skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Huw W Jones

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

a)    Y Cynghorydd Edgar Owen yn eitem 5.1 ar y rhaglen oherwydd bydd ail-leoli’r feddygfa bresennol (sydd drws nesaf i’w gartref) yn (debygol) o gael effaith ar safle ei gartref

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)    Y Cynghorydd Berwyn P Jones yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0870/45/LL) oherwydd ei fod yn aelod ar Fwrdd Adra

 

Nid oedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu  - nid oedd  sylw yn yr adroddiad na chadarnhad swyddogol mai Adra fyddai’r Gymdeithas Tai gyda pherchnogaeth am yr Unedau Fforddiadwy. Arhosodd yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

c)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Edgar Owen (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (C21/0175/26/LL)

·         Y Cynghorydd Stephen Churchman (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (C20/0533/35/LL)

·         Y Cynghorydd Annwen Daniels (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (C21/0257/03/LL)

·         Y Cynghorydd Gruffydd Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (C21/0167/42/DT)

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 277 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24 Mai 2021 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 25ain o Fai 2021 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

6.

Cais Rhif C21/0175/26/LL Fferm Cross Ffordd Y Waunfawr, Waunfawr, Caernarfon, Gwynedd pdf eicon PDF 455 KB

Adeiladu prif ganolfan gofal, mynedfa, parcio, tirlunio a draenio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Edgar Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau.
  3. Llechi.
  4. Samplau o’r deunyddiau allanol.
  5. Ymgymryd â’r gwaith tirweddu o fewn cyfnod penodedig.
  6. Amodau Priffyrdd.
  7. Cyflwyno Cynllun Amgylcheddol Rheoli Adeiladwaith (i gynnwys cynllun atal llygredd er mwyn gallu ymgymryd ag asesiad manwl o effaith y datblygiad ar Afon Gwyrfai).
  8. Cyflwyno Cynllun Gwelliannau Bioamrywiaeth a Rheoli Cynefin.
  9. Cyflwyno asesiad Risg Diogelwch-bio.
  10.  Cydymffurfio gyda mesurau lliniaru a nodwyd o fewn yr Asesiad Rhagarweiniol Ecolegol.
  11. Cyflwyno manylion triniaeth ffiniau’r safle (i ddangos lleoliad a math y ffensys ac yn y blaen).
  12. Cytuno a manylion enw Cymraeg i’r ganolfan ynghyd ac arwyddion/rhybuddion cysylltiedig.
  13. Cyfyngu oriau gweithio i 08:00 – 18:00 yn yr wythnos, 08:00 – 13:00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl yn ystod y Sul a Gwyliau Banc/Cenedlaethol.
  14. Cyflwyno cynllun gosod rhwystr ar draws y fynedfa arfaethedig.
  15. Cyflwyno cynllun goleuo allanol.
  16. Amod i ddiogelu’r coed sydd eisoes ar ffiniau’r safle.
  17. Amod grasscrete ar y lle parcio ger y tai

 

Nodyn: Cyflwyno cynllun system draenio dŵr cynaliadwy (SuDS) i’r Uned Dŵr ac Amgylchedd y Cyngor

 

Cofnod:

Adeiladu prif ganolfan gofal, mynedfa, parcio, tirlunio a draenio

 

          Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu prif ganolfan gofal iechyd, mynedfa, parcio, tirlunio a chynllun draenio yn Waunfawr. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan, ond gerllaw i ffin datblygu Waunfawr fel y’i nodir yn y CDLl, ond heb ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd tir penodol. Adroddwyd y bydd y feddygfa bresennol yn Waunfawr yn symud  i’r safle newydd fyddai wedi ei adeiladu’n bwrpasol.

 

Amlygwyd bod sawl elfen i’r cais:

·         Codi adeilad un a deulawr ar ffurf “L” o faint arwynebedd llawr 990 medr sgwâr i gynnwys ardaloedd gwasanaethau cymunedol, ardaloedd cyfrannol fel ystafelloedd cyfarfod, ystafelloedd newid a swyddfeydd ynghyd a phractis doctoriaid. Bydd y bwriad yn cynyddu’r niferoedd o weithwyr presennol o 29 i 35.

·         Darparu llecynnau parcio ar gyfer 38 o ymwelwyr, ar gyfer 15 staff a 6 ar gyfer ymwelwyr anabl.

·         Tirlunio ar gyrion ac oddi fewn i’r safle.

·         Cynllun draenio cynaliadwy.

·         Creu llwybr troed newydd i redeg cyfochrog a ffin ogleddol y safle gyda’r ffordd sirol dosbarth I (A.4085) ynghyd a chreu llwybrau troed o fewn y safle ei hun.

·         Creu mynedfa newydd i’r safle oddi ar y ffordd sirol dosbarth i gyfochrog.

·         Darparu storfa biniau ynghyd a darpariaeth ar gyfer beics.

 

Cyfeiriwyd at un o’r polisïau perthnasol i’r cais sef Polisi ISA2 o’r CDLL sy’n gefnogol i gynnal a gwella cyfleusterau cymunedol er bod rhaid i cydymffurfio â’r meini prawf:

-       i) eu bod wedi’u lleoli oddi mewn neu’n gyfagos â ffiniau datblygu lle bydd y cynnig yn darparu cyfleuster angenrheidiol i gefnogi’r gymuned leol. Yn yr achos yma, ystyriwyd bod safle’r cais yn cyffwrdd â ffin datblygu’r pentref gyda gwybodaeth wedi ei dderbyn fel rhan o’r cais, yn datgan bod gwir angen cyfleuster iechyd newydd yn Waunfawr fyddai’n ymateb yn gyflawn i anghenion iechyd y boblogaeth leol â phoblogaeth y dalgylch.

-       ii) yn achos adeiladau newydd, na ellid bodloni anghenion y gymuned leol trwy wneud defnydd deuol o gyfleusterau presennol neu drosi adeiladau presennol. Yn yr achos yma ystyriwyd 4 safle o fewn y pentref, ond am resymau yn ymwneud a maint cyfyngedig, diffygion mynedfa/parcio ac agosatrwydd at adeiladau eraill, penderfynwyd mai safle’r cais yma oedd yr un mwyaf addas ar gyfer canolfan iechyd newydd.

-       iii) os yw’r cynnig yn gofyn am ail-leoli cyfleuster, y gellid dangos nad yw’r safle presennol bellach yn addas ar gyfer y defnydd hwnnw. Yn yr achos yma, nid oes cyfleusterau digonol o fewn y feddygfa bresennol i ymateb i ofynion amrywiol a chynyddol cleifion y gymuned leol. Nid yw’r safle presennol yn ddigon mawr i ymestyn y cyfleuster presennol i ymateb yn effeithiol i ofynion iechyd y gymuned.

-       iv) bod graddfa a math y cynnig yn briodol o gymharu â maint, cymeriad a swyddogaeth yr anheddle. Yn yr achos yma, ystyriwyd bod graddfa, lleoliad a dyluniad yr adeilad wedi bod yn destun  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C20/0533/35/LL Eisteddfa Caravan And Camping Site, Pentrefelin, Gwynedd, LL52 0PT pdf eicon PDF 411 KB

Newid defnydd tir ar gyfer lleoli 42 carafan teithiol ynghyd a chreu ffordd mynediad gysylltiol, tirlunio a chodi bloc toiledau.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

  1. Amser
  2. Yn unol â’r cynlluniau.
  3. Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.
  4. Tymor gwyliau - 1af Mawrth i 31 Hydref
  5. Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 92, dim pebyll a chadw’r un nifer o garafanau sefydlog.
  6. Dim storio carafanau teithiol ar y safle.
  7. Cwblhau’r gwaith tirweddu.
  8. Dwr Cymru.
  9. Cytuno lliw to’r adeilad cyfleusterau
  10. Gadael y coed ar yr adeilad cyfleusterau i hindreulio yn naturiol.

 

Cofnod:

Newid defnydd tir ar gyfer lleoli 42 carafán deithiol ynghyd a chreu ffordd mynediad cysylltiol, tirlunio a chodi bloc toiledau

a)         Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd tir i leoli 42 carafán deithiol ynghyd a chreu ffordd fynediad cysylltiol a chodi bloc toiledau. Eglurwyd bod y safle eisoes yn ffurfio rhan o safle gwersylla presennol sydd gyda chaniatâd cynllunio am 13 carafán statig, 50 carafán symudol a 70 o bebyll. Ategwyd bod y bwriad yn ceisio lleoli 42 carafán symudol ychwanegol yn lle'r caniatâd ar gyfer 70 o bebyll a bod gan y safle dystysgrif defnydd cyfreithlon ar gyfer pebyll ar gae arall.

 

Amlygwyd bod polisi TWR 5 CDLl yn caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau teithiol a llety gwersylla amgen dros dro os cydymffurfir â’r cyfan o’r meini prawf a nodir. Un o’r meini prawf hynny yw bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad a’i fod wedi ei leoli mewn man anymwthiol sydd wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a/neu ble gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd; bod y bwriad yn osgoi gormodedd o ardaloedd o leiniau caled; fod ei gysylltiad ffisegol â’r ddaear.

 

Nodwyd, er nad oedd angen cyflwyno Datganiad/Adroddiad ffurfiol, bod angen rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg yn unol â’r arweiniad yn Atodiad 5 CCA ‘Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy’. Mewn perthynas â hyn nodwyd bod Datganiad Iaith Gymraeg yr ymgeisydd yn nodi’r pwyntiau canlynol:

·         Mae dau aelod o staff llawn amser (plant yr ymgeisydd) yn siarad Cymraeg.

·         Mae’r arwyddion eisoes yn ddwyieithog.

·         Mae gwybodaeth ddwyieithog am atyniadau, cyfleusterau a gwasanaethau lleol eisoes yn cael ei darparu o fewn y safle.

·         Darparu cyfleoedd cyflogaeth leol ac yn defnyddio contractwyr lleol.

 

Ystyriwyd fod dyluniad, gosodiad ac edrychiad y bwriad yn dderbyniol ac na fyddai’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd. Nodwyd bod bwriad hefyd adeiladu adeilad cymharol fychan gyda gorffeniad pren er mwyn darparu toiledau a chawodydd ac na fyddai’n sefyll allan yn y dirwedd. Ategwyd bod y safle gyda mynediad uniongyrchol i ffordd ddosbarth a bod hwn yn dderbyniol ac addas. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth bryderon am y bwriad ac felly gyda defnydd o amodau cynllunio priodol, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt Polisi TWR 5 CDLL.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·      Bod yr adroddiad yn un clir

·      Bod y safle yn fusnes teulu ers blynyddoedd

·      Yn safle taclus wedi ei guddio o fewn y tirlun ymysg coed naturiol ynghyd ag eraill wedi eu plannu

·      Bod safon y safle yn lan a’r perchnogion yn ymfalchïo yn y busnes

·      Bod y busnes yn cefnogi’r gymuned a’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C21/0257/03/LL Maes Parcio ar hyd ffordd dosbaerth 3 i Tanygrisiau pdf eicon PDF 344 KB

Newid defnydd maes parcio presennol yn depo bws

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd  Annwen Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach am safle amgen

 

Cofnod:

Newid defnydd maes parcio presennol yn depo bws

 

a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer creu depo newydd ar gyfer gwefru bysiau gyriant trydan trwy osod arwyneb bitwminaidd ar safle. Amlygywd bod y safle yn safle tir llwyd ar gyrion, ond oddi mewn i, ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Trefol Blaenau Ffestiniog yn sefyll gerllaw’r ffordd ddosbarth 3 sy’n arwain o’r A470 at bentref Tanygrisiau.  Defnyddir y safle yn bresennol fel maes parcio anffurfiol lle mae cyfleusterau ail-gylchu cymunedol wedi’u gosod ynghyd a pholyn dal cyfarpar cyfathrebu.  Ategwyd bod rhan ddwyreiniol y safle yn ymestyn i mewn i safle’r cyn cae chwarae a glustnodwyd ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (safle T23) a bod rhan fwyaf o’r safle o fewn Parth Llifogydd C2. F

 

Byddai’r datblygiad yn cynnwys: 

 

·         Cyfleusterau ar gyfer gwefru 6 cerbyd trafnidiaeth cyhoeddus

·         Chwe gofod parcio ar  gyfer staff

·         Codi adeilad ar gyfer staff – fe fyddai hwnnw’n adeilad 12m x 4m o arwynebedd llawr a 3.6m o uchder gyda chladin pren a tho fflat.

·         Ehangu’r arwynebedd gwastad ar y safle trwy dyllu i’r llethr ar ochr ddwyreiniol y safle a chodi wal gynnal 1.5m o uchder.

·         Codi ffens 2m o uchder o amgylch y safle a gosod camerâu cylch cyfyng a goleuadau diogelwch

·         Gwaith draenio tir

 

Adroddwyd bod egwyddor y datblygiad, materion mwynderau gweledol  a materion bioamrywiaeth yn dderbyniol. Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod angen paratoi Asesiad Canlyniadau Llifogydd ar gyfer y datblygiad ac fe gyflwynwyd ACLl yn ystod y broses o ystyried y cais. Daeth yr asesiad hwnnw i’r casgliad na fyddai’r datblygiad yn cynyddu’r perygl o lifogydd i’r safle ei hun nac i dir cyfagos. Yn ddibynnol ar sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru, ni ragwelwyd y byddai'r datblygiad yn debygol o gynyddu'r risg llifogydd ar y safle. Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol dan bolisi PS6 y CDLl a NCT 15.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·           Dim gwrthwynebiad i’r fenter ond bod lleoliad y bwriad yn codi pryder

·           Y safle yn faes parcioanswyddogolsy’n cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer ysgol, capel, stiwdio ac ymwelwyr

·           Bod diffyg ymgynghoriad cyn cyflwyno cais am y lleoliad - un cyfarfod wedi ei gynnal lle cynigiwyd safleoedd eraill addas ar gyfer y fenter (safle oedd eisoes ym mherchnogaeth y Cyngor ac mewn lleoliad fyddai’n golygu llai o waith addasu)

·           Nad oes rhywbeth yn cael ei gynnigyn llemaes parcio anffurfiol i’r gymuned

·           Bod y syniad o fysus trydan yn un i’w groesawu

 

c)             Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r penderfyniad fel bod modd ystyried lleoliad amgen addas a / neu gydnabod problemau parcio

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr Aelod Lleol wedi adnabod lleoliad amgen gwellangen ystyried  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C21/0167/42/DT Tan Y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, Pwllheli, LL53 6LN pdf eicon PDF 361 KB

Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn i greu rhagor o ofod byw

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Gwrthod, yn groes i’r argymhelliad:

 

Rhesymau gwrthod:

 

Ystyriwyd yr estyniad yn

  • or-ddatblygiad fyddai’n cael effaith andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal
  • byddai’n cael ardrawiad andwyol ar olygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE yn groes i Bolisi PCYFF 3 ac MG 1 o’r CDLl

 

Cofnod:

Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn i greu rhagor o ofod byw

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog bod y cais yn un i addasu ac ehangu’r eiddo presennol ac yn ail-ddyluniad o gynllun a wrthodwyd gan y Pwyllgor yn flaenorol (C20/0022/42/DT). Fe drafodwyd y cais hwn gan y Pwyllgor Cynllunio ar 24/05/21 pryd penderfynwyd gohirio’r drafodaeth er caniatáu ystyriaeth bellach o sylwadau a gyflwynwyd gan Gydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn.

 

Cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Saif yr eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn mewn cefn gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. 

 

Eglurwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys:

·         Dymchwel adeilad allanol presennol ac adleoli wal gerrig er mwyn creu safle parcio a lle troi

·         Dymchwel estyniad deulawr cefn ac estyniad gwydr ochr

·         Codi estyniad deulawr cefn ar ffurf cilgant gyda thair ffenestr gromen yn yr edrychiad blaen a ffenestri to yn yr edrychiad cefn ynghyd a chodi estyniad unllawr gyda tho llechi unllethr ar hyd ei flaen.

·         Gosod balconi ar dalcen y presennol

 

Dangoswyd sleidiau yn amlygu gosodiad y a sut y byddai’n cymryd ei le yn y dirwedd. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn ymgeisio i ymateb i bryderon y pwyllgor.

 

Wedi ystyried y sylwadau a dderbyniwyd gan gydbwyllgor yr AHNE, gwerthfawrogwyd y pryder a amlygwyd ynghylch sensitifrwydd y dirwedd yn yr ardal. Er hynny, nid oedd y swyddogion cynllunio yn ystyried y byddai’r estyniadau fel y’u dyluniwyd yn cael effaith niweidiol ychwanegol arwyddocaol ar ansawdd y dirwedd ddynodedig ac na fyddai’r bwriad yn effeithio gosodiad yr AHNE, neu’r golygfeydd allan ohoni, mewn ffordd niweidiol. Ystyriwyd bod y bwriad yn welliant ar y cynllun a wrthodwyd yn flaenorol o safbwynt ei effaith ar y tirlun a’i fod yn cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Atgoffwyd yr Aelodau o ofynion statudol i warchod yr AHNE

·         Bod bythynnod traddodiadol ar hyd y mynydd o Nefyn i Pistyll

·         Eiddo gerllaw i’r bwriad wedi derbyn nifer o estyniadau rhwng 2008 a 2011

·         Dim angen gor-ddatblygiadau ar lechweddau’r Mynydd

·         Creu effaith ar y golygfeydd

·         Bod pobl yn dod i aros yn yr ardal i werthfawrogi yr hyn sydd o’u cwmpas

·         Bod polisïau yn gadael gormod o ddisgresiwn i’r swyddog roi ei farn yn hytrach na sylwadau cyd bwyllgor ymgynghorol ac unigolion

·         Y datblygiad yn un cam rhy bell

·         Bod prisiau tai allan o gyrraedd pobl leol

·         Bod cynlluniau o’r fath yn boneddigeiddio’r ardal

·         Erfyn ar y Pwyllgor i wrthod y cais

 

c)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais am y rhesymau canlynol:

 

-       Y bwriad yn orddatblygiad

-       byddai’r bwriad yn cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C20/0870/45/LL Tir ger Ysgubor Wen, Pwllheli, LL53 5UB pdf eicon PDF 440 KB

Codi pump tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i bennu disgownt priodol ar gyfer cyfyngu gwerth y ddau dy fforddiadwy a chwblhau Cytundeb 106 i sicrhau fod y ddau dy yn rhai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac i amodau perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Cytuno ar fanylion deunyddiau allanol gan gynnwys llechi a gorffeniadau

4.         Tirlunio/Coed

5.         Materion draenio

6.         Materion Bioamrywiaeth

7.         Materion Archeolegol

8.         Tynnu hawliau PD y Tai Fforddiadwy.

9.         Materion Priffyrdd

10.       Cytuno ar enw Cymraeg/arwyddion

11.       Cytuno ar Gynllun Rheoli Adeiladu

12.       Mesurau Gwarchod a gwella’r gwrych

13.       Cytuno ar fanylion triniaethau ffin

 

Nodiadau: SUDS a Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Codi pum tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu 5 tŷ ynghyd ag addasu mynedfa, creu ffordd stad a llecynnau parcio ynghyd a thirlunio. Lleolir y safle ar gyrion tref Pwllheli o fewn ardal a adnabyddir fel Denio gyda thai preswyl gerllaw i gyfeiriad y de ac un tŷ gyferbyn y safle.

 

Byddai ffurf y tai yn ddeulawr gyda thri tŷ ar wahân a dau dŷ pâr. Yn allanol, byddent wedi eu gorffen gyda tho crib o lechen naturiol a gorffeniadau’r waliau allanol yn gyfuniad o rendr, carreg naturiol a choed.

 

Adroddwyd bod egwyddor o ddatblygiad preswyl ar y safle eisoes wedi ei dderbyn a’i gymeradwyo trwy ganiatáu cais blaenorol ar gyfer 3 o dai (un yn fforddiadwy). Er bod cynnydd amlwg rhwng y cais presennol a’r blaenorol o ran niferoedd tai, ystyriwyd y byddai’r bwriad presennol yn cynnig datblygiad o well ansawdd ac yn gwneud y gorau o safle nad oedd wedi ei gyflawni yn flaenorol o ran dwysedd a chymysgedd tai. Yn ogystal, nodwyd fod y bwriad presennol yn cynnig dau fforddiadwy. Ystyriwyd bod y bwriad presennol yn welliant gan ddarparu un tŷ fforddiadwy yn ychwanegol yn ogystal â chynnig dwysedd gwell yn unol â gofynion cyfredol.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth, amlygwyd bod pryderon wedi eu hamlygu gan drigolion lleol am effaith y bwriad ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, yr effaith cynyddol o ystyried datblygiadau eraill yn yr ardal gyfagos yn ogystal â’r symudiadau presennol a wneir a thai preswyl yr ardal a safle Coleg Meirion Dwyfor gerllaw. Ymgynghorwyd gyda'r Uned Drafnidiaeth ar y cais ac ni chodwyd gwrthwynebiad i'r bwriad o safbwynt effaith niweidiol ar y rhwydwaith ffyrdd lleol.

 

Derbyniwyd fod y safle ar ben ei hun ac i ffwrdd o ganol y dref ac nad oedd cysylltiad presennol megis troedffordd rhwng y safle a’r dref. Fodd bynnag, ystyriwyd bod diffyg troedffordd yn nodwedd o'r ardal ac ar hyd nifer o strydoedd rhwng y safle a’r dref yn ogystal ag ardaloedd Penrallt a Denio yn gyffredinol. Adroddwyd bod tawelyddion traffig yn cadw cyflymder y traffig i gyflymder isel ac addas. Er felly yn nodi'r pryderon a dderbyniwyd, ni ystyriwyd y byddai'r bwriad yn peri niwed annerbyniol sylweddol i weithrediad diogel ac effeithlon y briffordd a'i fod o ganlyniad yn dderbyniol o ran gofynion perthnasol polisi TRA 4 tra bod y nifer o lecynnau parcio a gynigir yn dderbyniol o ran gofynion polisi TRA 2.

 

Adroddwyd bod materion bioamrywiaeth, archeolegol ac isadeiledd yn dderbyniol a chyfeiriwyd at ymateb i’r datganiad iaith yn y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi nad oedd gan yr Uned Iaith sylwadau ar y cais. Nodwyd bod y datganiad yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ac o ganlyniad i faint y datblygiad a’r bwriad i farchnata'r ddwy uned marchnad agored yn lleol, bod yr asesiad o effaith niwtral yn un rhesymol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Rhif cais C20/0348/35/LL Tir gyferbyn a Coed Mawr Woodland, Criccieth, LL52 0ND pdf eicon PDF 515 KB

Defnyddio tir ar gyfer gwersylla / glampio amgen parhaol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Ll Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cais wedi ei dynnu yn ôl yn ffurfiol 15/06/21

 

Cofnod:

Y cais wedi cael ei dynnu yn ôl yn ffurfiol 09-06-21