth o wir angen am dai cymdeithasol 3 llofft ym mhentref Rhiwlas; (ii) derbyn cadarnhad os oes gan gymdeithas dai cymdeithasol cofrestredig ddiddordeb yn yr unedau neu beidio ynghyd a (iii) gwybodaeth am restrau aros i dai cymdeithasol yn yr ardal.

 

Nodwyd bod y cais yn cynnwys yr elfennau canlynol:

·         Codi 2 deulawr 2 lofft a chodi 2 ddeulawr 3 llofft ar ffurf teras.

·         Darparu mynedfeydd ar wahân i bob a rhodfeydd preifat ar gyfer defnydd parcio oddi ar y ffordd.

·         Darparu siediau/storfeydd domestig ynghyd ac ardal sychu dillad yng nghefnau’r tai.

·         Cwlfertio o amgylch 26m o’r ffoes sy’n rhedeg drwy gornel dwyreiniol y safle.

                

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli oddi allan i’r ffin datblygu fel y’i cynhwysir yn y CDLl ond yn cyffwrdd yn union â’r ffin. Gellid felly ei ystyried fel safle eithrio.

Eglurwyd bod egwyddor o godi tai fforddiadwy ar y safle wedi ei selio ym Mholisi TAI 16 o’r CDLl (safleoedd eithriad) lle nodi’r fod yn rhaid i ddatblygiad ar ymyl ffin datblygu fod ar gyfer 100% tai fforddiadwy os gellid dangos bod yr angen lleol wedi ei brofi am dai fforddiadwy na ellid ei gyfarch o fewn safle tu mewn i’r ffin datblygu.

 

Nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Rhiwlas dros gyfnod y Cynllun yw 9 uned gyda 2 uned wedi eu cwblhau o fewn y pentref rhwng 2011-2020 a ffigwr ar gyfer banc tir o fewn y pentref yn 1 uned. O ystyried y wybodaeth yma, byddai caniatáu’r cais ar y safle yn cael ei gefnogi yn erbyn y lefel cyflenwad dangosol.

 

Gohiriwyd y cais cynllunio am 5 tŷ gan y Pwyllgor Cynllunio yn 2018  oherwydd bod angen i’r datblygwr dystiolaethu gwir angen am dai cymdeithasol 3 llofft ym mhentref Rhiwlas. Yn y cyfamser, roedd yr ymgeisydd wedi lleihau'r niferoedd o 5 tŷ i 4 tŷ ond er hynny nid oedd wedi cyflwyno tystiolaeth rymus na chadarn yn cadarnhau bod yr angen yn bodoli am dai 3-llofft cymdeithasol yn Rhiwlas er gwaethaf cyflwyno Datganiad Cynllunio a Datganiad Tai Fforddiadwy i gefnogi’r cais. Amlygywd bod y Datganiad Tai Fforddiadwy yn cyfeirio at yr angen am dai cymdeithasol yn y pentref yn seiliedig ar ffigyrau cofrestr Opsiynau Tai'r Cyngor oedd yn dangos bod 38% angen tŷ 2-lofft a 24% angen tŷ 3-llofft o gyfanswm o 98 person. Ategwyd mai ffigyrau Ward Penisarwaun yn gyffredinol oedd y ffigyrau hyn ac nid rhai oedd yn benodol ar gyfer Rhiwlas (byddai’n anodd adnabod pwy fyddai wedi dangos parodrwydd i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C23/0295/33/DT Ty Ni, Ceidio, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YL pdf eicon PDF 301 KB

Estyniad i annedd i ddarparu garej, ystafell therapi ac ystafell therapi ac ystafell wlyb hygyrch i berson anabl

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau:

 

1.         5 mlynedd

2.         Unol a’r cynlluniau

3.         Llechi ar y to

4.         Gorffeniad i gydweddu

 

Nodyn Dwr Cymru

Nodyn Bioamrywiaeth

 

Cofnod:

Estyniad i annedd i ddarparu garej, ystafell therapi ac ystafell wlyb hygyrch i berson anabl

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi estyniad unllawr ar ochr y unllawr presennol ar gyfer defnydd fel modurdy hygyrch ynghyd ac ystafell therapi ac ystafell wlyb. Eglurwyd bod y bwriad yn golygu darparu ramp mynedfa i brif fynedfa’r eiddo a’r drysau patio ar yr edrychiad cefn hefyd. Byddai mynedfa i’r estyniad drwy’r modurdy bwriededig a hefyd drwy’r eiddo presennol.

 

Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn fab i’r Aelod Lleol.

 

Ystyriwyd fod y cynllun diwygiedig yn foddhaol ar sail mwynderau gweledol, tirlun, mwynderau preswyl a thrafnidiaeth ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau perthnasol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD Caniatáu gydag amodau:

 

1.   5 mlynedd

2.   Unol a’r cynlluniau

3.   Llechi ar y to

4.   Gorffeniad i gydweddu

 

Nodyn Dwr Cymru

Nodyn Bioamrywiaeth