skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd ar ran y pwyllgor gyda theulu'r diweddar Gynghorydd Eirwyn Williams a fu farw yn ddiweddar. Roedd yn aelod ffyddlon o’r pwyllgor am nifer o flynyddoedd ac wedi rhoi gwasanaeth gwerthfawr i drigolion Cricieth fel Cynghorydd Sir.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelodau canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Gruffydd Williams  (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/1185/25/LL) ar y rhaglen oherwydd bod ei fab yn berchen cae gerllaw safle’r cais

 

Y Cynghorydd Elwyn Jones (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/1185/25/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn gyflogedig gan Cyngor Cymuned Pentir

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)            Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·           Y Cynghorydd Dafydd Meurig (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/1185/25/LL) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Angela Russell (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/0426/38/LL) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Anwen Davies (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/0426/38/LL) ar y rhaglen

 

c)            Amlygwyd bod yr Aelodau wedi derbyn e-bost yn rhannu manylion ar gais cynllunio C22/0426/38/LL Pentref Pwylaidd Penrhos, Lôn Llanbedrog, Pwllheli LL53 7HN.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 327 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il Hydref 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

6.

Cais Rhif C23/0614/16/LL Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU pdf eicon PDF 437 KB

Cais llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol, ffordd fynediad fewnol gysylltiedig a thirlunio.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Cais llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol, ffordd fynediad mewnol cysylltiedig a thirlunio.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr / ychwanegol oedd yn amlygu a) gwybodaeth gan yr Uned Strategol Tai ynglŷn â’r angen am dai fforddiadwy yn Tregarth, a b) bod sylwadau anghywir yr Uned Bioamrywiaeth wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Roedd eu  sylwadau cywir yn nodi :

·         Bod mesurau osgoi rhesymol ar gyfer ymlusgiaid yn cael eu cynnwys fel amod cynllunio.

·         Na ddylid clirio unrhyw goeden, llwyn na llystyfiant yn ystod tymor nythu adar.

·         Bydd angen sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth. 

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi saith annedd gyda gwaith cysylltiedig i wella’r fynedfa bresennol, creu ardaloedd wedi'u tirlunio a ffordd fynediad mewnol ar ddarn o dir a’i defnyddir ar hyn o bryd gan fusnes contractwyr trydan. Mae bwriad cadw'r adeilad swyddfa presennol sydd ar y safle, sy'n gysylltiedig â’r busnes, ond bydd yn golygu datblygu’r tir o’i amgylch gan gynnwys dymchwel gweithdy presennol i hwyluso codi'r tai newydd a'r ffordd fynediad. Bwriedir i ddau o'r tai newydd fod yn dai fforddiadwy canolraddol.

 

Bydd y tai i gyd yn ddeulawr gyda thoeau brig, 8.6m o uchder, ac wedi’u gorffen mewn cymysgedd o ddeunyddiau gan gynnwys:

·         Toeau llechi naturiol gyda ffasgia a bondo uPVC cyfansawdd, a chrib mewn concrid coch neu deils clai

·         Waliau - brics mewn gwahanol arlliwiau a gweadau gyda nodweddion addurnol a’r rhannau sy'n weddill i gael rendrad garw wedi ei beintio

·         Nwyddau dŵr glaw: System ddur wedi'i gorchuddio â phowdr

·         Ffenestri a drysau: Systemau ffenestri cyfansawdd uPVC, drysau ffrynt gwyn a llwyd.

 

Saif y safle ar safle tir llwyd o fewn  ffin ddatblygu Pentref Lleol Tregarth fel y’i diffinnir gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), ond nid yw’r safle wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Saif o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ddynodedig a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen ac o fewn parth clustogi dau Henebyn Cofrestredig megis, CN202 Cytiau Parc Gelli a CN417, Rheilffordd Chwarel Penrhyn, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

 

O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod Tregarth wedi ei adnabod fel Pentref Lleol dan bolisi TAI 4 sy’n caniatáu datblygiadau tai er mwyn cwrdd â strategaeth y Cynllun trwy’r defnydd o safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu. Ategwyd bod tystiolaeth briodol wedi ei dderbyn yn nodi y bydd y cynllun yn helpu cwrdd gydag anghenion tai cydnabyddedig y gymuned leol. Ystyriwyd felly bod y cynnig yn gyson gydag amcanion polisïau TAI 4, PCYFF 8 a PS 17 a bod egwyddor y datblygiad yn gyson gyda pholisïau tai'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Cyfeiriwyd at faen prawf (3) polisi PCYFF 2 sydd yn datgan y dylid gwneud y defnydd gorau o dir gan gynnwys sicrhau dwysedd o leiaf 30 uned byw i’r hectar o ran datblygiad preswyl. Nodwyd, ar sail 30 uned i’r hectar buasai safle o’r maint  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C21/1185/25/LL Tir gyferbyn Ty Mel, Bangor, LL57 4UG pdf eicon PDF 434 KB

Codi 2 dŷ fforddiadwy, mynedfa newydd, parcio,  tirlunio a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENFERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106 ac amodau’n ymwneud a’r canlynol :

1.    Dechrau o fewn 5 mlynedd

2.    Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.    Defnyddio llechi to Cymreig

4.    Amod er sicrhau gwelededd derbyniol

5.    Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir er sicrhau fforddiadwyedd

6.    Amod Dŵr Cymru

7.    Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol

8.    Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Perygl Llifogydd

 

Nodyn –        Dŵr Cymru

                      System Draenio Gynaliadwy

                      Sylwadau’r Uned Trafnidiaeth

 

Cofnod:

Codi 2 dŷ fforddiadwy, mynedfa newydd, parcio,  tirlunio a gwaith cysylltiedig.

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi dau dŷ fforddiadwy canolradd ger pentref Caerhun i’r de-ddwyrain o Fangor. Bydd y ddau dŷ unllawr yn darparu dwy lofft, cegin, ystafell fyw, ystafell ymolchi a chyntedd ynghyd a mannau parcio ar gyfer dau gerbyd. Bydd un fynedfa oddi ar y ffordd sirol dosbarth III gyfagos yn gwasanaethu’r ddau dŷ.

 

Nid oes dynodiadau statudol amgylcheddol na threftadaeth i’r llecyn tir hwn sy’n cael ei ddefnyddio’n bresennol ar gyfer tir pori. Fodd bynnag mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi fod yr ardal eang o amgylch safle’r cais yn destun llifogydd arwyneb tir.

 

Wrth ystyried egwyddor y datblygiad, nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu diffiniedig a gynhwysir o fewn y CDLl. Nodai Polisi PCYFF 1 ('Ffiniau Datblygu') y tu allan i ffiniau datblygu’, bydd cynigion yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â pholisïau penodol y Cynllun neu bolisïau cynllunio cenedlaethol, neu fod y cynnig yn dangos bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Lleolir y bwriad yn union gerllaw clwstwr Caerhun fel y'i diffinnir yn yr CDLl a thrwy hyn, mae Polisïau TAI 6: Tai mewn clystyrau; TAI 15: Tai Fforddiadwy ynghyd a'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA): Tai Fforddiadwy, yn berthnasol. Nodi’r Polisi TAI 6 y dylai cynigion am dai newydd mewn lleoliadau o'r fath gydymffurfio a saith maen prawf.

 

Eglurwyd bod Datganiad Cynllunio wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn nodi bod galw uchel am dai dwy lofft yn ardal Caerhun / Glasinfryn (ffigyrau’r Asesiad Farchnad Tai Lleol,  Tai Teg ac Uned Strategol Tai yn cefnogi’r datganiad yma). Ategwyd bod y cynllun yn addas ac yn cwrdd â’r angen cydnabyddedig.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd na fydda’r tai newydd yn ymddangos yn estron yn y man hwn er gwaethaf eu lleoliad ar dir amaethyddol agored oherwydd bydd eu lleoliad yn union gerllaw tai preswyl eraill. Ni fyddant felly yn cael effaith andwyol sylweddol ar ansawdd tirwedd gyffredinol yr ardal.

 

Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad, nodwyd y gall coed presennol amharu ar y gwelededd o’r fynedfa. O ganlyniad, gofynnwyd am amod i sicrhau na chaniateir i unrhyw wal, gwrych neu ffens derfyn y briffordd fod yn uwch nag 1 metr uwchlaw lefel lôn cerbyd y ffordd sirol gyfagos o naill ben ffin y safle a'r briffordd i'r llall, a rhaid clirio unrhyw lystyfiant er mwyn cynnal y gwelededd.  O osod amod o’r fath ystyriwyd bod y cynllun yn dderbyniol dan ofynion Polisi TRA 2 a TRA 4 parthed safonau parcio a diogelwch ffyrdd.

 

Yng nghyd-destun materion llifogydd, nodwyd bod yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd (FCA) diwygiedig a dderbyniwyd yn disgrifio bod y perygl llifogydd i'r safle datblygu wedi cael ei reoli trwy gael gwared ar strwythur rheoli o fewn y wal derfyn i'r gorllewin o'r datblygiad. O ganlyniad, amlygwyd bod Uned Draenio Tir y Cyngor yn cytuno bod perygl llifogydd i safle’r datblygiad arfaethedig wedi’i leihau’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C22/0426/38/LL Pentref Pwylaidd Penrhos, Lôn Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7HN pdf eicon PDF 691 KB

Cais llawn i ddymchwel 107 uned byw, 3 adeilad a ddefnyddir fel 4 uned llety ymwelwyr, cartref nyrsio, ystafelloedd cysgu sgowtiaid, neuadd a gweithdy, adeilad llyfrgell/neuadd, swyddfeydd a modurdai a chodi 107 uned preswyl (100% tai fforddiadwy) yn eu lle ynghyd a newidiadau i'r ffordd fynediad fewnol gyda gwaith cysylltiol a thirlunio.

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Angela Russell a’r Cynghorydd  Anwen Davies

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau cynllunio a cytundeb 106 ar gyfer cyfraniad addysgol

1.         5 mlynedd

2.         Unol â’r cynlluniau a’r dogfennau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais

3.         Llechi ar y to/cytuno gorffeniad to a paneli pv

4.         Cytuno gorffeniad allanol

5.         Cytuno manylion

6.         Cytuno materion tai fforddiadwy

7.         Amod dymchwel a datblygu cam wrth gam

8.         Amodau Llygredd Tir

9.         Cyflwyno manylion cynllun naill ai i warchod y cyflwr strwythurol neu ddargyfeirio'r prif gyflenwad dŵr sy'n croesi'r safle.

10.       Cyflwyno cynllun delio gyda dŵr budr

11.       Cynllun rheoli llwch, sŵn a dirgryniad o ganlyniad i’r gwaith dymchwel

12.       Oriau gwaith 08:00-18:00 Llun i Gwener 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.

13.       Cyflyno a chytuno cynllun rheoli ecolegol, cynefin a glaswelltir/dol blodau

14.       Rhaid i arbenigwr coed fod yn bresennol ar y safle drwy gydol y gwaith.

15.       Ni chaniateir unrhyw waith a fyddai’n amharu ar nythod adar yn ystod y cyfnod nythu rhwng 1af Fawrth a 31 Awst oni bai y cytunir fel arall o flaen llaw.

16.       Amodau archeolegol

17.       Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir

18.       Tirweddu

19.       Hysbysebion Cymraeg

 

Cofnod:

Cais llawn i ddymchwel 107 uned byw, 3 adeilad a ddefnyddir fel 4 uned llety ymwelwyr, cartref nyrsio, ystafelloedd cysgu sgowtiaid, neuadd a gweithdy, adeilad llyfrgell/neuadd, swyddfeydd a modurdai a chodi 107 uned breswyl (100% tai fforddiadwy) yn eu lle ynghyd a newidiadau i'r ffordd fynediad mewnol gyda gwaith cysylltiol a thirlunio.

Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle 5ed o Fedi 2023

a)    Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu bod safle'r cais llawn, unigryw yma yn cynnwys Pentref Pwylaidd Penrhos sydd wedi ei leoli rhwng tref Pwllheli a Llanbedrog gyda mynediad i'r safle ar hyd trac preifat uniongyrchol o'r A499. Mae’r safle wedi ei leoli yn gyfan gwbl yng nghefn gwlad agored a thu allan i unrhyw ffin datblygu.

 

Byddai’r gwaith dymchwel yn digwydd mewn 3 rhan gyda’r cam cyntaf yn golygu dymchwel yr adeiladau sydd wedi eu lleoli ar y dde wrth fynediad y safle. Byddai’r Eglwys, ffreutur ac ystafell fwyta ynghyd a’r ardd goffa, rhandiroedd a’r orsaf bws yn parhau. Mae bwriad gwneud newidiadau i’r ffordd stad fewnol gan gynnwys darparu rhai rhannau newydd.

 

Bydd yr adeiladau newydd hefyd yn cael eu hadeiladu mewn 3 cam, gyda’r cam cyntaf yn sicrhau llety ar gyfer y preswylwyr presennol; codi 44 uned yn y cam cyntaf sy’n cynnwys 12 byngalo, 2 a 30 o fflatiau; codi 49 uned yng ngham 2 ac 14 yng ngham 3. Mae’r holl unedau yn cael eu cynnig fel unedau fforddiadwy ar ffurf cartrefi gydol oes.

 

Yng nghyd-destun y cyn-gartref Gofal, adroddwyd bod y cartref gofal wedi gweithredu fel elfen bwysig o’r safle a bod y sylwadau a dderbyniwyd yn amlygu bod y gymuned wedi siomi pan gaewyd y cartref yn fuan wedi i’r safle drosglwyddo i feddiannaeth yr ymgeisydd. Ategwyd bod ymrwymiad i drosglwyddo ardal benodol o’r safle i Cyngor Gwynedd gyda chytundeb drafft wedi ei chytuno rhwng Clwyd Alun a’r Cyngor gyda bwriad i’w harwyddo’n fuan. Nodwyd bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i wneud cais am £14.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ariannu codi a datblygu cartref gofal newydd ar y safle. I’r perwyl hyn, oherwydd goblygiadau hyfywedd ar gyfer parhau a gwella’r cartref presennol ac yn seiliedig ar ymrwymiad yr ymgeisydd i drosglwyddo tir i ddigolledu cyfleusterau presennol ac ymrwymiad gan y Cyngor i ddarparu cartref gofal a nyrsio ynghyd a darpariaeth gofal a chymunedol,  ystyriwyd fod y bwriad yn cyd-fynd gydag amcanion polisi ISA 2 o ran gwarchod cyfleusterau cymunedol.

 

O ran camau 2 a 3, bydd bwriad i’r ddarpariaeth sicrhau adnoddau staffio ac y bydd rhai tai yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer pobl sydd yn gweithio ar y safle neu o fewn y sector iechyd a gofal lleol ehangach. Pan fo anghenion unigolion yn newid, gall y rheiny ag anghenion gofal uchel/cymhleth gael yr opsiwn o symud i'r cartref gofal a nyrsio ar y safle. Bydd y cartref gofal a nyrsio hefyd yn darparu anghenion gofal  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.