Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Williams (Aelod Lleol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Cara Owen (Rheolwr Cynllunio) yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0764/32/LL) gan fod ganddi gysylltiadau personol gyda’r teulu

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

Y Cynghorydd Gareth M Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1174/42/LL)

 

Y Cynghorydd Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0698/35/LL)

 

Y Cynghorydd Dewi Roberts (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0835/39/AC)

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 253 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Ragfyr 2020 a 11eg o Ionawr 2021 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 21ain o Ragfyr 2020 a 11eg Ionawr 2021 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C19/1174/42/LL Eglwys Santes Mair, Lôn yr Eglwys, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd pdf eicon PDF 364 KB

Datblygiad preswyl gan gynnwys 6 annedd, mynedfa a gwaith cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth T Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod y cais

 

Rhesymau:

 

  1. Mae'r ddarpariaeth dai ym Morfa Nefyn eisoes yn sylweddol uwch na'r ddarpariaeth a glustnodwyd gan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac felly ni chredir bod y cynnig yn cwrdd gyda'r anghenion lleol cydnabyddedig am dai. O ganlyniad fe fuasai'r datblygiad yn arwain at orddarpariaeth tai marchnad agored yn y gymuned yn groes i ofynion polisi TAI 4 y CDLl a'r strategaeth aneddleoedd a'i cynhwysir ym Mholisi PS 17.

 

  1. Nid oes rheswm digonol wedi ei gynnwys fel rhan o'r cais pam na ellid darparu uned fforddiadwy ar y safle ac felly mae'r cais yn groes i ofynion Polisi TAI 15 y CDLl.

 

  1. Oherwydd culni'r ffordd fynediad at y safle a'r effaith niweidiol ar lif a hwylustod y drafnidiaeth breifat a gwasanaethol a fydd yn ei defnyddio, mae tebygrwydd bydd y datblygiad yn cael effeithiau niweidiol ar fwynderau trigolion lleol a defnyddwyr Lôn yr Eglwys, gan gynnwys y rheini sy'n mynychu Ysgol Morfa Nefyn, ac felly mae'r bwriad yn groes i ofynion polisi PCYFF 2 y CDLl fel y mae'n ymwneud ag amddiffyn mwynderau defnyddwyr tir cyfagos i safleoedd datblygu. 

 

  1. Ar sail y wybodaeth sydd wedi ei gyflwyno yn y Datganiad Ieithyddol nid yw’r ACLl wedi ei argyhoeddi na fyddai'r datblygiad yn cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg yn groes i ofynion polisi PS1

 

Cofnod:

Datblygiad preswyl gan gynnwys 6 annedd, mynedfa a gwaith cysylltiedig

 

         Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer datblygiad anheddol yn cynnwys 6 tŷ ar wahân, ffordd fynediad a gwaith cysylltiol ar safle cyn Eglwys Gatholig Morfa Nefyn, sydd erbyn hyn wedi ei dymchwel.

 

Amlygwyd bod apêl wedi ei gyflwyno mewn perthynas â'r cais oherwydd diffyg penderfynu’r cais o fewn cyfnod targed 8 wythnos. Ategwyd bod gwybodaeth hwyr wedi ei dderbyn gan yr asiant ynglŷn â llwybr cyhoeddus a datganiad ieithyddol diwygiedig.

 

Eglurwyd bod polisi TAI 4 yn nodi’r angen i unrhyw gynigion tai o fewn pentrefi arfordirol/gwledig fod o raddfa, math a dyluniad sy’n gytbwys a chymeriad yr anheddle. Hyrwyddir lefel gymharol is o ddatblygu i’r Pentrefi hyn er mwyn gwarchod eu cymeriad a chefnogi angen y gymuned am dai neu dai fforddiadwy ar gyfer angen lleol. Wrth gydnabod bod cynnig am gyfraniad ariannol wedi ei wneud tuag at y ddarpariaeth o dai fforddiadwy’n lleol, byddai’r datblygiad yn cynnwys chwe tŷ marchnad agored sylweddol eu maint a fydd yn ychwanegu at yr orddarpariaeth o dai sydd wedi bod yn yr anheddle ers mabwysiadu’r CDLl.

 

Yng nghyd-destun  tai fforddiadwy, gan  y cynigiwyd dau neu ragor o unedau fel rhan o’r datblygiad arfaethedig, nodai Polisi TAI 15 fod disgwyl i o leiaf 10% o’r unedau fod yn fforddiadwy. Nodi’r hefyd yn y polisi, pan fo’r gofyniad tai fforddiadwy mewn cynllun penodol yn disgyn o dan un annedd ar y safle, fel sydd yma, yna bydd darparu uned fforddiadwy o fewn y datblygiad hwnnw yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Nid oedd yr un o’r unedau a gynigwyd fel rhan o'r cais yn rhai fforddiadwy ac amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnig cyfraniad ariannol gyfystyr â 0.6 uned tuag at y ddarpariaeth o dai fforddiadwy’n lleol. Nid ydyw’n eglur pam na ellid cynnwys o leiaf un tŷ fforddiadwy fel rhan o’r cynllun ac felly ni ystyriwyd bod y cynllun yn cwrdd â gofynion polisi TAI 15.

 

Yng nghyd-destun materion iaith, amlygwyd bod Datganiad Iaith Gymraeg wedi ei gyflwyno gyda’r cais cynllunio ac yn adrodd canlyniad mai, ar y cyfan, niwtral fyddai effaith y datblygiad ar yr Iaith Gymraeg yn y gymuned leol ac y byddai’r cyfraniad fforddiadwy’n helpu tuag at y ddarpariaeth ar gyfer pobl leol. Fodd bynnag, nodwyd bod yr Uned Iaith (yn y ffurflen sylwadau hwyr) wedi nodi, yn eu barn hwy, nad oedd digon o wybodaeth wedi ei gyflwyno yn nogfennau’r cais i gefnogi’r farn o effaith niwtral. Argymhellwyd i’r ymgeisydd ailedrych ar y wybodaeth ac ailgyflwyno’r datganiad cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio. Er bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn (29/01/21) nid yw yn ymateb holl bryderon yr Uned Iaith ac felly nid oedd y swyddogion wedi eu  hargyhoeddi o safbwynt materion iaith.

 

Yng nghyd-destun y ffordd fynediad adroddwyd bod y ffordd yn gul iawn, lled un cerbyd, ac, oherwydd ei natur, ni fyddai’n cael ei mabwysiadu fel ffordd gyhoeddus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C18/0698/35/LL Cartref Gofal 'The Pines' Ffordd Penpaled, Cricieth, Gwynedd, LL52 0DE pdf eicon PDF 401 KB

Cais i estynnu'r adeilad cartref nyrsio a maes parcio ynghyd a chadarnhau lleoliad presennol uned biomass

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn galluogi amser i’r gwrthwynebwyr gael cyfle i baratoi cyflwyniad fideo o’u gwrthwynebiad

 

Cofnod:

Cais i estynnu'r adeilad cartref nyrsio a maes parcio ynghyd a chadarnhau lleoliad presennol uned biomas

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais wedi dod i law gan wrthwynebwyr i’r cais yn gofyn am ohirio’r cais fel bod modd iddynt gael amser i baratoi cyflwyniad fideo o’u gwrthwynebiad. Y bwriad yw ail gyflwyno’r cais yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor - Mawrth 1af 2021. Ategwyd bod yr Aelod Lleol yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn cefnogi’r cais am ohiriad.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r penderfyniad

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio er mwyn galluogi amser i’r gwrthwynebwyr gael cyfle i baratoi cyflwyniad fideo o’u gwrthwynebiad

 

8.

Cais Rhif C20/0764/32/LL Maes Carafanau Gelliwig Farm, Botwnnog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8RG pdf eicon PDF 331 KB

Ymestyn tymor gwyliau y maes carafanau o 8 mis i 12 mis i fod yn agored trwy'r flwyddyn ar gyfer defnydd gwyliau

 

AELOD LLOEL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu

 

Amodau:

  1. Defnydd gwyliau a chadw cofrestr.

 

Cofnod:

Ymestyn tymor gwyliau'r maes carafanau o 8 mis i 12 mis i fod yn agored trwy'r flwyddyn ar gyfer defnydd gwyliau

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ymestyn y cyfnod meddiannu ar y safle carafanau gwyliau sefydlog fel bod yna dymor gwyliau o 12 mis. Adroddwyd bod caniatâd cynllunio ar gyfer 40 carafán sefydlog ar y tir ac mae’r caniatâd presennol yn cyfyngu amser meddiannu’r carafanau i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref mewn unrhyw flwyddyn. 

 

Amlygwyd bod Asesiad Dyluniad a Mynediad wedi ei gyflwyno yn egluro cefndir y cais ac yn ymateb i alw gan berchnogion presennol y carafanau i gael aros ar y safle yn ystod y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a hanner tymor mis Chwefror. Ategwyd y byddai  ymestyn y tymor hefyd yn fodd o uwchraddio’r safle.

 

Cyfeiriwyd at bolisi TWR 4 sydd yn gefnogol i gynigion i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid dangos bod y llety yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif neu unig gartref y deilydd.  Dylid hefyd sicrhau fod y llety yn addas i fyw ynddynt yn ystod y gaeaf, na fyddai’r tymor estynedig yn cynyddu canlyniadau llifogydd eithriadol  a chael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol.

 

Ystyriwyd fod y cais, gydag amodau priodol i sicrhau defnydd y carafanau sefydlog ar gyfer gwyliau yn unig ac i gadw cofrestr, yn dderbyniol ar sail polisi. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod y carafanau sefydlog i gyd mewn perchnogaeth breifat a bod rhai o’r ‘plotiau’ wedi bod ym meddiant yr un teulu ers y 70au

·         Y bwriad yw ymestyn y tymor i’r 40 carafán sefydlog i fod yn agored trwy’r flwyddyn i bwrpas gwyliau yn unig. Mae’r cais yn ymateb i ofynion cwsmeriaid i gael defnyddio'r garafán am gyfnodau byrrach trwy gydol y flwyddyn.

·         Bydd ymestyn y tymor yn gwella safon cyfleusterau llety twristiaid

·         Mewn ymateb i’r pryder ynglŷn â phwysau ar y Gwasanaeth Iechyd lleol, mae cytundeb gyda’r preswylwyr yn cadarnhau 2 amod sydd yn mynd i’r afael a’r broblem

                                                  i.    Mae’r carafanau ar gyfer defnydd gwyliau yn unig. Ni chaiff ein perchnogion fyw ar y safle yn barhaol . Fel rhan o’r cytundeb blynyddol , rhaid i’r perchennog ddarparu prawf o brif gyfeiriad, yn sgil hyn mae’r perchnogion wedi eu cofrestru gyda'u gwasanaeth iechyd lleol priodol

                                                 ii.    Mae’r maes carafanau eisoes wedi mabwysiadu model parc perchnogion yn unig; golygir fod y carafanau sefydlog i gyd mewn perchnogaeth breifat ac fel rhan o’r cytundeb dim ond y perchnogion a’u teuluoedd agos caiff ddefnyddio'r garafán . Golyga hyn fod llai o ddefnydd ar y carafanau na pe bydden yn gweithredu fel maes carafanau cymysg ble mae carafanau yn cael ei gosod

·           Yn cael eu cydnabod fel maes carafanau teuluol a distaw . Eu cwsmeriaid yn dod yma ar eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C20/0835/39/AC Maes Carafanau Glyn Park, Lôn Garmon, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 7UL pdf eicon PDF 325 KB

Cais i ddiddymu amod 3 o ganiatâd cynllunio 34/64/371'C' ar gyfer safle carafanau er caniatâu defnyddio'r carafanau trwy gydol y flwyddyn

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu

 

Amodau

1.         Defnydd gwyliau yn unig a rhaid cadw cofrestr o’r holl ddefnyddwyr.

2.         Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.

 

Cofnod:

Cais i ddiddymu amod 3 o ganiatâd cynllunio 34/64/371'C' ar gyfer safle carafanau er caniatáu defnyddio'r carafanau trwy gydol y flwyddyn

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ddileu amod sydd yn atal defnyddio carafanau ar safle carafanau sefydlog presennol rhwng y 1af o Dachwedd a’r 1af o Fawrth yn y flwyddyn ganlynol. Fe fyddai caniatâd felly’n galluogi ymestyn y cyfnod meddiannu ar y safle fel bod yna dymor gwyliau o 12 mis. Byddai’r bwriad yn cynyddu’r cyfnod meddiannu am bedwar mis yn y flwyddyn, fodd bynnag nid oes bwriad ychwanegu at y nifer presennol o garafanau sefydlog megis 25. Ategwyd na fydd newidiadau nac ychwanegiadau i’r cyfleusterau presennol ar y safle.

 

Nodwyd bod Polisi TWR 4 yn gefnogol i gynigion i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog a siales presennol os gellir dangos bod y llety yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif neu unig gartref y deilydd. Dylid hefyd sicrhau fod y llety yn addas i fyw ynddynt yn ystod y gaeaf, na fyddai’r tymor estynedig yn cynyddu canlyniadau llifogydd eithriadol na chael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol, ystyriwyd bod diddymu’r amod dan sylw yn dderbyniol os gosodir amod priodol i sicrhau y defnyddir y carafanau sefydlog ar gyfer defnydd gwyliau yn unig a bod rhaid cadw cofrestr gyflawn o holl ddefnyddwyr yr unedau. Yn ogystal byddai cynnwys amod er sicrhau arwyddion dwyieithog o fewn a thu allan i’r safle yn fodd o sicrhau amlygrwydd i’r iaith Gymraeg o fewn y datblygiad

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais, ond angen cadarnhad cydymffurfiaeth a’r amodau

·         Ydy’r gallu gan y Cyngor i sicrhau gorfodaeth?

·         Derbyn yr angen am degwch a chysondeb i’r meysydd carafanau

·         Twrisitaeth yn fusnes mawr ym Mhenllyn

·         Yn croesawu’r awgrym i garafanwyr dystiolaethu eu bod wedi cofrestru gyda meddyg yn eu prif gartref

·         Angen sicrhau bod iaith a diwylliant yr ardal yn cael eu gwarchod

 

c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Anodd fyddai cyfiawnhau gwrthod - TWR4 yn gefnogol i geisiadau o’r fath

·           Bod cyfrifoldeb ar Aelodau Lleol i gadw golwg ar y sefyllfaawgrym y gellid defnyddio rhestr etholwyr i weld os oes rhai yn torri rheolau wrth defnyddio’r garafan fel prif neu unig gartref

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais

 

Amodau

 

1.         Defnydd gwyliau yn unig a rhaid cadw cofrestr o’r holl ddefnyddwyr.

2.         Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg.