skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin Hywel, Elwyn Jones a Gareth Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Cai Larsen  (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C23/0657/18/LL) ar y rhaglen oherwydd bod ei fod yn Aelod o Fwrdd Rheoli Adra

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20 Tachwedd 2023 fel rhai cywir

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

6.

Cais Rhif C23/0657/18/LL Tir gyferbyn Stad Cremlyn, Bethel, Caernarfon, LL55 1AX pdf eicon PDF 225 KB

Cais cynllunio llawn i godi 30 o dai fforddiadwy gyda mynedfa newydd, ffordd fynediad fewnol a gwaith cysylltiedig.

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Sasha Williams a’r Cynghorydd Iwan Huws

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i sicrhau datrysiad derbyniol ynghylch materion archeoleg ac i gytundeb 106 ar gyfer cyfraniad llecyn chwarae ac addysgol ynghyd ac amodau'n ymwneud a’r canlynol :

  • Dechrau o fewn 5 mlynedd
  • Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd
  • Rhaid cyflwyno a chytuno ar raglen ddarparu tai fforddiadwy
  • Rhaid cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to
  • Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir
  • Amod Dŵr Cymru
  • Amodau Priffyrdd
  • Amodau Bioamrywiaeth
  • Angen cyflwyno Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Adeiladu cyn dechrau’r gwaith datblygu
  • Rhaid rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.
  • Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig
  • Amodau archeoleg

 

Nodyn –          Dŵr Cymru

                        Uned Draenio Tir

                        Uned Trafnidiaeth

                        Datblygiad Mawr

 

Cofnod:

Cais cynllunio llawn i godi 30 o dai fforddiadwy gyda mynedfa newydd, ffordd fynediad mewnol a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnig gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â   materion Cyfraniad Addysgol, Materion Ieithyddol, Bioamrywiaeth, Materion coed ac Archeoleg

 

a)         Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i i godi 30 tŷ fforddiadwy gyda gwaith cysylltiedig ar safle sydd wedi ei ddynodi o dan T57 fel safle ar gyfer tai o fewn ffin ddatblygu Pentref Gwasanaeth Bethel fel y’i diffinnir gan y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig ac yn cyfochri gyda Safle Bywyd Gwyllt dynodedig Pen-yr-Orsedd sy’n nodweddiadol am laswelltir asidig; glaswelltir corsiog a gwlypdir asid/niwtral. Roedd y cynnig yn cynnwys codi’r tai, darparu mynedfa newydd i’r B4366 (sy’n ffordd ddosbarth 2), creu ffordd fynediad mewnol, ardaloedd wedi’u tirlunio a gwaith draenio cysylltiedig; byddai’r cynnig yn cynnwys cymysgedd tai:

·         3 byngalo dwy ystafell wely

·         1 byngalo tair ystafell wely sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn

·          8 annedd dwy ystafell wely

·         12 annedd tair ystafell wely

·         2 annedd pedair ystafell wely

·         4 fflat un ystafell wely

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd, yn unol â Pholisi PCYFF 1 ('Ffiniau Datblygu'), bydd ceisiadau'n cael eu cymeradwyo y tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau eraill a'r cynigion yn y Cynllun, polisïau cynllunio cenedlaethol, ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill. Amlygwyd bod Bethel, y CDLl, wedi ei adnabod fel Pentref Gwasanaeth dan bolisi TAI 4 sy’n cefnogi tai i gwrdd â strategaeth y Cynllun drwy ddyraniadau tai a safleoedd addas heb eu dyrannu o fewn y ffin ddatblygu ar sail y ddarpariaeth ddangosol sydd yn y Polisi.

 

Adroddwyd, yn unol â Pholisi TAI 8, rhaid rhoi ystyriaeth os yw’r datblygiad arfaethedig yn cwrdd â’r galw am dai sydd wedi ei gofnodi mewn Asesiad Marchnad Tai a thystiolaeth arall lleol. Nodwyd bod Datganiad Cymysgedd Tai wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn nodi’r rhesymeg y tu’n ôl i’r gymysgedd tai a gynigiwyd ac fe dderbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Strategol Tai bod y datblygiad yn cwrdd ag anghenion cydnabyddedig y gymuned leol. Ategwyd bod  Polisi TAI 15 o'r CDLl yn datgan y bydd y cynghorau’n ceisio sicrhau lefel briodol o dai fforddiadwy yn ardal y cynllun. Ym Methel, dau neu fwy o unedau tai yw'r trothwy, ond gan fod y bwriad yn paratoi datblygiad o 100% unedau fforddiadwy a bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau fod y bwriad yn cyfarch yr angen yn yr ardal, roedd y cais yn bodloni polisi TAI 15. O ganlyniad, ystyriwyd fod cyfiawnhad ac angen ar gyfer y bwriad a'i fod yn cyfarch anghenion y gymuned leol ac yn cwrdd gydag amcanion polisïau tai'r CDLl.

 

Yng nghyd-destun lleoliad, dyluniad ac effaith gweledol y bwriad nodwyd y bydd yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r pentref, gyda’r gosodiad, dyluniad a deunyddiau'r datblygiad arfaethedig yn gweddu’r lleoliad mewn modd priodol. Ystyriwyd bod y tai wedi eu dylunio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C22/0705/33/LL Ty Cynan, Rhydyclafdy, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7YL pdf eicon PDF 230 KB

Cais ar gyfer creu menter pigo ffrwythau eich hunain i gynnwys newidiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol, darparu maes parcio ar gyfer cwsmeriaid, gosod polytunnel a lloches gyda paneli solar uwchben, darparu cynhwysydd ar gyfer ar gyfer gosod cyfarpar dyfrhau a offer cysylltiol gyda'r paneli solar a chynhwysydd ar gyfer pwyso'r ffrwythau a gwerthu lluniaeth, gosod tanciau crynhoi dwr,  a chodi adeilad ar gyfer darparu toiledau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENFERFYNIAD: Caniatáu – amodau

 

·         5 mlynedd

·         Unol a’r cynlluniau

·         Amodau Priffyrdd

·         Amod Dwr Cymru

·         Hysbysebion Cymraeg

·         Gorchudd di-lachar ar y paneli pv

·         Rhaid datgysylltu’r cyfarpar solar pv a’i symud o’r safle ar ôl cyfnod parhaus o beidio cynhyrchu ynni

·         Rhaid defnyddio'r adeiladau a ganiateir yma ar gyfer pwrpas amaethyddol neu’n atodol i ddefnydd amaethyddol o’r safle yn unig ac os daw ei ddefnydd i bwrpas amaethyddol o fewn yr uned i ben yn barhaol o fewn 10 mlynedd o ddyddiad cwblhau'r datblygiad yn sylweddol yna, oni bai i'r awdurdod cynllunio lleol ganiatáu defnydd neillog, bydd rhaid dymchwel yr adeilad a'i symud ymaith o'r tir ac adfer y tir i'w gyflwr blaenorol cyn i'r datblygiad gymryd lle.

·         Gwelliannau bioamrywiaeth

·         Manylion pwyntiau gwefru ceir trydan

 

Nodiadau:

SUDS

Datblygiad mawr

Cyfeirio’r datblygwr at wefan Comisiynydd y Gymraeg a’r Cynnig Cymraeg, er mwyn eu cynorthwyo i greu Cynllun Iaith, ac adnabod camau datblygu o ran hybu defnydd o'r Gymraeg.

 

Cofnod:

Cais ar gyfer creu menter pigo ffrwythau eich hunain i gynnwys newidiadau i'r fynedfa gerbydol bresennol, darparu maes parcio ar gyfer cwsmeriaid, gosod polytunnel a lloches gyda phaneli solar uwchben, darparu cynhwysydd ar gyfer ar gyfer gosod cyfarpar dyfrhau ac offer cysylltiol gyda'r paneli solar a chynhwysydd ar gyfer pwyso'r ffrwythau a gwerthu lluniaeth, gosod tanciau crynhoi dŵr,  a chodi adeilad ar gyfer darparu toiledau

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu, mai cais llawn ydoedd i greu menter pigo ffrwythau eich hunain ar safle wedi ei leoli ar gyrion pentref Rhydyclafdy yng nghefn gwlad agored ac Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Enlli.

 

Eglurwyd bod egwyddor menter pigo eich ffrwythau eich hunain yn ddefnydd amaethyddol gan ei fod yn golygu defnyddio’r tir ar gyfer tyfu cynnyrch. Cyfeiriwyd at ran 3.8 o Nodyn Cynllunio Technegol 6 sy’n cadarnhau, os yw siop fferm yn cael ei ddefnyddio i werthu nwyddau a gynhyrchir ar y fferm honno yn unig, ac ond ychydig iawn o nwyddau eraill o fannau eraill, mae felly’n ddiben sy’n atodol i’r defnydd fel fferm ac nid oes angen caniatâd cynllunio penodol. (sef defnyddio adeiladau presennol ar y fferm ar gyfer gwerthu’r cynnyrch). Fodd bynnag, yn yr achos yma, mae’r bwriad yn golygu darparu adeiladwaith a datblygiad o’r newydd yn benodol ar gyfer y fenter sydd yn destun caniatâd cynllunio. Eglurwyd bod y ddarpariaeth ‘siop’ yng nghyd-destun y bwriad yma ar ffurf caban ar gyfer pwyso’r cynnyrch ynghyd a gwerthu lluniaeth i’r cwsmeriaid megis te, coffi a chacennau ayyb. Byddai’r caban yn fychan ac ni ystyriwyd fod ei faint yn ddigon mawr ar gyfer gwerthu nifer fawr o nwyddau o fannau eraill; yr elfen yma o’r bwriad yn dderbyniol ac yn cyd-fynd gydag amcanion NCT ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y safle, er ar gyrion y pentref, yn weddol guddiedig oherwydd bod y tir yn gostwng yn raddol i ffwrdd o’r pentref, ac er bod ffordd ddosbarthedig 3 (Lon Pin) yn rhedeg heibio’r safle, dim ond golygfeydd ysbeidiol drwy’r gwrychoedd uchel ar ochr y ffordd sydd o’r safle.

 

Tynnwyd sylw hefyd at y ffrâm lloches uwchben y byrddau tyfu cynnyrch sydd yn sylweddol o ran uchder, ac yn cynnwys paneli solar a phaneli lleini clir uwch eu pen. Bydd hyn yn gyfystyr ac adeilad 3.1m o uchder gyda tho ar ffurf frig a dyffrynnoedd bob yn ail. Er yn sylweddol, mae ei uchder a’i leoliad yn golygu na fyddai’n debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar y dirwedd, gan gynnwys Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Ategwyd bod bwriad darparu’r polytunnel ar safle wrth ochr y fframiau lloches ac felly ni fyddai’n debygol o gael effaith ychwanegol ar y dirwedd o gymharu â’r fframiau lloches gerllaw.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod y bwriad yn cynnwys gwneud newidiadau i’r fynedfa bresennol ynghyd a darparu dau lecyn pasio ar y trac mynediad presennol ( y fynedfa a’r trac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y parc carafanau presennol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.