Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes a’r Cynghorydd Gareth Coj Parry

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)         Datganodd yr aelod canlynol ei fod â buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

b)         Y Cynghorydd Gareth Morris Jones  (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C22/0302/22/LL) ac eitem 5.3 (C22/0953/17/LL) ar y rhaglen oherwydd cysylltiad gyda staff Coleg Glynllifon

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu iddo gymryd rhan yn ystod y drafodaeth na phleidleisio ar y cais.

 

c)         Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd Ioan Thomas  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C23/0959/15/AC) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Huw Wyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem  5.5 (C23/0917/14/DT) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Beca Brown (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 (C21/0861/23/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 (C21/0861/23/LL) ar y rhaglen

           

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 5ed Chwefror 2024 fel rhai cywir.

 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

6.

Cais Rhif C23/0302/22/LL Chwarel Cae Efa Llwyd, Penygroes, LL54 6PB pdf eicon PDF 530 KB

Cais ar gyfer estyniad i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo pwerau i Bennaeth Adran yr Amgylchedd i gymeradwyo’r cais, o dan amodau yn ymwneud â’r canlynol:

1.         5 mlynedd

2.         Parhad y gwaith – 10 mlynedd ar gyfradd o 125,000 o dunelli y flwyddyn

3.         Yn unol â chynlluniau

4.         Cyfyngu hawliau GPDO ar gyfer adeiladau, strwythurau, ffyrdd preifat, llifoleuadau, ffensys etc.

5.         Copi o’r penderfyniad a’r cynlluniau a gymeradwywyd i’w ddangos yn swyddfa’r safle.

6.         Cyfyngu’r llwythi a symudir o’r safle i 125,000 o dunelli y flwyddyn ar gyfradd uchaf o bump ar hugain (25) o lwythi cerbydau nwyddau trwm y diwrnod.

7.         Wyneb y fynedfa o’r safle i’r briffordd sirol i gael ei gadw’n lân ac nid yw mwd/malurion i gael eu gollwng ar y briffordd.

8.         Rhaid peidio â dod â deunyddiau (sbwriel neu ddeunyddiau gwastraff) i mewn i’r safle.

9.         Marcio ffin y safle a’r parthau cloddio mwynau.

10.       Oriau gweithio. Dim gweithrediadau ar ddydd Sadwrn, dydd Sul na Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus heblaw am waith argyfwng, gwasanaethu a chynnal a chadw.

11.       Rhaid gosod llenni dros lwythi yr holl gerbydau llwythog neu eu trin i osgoi allyrru llwch.

12.       Cofnodi traffig.

13.       Dim prosesu ar y safle.

14.       Cyfyngiadau sŵn a chyfyngiadau sŵn mewn perthynas â gweithrediadau dros dro.

15.       Mesurau gostegu sŵn.

16.       Cadw ffensys acwstig a chadw byndiau.

17.       Llystyfiant, uwchbridd ac isbridd i’w storio mewn bwnd sgrinio acwstig.

18.       Monitro sŵn.

19.       Cyfyngiadau ansawdd aer a monitro ansawdd aer.

20.       Mesurau i leihau llwch a diweddaru’r cynllun ar gyfer monitro a rheoli llwch.

21.       Gosod ffens dros dro am ffin y man cloddio mwynau.

22.       Monitro dŵr daear.

23.       Cyflwyno cynllun ymchwilio ysgrifenedig manwl ar gyfer gwaith archeolegol.

24.       Cyflwyno adroddiad dadansoddol manwl am y gwaith archeolegol yn unol â’r cynllun ymchwilio ysgrifenedig.

25.       Cynllun adfer.

26.       Storio/rheoli priddoedd.

27.       Dim pridd i’w symud o’r safle a’r pridd i gael ei ddefnyddio wrth adfer y safle.

28.       Twmpathau storio pridd i’w cadw’n rhydd o chwyn.

29.       Cyflwyno cynllun adfer a chynllun ôl-ofal 5 mlynedd.

30.       Adfer yn unol â chynllun ôl-ofal a monitro 5 mlynedd.

31.       Rhwygo’r tir i osgoi cywasgu.

32.       Gwasgaru priddoedd yn y drefn gywir wrth adfer y safle.

33.       Cynnal dadansoddiad cemegol o briddoedd wrth adfer y safle.

34.       Dim da byw i gael eu cadw nes bydd y tir mewn cyflwr derbyniol.

35.       Adolygiad blynyddol o weithrediadau ac ôl-ofal.

36.       Cynllun adfer diwygiedig i’w gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol os rhoddir y gorau i gloddio am fwynau cyn pryd am gyfnod o 12 mis.

37.       Mesurau lliniaru ar gyfer moch daear, adar nythu, ymlusgiaid.

38.       Cyfyngiad ar dynnu llystyfiant yn ystod tymor nythu adar.

39.       Mesurau osgoi rhesymol i ddiogelu ymlusgiaid wrth ddymchwel waliau a therfynau caeau.

40.       Mesurau i atal llygredd.

41.       Casglu a gwaredu dŵr i gyfyngu ar yr hyn sy’n cael ei ryddhau i’r amgylchedd dŵr.

42.       Cydymffurfio â chynllun rheoli dŵr wyneb.

43.       Amod i alw’r safle wrth ei enw Cymraeg

 

Cofnod:

Cais ar gyfer estyniad i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd

 

Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau mai cais ydoedd ar gyfer ymestyn man cloddio pwll tywod a graean gweithredol Cae Efa Lwyd. Disgwyli’r i’r gwaith ryddhau 793,000 tunnell o dywod a graen yn ychwanegol i’r 298,000 tunnell sydd wedi ei rhyddhau eisoes. Nid yw’r cais yn ymgeisio ar gyfer caniatâd prosesu ar y safle - bydd y trefniant o gludo’r mwyn i Chwarel Graianog yn parhau.

 

Amlygwyd bod Datganiad Amgylcheddol wedi ei gyflwyno gyda’r cais gan fod graddfa’r cais yn golygu ei fod yn destun Asesiad Effaith Amgylcheddol yn unol â’r rheoliadau.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod safle’r estyniad arfaethedig wedi ei adnabod fel ardal a ffafrir ar gyfer cyflenwi'r angen am dywod a graen o fewn polisi MWYN 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sef polisi sy’n hwyluso darpariaeth ychwanegol o fwyn, tywod a graen i gwrdd ar angen a nodwyd yn Datganiad Technegol Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cymeradwywyd y Datganiad gan Cyngor Gwynedd. Bydd y bwriad yn darparu mwyn ychwanegol ac yn lleihau’r diffyg (o leiaf 2.6 miliwn tunnell o dywod a graen) yn y banc tir yn unol â gofyniad polisïau MWYN 2, MWYN 3 a Pholisi Strategol PS 22.

 

Wrth drafod mwynderau gweledol a thirwedd adroddwyd nad oedd y safle yn eistedd o fewn

unrhyw ddynodiadau tirwedd a’i fod wedi ei leoli o fewn ardal o dir amaethyddol caeedig i’r gorllewin o Penygroes. Cyflwynwyd Asesiad Tirwedd ac Effaith Weledol sy’n gwirio effaith y datblygiad ar asedau’r tirwedd o amgylch y safle. Ystyriwyd mai’r prif effeithiau fydd, gostyngiad graddol yn lefel y tir wrth gloddio’r mwyn, gweithgareddau symudol y chwarel, y bwnd sgrinio ar hyd terfyn y safle a lefel y llawr yn is na’r lefelau tir gwreiddiol yn dilyn y gwaith adfer – bydd yr effeithiau hyn yn fwy niweidiol / amlwg yn ystod y cyfnod gweithredol ac mewn ardaloedd sydd union gyferbyn a’r safle.

 

Codwyd pryderon gan Uned Polisi Pridd a Chynllunio Defnydd Tir Amaeth Llywodraeth Cymru am allu cynllun adfer y safle i ddarparu tir amaethyddol o’r safon gorau drwy’r safle i gyd oherwydd y topograffi a hydroddaeareg. Mewn ymateb, eglurwyd bod paragraff 3.59 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan dylid ond datblygu ar dir amaethyddol gorau os yw’r angen yn drech na dim arall ar gyfer y datblygiad - yr angen am y datblygiad yma i gwrdd â’r galw am fwyn wedi ei gefnogi gan bolisïau lleol a chenedlaethol. Ategwyd bod yr Uned Polisi Pridd a Chynllunio Defnydd Tir Amaeth wedi cynnig rhagor o amodau i sicrhau adfer ac ôl-ofal amaeth wedi i’r defnydd ddod i ben ac y bydd unrhyw effeithiau gweledol y bwriad yn rhai dros dro. 

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod canllaw polisi cenedlaethol MTAN 1 yn argymell pellter o 100m rhwng datblygiad gweithio tywod a graean a thai preswyl. Adnabuwyd fod y gwaith presennol ar y safle a gytunwyd drwy Adolygiad o Hen Ganiatâd Mwynau yn 2017 wedi ei leoli o fewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C22/0952/17/LL Tir yn Coleg Glynllfion, Llandwrog, LL54 5DU pdf eicon PDF 371 KB

Dymchwel y siediau presennol a chodi dwy sied da byw ynghyd a chyfleusterau atodol a pharlwr godro, clawdd tirweddu a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: -

 

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r dogfennau a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.

3.         Cyflwyno manylion edrychiadau allanol.

4.         Cydymffurfio gyda Rhan 5 (Dehongli a Chyngor) o’r ddogfen Asesiad Effaith Ecolegol ynghyd ag Asesiad Rheoliadau Rhywogaethau Cysgodol a sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth.

5.         Cwblhau’r cynllun tirlunio o fewn cyfnod penodol.

6.         Cydymffurfio gyda chynnwys yr Asesiadau Coedyddiaeth.

7.         Amodau safonol Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd parthed cyflwyno manylion rhaglen waith cofnodi archeolegol yn gyntaf ac, yn dilyn hyn, cyflwyno adroddiad manwl o’r gwaith archeolegol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol ar y safle. 

 

Cofnod:

Dymchwel y siediau presennol a chodi dwy sied da byw ynghyd a chyfleusterau atodol a pharlwr godro, clawdd tirweddu a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu cynllun lleoliad diwygiedig yn dangos terfyn safle’r cais wedi ymestyn i gynnwys tir ar gyfer mesurau lliniaru Bioamrywiaeth.

 

a)      Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel siediau amaethyddol is-safonol presennol a’u disodli gyda dwy sied da byw (defaid) ynghyd a chyfleusterau atodol, parlwr godro, clawdd tirweddu a gwaith cysylltiedig ar un o lecynnau wyneb caled daliad amaethyddol Coleg Glynllifon. Ategodd bod sawl elfen i’r bwriad:

·         Dymchwel yr adeiladwaith is-safonol presennol sy’n cynnwys dwy sied amaethyddol.

·         Codi adeilad ar gyfer parlwr godro defaid ac ardal ar gyfer cadw 300 o ddefaid.

·         Codi adeilad ar gyfer wyna

·         Codi seilo porthiant newydd

·         Creu llecyn parcio lorïau newydd

·         Creu ardal gwasanaethu a throi newydd

·         Darparu corlan ymdrin â defaid.

·         Darparu llecynnau parcio ceir.

·         Creu clawdd/bwnd 1m o uchder ynghyd a phlannu gwrych cynhenid

·         Torri rhai coed ynghyd â chynnig gwelliannau Bioamrywiaeth.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, eglurwyd bod Polisi PCYFF 1 o’r CDLl yn datgan y byddai cynigion (tu allan i ffiniau datblygu) yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â pholisïau penodol y CDLl neu bolisïau Cynllunio cenedlaethol, neu fod y cynnig yn dangos bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Nodwyd bod y cais yma yn ymwneud a gwella cyfleusterau ffermio defaid presennol o fewn Coleg Glynllifon ac felly ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol.

 

Adroddwyd y byddai’r prosiect yn ceisio datblygu model i hybu gwybodaeth o fewn y sector amaethyddol i ddangos manteision hybu marchnad llaeth defaid cynaliadwy yng Nghymru. Byddai’r bwriad yn cynnig incwm ychwanegol posib i fentrau amaethyddol gyda’r Coleg yn chwarae rhan bwysig yn datblygu’r sector laeth drwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r cyfleoedd masnachol. Cyflwynwyd y cais cyfredol er mwyn ehangu a diwallu anghenion y Coleg Amaethyddol i bwrpas addysg a’i gyfraniad pwysig i’r economi leol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y siediau newydd yn disodli adeiladau is-safonol ac er ychydig yn fwy o ran maint, bydd edrychiadau allanol y siediau newydd o ddeunyddiau traddodiadol sy’n gweddu’r math yma o adeiladau amaethyddol o fewn cefn gwlad. Ategwyd bod y safle yn eistedd oddi fewn tirwedd donnog, heb unrhyw ddynodiant amgylcheddol. O ystyried yr amrywiaeth o lystyfiant, ymgymryd â chynllun tirweddu ynghyd a gwneuthuriad ac edrychiadau’r adeiladwaith, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael ardrawiad sylweddol arwyddocaol o fewn y tirlun lleol. O ran mwynderau cyffredinol a phreswyl, gyda’r bwriad cyfredol yn disodli adeiladwaith amaethyddol presennol ar y safle, ni ystyriwyd y byddai’r cais yn tanseilio mwynderau preswyl na chyffredinol deiliaid lleol.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, saif y safle gyfochrog a nifer o adeiladau/strwythurau rhestredig gradd II* Fort  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C22/0953/17/LL Tir i'r Gogledd o Fuarth Fferm Presennol Coleg Glynllifon, Llandwrog, LL54 5DU pdf eicon PDF 370 KB

Dymchwel adeilad fferm laeth a sied gwartheg, symud dau danc slyri presennol, codi sied da byw newydd a pharlwr godro, adeiladu clamp silwair a storfa dail sych, ffordd fynedfa fewnol ynghyd a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod: -

1.         5 mlynedd.

2.         Yn unol â’r dogfennau a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais.

3.         Cyflwyno manylion edrychiadau allanol.

4.         Cyflwyno manylion asbestos cyn dymchwel

5.         Cydymffurfio gyda Rhan 5 (Dehongli a Chyngor) o’r ddogfen Asesiad Effaith Ecolegol ynghyd ag Asesiad Rheoliadau Rhywogaethau Cysgodol a sylwadau’r uned Bioamrywiaeth.

6.         Cwblhau’r cynllun tirlunio o fewn cyfnod penodol.

7.         Cydymffurfio gyda chynnwys yr Asesiadau Coedyddiaeth.

8.         Amodau safonol Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd parthed cyflwyno manylion rhaglen waith cofnodi archeolegol yn gyntaf ac, yn dilyn hyn, cyflwyno adroddiad manwl o’r gwaith archeolegol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol ar y safle.

 

Cofnod:

Dymchwel adeilad fferm laeth a sied gwartheg, symud dau danc slyri presennol, codi sied da byw newydd a pharlwr godro, adeiladu clamp silwair a storfa dail sych, ffordd fynedfa fewnol ynghyd a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu cynllun lleoliad diwygiedig yn dangos bod terfyn safle’r cais wedi ymestyn i gynnwys tir ar gyfer mesurau lliniaru Bioamrywiaeth.

 

a)      Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod nifer o elfennau i’r cais:

·         Dymchwel yr adeiladwaith is-safonol presennol sy’n cynnwys y parlwr godro, sied da byw, a dau dwr slyri.

·         Codi adeilad ar gyfer parlwr godro gwartheg sy’n cylchdroi

·         Codi adeilad da byw ar gyfer cadw 224 o wartheg godro

·         Codi storfa tail sych dan do yn gyfochrog i’r ardal storfa bresennol.

·         Codi seilo porthiant newydd.

·         Gosod tanc dal dŵr newydd i ddal dŵr o’r parlwr godro a’r gwastraff dŵr oddi wrth y pentyrrau o silwair

·         Creu buarth o lain caled

·         Creu dau bwll dŵr aflan.

·         Creu rhwydwaith ffordd fewnol

·         Creu clawdd/bwnd 1m o uchder a phlannu gwrych cynhenid arno

·         Ynghyd â Gwelliannau bioamrywiaeth

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, adroddwyd bod yr egwyddor o godi strwythurau amaethyddol yng nghefn gwlad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth gyda materion cynllunio eraill.

 

Ategwyd byddai’r prosiect arloesol yma yn hyrwyddo effeithiolrwydd, cynaliadwyedd a safonau rhagorol o ran lles anifeiliaid, gan ddangos arferion da o ran rheoli dŵr a gwastraff (sy’n cynnwys slyri fferm), yn gynaliadwy o fewn y diwydiant llaeth yng Nghymru. Cyflwynwyd y cais er mwyn ehangu a diwallu anghenion y Coleg Amaethyddol i bwrpas addysg a’i gyfraniad pwysig i’r economi leol. Ystyriwyd bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol a bod y bwriad yn cydymffurfio gydag amcanion a nodau polisïau cenedlaethol Nodyn Cyngor technegol 6 a gofynion Polisi ISA 3 o’r CDLl.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd y bydd edrychiadau allanol y siediau newydd o ddeunyddiau traddodiadol ar gyfer y math yma o adeiladwaith ac o ystyried gosodiad yr adeiladwaith o fewn ac yn gyfochrog ag adeiladau fferm bresennol ac o ymgymryd â chynllun tirweddu ar hyd ffin orllewinol y safle ni chredir byddai’r bwriad yn cael ardrawiad sylweddol arwyddocaol o fewn y tirlun lleol a chredir bod y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisïau o’r CDLl. O ystyried bod y bwriad yn disodli adeiladwaith amaethyddol presennol, a’r ffaith mai gweithwyr y fferm sy’n byw gerllaw'r fferm odro, ni ystyriwyd y byddai’r cais yn tanseilio mwynderau preswyl na chyffredinol deiliaid lleol.

 

Yng nghyd-destun materion bioamrywiaeth, eglurwyd bod y safle wedi amgylchynu gan Ardal Cadwraeth Arbennig Glynllifon (ACA), Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glynllifon (SoDDGA) a Safle Bywyd Gwyllt Afon Llifon (SBG) sydd oddeutu 400m i’r de-orllewin o’r safle. Cyflwynwyd nifer o adroddiadau ac asesiadau ecolegol fel rhan o’r cais.

 

Yn unol â gofynion y Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau, 2017, mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) ac Asesiad Priodol. Wedi cwblhau’r asesiad, nododd yr Uned Bioamrywiaeth na fyddai’r bwriad yn effeithio’n andwyol ar gyfanrwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C23/0917/14/DT 7, Rhes Marine Porth Waterloo, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LP pdf eicon PDF 195 KB

Adnewyddu'r tŷ presennol yn llawn, modurdy newydd arfaethedig, trefninant ffotofoltäig arfaethedig, tirweddu a mesurau lliniaru llifogydd yn ogystal â dymchwel adeilad allanol presennol.  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.         5 Mlynedd i ddechrau gwaith.

2.         Unol a chynlluniau.

3.         Llechi i gydweddu

4.         Gosod gwydr afloyw ar hyd ochr y balconi sydd yn ffinio gyda rhif 6 Rhes Marine

5.         Unol a’r adroddiad ecolegol

6.         Amod Dwr Cymru

 

Nodyn Gwybodaeth: Dwr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Bioamrywiaeth

 

Cofnod:

Adnewyddu'r tŷ presennol yn llawn, modurdy newydd arfaethedig, trefniant ffotofoltäig arfaethedig, tirweddu a mesurau lliniaru llifogydd yn ogystal â dymchwel adeilad allanol presennol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi a) nad yw’r bwriad arfaethedig yn cyrraedd y trothwyon ar gyfer cyflwyno Datganiad Iaith Gymraeg neu Asesiad Effaith Iaith Gymraeg; b) bod bwriad gosod amod cynllunio i sicrhau fod y modurdy bwriedig yn cael ei ddefnyddio yn atodol i'r prif eiddo yn unig.

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, mai cais ydoedd ar gyfer newidiadau ac addasiadau i eiddo drwy ymestyn bondo rhan o’r to presennol, ymestyn balconi presennol ar gefn yr eiddo, ychwanegu gorffeniad llechi ar ffurf patrwm diemwnt ar ochr yr eiddo a darparu dau borts agored; dymchwel adeilad allanol presennol a chodi modurdy dwbl, gosod trefniant o 4 rhes o baneli solar, gwaith tirlunio a gosod giatiau llifogydd ar ffin yr eiddo gyda glannau’r Fenai. Ategwyd bod y safle wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu’r dref ac o fewn ffin parth llifogydd C2/Parth 2 a 3 o’r mapiau llifogydd.

 

Nodwyd bod y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio oherwydd cysylltiad teuluol aelod o staff.

 

Ystyriwyd bod y newidiadau a’r addasiadau i’r eiddo yn lleiafrifol, ac yn addas o ran eu maint, dyluniad a gosodiad. Ategwyd byddai’r bwriad o ymestyn y balconi presennol ar gefn yr eiddo yn ei wneud yn agosach i’r eiddo drws nesaf. Er bod tai eraill yn y teras gyda balconïau yn cynnig elfen o oredrych i mewn i erddi cefn y tai, ystyriwyd priodoldeb gosod amod i sicrhau fod sgrin preifatrwydd yn cael ei osod ar ochr y balconi sy’n wynebu’r eiddo drws nesaf er mwyn lleddfu effaith uniongyrchol yr estyniad i’r balconi.

 

Nodwyd bod y bwriad yn golygu newid modurdy presennol sydd ynghlwm i’r eiddo i gegin ac ystafell fwyta, ond nad oedd bwriad cynyddu’r nifer o ystafelloedd gwely. Ategwyd bod bwriad dymchwel adeilad allanol presennol a chodi modurdy dwbl ar safle ger y fynedfa i’r eiddo -  y modurdy o ddyluniad arferol ar gyfer modurdy a’r bwriad yn dderbyniol.

 

O ran y gwaith tirlunio, y llwybrau troed a ffordd gerbydol a’r mesurau atal llifogydd, ystyriwyd fod yr elfennau hyn yn dderbyniol. Nid oedd gan CNC nac yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad, ac roedd yr Uned Bioamrywiaeth yn fodlon gyda’r adroddiad ecolegol a ddarparwyd ynghyd a’r gwelliannau bioamrywiaeth a gynigiwyd ar ffurf blychau adar ac ystlumod. Derbyniwyd cadarnhad hefyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith ar yr Ardal Gadwraeth Arbennig cyfagos.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gynnwys amod i sicrhau defnydd atodol i’r modurdy bwriedig. Ni fyddai’n cael effaith weledol sylweddol ar y dirwedd, mwynderau trigolion cyfagos, diogelwch ffyrdd, bioamrywiaeth na’r Iaith Gymraeg. Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell caniatáu’r cais.

 

b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·      Bod y cais gerbron oherwydd cysylltiad teuluol aelod o staff

·      Ambell i addasiad a newidiadau sydd yma

·      Wedi cyflwyno dau lun ychwanegol o safle’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C23/03/TP Parc y Coleg, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd, LL57 2TQ pdf eicon PDF 208 KB

Coedlan gymysg gyda choed aeddfed  

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd R Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Huw Wyn Jones

 

Dim linc i’r cais yma 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cadarnhau’r gorchymyn gyda newidiadau.

 

Cofnod:

Coedlan gymysg gyda choed aeddfed

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd y Rheolwr Cynllunio, yn wahanol i’r ceisiadau arferol, nad oedd yn un am ganiatâd gynllunio. Eglurwyd, bod angen i’r Aelodau ystyried a ddylid cadarnhau Gorchymyn Diogelu Coed ar dir ym Mharc Y Coleg, Ffordd Deiniol, Bangor. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor yn dilyn derbyn gwrthwynebiadau i’r bwriad. Tynnwyd sylw  bod diwygiad i’r geiriad yn fersiwn Saesneg o’r gorchymyn - bod coeden T1 yn ‘Yew’ (Ywen) a choeden T2 yn ‘Lime’ (Pisgwydden).

 

Rhoddwyd Gorchymyn Diogelu Coed Dros Dro ar ddwy goeden unigol, pum grŵp o goed ac un coedir yn y lleoliad.  Cwblhawyd asesiad o’r coed drwy ddefnyddio system TEMPO  (Tree Evaluation Method for Preservation Orders ) ac fe sgoriodd y coed 23 pwynt - mae’r system yn nodi bod unrhyw goeden neu goed sydd yn sgorio 16 pwynt neu fwy yn haeddu cael eu diogelu. Adroddwyd, er bod y safle o fewn ardal cadwraeth, gydag elfen o ddiogelwch eisoes i'r coed, penderfynwyd cyhoeddi gorchymyn diogelu coed dros dro yn yr achos yma gan fod y coed â'r coetir o werth mwynderol uchel ac yn weladwy iawn o fewn y drefwedd ac yn ffurfio nodwedd bwysig o fewn canol y dref. Ategwyd bod yr ardal hefyd yn teilyngu gwarchodaeth benodol gan fod bygythiad uniongyrchol i’r coed oherwydd gwaith datblygu sydd yn bwriadu cael ei wneud o fewn ardal y parc ynghyd a gwaith sydd eisoes wedi ei wneud i goed o fewn y safle heb dderbyn caniatâd angenrheidiol ymlaen llaw.

 

Amlygwyd, ers paratoi’r adroddiad bod cais cynllunio (sydd yn cynnwys gwaith gwelliannau i Barc y Coleg - llwybrau troed newydd, dodrefn stryd, goleuadau a thirlunio cysylltiedig sydd wedi ei leoli yn rhannol o fewn ardal y Gorchymyn Diogelu Coed Dros Dro) wedi ei ganiatáu. Wrth ystyried y cais cynllunio hwnnw, roedd yr effaith ar y coed wedi cael ei asesu yn llawn, ac roedd y gwaith arfaethedig yn dderbyniol, er hynny, nid yw’r caniatâd cynllunio yn newid y sefyllfa o safbwynt y gorchymyn coed ac fe ystyriwyd bod yr angen am warchodaeth i weddill y coed trwy gadarnhau'r gorchymyn yn angenrheidiol. Eglurwyd bod y penderfyniad ar y cais cynllunio yn dangos nad yw gosod gorchymyn ar goeden neu goed yn atal y gallu i ymgymryd ag unrhyw waith i'r coed hynny. Yn hytrach, mae gosod gorchymyn yn ffordd effeithiol o sicrhau nad oes gwaith dinistrio neu waith diangen yn cael ei wneud yn uniongyrchol, neu yn agos at, goed sydd yn gwneud cyfraniad pwysig i'w hamgylchedd lleol.

 

Cyflwynwyd pedwar dewis i’r pwyllgor eu hystyried

 

1. Cadarnhau'r gorchymyn fel y mae, heb newidiadau

2. Cadarnhau gyda newidiadau

3. Peidio cadarnhau

4. Cynnal ymchwiliad cyhoeddus.

 

b)     Cynigiwyd ac eiliwyd cadarnhau’r gorchymyn heb newidiadau.

 

Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol;

·         Trueni nad oedd y Brifysgol, wedi gwneud cais am warchodfa cyn cynnig gwelliannau i’r Parc - nid ydynt  yn gwrando ar sylwadau pobl leol

·         Yn cefnogi’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C21/0861/23/LL Gwesty Seiont Manor, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2AQ pdf eicon PDF 459 KB

Cais am ailfodelu ac ymestyn y gwesty a'r sba presennol ynghyd â lleoli 39 o cabanau gwyliau, darparu parth canolfan weithgareddau awyr agored, derbynfa ac uned blanhigion biomas ynghyd a ffordd trafnidiaeth adeiladu dros dro,  parcio a thirlunio. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Brown

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod. Y cais yn  groes i polisi TWR 2 a TWR 3 ar sail gormodedd a graddfa; gormodedd a sgil effaith hynny ar yr ardal wledig, nifer y cabanau a graddfa estyniadau i’r gwesty

 

Cofnod:

Cais am ailfodelu ac ymestyn y gwesty a'r sba presennol ynghyd â lleoli 39 o gabanau gwyliau, darparu parth canolfan weithgareddau awyr agored, derbynfa ac uned blanhigion biomas ynghyd a ffordd trafnidiaeth adeiladu dros dro,  parcio a thirlunio.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn amlygu nad oedd y cynllun bellach yn cynnwys codi adeilad ar gyfer llety staff

 

Bu i rai o’r Aelodau ymweld â’r safle 26/02/24 i ymgyfarwyddo â'r safle a'r tirwedd o'i amgylch.

 

a)         Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer ail-ddatblygu safle Llwyn y Brain sef  gwesty segur Seiont Manor. Byddai’r bwriad yn cynnwys,

·         estyniadau ac ail-fodelu'r gwesty presennol i gynnwys bar a bwyty gyda theras, darparu 61 o lofftydd ychwanegol, ar ben y 33 llofft presennol a darparu cyfleusterau sba.

·         gosod 39 o gabannau gwyliau ar dir i ogledd orllewin y gwesty; y cynllun wedi ei leihau ers y cyflwyniad gwreiddiol i ddiddymu rhai unedau oherwydd effaith gweledol ar y dirwedd ehangach. Cynlluniau i godi adeilad ar gyfer llety staff hefyd wedi ei ddiddymu gan nad oedd cyfiawnhad am ddatblygiad o’r fath yng nghefn gwlad.

·         2 man pasio ar hyd y rhodfa sy’n gwasanaethu’r gwesty’n bresennol. Darparu 43 llecyn parcio ychwanegol gyfochrog a’r gwesty. Gwaith tirweddu, creu llecynnau mwynderol, gwaith lliniaru a gwella bioamrywiaeth.

 

Adroddwyd bod nifer fawr o adroddiadau technegol wedi eu cyflwyno gyda’r cais gyda nifer o ddogfennau a sylwadau yn adlewyrchu parodrwydd yr ymgeisydd i gydweithio gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol i sicrhau na fydd effeithiau niweidiol yn deillio o’r datblygiad a bod modd ei rheoli.

 

Wrth ystyried egwyddor y datblygiad, eglurwyd bod defnydd cyfreithiol y safle yn nhermau cynllunio yn westy gyda Polisi PS 14 a TWR 2 yn gefnogol i gynigion sy’n golygu ymestyn atyniadau ymwelwyr ynghyd a gwella a gwarchod y ddarpariaeth ar gyfer llety gwasanaethol ac yr un hunan-wasanaethol presennol. Nodwyd hefyd bod unedau gwyliau yn ddatblygiad y gellid ei gefnogi yng nghefn gwlad o dan Bolisi TWR 3 ac felly gellid dod i'r casgliad fod yr egwyddor yn dderbyniol.

 

Yng nghyd-destun ymestyn y gwesty presennol, nodwyd bod adeiladwaith y gwesty presennol yn gymysg o adeiladwaith un llawr a deulawr ac er derbyn bod yr addasiadau yn fodern ac yn fawr, ystyriwyd bod ansawdd i’r datblygiad.

 

I gefnogi’r cais cyflwynwyd Asesiad Gweledol a Thirwedd oedd yn nodi bod y gwesty wedi ei leoli o fewn tirwedd donnog ei natur sy’n rhedeg ar raddiant i lawr tua’r afon yn nalgylch y safle, sydd yn ogystal wedi ei amgylchynu gan gloddiau, llwyni a choed/coedlannau. Er yn anorfod byddai’r datblygiad yn cael elfen o adardai ar y tirlun lleol, ni ystyriwyd y byddai’n adrawiad sylweddol ac arwyddocaol o ystyried dyluniad, natur a graddfa’r estyniadau a’r newidiadau i’r gwesty presennol; bod rhan o’r gwesty yn gefnlen i’r estyniadau newydd ynghyd a’r ffaith byddai’r gwaith yn cael ei leoli o fewn safle sydd eisoes yn cynnwys adeiladwaith sefydledig.

 

I sicrhau bydd y safle yn cael ei ddatblygu’n drefnus yn hytrach nag yn dameidiog, awgrymwyd  cynnwys amod fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C23/0981/39/AM Garej Mynytho, Mynytho, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7RH pdf eicon PDF 324 KB

Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i ddymchwel tŷ annedd presennol a modurdy masnachol ynghyd ag adeiladau cysylltiol ac ail ddatblygu'r tir llwyd er mwyn creu gwesty newydd, tafarn gymunedol a safle parcio i'w rannu gyda neuadd y pentref (ail gyflwyniad o gais C23/0089/39/AM a dynnwyd yn ôl)  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Y cais wedi ei dynnu yn ôl (21-02-24)

 

Cofnod:

          Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i ddymchwel annedd presennol  modurdy masnachol ynghyd ag adeiladau cysylltiol ac ail ddatblygu'r tir llwyd er mwyn creu gwesty newydd, tafarn gymunedol a safle parcio i'w rannu gyda neuadd y pentref (ail gyflwyniad o gais C23/0089/39/AM a dynnwyd yn ôl)

 

Cais wedi ei dynnu yn ôl