Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Medwyn Hughes, Huw Rowlands a Meryl Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 243 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd  8fed Medi 2022 fel rhai cywir.

 

Mewn ymateb i sylw a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf ynglŷn â chynnwys eitem sefydlog ar raglen pob cyfarfod o’r pwyllgor yn rhoi diweddariad ar faterion a godwyd i’r Aelodau ynghyd a gweithredu penderfyniad, nododd y Swyddog Monitro nad oedd dim gofyn cyfreithiol ar gael materion yn codi fel eitem statudol ar y rhaglen. Ategodd y byddai yn trafod gyda’r Pennaeth Cyllid sut i gyfarch dymuniad y pwyllgor o dderbyn diweddariadau i benderfyniadau ac awgrymodd, mai adroddiad byr fyddai’n dderbyniol yn hytrach na chael eitem agored.

 

 

 

5.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU ( CYMRU) 2021 pdf eicon PDF 232 KB

I dderbyn yr adroddiad a’r cynnydd a gofyn am adroddiad pellach i Bwyllgor Chwefror

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  1. Derbyn yr adroddiad
  2. Derbyn cynnydd ar y rhaglen waith
  3. Cais am ddiweddariad pellach i Bwyllgor mis Chwefror 2023

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog Monitro) yn nodi, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, bod darpariaethau’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiad (Cymru) 2021 bellach wedi dod i rym ac er bod rhai elfennau o’r Arweiniad Statudol i’w cyhoeddi ni fydd disgwyl i rain wyro yn arwyddocaol o’r drafftiau a ymgynghorwyd â hwy. Mewn ymateb i ofynion y Ddeddf, cyfeiriwyd at y rhaglen waith sydd eisoes wedi ei gosod o fewn Cofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor gyda’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cadw trosolwg a sicrwydd ar y gweithredu sydd ei angen i weithredu’r darpariaethau.

 

Cyfeiriwyd at dri maes gwaith, Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, Cynllun Deisebau a Chanllawiau Cyfansoddiad, sydd angen eu symud ymlaen drwy gynnal proses ymgynghori.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hawl gan y Cyngor i ddewis trefn Pleidleisio Fwyafrifol neu Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ac o ystyried bod gan Wynedd, yn etholiad 2022 y nifer uchaf o Gynghorwyr wedi eu hethol heb unrhyw wrthwynebiad, nododd y Swyddog Monitro  mai cyfle oedd yma i Wynedd benderfynu ar sut i ymateb i’r dewis. Ategodd y byddai addasu’r broses gyfredol yn cynnwys adolygiad manwl o’r sefyllfa fyddai’n debygol o gynnwys adolygiad ffiniau, addasu cyfundrefn sylweddol ac  ymgynghori fel elfennau statudol. Y dewis sydd gerbron yw ystyried cychwyn y broses neu beidio - bydd rhaid dod i farn ar sut i ymdrin ar opsiwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ategol, o ymateb Awdurdodau eraill i’r mater, mynegodd bod Awdurdodau eraill mewn sefyllfa debyg o ystyried agor trafodaethau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phenodi Aelodau Lleyg, mynegwyd bod y broses bellach yn un barhaus. Derbyniwyd y farn bod dwy sedd wag ar y Pwyllgor ac mewn ymateb, nodwyd er yr ail-hysbysebu, na fu diddordeb. Ategwyd y bydd y swyddi yn parhau yn agored a’r dyddiad cau yn cael ei ymestyn ac annogwyd yr Aelodau, os yn adnabod rhywun sydd â diddordeb, i gyfeirio enw i’r Pennaeth Cyllid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nodweddion y Strategaeth Gyfranogi, nodwyd bod dyletswydd statudol bellach i annog cyfranogiad at benderfyniadau sydd wedi eu gwneud a bod hyn yn cael ei weithredu drwy rannu gwybodaeth ar y wefan, megis hysbysiadau penderfyniad a blaen raglenni. Y bwriad yw creu trefn sydd yn cyfarch y dyletswydd heb fod yn gyfundrefn drwm.

 

Mewn ymateb i sylw am y drefn ymgynghori, a bod hyn i’w groesawu, amlygodd Aelod bod rhaid ceisio osgoi tanseilio trefn ddemocrataidd. Nododd bod Aelodau wedi eu hethol i gynrychioli’r boblogaeth a mynegodd bryder y gall trefniadau oddiweddu’r drefn democratiaeth.  Mewn ymateb i’r sylw, nododd y Swyddog Monitro y dylai’r drefn ymgynghori gefnogi’r drefn Democratiaeth - rôl Aelodau yw cymryd cyfrifoldeb am swyddogaethau ac felly dylai’r rôl ymgynghorol fod yn gefnogol i’r ystyriaethau hyn.

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad

 

            PENDERFYNWYD:

 

            1.         Derbyn yr adroddiad

            2.         Derbyn cynnydd ar y rhaglen waith

            3.         Cais am ddiweddariad pellach i Bwyllgor mis Chwefror 2023

 

6.

RHAGLEN GYFALAF 2022/23 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 pdf eicon PDF 182 KB

I dderbyn y wybodaeth, ystyried y risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau i’r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad ar gais yr Aelod Cabinet Cyllid y Cynghorydd Ioan Thomas. Prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf (sefyllfa diwedd Awst 2022) ynghyd a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Yn wahanol i’r drefn arferol, gofynnwyd i’r  Pwyllgor graffu’r wybodaeth cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet 25 Hydref 2022.

 

Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £136.3 miliwn am y 3 blynedd 2022/23 - 2024/25 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £10.1 miliwn ers y gyllideb wreiddiol.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Cyllid,

·         bod y Cyngor gyda chynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £79.8 miliwn eleni, gyda £21.1 miliwn (sef 27%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol.

·         bod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf ac mai  11% o’r gyllideb yn unig sydd wedi ei wario hyd at ddiwedd Awst 2022 o gymharu gyda  16% dros yr un cyfnod yn 2021 a 13% yn 2020.

·         bod £12.1m o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a 2024/25, gyda’r  prif gynlluniau yn cynnwys, £5.1 miliwn Cynlluniau Ysgolion - Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill, £3.0 miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd a £1.6 miliwn Hwb Iechyd a Gofal Penygroes.

 

Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi llwyddo eu denu ers yr  diwethaf a oedd yn cynnwys Grant Cyfalaf Prydau Ysgol am Ddim, Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Defnydd Cymunedol Ysgolion, Grant Cyfalaf Diogelwch y Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru a Grant Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) tuag at gynlluniau gwledig.

 

                  Diolchwyd am yr adroddiad oedd yn gryno a chlir

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd mewn benthyciadau, nodwyd mai dyma’r adolygiad cyntaf ers diwedd Mawrth 2022 a bod cynnydd yn bodoli o ganlyniad i lithriadau gyda disgwyl am benderfyniad o ailbroffilio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r effaith niweidiol ar oedi’r Cynlluniau Atal Llifogydd, nodwyd bod nifer o drafodaethau yn cael eu cynnal rhwng Ymgynghoriaeth Gwynedd a Llywodraeth Cymru ar y mater yma gan fod nifer o gynlluniau mewn lle ac mai ffigwr i warchod y gwaith oedd yma.

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor

 

 

7.

CYLLIDEB REFENIW 2022/23 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2022 pdf eicon PDF 181 KB

I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu’r penderfyniadau i’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau
  2. Cytuno gyda’r argymhelliad i’r Cabinet ddefnyddio:

·         Balansau Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion

·         £4.5 miliwn o'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor

·         Bod y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.

  1. Bod adroddiad cynnydd o’r camau gweithredu yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor  wedi trafodaethau rhwng y Prif Weithredwr a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ynglŷn a gorwariant yr Adran (yr adroddiad i gynnwys ymateb i argymhellion a gyflwynwyd i’r Adran gan WRAP Cymru).

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid y Cynghorydd Ioan Thomas yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet ar gyfer cymeradwyaeth 25ain Hydref, 2022.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

·         Bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario sydd yn gyfuniad o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu arbedion.

·         Bod yr Adran Economi a Chymuned yn gweld effaith mewn cynnydd costau ynni

·         Bod Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn amlygu diffyg gwireddu arbedion ym maes gwastraff

·         Bod Adran Tai Ac Eiddo yn gweld effaith ym maes digartrefedd yn sgil addasiad i drefniadau deddfwriaethol covid-19

·         Bod bwriad edrych i falansau ysgolion i gyllido y gorwariant a ragwelir ar gostau trydan eleni gan fod yr Ysgolion wedi arbed ynni dros y cyfnod covid 

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Cyllid at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan amlygu’r meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Tynnwyd sylw ar effaith y cynnydd mewn chwyddiant, yn arbennig felly costau trydan sydd uwchlaw’r gyllideb ac i’w weld amlycaf yn yr Adrannau Addysg, Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Economi a Chymuned – sef ar ganolfannau hamdden Cwmni Byw’n Iach.

 

·         Yng nghyd-destun covid, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, mae costau ychwanegol, colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn sgil Covid yn parhau mewn rhai meysydd.

·         Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant – rhagweld gorwariant o dros £1.9 miliwn eleni, a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu gwerth £930k o arbedion. Yn amlwg iawn eleni gwelwyd pwysau ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol ynghyd a chostau staff a diffyg incwm yn y maes Gofal Cymunedol.

·         Adran Addysg - rhagweld gorwariant o £1.3m o ganlyniad i effaith prisiau trydan uwch am gyfnod o chwe mis o Hydref 2022 ymlaen yn yr ysgolion. O ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig, ystyriwyd yn briodol felly  i ddefnyddio balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni.

·         Byw’n Iach - o ganlyniad i sgil effaith Covid, bu i’r cwmni  dderbyn cymorth ariannol o gronfa caledi Llywodraeth Cymru (gwerth £1.4 miliwn yn 2021/22 a £2.7 miliwn yn 2020/21). Nid yw cymorth o'r fath ar gael gan y Llywodraeth eleni ond sgil effaith covid yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar y gallu i gynhyrchu incwm. O ganlyniad, bu i'r Cyngor gadarnhau cefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal gwasanaethau Byw'n Iach drwy ymestyn y cyfnod o sicrwydd a roddwyd i'r Cwmni hyd at ddiwedd 2022/23, sydd yn £842k eleni.

·         Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol -  tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes bwrdeistrefol yn parhau, gyda’r problemau amlycaf yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu.  Yr adran hefyd yn cael trafferthion gwireddu arbedion gwerth £533k.

·         Tai ac Eiddo – goblygiadau newid i ddeddfwriaeth yn ymwneud â Digartrefedd yn golygu pwysau ariannol sylweddol. Er bod dyraniad o £1.5m o gronfa trefniadau yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 179 KB

I dderbyn y wybodaeth ac ystyried y risgiau cyffredinol sy’n deillio o lithriadau yn yr arbedion

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

2.    Argymell i’r Cabinet bod angen herio manwl ar gynlluniau sydd ddim yn cael eu gwireddu - angen sicrhau adolygiad rheolaidd o’r cynlluniau hynny sydd yn llithro a chyfeirio’r cynlluniau at raglen waith y  Pwyllgorau Craffu perthnasol

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid oedd yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor.  Gofynnodd  i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion gan gynnig sylwadau ar y sefyllfa i’r Cabinet eu hystyried wrth iddynt gymeradwyo’r adroddiad 25 Hydref, 2022. Eglurodd hefyd mai’r adrannau oedd wedi cyflwyno’r cynlluniau arbedion ac mai adrodd yn unig ar y sefyllfa oedd y swyddogion cyllid.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Cyllid:

·         Ers 2015/16, fel rhan o strategaeth ariannol y Cyngor, bod gwerth £35.4m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu ar gyfer y cyfnod 2015/16 - 2022/23. Nodwyd bod cyfanswm o £33.4 miliwn o’r arbedion wedi eu gwireddu, sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.

·         Bod effaith Covid i weld wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion mewn rhai meysydd.

·         Y prif gynlluniau sydd eto i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

·         Bod angen, wrth baratoi cyllideb 2022/23 gydnabod fod y sefyllfa wedi newid cymaint fel nad oedd modd cyflawni’r cynlluniau arbedion oedd wedi eu cynllunio yn wreiddiol, ac felly dileuwyd bron i £500 mil o gynlluniau o’r gyllideb a symudwyd y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1.3 miliwn i 2023/24 a blynyddoedd dilynol

·         Bod hi’n anorfod bod gwireddu gwerth £33.4m o arbedion (allan o gyfanswm o £35.4 miliwn) ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol. Gydag  oediad a risgiau i gyflawni rhai o’r cynlluniau sydd yn weddill rhaid adolygu’r cynlluniau cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd bod rhaid llongyfarch yr elfennau positif oedd yn yr adroddiad -

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod 94% o’r cynlluniau wedi eu cwblhau – hyn yn galonogol

·         Mai’r adrannau eu hunain sydd wedi cynnig yr arbedion ac nid yw yn rhywbeth sydd wedi ei roi arnynt

·         Bod rhai o’r cynlluniau yn hanesyddol

·         Bod angen rhoi pwysau ar yr adrannau hynny sydd yn methu cyflawni arbedion i ail ystyried cynlluniau neu ail gynllunio

·         Bod angen annog gwybodaeth fwy manwl - os nad oes symud ar gynlluniau angen cynlluniau gwell

·         Wrth gynllunio arbedion o’r newydd, rhaid ystyried elfennau sydd tu hwnt i reolaeth - yr effaith o dorri rŵan yn arwain at fwy o wariant i’r dyfodol e.e., cynnal a chadw ffyrdd

·         Awgrym i amlygu yn glir mai arbedion sydd yn llithro sydd yn atodiad 4

·         Bod angen herio mwy manwl ar gynlluniau arbedion i’r dyfodol

·         Awyddus i gynlluniau sydd yn llithro dderbyn sylw a cael eu craffu

 

c)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a bwriad gosod targedau mwy uchelgeisiol i’r adrannau gyfrannu at y cynllun arbedion, nodwyd bydd hyn yn anorfod ac fod gwaith ar gychwyn i ddatblygu trefn briodol. Ategwyd bod gwahanol brosesau wedi cael eu dilyn i gyfarch yr arbedion hyd yma ac y bydd penderfyniadau anodd i’w gwneud i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â llithriad o £25,000 (Adran Cyllid - oediad i gynllun ‘Cynhyrchu Incwm drwy Atal Twyll’), amlygodd y Pennaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.