skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes a’r Cynghorwyr Beca Roberts a Rob Triggs (Aelodau Lleol)

 

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·           Y Cynghorydd Elin Hywel (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C22/0969/45/LL) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C22/0523/14/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 215 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23 Hydref 2023 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23 Hydref 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

6.

Cais Rhif C22/0969/45/LL Tir ar Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 5LF pdf eicon PDF 611 KB

Adeiladu siop fwyd Aldi newydd (dosbarth defnydd A1), maes parcio, mynedfa, gwasanaethu a tirlunio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Hywel

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod:

 

1.         Amserlenni

2.         Yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

3.         Deunyddiau yn unol gyda’r cynlluniau oni bai y cytunir yn wahanol ymlaen llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.         Amodau manwerthu i gyfyngu arwynebedd gofod llawr, dim rhannu'n unedau llai

5.         Amser agor y siop

6.         Rheoli amser o ran danfoniadau.

7.         Amodau priffyrdd o ran cwblhau’r fynedfa, gwaith lôn, llefydd parcio ac atal dŵr wyneb.

8.         Amodau gwarchod y cyhoedd o ran system awyru/ uned adfer gwres, lefelau sŵn o offer mecanyddol, rhwystr ar y bae derbyn nwyddau

9.         Cynllun Rheoli Adeiladu

10.       Cadw at mesurau lliniaru yn yr Asesiad Ansawdd Aer

11.       Ymgymryd gyda’r gwaith yn unol gyda’r cynllun tirlunio a’r Cynllun Cynnal a Rheoli Tirlunio Meddal, angen ail blannu o fewn cyfnod o 5 mlynedd.

12.       Mesurau gwella/lliniaru y Gymraeg / arwyddion dwyieithog

13.       Unol gyda cynllun goleuo

14.       Unol gyda’r Adroddiad Arolwg Ecolegol.

15.       Unol gyda’r Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol

 

Nodiadau:-

1.         Datblygiad Mawr

2.         SUDS

3.         Priffyrdd – hawl adran 171/184 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980

4.         Sylwadau Dŵr Cymru

5.         Sylwadau Gwarchod y Cyhoedd

6.         Sylwadau CNC

 

Cofnod:

Adeiladu siop fwyd Aldi newydd (dosbarth defnydd A1), maes parcio, mynedfa,

gwasanaethu a tirlunio

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 10-11-23

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi gwybodaeth pellach ynglŷn a chaniatâd System Draenio Cynaliadwy, copi o lythyr gan JLL yn cynnig sylwadau ar eiriad rhannau o’r adroddiad, ymateb yr Uned Bolisi i’r llythyr hwnnw, a nodyn eglurdeb o ran mynediad.

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i adeiladu siop fwyd newydd oddi ar yr A499 Ffordd Caernarfon, sef un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o Bwllheli. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys

·         Creu mynedfa newydd i Ffordd Caernarfon ynghyd a 114 o fannau parcio, i gynnwys lle i'r anabl, rhiant a phlentyn, lle gwefru cerbydau trydan, lle ar gyfer beiciau modur a lle diogel i feiciau.

·         Darparu llwybr cerdded/beicio gerllaw Ffordd Caernarfon ynghyd a chroesfan sebra.

·         Darparu lloches bws gyferbyn ar safle ar Ffordd Caernarfon

·         Cyflwyno cyfyngiad cyflymder is ar Ffordd Caernarfon o 30 milltir yr awr.

·         Darparu is-orsaf drydan

·         Gwaith tirlunio meddal.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu’r dref – yn ffurfio rhan o safle ehangach sydd wedi ei ddynodi ar gyfer tai (T28) yn y Cynllun Datblygu lleol (CDLl). Gorweddai o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli a rhan o’r safle yn ffurfio safle bywyd gwyllt ymgeisiol Penlon Caernarfon.

 

Cyfeiriwyd at yr asesiad a wnaed o’r prif faterion megis effaith y datblygiad ar y dynodiad tai a’r canol dref o ran manwerthu.

 

Er bod y safle wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y CDLl, derbyniwyd Asesiad Hyfywedd oedd yn nodi, ar sail y farchnad dai presennol, nad oedd datblygu’r safle ar gyfer tai yn hyfyw a  bod yr ymgeisydd yn datgan fod y bwriad yn hanfodol i hwyluso’r ddarpariaeth breswyl ar y safle – ni fyddai’n  realistig y byddai unrhyw ddefnydd preswyl yn digwydd i’r dyfodol onibai am y datblygiad yma. O ganlyniad, drwy gyflwyno’r defnydd amgen o archfarchnad byddai’r safle’n cael ei ddatgloi gan alluogi rhywfaint o ddatblygiad preswyl yn hytrach na dim o gwbl. Yn ogystal, amlygwyd fod y safle wedi cael ei farchnata ar gyfer defnydd preswyl ers 2020 ac nad oedd unrhyw gynnig wedi ei dderbyn arno. Cytunwyd bod datblygu rhan o’r safle ar gyfer y defnydd manwerthu arfaethedig yn hwyluso’r cyfle i weddill y ddynodiad ddod ymlaen ar gyfer defnydd preswyl disgwyliedig ac a’r sail tystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, bod modd mynd yn groes i bolisïau tai perthnasol y CDLl yn yr achos yma.

 

Yng nghyd-destun effaith y bwriad ar siopau presennol a chanol tref Pwllheli, amlygwyd bod  Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi y gallai'r angen am siop fod yn feintiol neu'n ansoddol, ond dylid rhoi blaenoriaeth i sefydlu angen meintiol cyn ystyried yr angen ansoddol. Wrth gyfiawnhau’r angen ansoddol, eglurwyd y dylid ystyried agweddau cadarnhaol a negyddol gyda NCT4 yn cyfeirio at ganlyniadau anfwriadol ac effaith andwyol ar ganol trefi. Nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C23/0614/16/LL Penrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU pdf eicon PDF 257 KB

Cais llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol, ffordd fynediad fewnol gysylltiedig a thirlunio.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENFERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i'r cais gael ei ganiatáu yn ddarostyngedig ar dderbyn prisiad llyfr coch o'r tai i allu pennu disgownt ar y tai fforddiadwy, cytundeb 106 tai fforddiadwy ac amodau'n ymwneud a’r canlynol :

1.         Dechrau o fewn 5 mlynedd

2.         Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.         Defnyddio llechi to Cymreig neu lechi cyffelyb

4.         Cytuno’r deunyddiau allanol

5.         Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir o’r unedau fforddiadwy er sicrhau eu fforddiadwyedd

6.         Amod Dŵr Cymru

7.         Amodau Priffyrdd

8.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol

9.         Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth

10.      Amodau Tirlunio

11.      Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Risg Halogiad Tir

12.      Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

13.      Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

 

Nodyn –          Dŵr Cymru

          System Draenio Gynaliadwy

          Uned Trafnidiaeth

          Uned Goed

 

Cofnod:

Cais llawn i godi 7 tŷ ynghyd â gwaith cysylltiedig i gynnwys gwelliant i'r fynedfa bresennol, ffordd fynediad mewnol cysylltiedig a thirlunio.

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld a’r safle 10-11-23

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau y gallai fod risg o sŵn ac arogleuon o ganlyniad i agosatrwydd tai i adeiladau amaethyddol ond nad oedd yr Uned yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau na rheoliadau sy’n nodi pellteroedd rhwng adeiladau o’r fath. Nodwyd hefyd y derbyniwyd cynllun diwygiedig ar y 27.10.2023 yn dangos storfa biniau ger y fynedfa. Cadarnhaodd yr Uned Drafnidiaeth a Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu bod y trefniant yn dderbyniol ar y sail na fydd y Cyngor yn gyfrifol am y storfa - bod hyn yn cael ei sicrhau drwy osod nodyn ar y cais.

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i godi saith annedd gyda gwaith cysylltiedig i wella’r fynedfa bresennol, creu ardaloedd wedi'u tirlunio a ffordd fynediad mewnol ar ddarn o dir a’i defnyddir ar hyn o bryd gan fusnes contractwyr trydan. Mae bwriad cadw'r adeilad swyddfa bresennol sydd ar y safle, sy'n gysylltiedig â’r busnes, ond bydd yn golygu datblygu’r tir o’i amgylch gan gynnwys dymchwel gweithdy presennol i hwyluso codi'r tai newydd a'r ffordd fynediad. Bwriedir i ddau o'r tai newydd fod yn dai fforddiadwy canolraddol.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor 23 Hydref 2023 pryd gwnaed penderfyniad i gynnal ymweliad safle.

 

Saif y safle ar safle tir llwyd o fewn ffin datblygu Pentref Lleol Tregarth fel y’i diffinnir gan y CDLl, ond nid yw’r safle wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol. Saif o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ddynodedig a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen ac o fewn parth clustogi dau Henebyn Cofrestredig megis, CN202 Cytiau Parc Gelli a CN417, Rheilffordd Chwarel Penrhyn, sydd hefyd yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

 

O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod Tregarth wedi ei adnabod fel Pentref Lleol dan bolisi TAI 4 sy’n caniatáu datblygiadau tai er mwyn cwrdd â strategaeth y Cynllun trwy’r defnydd o safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu. Ategwyd bod tystiolaeth briodol wedi ei dderbyn yn nodi y bydd y cynllun yn helpu cwrdd gydag anghenion tai cydnabyddedig y gymuned leol. Ystyriwyd felly bod y cynnig yn gyson gydag amcanion polisïau TAI 4, PCYFF 8 a PS 17 a bod egwyddor y datblygiad yn gyson gyda pholisïau tai'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Yng nghyd-destun lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol y bwriad, adroddwyd bod gosodiad, dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn gweddu’r lleoliad mewn modd priodol. Ystyriwyd bod y tai wedi eu dylunio i ansawdd safonol a bod y cynigion tirweddu’n gweddu naws y pentref. Er yn cydnabod sylwadau a dderbyniwyd, ni ystyriwyd y byddai’r tai yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd adeiledig y safle na’r gymdogaeth leol.

 

Yng nghyd-destun y dirwedd hanesyddol, nodwyd bod CADW yn cadarnhau na fyddai niwed arwyddocaol i’r dirwedd hanesyddol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C23/0500/00/AC Fflat 2il a 3ydd Llawr, 17 Rhodfa'r Môr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1NA pdf eicon PDF 217 KB

Diwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel fod 3 o'r anheddau i'w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3 o'r anheddau i'w defnyddio unai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rob Triggs

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Mae’r bwriad i ddiwygio’r amod er defnyddio 3 o’r unedau ar gyfer llety gwyliau dosbarth defnydd C6 yn annerbyniol ar sail fod y nifer cyfunol o ail gartrefi a llety gwyliau ardal Cyngor Tref Abermaw yn 18.40% sydd dros y rhiniog o 15% a ystyrir yn orddarpariaeth yn y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.  Yn sgil hyn nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi na fyddai’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal fel y nodir yn maen prawf v o bolisi TWR 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. 

 

 

Cofnod:

Vary condition 5 of planning permission C21/0575/00//LL so that three of the dwellings must be used for residential use within the C3 use class, and three of the dwellings to be used either within C3 or C6 use class.

 

Attention was drawn to the late/additional observations form - a letter dated 16 November 2023 had been sent to the Members and the Planning Unit responding to the report.

 

Diwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel bod 3 o'r anheddau i'w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3 o'r anheddau i'w defnyddio un ai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr / ychwanegol – llythyr dyddiedig 16 Tachwedd 2023 wedi ei anfon at yr Aelodau a'r Uned Cynllunio yn ymateb i’r adroddiad

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio amod 5 ar ganiatâd cynllunio C21/0575/00/LL fel bod 3 o’r anheddau i’w defnyddio ar gyfer defnydd preswyl o fewn dosbarth defnydd C3 a 3 o’r anheddau i’w defnyddio un ai o fewn dosbarth defnydd C3 neu C6.  Caniatawyd cais C21/0575/00/LL ar 6 Rhagfyr 2022 ar gyfer trosi a newid defnydd un annedd yn 6 fflat 1 ystafell wely.  Ymddengys nad yw’r caniatâd blaenorol wedi ei weithredu eto ac ei fod yn parhau fel un tŷ). Mae amod 5 o ganiatâd C21/0575/00/LL yn datgan:-

 

“Rhaid defnyddio’r uned/au byw a ganiateir drwy hyn at ddefnydd anheddol o fewn Dosbarth Defnydd C3 fel y'i diffinnir gan y Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i diwygiwyd) yn unig ac nid at unrhyw ddefnydd arall gan gynnwys unrhyw ddefnydd arall o fewn Dosbarthau Defnydd C.”

 

Gyda’r cais yn ymwneud â diwygio neu ddiddymu amod, eglurwyd bod rhaid edrych os yw’r amod yn parhau’n berthnasol dan y canllawiau cenedlaethol ac yn cwrdd â 6 maen prawf gofynion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru: Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu. Yn ychwanegol, atgoffwyd yr Aelodau  o’r newidiadau sydd wedi bod i’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) llynedd, o ran dosbarthiadau defnydd unedau preswyl gyda defnydd C3 yn parhau ar gyfer unig neu brif breswylfa. Cyflwynwyd dau ddosbarth defnydd ychwanegol (dosbarth C5 ail gartref a ddefnyddir mewn modd gwahanol i brif neu unig breswylfa a dosbarth C6 ar gyfer llety gwyliau tymor byr). Yn ychwanegol, cyflwynwyd adroddiad i’r Cabinet ar 13 Mehefin 2023 yn amlinellu’r materion a’r cyfiawnhad dros gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 er mwyn gallu rheoli’r trosglwyddiad mewn defnydd o dai preswyl i ddefnydd gwyliau (ail gartrefi a llety gwyliau).

 

Yn y cyd-destun yma, gosodwyd yr amod ar ganiatâd C21/0575/00/LL, yn cyfyngu meddiannaeth yr unedau i dai preswyl parhaol (C3), a rhoddwyd ystyriaeth i’r polisïau tai perthnasol ar y pryd.

 

Ystyriwyd Polisi TWR2 ac er bod y bwriad yn cydymffurfio a’r mwyafrif o’r meini prawf, bod y cais yn methu ar faen prawf 5 o Bolisi TWR 2 y CDL sy’n nodi na ddylai’r datblygiad arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal. Er bod Cynllun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C22/0523/14/LL Y Deri, Hen Furiau Ffordd Bont Saint, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2YS pdf eicon PDF 189 KB

Estyniad unllawr ar gyfer creu ystafell hyfforddi / diwrnod a swyddfa.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

1.         5 mlynedd i ddechrau gwaith.

2.         Unol a chynlluniau.

3.         Rhaid cytuno unrhyw newidiadau neu gwaith uwchraddio i’r system draenio twr aflan   cyn defnyddio yr estyniad

4.         Gorffeniad i gydweddu gyda’r adeilad presennol.

5.         Gwelliannau Bioamrywiaeth

 

Nodyn

Llythyr Dwr Cymru

 

Cofnod:

Estyniad unllawr ar gyfer creu ystafell hyfforddi / diwrnod a swyddfa

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad unllawr i ochr adeilad Y Deri, sydd wedi ei leoli tu allan i ffin datblygu rhwng Caernarfon a Bontnewydd, felly’n safle cefn gwlad er y saif mewn clwstwr bychan o ryw 5 eiddo. Eglurwyd bod Y Deri yn darparu gwasanaeth gofal cartref ac y byddai’r estyniad yn mesur 10 medr o hyd a 8.8 medr yn ei fan lletaf. 

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Ymddengys fod yr adeilad wedi ei ddefnyddio fel busnes gofal cartref ers 17 o flynyddoedd ac y byddai’r estyniad ar gyfer hwyluso eu gwasanaeth, i’w ddefnyddio ar gyfer ystafell ddydd i’w cleientiaid ac i ddibenion hyfforddi staff. Amlygwyd bod y datganiadau a dderbyniwyd gyda’r cais yn egluro a chyfiawnhau’r angen am yr estyniad. Ystyriwyd bod y bwriad yn cefnogi ffyniant economaidd busnes sy’n bodoli’n barod ac felly’n cydymffurfio â maen prawf 4 o bolisi PS 13 a pholisi PCYFF 1 a PS 5 o’r CDLl.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd y byddai'r bwriad yn weladwy o’r llwybr cyhoeddus cyfochrog yn unig ac wedi ei amgáu gan adeiladau fel arall; ystyriwyd bod maint, graddfa a dyluniad y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda polisi PCYFF 3;  oherwydd lleoliad yr estyniad ar y safle o’i gymharu a’r tai cyfagos, a lleoliad y wal derfyn, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael unrhyw effaith ar fwynderau’r trigolion cyfagos.

 

Cyfeirwyd at bryderon gan gymdogion oedd yn nodi fod tanc septic yn cael ei rannu ar y safle ac nad oedd digon o gapasiti ar gyfer yr estyniad ychwanegol. Adroddwyd bod y tanc wedi ei leoli mewn cae cyfochrog ac ni fyddai’r estyniad yn cael effaith uniongyrchol arno, ac ni fyddai’r bwriad ei hun yn debygol o achosi cynnydd sylweddol yn y defnydd. Ategwyd mai materion sifil a godwyd gan y cymdogion ac yn faterion a fyddai’n cael eu rheoli gan Rheolaeth Adeiladu. Er hynny, tynnwyd sylw at awgrym i gynnwys amod yn nodi bod rhaid cytuno ar unrhyw newidiadau neu waith uwchraddio i’r system draenio dwr aflan cyn defnyddio’r estyniad.

 

Cyfeiriwyd hefyd at bryderon ffyrdd, ar sail cyflwr ac addasrwydd y fynedfa bresennol, cynnydd mewn traffig ynghyd a chyflymder cerbydau sy’n teithio ar hyd y trac tua’r safle. Mewn ymateb, ni ystyriwyd y byddai’r cynnydd mewn traffig yn sylweddol gan fod y busnes wedi bod yn cynnal gweithgareddau yn ystod y dydd yn barod ac y byddai’r staff sy’n cael eu hyfforddi yn staff presennol gyda’r posibiliad o un staff ychwanegol. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r cais ac na fyddai’r estyniad yn cael effaith andwyol o ran diogelwch ffyrdd.

 

Y bwriad yw ymestyn adeilad busnes presennol sy’n darparu gwasanaeth yn y Gymraeg i’r gymuned leol fel bod unigolion bregus yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.