Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/2022

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ail ethol y Cynghorydd Eric M Jones yn Gadeirydd ar gyfer 2021/2022

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD: ail ethol y Cynghorydd Eric M Jones yn Gadeirydd ar gyfer 2021/2022

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/2022

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ail ethol y Cynghorydd Gareth A Roberts yn Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Gareth A Roberts yn Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Simon Glyn yn eitem 7.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/1076/14/LL) oherwydd bod ei fab yng nghyfraith yn gweithio yn Coed Helen

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.1 ar y rhaglen, (C20/0666/32/LL)

·         Y Cynghorydd Gruffydd Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.3 ar y rhaglen, (C21/0167/42/DT)

·         Y Cynghorydd Dylan Bullard (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.4 ar y rhaglen, (C21/0215/45/LL)

 

c)    Datganodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones ei bod wedi derbyn galwad ffôn ynglŷn ag un o’r ceisiadau

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 286 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain o Fawrth a 12fed o Ebrill 2021 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain o Fawrth a 12fed o Ebrill a 2021 fel rhai cywir

 

7.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

8.

Cais Rhif C20/0666/32/LL Crugeran, Sarn Mellteyrn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8DT pdf eicon PDF 379 KB

Cais ar gyfer codi adeilad cynhyrchu wyau maes gan gynnwys seiloau a gwaith cysylltiedig

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
  2. Unol a’r cynlluniau
  3. To a waliau allanol i fod o liw gwyrdd tywyll i gydweddu’r sied bresennol
  4. Lliw y biniau porthiant i gydweddu’r rhai presennol.
  5. Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig.
  6. Cyflwyno cynllun tirlunio
  7. Cyflwyno Asesiad Effaith Sŵn cyn dechrau’r datblygiad
  8. Cyflwyno Asesiad i Effaith Mater Gronynnol Llygredd cyn dechrau’r datblygiad
  9. Cyflwyno Cynllun Gwella Bioamrywiaeth cyn dechrau’r datblygiad
  10. Cyflwyno Cynllun Rheoli Tail diwygiedig cyn dechrau’r datblygiad

 

Cofnod:

Cais ar gyfer codi adeilad cynhyrchu wyau maes gan gynnwys seiloau a gwaith cysylltiedig

 

          Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer codi uned amaethyddol i gadw ieir sy’n cynhyrchu wyau maes, ynghyd a  chodi seiloau a gwaith cysylltiedig ar Fferm Crugeran, Sarn Mellteyrn. Byddai’r sied arfaethedig wedi ei lleoli yn baralel i sied ieir presennol ar y safle - o’r un dyluniad a maint yn cartrefu hyd at 32,000 o ieir dodwy. Bydd y pedwar seilo porthiant oddeutu 6.8 medr mewn uchder, o liw llwyd las ac wedi ei lleoli gyfochrog a’r sied.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad, o fewn dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig, Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llŷn ac Enlli. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, mae gosodiad y sied ieir presennol yn gymharol wastad o fewn tirwedd donnog sy’n sicrhau mai golygfeydd ysbeidiol sydd o’r sied bresennol o’r dirwedd gyfagos. Nid yw’n ymddangos yn ymwthiol nac allan o le o fewn yr Ardal Tirwedd Arbennig. Byddai’r sied arfaethedig wedi ei lleoli yn baralel  i’r sied bresennol, ac felly wedi ei sgrinio, i raddau o’r golygfeydd amlycaf.

 

Eglurwyd bod rhai tai annedd yng nghyffiniau’r cais. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau gan drigolion lleol i’r bwriad, sy’n gadarnhaol ac yn amlygu’r modd y mae’r fferm yn cael ei rheoli. Ymgynghorwyd gydag Uned Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ynglŷn â’r materion sŵn. Nid oedd yr Uned yn ystyried y Cynllun Rheoli Sŵn a dderbyniwyd yn ddigonol. Argymhellwyd, oherwydd lleoliad gwledig yr uned, y dylai Asesiad Sŵn gael ei gynnal a’i gytuno cyn dechrau adeiladu'r uned i sicrhau na fyddai’r uned yn cael effaith sŵn ar drigolion cyfagos nac yn codi lefelau sŵn cefndirol annerbyniol yn yr ardal.

 

Bwriedir defnyddio mynedfa bresennol y fferm a’r trac mynediad i’r sied bresennol ar gyfer gwasanaethu’r bwriad.  O ran patrymau trafnidiaeth, bydd disgwyl i lori HGV ddod draw 2/3 gwaith y mis i gludo bwyd i’r ieir fel y trefniant sydd i’r sied ieir presennol.  Bydd wyau’n cael eu casglu bob 3 diwrnod a lorïau yn cario ieir newydd bob rhyw 13 mis. Ac eithrio hynny, bydd mynd a dod dyddiol gan weithwyr y fferm. Nododd yr Uned Drafnidiaeth nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r cais ac mai dim ond ychwanegiad bychan mewn lefelau traffig a ragwelir.

 

O ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau cenedlaethol a lleol, ynghyd â’r ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn proses ymgynghori, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i gynnwys amodau.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad noddodd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn hapus iawn gyda’r ffordd y mae’r sied bresennol wedi cryfhau eu busnes ffermio.

·         Y sied bresennol wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C20/1076/14/LL Coed Helen Holiday Park Lôn Coed Helen, Caernarfon, LL54 5RS pdf eicon PDF 330 KB

Cais ar gyfer ymestyn cyfnod preswylio gwyliau yn yr unedau carafan statig ar y safle er mwyn gallu eu defnyddio drwy'r flwyddyn ar gyfer gwyliau

 

Aelodau Lleol: Cynghorydd Roy Owen a’r Cynghorydd  Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu

 

Amodau

  1. 5 mlynedd
  2. Defnydd gwyliau a chadw cofrestr.

 

Cofnod:

Cais ar gyfer ymestyn cyfnod preswylio gwyliau yn yr unedau carafán statig ar y safle er mwyn gallu eu defnyddio drwy'r flwyddyn ar gyfer gwyliau

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio bod polisi TWR 4 yn gefnogol i gynigion i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid dangos bod y llety yn cael ei ddefnyddio hyd at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif neu unig gartref y deilydd. Nodwyd bod caniatadau presennol ar gyfer y safle yn caniatáu i’r unedau sefydlog gael eu meddiannu rhwng 1 Mawrth mewn un flwyddyn a 10 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol. Mae’r safle carafanau yn bresennol yng nghau am 7 wythnos o’r flwyddyn.

 

Eglurwyd bod y Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaeth (Mawrth 2021) hefyd yn cyfeirio at ddefnydd amodau meddiannaeth gwyliau sydd yn galluogi defnyddio unedau gwyliau drwy’r flwyddyn, ond gydag amodau perthnasol sy’n sicrhau na ddefnyddir y fath unedau ar gyfer defnydd preswyl parhaol. Nid yw Polisi TWR 4 yn cyfyngu’r cyfnod y gellir meddiannu carafanau / sialetau sefydlog. Gellid felly meddiannu carafanau / sialetau sefydlog i bwrpas gwyliau trwy gydol y flwyddyn ac mae sawl cyfraith achos yn glir ac yn gefnogol ar y mater hwn. Mae sawl safle yng Ngwynedd bellach yn gweithredu felly, gydag amod i sicrhau mai ar gyfer defnydd gwyliau yn unig y’u defnyddir. Amlygwyd y gellid cynnwys amod mai ar gyfer pwrpas gwyliau yn unig y defnyddir y carafanau sefydlog ar y safle a bod cofrestr o enwau meddianwyr y carafanau, hyd y cyfnod aros a chyfeiriad eu prif gartref yn cael ei gadw.

 

Adroddwyd bod rhai ceisiadau tebyg wedi eu gwrthod gan y Pwyllgor Cynllunio yn y gorffennol ar sail y byddai defnydd 12 mis yn golygu y byddai pobl yn defnyddio’r unedau fel tai drwy’r flwyddyn ac yn cael effaith ar yr Iaith Gymraeg. Yn nodedig, gwrthodwyd cais i ymestyn amser safle Ocean Heights yn Chwilog am y rhesymau hyn (C12/1323/41/LL). Bu apêl cynllunio ar y penderfyniad oedd yn cynnwys cais am gostau yn erbyn y Cyngor.

 

Er mwyn sicrhau cysondeb, nodwyd bod y bwriad i ymestyn y cyfnod meddiannu’r unedau i 12 mis yn cwrdd â gofynion polisïau fel ag a nodwyd yn yr adroddiad Byddai gosod amod cynllunio i sicrhau y byddai’r unedau yn cael eu defnyddio ar gyfer defnydd gwyliau yn unig. Nid oes tystiolaeth yn dangos y byddai’r bwriad yn cael effaith sylweddol fwy ar yr Iaith Gymraeg na’r sefyllfa bresennol.

 

b)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

c)        Tynnwyd sylw at nodyn yn yr adroddiad bod yr Aelod Lleol, mewn egwyddor yn gefnogol i’r cais

 

PENDERFYNWYD:

 

Caniatáu - amodau

 

1.         5 mlynedd

2.         Defnydd gwyliau a chadw cofrestr.

 

 

10.

Cais Rhif C21/0167/42/DT Tan Y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, LL53 6LN pdf eicon PDF 322 KB

Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn i greu rhagor o ofod byw

Aelod Lleol: Cynghorydd Gruffydd Williams

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn ystyried sylwadau’r Cydbwyllgor AHNE fel rhan o asesiad y swyddog

 

Cofnod:

Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn i greu rhagor o ofod byw

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog bod y cais yn un i addasu ac ehangu’r eiddo presennol ac yn ail-ddyluniad o gynllun a wrthodwyd gan y Pwyllgor yn flaenorol (C20/0022/42/DT). Nodwyd bod y cynllun gerbron yn ymgais i ymateb i’r rhesymau gwrthod a diwygiwyd y cynllun ymhellach mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori.

 

Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Saif yr eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn mewn cefn gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. 

 

Eglurwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys:

·         Dymchwel adeilad allanol presennol ac adleoli wal gerrig er mwyn creu safle parcio a lle troi

·         Dymchwel estyniad deulawr cefn ac estyniad gwydr ochr

·         Codi estyniad deulawr cefn ar ffurf cilgant gyda thair ffenestr gromen yn yr edrychiad blaen a ffenestri to yn yr edrychiad cefn ynghyd a chodi estyniad unllawr gyda tho llechi unllethr ar hyd ei flaen.

·         Gosod balconi ar dalcen y presennol

 

Dangoswyd sleidiau yn amlygu gosodiad y presennol, y cynllun a wrthodwyd ynghyd a chynlluniau diwygiedig ochr yn ochr. Nodwyd bod graddfa a maint y bwriad wedi ei leihau, ac er ei fod yn parhau yn fawr, bod y ffenestri gromen yn adlewyrchu dyluniad traddodiadol gyda’r porth yn lleihau amlygrwydd y gwydr. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn ymgeisio i ymateb i bryderon blaenorol y pwyllgor.

 

Wedi ystyried y sylwadau a’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, awgrymwyd bod y bwriad yn welliant ar y cynllun a wrthodwyd yn flaenorol o safbwynt ei effaith ar y tirlun a’i fod yn cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad noddodd perthynas i’r ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod yr ymgeiswyr eisiau troi Tan y Mynydd yn gartref teuluol parhaol ac wedi breuddwydio cael bod yn berchen ar eiddo ym mhentref prydferth Nefyn.

·         Treuliodd yr ymgeisydd ei gwyliau cyntaf yn Nefyn yn yr hen westy ym Mhistyll, ac mae ei theulu wedi preswylio ar Barc Gwyliau Aberafon yn Nefyn ers hynny.   Gyda theulu ym Morfa Nefyn, yn aelodau oes o glwb hwylio a chlwb golff Nefyn ac yn gwsmeriaid rheolaidd yn yr hyn oedd The Sportsman ers talwm. Maent erbyn hyn yn gyfranddalwyr Tafarn yr Heliwr, Nefyn.

·         Nid cais am gartref gwyliau arall nac am eiddo i’w rentu yw’r bwriad. Hwn fydd eu cartref parhaoleu breuddwyd. Maent yn edrych ymlaen at dreulio llawer mwy o flynyddoedd yn y gymuned gyda'u plant a'u hwyrion.

·         Wrth lunio'r cais roeddynt yn ymwybodol iawn o harddwch y dirwedd a’r eiddo cyfagos. Maent yn awyddus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C21/0215/45/LL 20 Yr Ala, Pwllheli, LL53 5BL pdf eicon PDF 440 KB

Trosi ty preswyl 3 llawr i ddau fflat

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn asesiad canlyniadau llifogydd derbyniol, cymeradwyaeth CNC i’r asesiad canlyniadau llifogydd

 

Amodau:

 

  1. Amser
  2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
  3. Cwblhau triniaeth ffin cyn trigo yn yr unedau
  4. Cytuno ar gynllun tai fforddiadwy safonol

 

Nodyn:

Dŵr Cymru

Gofynion Deddf Wal Rhannol

 

Cofnod:

Trosi tŷ preswyl 3 llawr i ddau fflat

           

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer trosi eiddo preswyl presennol i fod yn ddwy uned byw hunangynhaliol. Eglurwyd bod yr adeilad presennol, wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Pwllheli, yn un tri llawr ac ar ben rhes o dai cyffelyb.

 

Yn benodol mae'r gosodiad mewnol yn cynnig:

·         Uned Un

-    Llawr daear – cyntedd/mynediad wedi ei rannu, ystafell wely, lolfa, cegin, ystafell ymolchi

·         Uned Dau

-     Llawr cyntaf – lolfa/cegin, ystafell ymolchi, ystafell iwtiliti

-     Ail lawr – dwy ystafell wely

 

Nodwyd bod yr asesiad yn un helaeth, yn amlygu tystiolaeth a chyfiawnhad o’r angen, yn ogystal â’i fod yn cwrdd â gofynion polisi TAI 9 sydd yn caniatáu isrannu eiddo presennol yn unedau llai heb yr angen am estyniadau addasiadau allanol sylweddol.  Amlygwyd bod y datblygiad yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai y Cyngor fyddai’n cael ei ddefnyddio i gyfrannu at geisio cyfarfod yr angen am dai i drigolion lleol ardal Pwllheli. Ategwyd bod cadarnhad o safbwynt y galw cydnabyddedig am unedau o’r math a maint yma yn yr ardal. Byddai’r unedau yn cael eu gosod i drigolion yn unol â pholisi gosod y Cyngor.

 

O safbwynt mwynderau cyffredinol a phreswyl, eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn man prysur yn agos i ganol tref Pwllheli gyda thai annedd o’i amgylch. Mae edrychiad blaen presennol yr adeilad yn edrych dros y ffordd brysur gyhoeddus i'r blaen gyda bwriad o osod ffens 1.8m ar hyd ffiniau’r safle er mwyn sicrhau fod mwynderau preswyl yn cael eu gwarchod. Nid oes newidiadau allanol yn cael eu cynnal i’r adeilad ei hun fyddai’n creu unrhyw oredrych uniongyrchol newydd neu yn fwy na’r sefyllfa bresennol.

 

Adroddwyd bod pryder wedi ei amlygu am finiau fyddai yn cael eu cadw ar y tu blaen i’r tŷ fyddai’n effeithio'r palmant a symudiadau presennol. Wrth gyfeirio at y cynlluniau,  bwriedig, amlygwyd bod gofod penodol wedi ei ddynodi ar gyfer storio biniau yn yr iard sydd yn ffurfio rhan o’r safle. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol yn fwy na'r hyn a geir yn bresennol .

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad,  adroddwyd nad oedd man parcio presennol i'r tŷ ac na fwriedir cynnwys llecynnau i'r ddau fflat newydd ychwaith. Adroddwyd bod llecynnau parcio di rwystr ar hyd rhan helaeth o’r ffordd ynghyd a meysydd parcio cyhoeddus cymharol agos a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hwylus iawn. Ar y sail yma, ni wrthwynebwyd y bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth.

 

Cadarnhaodd yr Uned Iaith fod yr unedau yn cael eu gosod ar rent cymdeithasol fforddiadwy fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Tai, sydd yn rhan o gynlluniau ehangach y Cyngor i sicrhau cartrefi i drigolion y sir, a thrwy hynny gyfrannu at ddiogelu a hybu’r iaith.

 

Amlygwyd bod y safle yn rhannol o fewn parth llifogydd C1 fel y nodir ar fapiau cyngor datblygu a ddaw gyda’r NCT15: Datblygu a Pherygl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.