Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd a’r Cynghorydd Gethin Glyn Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 244 KB

 

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 30 Tachwedd 2020 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2020 fel rhai cywir.

 

 

5.

CRYNODEB ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2020 CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 211 KB

I ystyried yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Swyddogion Archwilio Cymru yn crynhoi’r gwaith archwilio a wnaed yn y Cyngor gan Archwilio Cymru ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf ym mis Awst 2019. Amlygwyd bod fformat newydd i’r adroddiad - yn crynhoi materion cyfarwydd yn gliriach a ffeithiol. Gwnaed cais i’r Aelodau am adborth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y materion a ganlyn gan Aelodau:-

 

·         Bod y fformat newydd i’w groesawu

·         Bod yr adroddiad yn gryno ac yn hawdd i’w ddarllen

 

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad

 

 

6.

CYLLIDEB REFENIW 2020/21 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 277 KB

 

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth

Derbyn penderfyniad y Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2020/21, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Nodwyd bod effaith ariannol Covid19 yn sylweddol i’r Cyngor -  yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion gan fod blaenoriaethau eraill dros gyfnod yr argyfwng. Ategwyd bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa caledi tuag at ddigolledu costau a cholledion incwm Awdurdodau Lleol. Amlygwyd yng Ngwynedd bod ceisiadau misol gwerth dros £7.1 miliwn wedi eu cyflwyno gan y Cyfrifwyr i Lywodraeth Cymru, i ddigolledu’r Cyngor am y gwariant ychwanegol am y cyfnod hyd at ddiwedd Tachwedd, gyda chyllid o bron i £6 miliwn eisoes wedi ei dderbyn.

 

Adroddwyd, o ran colledion incwm, roedd y ceisiadau am hanner cyntaf y flwyddyn ariannol dros £5.1 miliwn, gyda £4.8 miliwn eisoes wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith ar chwarter 3 wedi ei gwblhau gan y Cyfrifwyr ac wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ganol Ionawr.

 

Amlygwyd bod pwysau amlwg ar yr  adrannau eleni ac fel sydd wedi ei rybuddio ym mhob adolygiad ers diwedd Awst 2019, mae problemau gwireddu arbedion yn cynyddu ac yn ffactor sydd yn cyfrannu at orwariant yn y meysydd megis Plant, Oedolion a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Tynnwyd sylw at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gyda’r rhagolygon wedi eu datgan gyda a heb y cymorth grant Covid19 gan y Llywodraeth, fel bod modd gweld yr effaith ar y gwahanol adrannau. Amlygwyd y prif faterion canlynol:

 

·         Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - mae effaith Covid19 wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni sydd werth dros £3 miliwn erbyn diwedd Tachwedd. Heb ystyried ardrawiad Covid19, rhagwelir gorwariant o £3.3 miliwn eleni gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £1.8 miliwn yn cyfrannu at y sefyllfa.

 

·         Adran Plant a Theuluoedd - rhagwelir gorwariant o £2.5 miliwn ar gyfer yr Adran. Mae methiant i wireddu £688k o arbedion yn cyfrannu at y sefyllfa. Mae’r ystadegau diweddaraf yn cadarnhau y bu cynnydd pellach yn y galw am wasanaethau, yn arbennig felly yn y maes lleoliadau ac Ôl-16. Mae’r sefyllfa o gynnydd yn y gwariant yn y maes plant yn bryderus.

 

·         Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol - problemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn parhau. Trafferthion gwireddu arbedion mewn nifer o feysydd gwerth £811k. Mae’r adran hefyd wedi wynebu costau ychwanegol yn ymwneud â Covid19 i gydymffurfio efo’r rheolau, gyda Llywodraeth Cymru eisoes wedi digolledu am fisoedd cychwynnol a disgwyliad y byddant yn parhau i ddigolledu am weddill y flwyddyn.

 

·         Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2020/21 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol ar Dreth Cyngor a hefyd yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor. Tanwariant net ar gyllidebau yn cynnwys costau cyfalaf a dychwelyd bidiau.

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad, y Cabinet (26  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF 2020/21 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 247 KB

 

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried y risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth

Derbyn penderfyniad y Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid o raglen gyfalaf diwygiedig (sefyllfa diwedd Tachwedd 2020). Tynnwyd sylw at effaith argyfwng Covid19 a’r cyfnod clo ar y rhaglen gyfalaf gan amlygu mai dim ond 31% o’r gyllideb oedd wedi ei wario hyd at ddiwedd Tachwedd eleni o’i gymharu â 51% dros yr un cyfnod y llynedd. Ategwyd bod dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £103.6 miliwn am y 3 blynedd 2020/21 - 2022/23 wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriwyd at y ffynonellau i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £3.3 miliwn ers yr adolygiad diwethaf ac ategwyd mai’r prif gasgliadau oedd bod y Cyngor gyda chynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £42.3 miliwn eleni, gyda £18.9 miliwn ohono, sef 45%, wedi’i ariannu trwy ddenu grantiau penodol. Rhagwelwyd y byddai £4.8 miliwn ychwanegol yn llithro o eleni i’r flwyddyn ganlynol, ond nad oedd unrhyw golled ariannu. Tynnwyd sylw at y prif gynlluniau ynghyd a rhestr grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor eu denu ers yr adolygiad diwethaf (cyfanswm £3,060K)

 

Ategwyd, yng nghyfarfod o’r Cabinet (26 Ionawr 2021) y penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £3.32 miliwn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Amlygwyd llwyddiant yr Adran Tai ac Eiddo i ddenu grantiau (sydd yn swm sylweddol fydd yn adlewyrchu’r Strategaeth Tai mae’r Cyngor wedi ei fabwysiadu’n ddiweddar) - nododd y Pennaeth Cyllid bod y swm hefyd yn cynnwys incwm treth ail eiddo.

 

          PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn y wybodaeth

·         Derbyn penderfyniad y Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor

 

 

8.

Y SEFYLLFA ARBEDION pdf eicon PDF 264 KB

 

I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau cyffredinol sy’n deillio o’r llithriadau, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt y sefyllfa arbedion

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth

Derbyn penderfyniad y Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt y sefyllfa arbedion

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid gan nodi fod dros £30miliwn o arbedion wedi’u gwireddu ers 2015/16 ond, bod pryderon wedi eu hamlygu ym mis Hydref 2020 am risgiau i gynlluniau gwerth £3.4miliwn eleni o ganlyniad i Covid-19. Adroddwyd bod y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid wedi trafod yr arbedion adrannol gyda’r Penaethiaid ac Aelodau Cabinet.

 

Pwysleisiwyd fod cyfyngiadau Covid-19 wedi amharu ar y cyfle i adrannau roi sylw i nifer o’r cynlluniau arbedion. Er gwaethaf y sefyllfa, nododd y Prif Weithredwr na fyddai’n afresymol bod gwerth £1,735,960 o gynlluniau arbedion yn cael eu cyflawni erbyn neu yn ystod 2021/22. Yn ychwanegol, bydd gwerth £1m o gynlluniau (a fydd angen mwy o amser i’w gwireddu), yn cael eu hail broffilio ynghyd a dileu gwerth £850k o /gynlluniau o’r gyllideb (lle mae’r sefyllfa wedi newid cymaint na ellid gwireddu’r arbedion).

 

Nodwyd, wrth baratoi cyllideb 2020/21 yn Chwefror 2020, cydnabuwyd  £1.6m mewn ymateb i’r tebygolrwydd o fethu cyflawni rhai arbedion. Amlygwyd y byddai ail broffilio a dileu rhai arbedion yn cael ardrawiad o £1.86m ar y gyllideb, ond drwy ddefnyddio’r ddarpariaeth o £1.6m, byddai ond angen darparu £260k ychwanegol. O weithredu hyn, byddai’r gyllideb yn agosach i realiti sefyllfa’r Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at Atodiad 2 o’r adroddiad a oedd yn nodi arbedion oedd wedi eu cynllunio ar gyfer 2021/22. Mynegwyd o’r £1.9m oedd wedi ei gynllunio, y byddai cynlluniau gwerth £511k yn cymryd mwy o amser i’r cyflawni gydag amheuaeth am wireddu gwerth £595k o arbedion. O ganlyniad, argymhellwyd i’r Cabinet i ail broffilio £511k a dileu £595k o arbedion gan dderbyn mai dim ond dros £700k o arbedion net fydd ar gael i gefnogi cyllideb 2021/22.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y rhesymeg tu ôl i’r argymhellion a gyflwynwyd i’r Cabinet gan bwysleisio fod rhai cynlluniau am gymryd mwy o amser i’w gwireddu o ganlyniad i argyfwng Covid-19 tra bod eraill angen eu dileu yn gyfan gwbl.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn y wybodaeth

·         Derbyn penderfyniad y Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt y sefyllfa arbedion

 

9.

CYLLIDEB 2021/2022 pdf eicon PDF 141 KB

 

Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2021/22 i’r Cyngor llawn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth a chymeradwyo’r gyllideb y bwriedi’r ei argymell gan y Cabinet (16/02/21) i’r Cyngor Llawn

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor eleni wedi derbyn cynnydd grant oedd yn cyfarch chwyddiant ac yn setliad tecach na fu yn y blynyddoedd diwethaf. Tynnwyd sylw at y penderfyniad a geisir gan y Cabinet yn ei gyfarfod (16/02/21) ar angen i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ei argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2021. Ategwyd bod y penderfyniadau a geisir yn rhai fyddai’n caniatáu ariannu cynnydd anorfod mewn costau rhai gwasanaethau craidd ynghyd a chodi’r Dreth 3.7%. Pwysleisiwyd fod codi’r dreth yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn gwasanaethau hanfodol i drigolion Gwynedd gan y bydd yn anymarferol i weithredu cynlluniau arbedion ychwanegol eleni. Adroddwyd bod mwyafrif o aelodau’r Cyngor wedi mynychu cyfres o weithdai ymgynghori.

 

Nodwyd erbyn 2021/22 y bydd angen cynyddu gwariant i £10.6m er mwynsefyll yn llonydd’, gan gynnwys £3.6m i gwrdd â phwysau gyllidebau’r gwasanaethau. Esboniwyd i gyfarch y bwlch ariannol, y gellid cynaeafu £725k yn 2021/22 o’r cynlluniau arbedion ond y bydd angen cynyddu’r dreth Cyngor 3.7%.

 

Ategwyd fod ffigyrau swyddogol Llywodraeth Cymru yn dangos fod y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o £6.4m erbyn y flwyddyn nesaf sy’n gynnydd o 3.4% ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r setliad grant terfynol ar yr 2il Mawrth 2021, ynghyd a chyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Amlygwyd y gwariant refeniw gan dynnu sylw bod chwyddiant cyflogau staff yn £3.5m, ynghyd a darparu cynnydd tal i staff ar gyflogau £24,000 neu is, a chynnydd tal o 3.1% i athrawon ysgolion Gwynedd am y cyfnod Ebrill - Awst 2021.

 

Mynegwyd fod chwyddiant arall yn £2.6m yn cynnwys darpariaeth ar gyfer effaith y ‘cyflog bywynghyd a chynnydd chwyddiant ar gyllidebau tanwydd ac ynni a chynnydd mewn prisio yn dilyn ail-dendro. Amlygwyd bod bidiau wedi ei derbyn gan adrannau’r Cyngor o £3.6m am adnoddau parhaol ychwanegol i gwrdd â phwysau anorfod ar wasanaethau.

 

Tynnwyd sylw at y cynllun arbedion gan egluro y  bydd cyfanswm net o £725k o arbedion i’w defnyddio i leihau bwlch ariannu cyllideb 2020/21. Golygai hyn byddai bwlch gweddilliol o £77m, ac argymhellwyd cyfarch y bwlch hwnnw drwy’r Dreth Cyngor. Bydd angen codi’r Dreth 3.7% er mwyn cynhyrchu incwm digonol gan osod cyllideb net o £271,751,360. Adroddwyd y byddai’r dreth a godir gan yr Awdurdod Heddlu (cynnydd o 5.14% ar gyfer 2021/22) a’r cynghorau cymuned (% amrywiol) yn ychwanegol i hyn. Mynegwyd, pe bai aelodau’r Cyngor awydd cynnydd llai na 3.7% yn lefel y Dreth, yna byddai rhaid gwario llai ar wasanaethau. Atgoffwyd yr Aelodau o’r opsiwn a drafodwyd yn y gweithdai aelodau lle mynegwyd peidio ariannu rhai o’r bidiau refeniw parhaol ‘Categori 2’ (oedd wedi ei rhestru yn yr adroddiad). Derbyniwyd bod y dewis rhwng cynnal gwasanaethau a threthu o hyd yn un anodd, ond o ran cymhariaeth, ar gyfer 2021/22 nodwyd bod cyfartaledd o gynnydd treth yr awdurdodau lleol eraill ledled Cymru yn debygol o fod tua 4.1%, gyda’r cynnig gerbron i godi’r dreth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

STRATEGAETH CYFALAF 2021/22 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) pdf eicon PDF 464 KB

Mae rheoliadau cenedlaethol perthnasol yn mynnu penderfyniad gan y Cyngor llawn ar y Strategaeth Cyfalaf blynyddol.  Ymhellach i’r cyflwyniad gan swyddogion o gwmni Arlingclose, Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor, gofynnir i aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu dderbyn yr adroddiad, nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol, a chefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r strategaeth i'r Cyngor llawn am gymeradwyaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth

Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi trosolwg ar weithgareddau Cyfalaf a rheolaeth trysorlys y Cyngor. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod wedi derbyn cyflwyniad gan yr ymgynghorwyr ariannol, Arlingclose a oedd yn egluro’r manylder tu ôl i’r strategaeth. Cyfeiriwyd ar y gweithgareddau cyfalaf a thynnwyd sylw bod y Cyngor yn bwriadu gwneud gwariant cyfalaf o £47.1miliwn yn 21/22 gyda'r prif gynlluniau wedi ei rhestru yn yr adroddiad ynghyd a’r ffynonellau ariannu. Nodwyd mai’r adnoddau allanol yn bennaf yw Llywodraeth Cymru ac adnoddau ein hunain yw’r cronfeydd. Daw gweddill o’r ariannu trwy fenthyciad fydd yn cael ei dalu nôl dros nifer o flynyddoedd, fel arfer o adnoddau refeniw neu o incwm gwerthiant asedau sydd yn gyson gyda gweithred y blynyddoedd blaenorol. Golygai hyn y bydd y dangosydd - Gofyn Cyllido Cyfalaf y Cyngor, yn £176.6 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 21/22, sef y lefel y dylai benthyg tymor hir y cyngor aros odd itano.

 

Yng nghyd-destun y Strategaeth Fenthyca, amlygwyd yn ddiweddar nad oes gofyn benthyca tymor hir wedi bod, dim ond tymor byr ar gost isel dros ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ategwyd y bydd hyn am barhau gyda dim benthyca tymor hir yn cael ei rhagweld  ar gyfer gweithgareddau Cyngor Gwynedd, a bod dyled y Cyngor yn aros o dan y Gofyn Cyllido Cyfalaf.

 

Cyfeiriwyd at un newid i’r meincnod ymrwymiad sef  cyflwyno effaith benthyca Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru lle bydd grant blynyddol o £16m yn cael ei dderbyn am 15 mlynedd, ond bod gwariant helaeth am ddigwydd o’r ail flwyddyn ymlaen. O ganlyniad bydd gofyn benthyca dim yn 21/22, ond o 22/23 ymlaen gyda’r  terfyn benthyg fforddiadwy wedi ei ddiwygio i adlewyrchu hyn. Bydd swyddogion yn paratoi ar gyfer  strategaeth 22/23 ac yn asesu’r ffynonellau posib i’r benthyciad yma.

 

Adroddwyd  yng nghyd-destun strategaeth buddsoddi mai polisi'r Cyngor yw blaenoriaethu diogelwch a hylifedd dros gynnyrch i sicrhau bod arian ar gael i dalu am wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd bod £10m yn cael ei gadw i sicrhau hylifedd parhaus ac o ystyried y cyfnod ansicr a’r dychweliadau isel presennol, ystyriwyd bod cadw hylifedd a diogelwch yn flaenoriaeth.

 

Cyfeiriwyd at y rheolaeth risg a llywodraethu, a manylder ymrwymiadau tymor hir sydd gan y Cyngor. Cadarnhawyd hefyd mai Arlingclose fydd yn darparu gwasanaeth ymgynghorwyr ariannol i’r Cyngor am o leiaf y 5 mlynedd nesaf oherwydd eu llwyddiant diweddar yn y broses tendro.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y materion a ganlyn gan Aelodau:

 

·         Bod cyflwyniad Arlingslose wedi bod yn ddealladwy - awgrym i holl aelodau’r Cyngor dderbyn gwahoddiad / neu i dderbyn y wybodaeth.

·         Bod adroddiad Arlingclose yn galonogol o ystyried y sefyllfa

 

Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn y wybodaeth

·         Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth

 

 

11.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 385 KB

 

I dderbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod hyd at 31 Ionawr 2021 a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 1 Tachwedd 2020 hyd 31 Ionawr 2021. Amlygwyd bod 3 o archwiliadau’r cynllun wedi eu cwblhau a hynny o few cyfnod heriol o ystyried bod yr Adran wedi ei chwalu i gefnogi gwaith mewn adrannau eraill yn ystod yr argyfwng. Ategwyd mai anodd oedd cyflawni’r gwaith oedd wedi ei raglennu yn y cynllun gwaith.

 

Tynnwyd sylw at Archwiliad Talu Cinio am Ddim sydd wedi ei gynnwys o fewn yr Adran Plant a Theuluoedd gan nodi bod y Gwasanaeth Cyllid wedi chwarae rôl allweddol yn yr archwiliad gan mai’r  Gwasanaeth Refeniw oedd yn cydlynu’r ceisiadau.

 

          Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod hyd at 31 Ionawr 2021 a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol.

 

12.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2020/21 pdf eicon PDF 455 KB

 

Diweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio Mewnol 2020/21

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

Derbyn diweddariad ar gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2020 - 2021 ynghyd a threfniant arfaethedig ar gyfer rhaglen waith 2021 /2022

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2020 /21. Nodwyd yn yr adroddiad mai gwir gyrhaeddiad Archwilio Mewnol hyd at Ionawr 21ain 2021 oedd 39.29% - allan o’r 28 archwiliad unigol roedd 11 wedi  eu rhyddhau yn derfynol. Ategwyd ei bod yn anochel na ellid cynnal rhai archwiliadau gan fod adnoddau o’r adran wedi eu harall gyfeirio at gynorthwyo gyda meysydd blaenoriaeth o ganlyniad i’r argyfwng covid. O ganlyniad, penderfynwyd addasu neu ganslo archwiliadau gan drosglwyddo’r dyddiau ar gyfer ymgymryd â gwaith y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu.

 

Adroddwyd y byddai’n arferol llunio Cynllun 2021/22 fyddai’n adlewyrchu risgiau a sialensiau'r flwyddyn gyfredol, ond gan mai defnydd cyfyngedig sydd i wneud hynny eleni byddai’n anorfod cynllunio ymlaen drwy ystyried newidiadau a ragwelir dros y 12 mis nesaf. Awgrymwyd y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i gynlluniau chwarterol fyddai yn rhoi hyblygrwydd i’r  gwasanaeth. Yn ogystal, bydd trafodaethau yn cael eu cynnal gydag Adrannau i geisio'r ffordd ymlaen.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch i’r Rheolwr Archwilio am hyblygrwydd yr Uned i gefnogi gwasanaethau blaenoriaeth ac y byddai arian yn cael ei neilltuo i ariannu adnodd ychwanegol i’r Uned weithredu archwiliadau pan fydd cyfangiadau’r argyfwng yn llacio.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Derbyn diweddariad ar gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2020 - 2021 ynghyd a threfniant arfaethedig ar gyfer rhaglen waith 2021 /2022