Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Rob Triggs

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 259 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd  17 Tachwedd 2022 fel rhai cywir.

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 269 KB

Cyflwynir:

 

·         Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;

·         Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru

·         Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1)

 

I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2021/22 (ôl-archwiliad), adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Archwilio Cymru), cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr yn electroneg.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y Swyddogion wedi rhyddhau’r cyfrifon i Archwilio Cymru 13-06-2022 fel bod modd i Archwilio Cymru baratoi adroddiad er cymeradwyaeth y Pwyllgor. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon amodol wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor 08-09-2022, ble amlygwyd y prif faterion ar nodiadau perthnasol.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid bod oediad eleni i dderbyn adroddiad gan Archwilio Cymru oherwydd mater technegol yn ymwneud ag isadeiladwaith, oedd  yn golygu mai yn  Ionawr 2023 roedd cyfrifon terfynol 2021/22 holl Awdurdodau Lleol Cymru yn cael eu cymeradwyo. Diolchodd i’r holl swyddogion oedd wedi bod yn rhan o’r broses.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau yr Aelodau drwy’r adroddiad gan amlygu bod mân addasiadau i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Medi 2022. Tynnwyd sylw at y canlynol:

·         Nodyn 15 - Eiddo, Offer a Chyfarpar – I gydymffurfio gyda gofynion cenedlaethol,  isadeiladwaith wedi ei dynnu allan o’r prif dabl yn Nodyn 15 ar gyfer y ddwy flynedd ac wedi ei ychwanegu fel rhan ar wahân

·         Oherwydd chwyddiant uchel, o gymharu gyda chwyddiant sefydlog isel dros y blynyddoedd diwethaf, bod goblygiadau ar y prisio, ac felly trefniadau arferol wedi eu haddasu. O ganlyniad, y prisio yn uwch mewn ymateb i’r chwyddiant uwch.

·         Nodyn 15 Eiddo, Offer a Chyfarpar – bu adolygiad o’r asedau oedd wedi gorffen cael eu dibrisio, ond yn parhau ar y gofrestr asedau.  Y rhai nad oedd bellach yn weithredol wedi eu dadgydnabod, ac wedi eu dileu o’r nodyn.

·         Nodyn 19 – Arian a Chyfwerthoedd arian – addasiad i drefn o ddangos ffigyrau yn ymwneud â’r Gronfa Bensiwn - addasiad ar yr elfen gorddrafft ac yna addasiad cyfwerth ar y credydwyr (addasiad ar gyfer 2021/22 a 2020/21).

·         Nodyn 30 – Taliadau i Swyddogion – mân addasiadau yn rhannol oherwydd anghysondeb rhwng cyfarwyddiadau CIPFA a’r Ddeddf (cyfarwyddiadau CIPFA wedi eu dilyn)

·         Nodyn 35 – Prydlesau  – cwmni Cynnal wedi dod i ben diwedd Mawrth 2022, ond yn parhau i ymddangos yn y nodyn – nid oedd bellach angen ei gynnwys.

·         Nodyn 27 - Dadansoddiad Natur Gwariant ac Incwm  - addasiad technegol yn ymwneud a chategoreiddio incwm (dim effaith ar y llinell waelod ond yn hytrach rhwng un is-bennawd a’r llall) 

 

Cyfeiriwyd at ddau argymhelliad gan Archwilio Cymru. 

 

1.    Yn dilyn adolygiad o gredydwyr tymor byr, bod credydwyr y Cyngor wedi eu gor ddatgan o £274k yn 31/03/2022. Cafwyd eglurhad mai mater o amseriad oedd yn gyfrifol am hyn ac er bod y credydwr angen bod yno yn flaenorol, roedd y sefyllfa wedi newid erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a felly dylid fod wedi dileu’r swm. Gan nad oedd y swm o £274k yn faterol, yr addasiad yn cael ei weithredu yng nghyfrifon 2022/23.

2.    Adolygu ac atgyfnerthu papurau gwaith ymhellach i ddarparu trywydd archwilio clir.

 

Y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYLLIDEB REFENIW 2022/23 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 181 KB

 

I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau
  2. Cytuno gydag argymhelliad y Cabinet (24-01-23) i gymeradwyo:

·         Trosglwyddo £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.

·         Pan yn amserol, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, defnyddio

a)    Balansau Ysgolion i gyllido costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddïon, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr ysgolion

b)    Cronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd

c)    Cronfa Trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor.

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ac ystyried penderfyniadau’r Cabinet 24-01-23.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

·         Er nad yw effaith Covid mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, bod costau ychwanegol, colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn parhau mewn rhai meysydd.

·         Bod rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Thai ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn.

·         Bod oediad mewn gwireddu Arbedion yn ffactor

 

Ategodd mai adrodd ar y sefyllfa oedd y swyddogion Cyllid ac mai’r Adrannau eu hunain oedd yn gyfrifol am eu cyllidebau.

 

b)    Amlygodd yr Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y canlynol:

·         Y byddai’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyda gorwariant o dros £2.2 miliwn eleni, a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau, gan gynnwys methiant i wireddu gwerth £930k o arbedion.

·         Y byddai’r Adran Addysg gyda gorwariant o £1.6m sydd yn ganlyniad i effaith cost ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymorthyddion a staff gweinyddol (£1,031k uwchlaw‘r gyllideb eleni); a chostau prisau trydan uwch. Ategwyd, o ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig, byddai’n briodol defnyddio balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni.

·         Byw’n Iach - bod sgil effaith Covid yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar allu’r cwmni i gynhyrchu incwm. O ganlyniad, cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cymeradwyo cefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal gwasanaethau drwy ymestyn y cyfnod o sicrwydd a roddwyd i'r Cwmni hyd at ddiwedd 2022/23, sydd oddeutu £839k eleni. Nodwyd mai prisiau trydan uwch sydd yn gyfrifol am weddill gorwariant Byw’n Iach.

·         Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol – bod y tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes bwrdeistrefol yn parhau, gyda’r problemau amlycaf yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu.  Yr adran hefyd yn cael trafferthion gwireddu arbedion gwerth £608k.

·         Tai ac Eiddo – goblygiadau newid i ddeddfwriaeth yn ymwneud â Digartrefedd yn golygu pwysau ariannol sylweddol. Er bod dyraniad o £1.5m o gronfa trefniadau yn sgil covid y Cyngor wedi ei roi i gynorthwyo’r sefyllfa, rhagwelir gorwariant net o £2.7miliwn eleni.

·         Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2022/23 a newid i ddeddfwriaeth yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol, gyda thai yn trosglwyddo o drethi annomestig i dreth cyngor ynghyd â lleihad yn y niferoedd sydd yn hawlio gostyngiad treth cyngor o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Y cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog yn golygu fod y rhagolygon derbyniad llog £1.3 miliwn yn fwy ffafriol nag a gyllidebwyd amdano.

 

Adroddwyd bwriad o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor a balansau’r Ysgolion i gyllido’r bwlch ariannol o £7.4 miliwn a ragwelir am 2022/23. O ganlyniad, drwy ddefnyddio cronfeydd penodol, bod balansau cyffredinol wedi eu gwarchod ac ar gael i wynebu heriau’r dyfodol.

 

c)    Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Chronfa Adfer yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF 2022/23 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 183 KB

 

I dderbyn y wybodaeth, ystyried y risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau
  • Cytuno gyda phenderfyniadau’r Cabinet (24-01-23)

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf (sefyllfa diwedd Tachwedd 2022) a gofyn i’r Pwyllgor ystyried y ffynonellau ariannu perthnasol a chraffu penderfynaidau’r Cabinet (24-01-23). Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £140.6 miliwn am y 3 blynedd 2022/23 - 2024/25 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £4.3 miliwn ers yr adolygiad diwethaf.

 

b)    Ategodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol,

·         bod y Cyngor gyda chynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £53 miliwn eleni, gyda £20 miliwn (sef 38%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol.

·         bod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf gyda 40% o’r gyllideb wedi ei wario hyd at ddiwedd Tachwedd 2022 o gymharu gyda 37% dros yr un cyfnod yn 2021, 31% yn 2020  51% yn 2019/20 cyn amhariad covid

·         bod £28.7m o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a 2024/25, gyda’r  prif gynlluniau yn cynnwys, £11.4 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai, £5.5 miliwn Cynlluniau Ysgolion – Cymunedau Dysgu Cynaladwy ac Eraill a £4.1 miliwn Adnewyddu Cerbydau.

 

Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol roedd y Cyngor wedi llwyddo i’w denu oedd yn cynnwys Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Ysgol Treferthyr, Grant Cyfalaf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Grant Llywodraeth Cymru tuag at Gynlluniau Gwledig - Gwella Mynediad.

 

c)    Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r swyddogion ar ganfod grantiau ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

·         Cytuno gyda phenderfyniadau’r Cabinet (24-01-23)

 

 

8.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 181 KB

 

I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau cyffredinol sy’n deillio o’r llithriadau, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r cynnydd, y sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt Trosolwg Arbedion

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau’r Cabinet (24-01-2023) a sylwebu fel bo angen.

 

b)    Ategodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol,

 

·         Ers 2015/16, bod gwerth £35.4m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu rhwng 2015/16 - 2022/23. Nodwyd fod dros £33.5 miliwn o’r arbedion yma bellach wedi eu gwireddu sydd yn 95% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.

·         Y prif gynlluniau sydd eto i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

·         22% o arbedion 2022/23 eisoes wedi eu gwireddu a 2% pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Adrannau sydd gyda’r gwerth uchaf o ran cynlluniau sydd eto i’w cyflawni yw’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

·         Bod gwerth £1.129m o arbedion eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2023/24 gyda chynlluniau arbedion a thoriadau ychwanegol dan ystyriaeth

·         Bod gwireddu gwerth £33.5m o arbedion (allan o £35.4 miliwn) ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol gydag oediad a risgiau i gyflawni rhai o’r cynlluniau sy’n weddill.

 

Adroddwyd bod y Cabinet wedi derbyn yr holl argymhellion ynghyd a’r wybodaeth am y cynnydd i wireddu cynlluniau arbedion 2022/23.

 

c)    Diolchwyd am yr adroddiad. Nodwyd yr angen i ganolbwyntio ar y llwyddiant  - bod 95% o’r Arbedion wedi eu gwireddu - y  tuedd yw rhoi gormod o ffocws ar y rhai hynny sydd heb eu gwireddu, sydd efallai'r rhai anoddach.

 

Mewn ymateb i sylw bod rhai o’r cynlluniau yn rai o godi costau / ennill incwm yn hytrach na chynlluniau arbedion ar effaith caiff hynny o ran costau darpariaeth i drigolion sydd efallai, o ganlyniad yn cael effaith ar y gwasanaeth, nodwyd mai cynlluniau arbedion sy’n cael eu cyflwyno gan yr Adrannau a hynny mewn  ymateb i ganran sydd yn cael ei gosod. Bydd y cynlluniau hynny yn cael eu hasesu gan Aelodau ac os bydd codi incwm yn rhan o’r cynllun, bod hynny wedi derbyn ystyriaeth. Mewn ymateb i gwestiwn ategol, ynglŷn ag asesu’r cynlluniau, cadarnhawyd bod asesiadau cyfreithiol, cyllidol a chydraddoldeb yn cael ei weithredu ar gyfer pob cynllun.

 

Mewn ymateb i sylw bod 95% yn ganlyniad derbyniol iawn, ond i’r dyfodol, anodd fydd canfod arbedion ynghyd sgil effaith toriadau posib, gwnaed cais am adroddiad yn nodi’r strategaeth sydd tu cefn i’r drefn toriadau / arbedion o flaenoriaethu a gosod  targedau. Nododd y Pennaeth Cyllid y bydd y Strategaeth Arbedion yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y  cyfarfod ar y 9fed o Chwefror. Yn y cyfarfod hwnnw, bydd y cynigion ar gyfer toriadau yn cael eu cyflwyno am sylwadau gan y Pwyllgor fydd yn eu tro yn cael eu cynnwys mewn adroddiad i’r Cabinet (14-02-23), fydd o ganlyniad yn cynnig argymhellion i’r Cyngor Llawn 02-03-23.

 

Ategodd yr Aelod Cabinet bod Cadeiryddion Craffu ac Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol i dderbyn cyflwyniad ar gynigion i arbedion a thoriadau 2023/24 a’r Aelodau Etholedig i dderbyn gwahoddiad i gyflwyniad gan y Prif Weithredwr.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Nodi’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.