skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr  Eirwyn Williams a Gruffydd Williams ynghyd ac Aelodau Lleol y Cynghorwyr Rheinallt Puw a Glyn Daniels

 

Estynnwyd cydymdeimlad dwys at y Cynghorydd Anne Lloyd Jones oedd wedi colli ei mam yn ddiweddar

 

Anfonwyd dymuniadau gorau at wellhad buan i’r Cynghorydd Eirwyn Williams oedd wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar

 

Llongyfarchwyd y Cyfreithiwr Rhun ap Gareth ar ei benodiad yn Bennaeth Cyfreithiol yng Nghyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy. Diolchwyd iddo am ei gyngor a’i gefnogaeth i’r Pwyllgor Cynllunio a dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Eric M Jones yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0811/14/LL) oherwydd ei fab oedd yn berchen yr eiddo

 

Y Cynghorydd Berwyn P Jones yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0538/03/LL) oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

Y Cynghorydd Ioan Thomas ( nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0811/14/LL)

 

Y Cynghorydd Menna Baines (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0804/25/LL)

 

c)    Amlygodd y Cyfreithiwr bod yr Aelodau wedi derbyn e-bost gan unigolyn yn ymwneud a chais 5.3. Roedd yr ebost yn rhannu gwybodaeth sensitif am gefndir y cais. Awgrymwyd i’r Aelodau fod yn ofalus i beidio cyfeirio at y wybodaeth yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 360 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7fed o Ragfyr 2020 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 7fed o Ragfyr 2020 fel rhai cywir yn ddarostyngedig bod disgrifiad cais 5.3 Tir Gyferbyn Maes Bleddyn, Bethesda yn nodi  Darparu  30 o unedau preswyl fforddiadwy’ ac nidcodi 30 yn cynnwys 15 fforddiadwy’.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

6.

Cais Rhif C20/0811/14/LL - Llanw, 6 Lôn Sydney, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1ET pdf eicon PDF 289 KB

Cais i ymestyn balconi presennol ar flaen yr eiddo

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu y cais

 

Amodau:

 

1.            Unol a’r cynlluniau

 

Nodyn Dwr Cymru

 

Cofnod:

        

Cais i ymestyn balconi presennol ar flaen yr eiddo

 

a)    Eglurodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ymestyn y balconi presennol oddeutu 2m o gwmpas edrychiad blaen ac ochr yr eiddo o gwmpas yr ystafell fwyta a’r lolfa bresennol. Nodwyd y byddai’r balconi o wneuthuriad ffrâm ddur gyda phaneli gwydr a llawr o fordiau pren. Ategwyd bod yr eiddo yn unllawr ac wedi ei leoli ar lethr ar gyffordd o fewn ardal breswyl o fewn Tref Caernarfon. Mae ffordd gyhoeddus yn amgylchynu 3 ochr yr eiddo.

 

Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn gweddu i’r safle ac i’r annedd o ran maint a dyluniad ac felly yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a PS5. Ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith sylweddol fwy ar unrhyw eiddo cyfagos na chael effaith andwyol sylweddol fwy ar fwynderau’r ardal. Y bwriad felly yn cydymffurfio a gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Mai cais ydoedd i ymestyn balconi ac mai’r prif ystyriaethau fyddai i eraill golli preifatrwydd o ganlyniad i or-edrychmynegwyd na fyddai gor-edrych ar eiddo cyfagos o’r eiddo yma

·         Bod golygfa dros y Fenai o’r eiddo ac felly priodol fyddai manteisio ar hynny

·         Yn gefnogol i’r argymhelliad

·         Bod angen eglurder ar y nodyn Dwr Cymru

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nodyn Dwr Cymru, nodwyd mainodynoedd yma ac nidamod’ ac mai nodyn cyffredinol ydoedd i godi ymwybyddiaeth yr ymgeisydd

 

ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

          PENDERFYNWYD Caniatáu y cais

 

 Amodau:

 

1.         Unol a’r cynlluniau

 

                         Nodyn Dwr Cymru

 

 

7.

Cais Rhif C20/0018/13/LL - Tir ger Llain Y Pebyll, Bethesda, LL57 3NQ pdf eicon PDF 457 KB

Codi 7 annedd breswyl ar gyfer yr henoed ynghyd a llecynnau parcio a man troi

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rheinallt Puw

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau isod:-

 

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r cynlluniau.

3.            Llechi naturiol i’r toeau.

4.            Cytuno gydag edrychiadau allanol y tai gan gynnwys y paneli solar.

5.            Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir o’r anheddau preswyl.

6.            Amodau Priffyrdd yn ymwneud a darparu llecynnau parcio, ffordd y stad a llwybrau troed cysylltiedig.

7.            Cyflwyno rhaglen o waith archeolegol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle.

8.            Rhaid cyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag amod 7 i'w gytuno yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol.

9.            Amodau’r Uned Bioamrywiaeth yn ymwneud  a dim llystyfiant, coed na llwyni i’w clirio yn ystod y tymor nythu (1 Mawrth i 31 Awst); cyn i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno cynllun i’w gymeradwyo gan yr ACLL i sicrhau na fydd ymlusgiaid yn cael eu niweidio yn ystod y gwaith adeiladu a bydd rhaid i’r cynllun hwn gael ei weithredu i lwyr foddhad yr ACLL; cyn i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno Cynllun gwelliannau a Lliniaru Bioamrywiaeth i’w gytuno gyda’r ACLL a cyn i unrhyw waith ddechrau ar y safle rhaid cyflwyno Cynllun Difa Planhigion Ymledol Di-Cynhenid i’w gytuno gyda’r ACLL.

10.          Amod cydymffurfio gyda mesurau lliniaru o fewn y ddogfen Adroddiad Gwerthuso Ecolegol Rhagarweiniol.

11.          Amod cydymffurfio ac argymhellion a mesurau lliniaru sydd wedi eu cynnwys yn yr   Adroddiad Coed.

12.          Amod Uned Gwarchod y Cyhoedd parthed ymgymryd ag archwiliad halogiad safle.

13.          Amodau Llywodraeth Cymru parthed lleiniau gwelededd, draenio ac ail-wynebu’r pafin ger y safle.

14.          Sicrhau/cytuno  gyda chynllun tai fforddiadwy

15.          bod yr unedau yn fforddiadwy ar gyfer trigolion 55+ mewn oed

 

 

Nodiadau

 

  1. NODYN: Cyfarwyddir yr ymgeisydd i arwyddo Cytundeb o dan Adran 38, Deddf Priffyrdd, 1980 gyda'r Cyngor os yw'n bwriadu i'r estyniad i ffordd Llain y Pebyll gael ei fabwysiadu.

 

  1. NODYN:  Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Dwr Cymru ddyddiedig 11.02.20 a'r angen i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir ynddo.

 

  1.  NODYN: Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Wales and West Utilities dyddiedig 14.02.20 a'r angen i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir ynddo.

 

  1. NODYN: Tynnir sylw’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno system ddŵr cynaliadwy i’w gytuno gydag Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.

 

Cofnod:

Codi 7 annedd breswyl ar gyfer yr henoed ynghyd a llecynnau parcio a man troi

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd  gyda sawl elfen i’r cais:-

·         Darparu 5 byngalo 2 lofft ynghyd a 2 fflat 1 llofft rhent cymdeithasol fforddiadwy ar gyfer yr henoed. 

·         Darparu llecynnau parcio a mynediad newydd oddi ar y gefnffordd i wasanaethu'r byngalos ar lain rhif 3 a 4.

·         Bydd gweddill yr anheddau yn cael eu gwasanaethu oddi ar y fynedfa a'r rhodfa bresennol sy'n gwasanaethu Stad Llain y Pebyll.

·         Darparu llecynnau/gerddi amwynder preifat o fewn y safle.

·         Darparu isadeiledd gan gynnwys storfeydd biniau/ailgylchu ar gyfer pob annedd.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan ond yn gyfochrog gyda ffin datblygu Bethesda fel y'i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017(CDLL). Er bod datblygiadau ar gyfer unedau fforddiadwy ac unedau marchnad agored wedi eu caniatáu’n ddiweddar ym Methesda nid yw'r angen lleol am dai newydd yn benodol i'r henoed wedi ei gwrdd.

 

Eglurwyd bod y cais wedi bod yn destun trafodaethau rhwng Tai Gogledd Cymru ( y datblygwr) ac Uned Strategol Tai’r Cyngor. O ganlyniad penderfynwyd ei gynnwys ar y rhestr cynlluniau wrth gefn yn y Cynllun Rhaglen Trosglwyddo i dderbyn arian grant yn ddarostyngedig ar dderbyn caniatâd cynllunio a phenodi contractwr. O ystyried fod y bwriad yn ymateb i angen cydnabyddedig ac yn darparu cymysgedd briodol o unedau, ystyriwyd fod y bwriad yn gyfle i ddatblygu cynllun o ansawdd gan ddiwallu anghenion cydnabyddedig ac felly, yn unol â gofynion Polisi.

 

Ar sail asesiad mwynderau gweledol ystyriwyd bod y bwriad i ddatblygu stad fechan o dai newydd yn dderbyniol ac y byddai gosodiad, graddfa, dyluniad a deunyddiau'r tai yn dderbyniol o ystyried yr hyn sydd o'i amgylch. Ni ystyriwyd unrhyw bryderon yng nghyd -destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, bioamrywiaeth na materion archeolegol.

 

Ategwyd bod y bwriad yn cynnwys ymestyn y ffordd stad fabwysiedig bresennol i mewn i Stad Llain y Pebyll er mwyn gwasanaethu'r byngalos arfaethedig ar leiniau rhif 5, 6 a 7 yn unig gyda mannau parcio cysylltiedig. Nodwyd y byddai’r byngalo a'r tŷ deulawr ar leiniau 1, 2, 3 a 4 yn cael eu gwasanaethu yn uniongyrchol oddi ar y gefnffordd gyfagos. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth na’r Uned Cefnffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cais ar sail creu mynediad o ffordd stad bresennol Llain y Pebyll nag o’r gefnffordd gyfagos.

 

Yn dilyn derbyn sylwadau cychwynnol yr Uned Iaith cyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg gyda’r cais ac yn seiliedig ar gynnwys y Datganiad roedd yr Uned yn cytuno gyda chynnwys y ddogfen sy’n cadarnhau mai effaith gadarnhaol caiff y datblygiad ar yr Iaith Gymraeg ym Methesda.

 

Ar sail yr asesiad a gwblhawyd ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso'r ystyriaethau polisi. I'r perwyl hwn ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau priodol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C20/0804/25/LL - 8, Llys Castan Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, Gwynedd pdf eicon PDF 468 KB

Newid defnydd uned wag o swyddfa Dosbarth Defnydd B1 i ddeintyddfa Dosbarth Defnydd D1 (ail-gyflwyniad o'r cais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0351/25/LL)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu yn groes i’r argymhelliad

 

Amodau:

 

1.            dechrau’r datblygiad o fewn 5 mlynedd

2.            cario’r datblygiad allan yn unol gyda’r cynlluniau a gyflwynwyd

3.            amod i sicrhau fod defnydd yr adeilad yn mynd yn ol i’w ddefnydd gwreiddiol os daw defnydd y ddeintyddfa i ben yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Newid defnydd uned wag o swyddfa Dosbarth Defnydd B1 i ddeintyddfa Dosbarth Defnydd D1 (ail-gyflwyniad o'r cais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0351/25/LL)

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai ail-gyflwyniad ydoedd o gais a wrthodwyd ym Mehefin, 2020 ar gyfer newid defnydd o swyddfa (Dosbarth Defnydd B1) i ddeintyddfa (Dosbarth Defnydd D1) o fewn uned wag yn Llys Castan, Parc Menai.

 

Wrth ystyried egwyddor y defnydd arfaethedig amlygwyd y dylid sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio a’r holl feini prawf a gynhwysir ym Mholisi ISA 2 (cyfleusterau cymunedol) o’r CDLL. I bwrpas y polisi, cadarnhawyd fod cyfleusterau cymunedol yn cynnwys ‘cyfleusterau a ddefnyddir gan gymunedau lleol at ddibenion iechyd… ac unrhyw gyfleuster arall sy’n cyflawni’r rôl o wasanaethu’r gymuned’.

 

Adroddwyd bod Polisi PS13 a Pholisi CYF1 o'r CDLL yn nodi y gwarchodir y safle a’r uned ar gyfer defnydd cyflogaeth yn Nefnydd Dosbarth B1. Yn unol â Pholisi CYF5 (defnyddiau amgen o Safleoedd Cyflogaeth bresennol) adroddwyd mai mewn achosion arbennig yn unig y caniateir cynigion i ryddhau tir yn Nosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 ar safleoedd cyflogaeth bresennol sydd wedi eu gwarchod yn unol â Pholisi CYF1 ar gyfer defnydd amgen a dim ond ble gellid cwrdd gydag un neu fwy o feini prawf y polisi:

 

·           “Yn yr achos fod y safle yn wag ei fod yn annhebygol o gael ei ddefnyddio yn y tymor byr a chanolig ar gyfer defnydd gwreiddiol neu ddefnydd y warchodaeth, neu;

·           Mae yna orddarpariaeth o safleoedd cyflogaeth o fewn y cyffiniau, neu;

·           Mae’r defnydd cyflogaeth bresennol yn cael effaith niweidiol ar fwynderau a’r amgylchedd, neu;

·           Ni fyddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar ddefnydd cyflogaeth safleoedd cyfagos, neu;

·           Nid oes yna safle amgen arall ar gyfer y defnydd bwriedir, neu;

·           Os yw’r safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd tymor byr (dros dro), bod yna fesurau adfer priodol mewn lle sydd i foddhad yr Awdurdod Cynllunio Lleol.”

 

Amlygwyd bod gwybodaeth fanwl a helaeth wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i gefnogi’r cais oedd yn  cynnwys Datganiad Cynllunio, yn ogystal â Datganiad Cynllunio gan yr asiant, Datganiad Prawf Dilyniannol ynghyd a Dogfen Tystiolaeth Hygyrchedd y Safleoedd yn amlygu’r sylwadau isod:

 

·           Mae cymuned Penrhosgarnedd yn agosach i safle’r cais nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor.

·           Mae cymuned Parc Menai yn agosach i safle’r cais nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor.

·           Mae staff/cymuned Ysbyty Gwynedd yn agosach i safle’r cais nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor.

·           Mae gwasanaeth bws rheolaidd gan gwmnïau amrywiol yn gwasanaethu busnesau eraill ym Mharc Menai.

·           Mae rhwydwaith beics presennol ynghyd a llwybrau cyhoeddus yn gwasanaethu Parc Menai.

·           Mae’r safle yn hygyrch yn ddaearyddol i ddefnyddwyr lleol a rhanbarthol sy’n defnyddio’r A55.

·           Nodir bod y rhan helaeth o gleifion y cyfleuster presennol yn defnyddio car (gyda nifer ohonynt yn gleifion oedrannus a fyddai’n anghyfleus neu yn amhosibl defnyddio cludiant cyhoeddus). Ni fyddai’r sefyllfa yma yn newid gyda’r safle newydd hwn ym Mharc Menai. Os rhywbeth, fyddai’n agosach i nifer helaeth o gleifion sy’n defnyddio’r cyfleuster  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C20/0538/03/LL - Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog, LL41 3DW pdf eicon PDF 351 KB

Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu 6 tŷ preswyl newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl  Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai ac i’r amodau canlynol:

 

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r cynlluniau.

3.            Llechi fel deunydd toi

4.            Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr adeiladau i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.            Amodau Priffyrdd ar gyfer parcio/mynedfa.

6.            Tirlunio meddal a chaled.

7.            Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos, 08:00 - 12:00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl yn ystod y Sul a Gwyliau Banc.

8.            Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.

9.            Tynnu hawliau datblygu cyffredinol yr holl unedau.

10.          Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu gan gynnwys gwaith dymchwel a threfniadau gwaith yn ystod adeiladu i’w gytuno gyda’r ACLL.

11.          Sicrhau / cytuno ar gynllun tai fforddiadwy (safonol)

 

Nodyn:

SUDS

Dwr Cymru

Cofnod:

Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu 6 preswyl newydd

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel adeilad gwag presennol a chodi 6 preswyl newydd. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Blaenau Ffestiniog ac yn safle a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel Canolfan Iechyd Amlbwrpas, ond sydd bellach yn wag ers i’r adnodd gael ei ail leoli i’r Ganolfan Iechyd newydd gerllaw. Amlygwyd bod sawl elfen i’r cais:-

 

·         Darparu 4 3 llofft (5 person) ynghyd a 2 2 lofft (4 person)

·         Darparu isadeiledd i gynnwys ardaloedd gwanhad/cadw dŵr o fewn y safle, storfeydd biniau/ail-gylchu a sied ar gyfer pob , 12 llecyn parcio ar gyfer defnyddwyr/preswylwyr y tai newydd, codi ffens bren ar hyd ochrau a chefn y safle.

·         Darparu gerddi unigol i bob i gefn y safle.

·         Bwriedir dymchwel yr adeilad presennol a lleoli'r tai newydd fwy neu lai ar yr un ôl troed, maent i’w gosod fesul 3 pâr gydag edrychiadau allanol i gynnwys to llechi a’r waliau allanol i fod yn gymysgedd o rendr a chladin llechi.

 

Adroddwyd bod y bwriad yn golygu darparu 6 uned breswyl ac yn unol â gofynion Polisi TAI 15 dylai o leiaf 10% o’r unedau fod yn fforddiadwy. Cadarnhawyd bod Adra yn gysylltiedig gyda’r datblygiad a’u bwriad yw gosod y 6 uned ar lefelau rhent tai cymdeithasol. Ategwyd bod Adra yn y broses o wneud cais i’r cynllun gael ei gynnwys ar y rhaglen grant yng Ngwynedd gyda bwriad o brynu’r tai gan y datblygwr ar lefelau ACG am unedau fforddiadwy. Fel byddai’n arferol gyda chais ble nad Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fel Adra yw’r ymgeisydd, ond yn nodi diddordeb i ddatblygu’r safle, ystyriwyd  yn rhesymol i lunio cytundeb 106 er mwyn sicrhau fod y datblygiad yn cael ei drosglwyddo i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gan sicrhau rheolaeth a fforddiadwyedd i’r dyfodol.

 

Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau ar sail mwynderau gweledol, cyffredinol, preswyl na thrafnidiaeth. Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oes unrhyw fater cynllunio perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. Ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gynnwys amodau priodol.

 

a)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr ardal yn addas ar gyfer y bwriad

·         Bod angen lleol am dai

·         Bod dros 100 o dai haf ym Mlaenau Ffestiniog  ac felly croesawu’r cais am dai i bobl leol.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl  Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai ac i’r amodau canlynol:

 

 

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r cynlluniau.

3.            Llechi fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.