Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Jina Gwyrfai, Medwyn Hughes, Meryl Roberts a Rob Triggs

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu bod gyda buddiant mewn perthynas ag eitem 6 oherwydd eu bod yn berchen ail gartref / tŷ gwag tymor hir

 

Y Cynghorwyr Menna Baines, Angela Russell, Huw Rowlands, Clare Hitchcock a Rhys Parry

 

Yn unol â chyngor a dderbyniwyd gan y Swyddog Monitro, roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddynt ymneilltuo o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 249 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd  13 Hydref 2022 fel rhai cywir.

 

5.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 270 KB

Ystyried yr adroddiad, er gwybodaeth



Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

1.    Derbyn yr adroddiad

2.    Derbyn yr awgrym i ddileu eitem pan fydd y weithred wedi cwblhau

 

Cofnod:

a)    Yn unol â chais a wnaed gan y Pwyllgor yng nghyfarfod 08/09/22 cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Ategwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr adroddiad yn ymateb positif i gais yr Aelodau

·         Yn ffordd dda o gadw golwg ar waith a phenderfyniadau’r Pwyllgor

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad

 

            PENDERFYNWYD:

 

            1.         Derbyn yr adroddiad

            2.         Derbyn yr awgrym i ddileu eitem pan fydd y weithred wedi cwblhau

 

6.

PREMIWM AR DRETH CYNGOR AIL GARTREFI AC ANHEDDAU GWAG HIR-DYMOR pdf eicon PDF 693 KB

I ystyried y wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau er mwyn dod i gasgliad ar briodoldeb y gweithrediad ac yw’r risgiau wedi cael eu lliniaru

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn bod y wybodaeth yn yr adroddiad a’r atodiadau yn cydymffurfio gyda'r canllawiau statudol a gofynion deddfwriaethol
  • Cynnig y sylwadau isod i’r Cabinet eu hystyried wrth benderfynu ar argymhelliad i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad terfynol ar y lefelau premiwm:

1.    Bod angen cwblhau asesiad ieithyddol cynhwysfawr yn unol â Pholisi Iaith y Cyngor

2.    Bod angen ystyried effaith y premiwm ar allu ‘brodorion’ i wneud bywoliaeth

3.    Bod angen gweld ystadegau sydd yn dangos effaith y premiwm ar adfer tai gwag

4.    Bod angen tystiolaeth am lwyddiant y premiwm. Beth sydd wedi ei gyflawni hyd yma?

5.    Bod angen ymgynghori pellach ar ddefnydd y premiwm.

Beth yw’r cyfiawnhad o ddefnyddio premiwm ail gartref i gyllido digartrefedd? Derbyn bod yr egwyddor yn dderbyniol, ond beth yw’r dystiolaeth tu cefn i’r penderfyniad?

6.    Bod angen cydblethu ystyriaethau’r premiwm gyda deddfwriaethau a mesurau Llywodraeth Cymru o reoli ail dai

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn canfod barn a sylwadau’r Pwyllgor o’r drefn o gyflwyno adroddiad i’r Cabinet  fyddai’n argymell i’r Cyngor Llawn wneud penderfyniad ar osod lefelau Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2023/24. Nodwyd bod gofyn statudol ar y Pwyllgor i adolygu a chraffu materion ariannol y Cyngor gan gynnwys sicrhau fod y Cyngor yn gweithredu’n briodol a bod y wybodaeth sy’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn i wneud penderfyniadau, yn wybodaeth gadarn.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried;

 

     Ydi’r wybodaeth yn egluro’r gofyn statudol yn glir.

     Ydi’r Asesiad Effaith Cydraddoldeb yn addas?

     Ydi’r Cyngor wedi ymgynghori â rhanddeiliaid mewn modd priodol?

     Ydi’r adroddiad yn glir am oblygiadau'r penderfyniad a geisir?

     Ydi’r risgiau yn eglur?

 

Adroddwyd bod y Cyngor, ar yr 8fed o Ragfyr 2016, wedi penderfynu codi Premiwm o 50% ar Dreth Cyngor ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor, yn weithredol o 1 Ebrill 2018.  Ar y 4ydd o Fawrth 2021, penderfynodd y Cyngor y byddai’n cynyddu’r Premiwm i 100%, sef y lefel uchaf bosib dan y ddeddfwriaeth, ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, ac ar 2 Rhagfyr 2021 penderfynodd gadw lefel y Premiwm yn 100% ar gyfer 2022/23.

 

Erbyn hyn ,mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 (SI 2022/370 Cy.90) wedi addasu Adrannau 12A a 12B Deddf 1992 sy’n rhoi grym i’r Awdurdodau godi premiwm o hyd ar 300% ar Dreth Cyngor ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 a blynyddoedd ariannol dilynol.

 

Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 30 Medi 2022 a 28 Hydref 2022 a derbyniwyd 7,330 o ymatebion i’r holiadur (7,277 o ymatebion i’r holiadur ar-lein a 53 o ymatebion papur - dyma’r nifer fwyaf o ymatebion mae’r Cyngor wedi ei dderbyn i unrhyw ymgynghoriad yn y blynyddoedd diwethaf).

 

Amlygwyd, yng nghyd-destun dyletswydd statudol i gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb, bod Asesiad Effaith Cydraddoldeb wedi ei ddiweddaru i adlewyrchu gofynion a datblygiadau, amgylchiadau newidiol a chanlyniadau’r ymgynghoriad diweddar. Ategwyd y byddai unrhyw argymhelliad gan y Cabinet yn gorfod sicrhau cyfiawnhad dros y cynnydd a bod gwaith ymchwil perthnasol yn cadarnhau bod angen gweithredu yn rhesymol ar y mater.

 

Cyfeiriwyd at 3 opsiwn

·         Cadw lefel y Premiwm yn 100% yn 2023/24

·         Cynyddu’r Premiwm i’r uchaf a ganiateir dan y gyfraith, sef 300% yn 2023/24.

·         Gosod y Premiwm rhywle rhwng 100% a 300% yn 2023/24

 

Nodwyd petai’r premiwm yn cael ei ddiddymu, byddai Cynllun Gweithredu Strategaeth Tai Gwynedd yn dioddef.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod adroddiad i’r Cabinet 22-11-22 eisoes wedi ei gyhoeddi, yn argymell cynyddu’r premiwm i gyfradd o 150% Byddai’r cynnydd yn ychwanegu oddeutu £3m o incwm blynyddol ychwanegol ac yn cyfrannu tuag at ariannu’r pwysau ariannol ar sefyllfa digartrefedd y Sir.

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr ymateb i’r effaith ar yr Iaith Gymraeg yn ymddangos yn ‘ddiniwed’ o gymharu â gweddill yr adroddiad  - dylid ystyried Polisi Iaith y Cyngor sydd yn nodi y dylai unrhyw benderfyniad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD RHEOLAETH TRYSLORLYS HANNER BLWYDDYN 2022 -23 pdf eicon PDF 532 KB

I ystyried yr adroddiad er gwybodaeth

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad, er gwybodaeth

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym Mawrth 2022 cymeradwywyd y Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y flwyddyn 2022/23. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2022 bod gweithgarwch benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2022/ 23.

 

Eglurwyd, yn y cyd-destun allanol bod y cyfnod wedi bod yn un heriol o fewn y marchnadoedd gydag ansicrwydd gwleidyddol ac effaith gwrthdaro Wcráin yn parhau. O ganlyniad, mae chwyddiant wedi cynyddu’n eithriadol yn ogystal â’r gyfradd llog sylfaenol.

 

Cyfeiriwyd at grynodeb o reolaeth trysorlys lle nodwyd, ar 30ain o Fedi 2022, bod y sefyllfa yn gadarn gyda £104.8 miliwn o fenthyciadau, a £110.5 miliwn o fuddsoddiadau. Amlygwyd, er y posibilrwydd o dalu rhywfaint o’r benthyciadau gyda’r buddsoddiadau, nodwyd y byddai’r gost o ad-dalu’r benthyciadau hyn yn uchel iawn oherwydd bod cyfradd llog uchel hanesyddol arnynt, ond gyda cyfraddau llog yn codi bydd y sefyllfa yn cael ei asesu yn barhaus rhag ofn y bydd mantais o ad-dalu’n gynnar.

 

Yng nghyd-destun materion benthyca, cyfeiriwyd at y Strategaeth Benthyca lle nad oedd  angen benthyca ychwanegol yn ystod y cyfnod. Prif amcan y Cyngor yw taro cydbwysedd risg isel priodol rhwng sicrhau costau llog isel a sicrhau sicrwydd cost dros y cyfnod y mae angen cyllid ar ei gyfer, gyda hyblygrwydd i ail-negodi benthyciadau pe bai cynlluniau hirdymor y Cyngor yn newid yn amcan eilaidd.  Mae Strategaeth Fenthyca’r Cyngor yn parhau i fynd i’r afael â mater allweddol fforddiadwy heb gyfaddawdu ar sefydlogrwydd dyledion tymor hir y portffolio benthyca.

 

Pe byddai angen benthyca rhyw dro yn y dyfodol, nodwyd bod canllawiau benthyca PWLB (Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus) wedi eu haddasu ac nid ydynt bellach yn caniatáu benthyca er mwyn i’r Cyngor wneud elw. Ategwyd nad oedd hyn yn arferiad gan y Cyngor beth bynnag.

 

Yn nhermau gweithgareddau buddsoddi, cyfeiriwyd at y mathau o fuddsoddiadau y buddsoddir ynddynt sydd, yn unol ar arfer, yn cynnwys banciau a chymdeithasau adeiladu, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, cronfeydd cyfun a’r swyddfa rheoli dyledion. Adroddwyd bod cyfraddau llog y buddsoddiadau wedi gwella o tua 1.5% yn ystod y cyfnod dan sylw, a rhagweliwyd y bydd y cyfraddau yn codi ymhellach yn y misoedd nesaf. Golygai hyn felly y bydd y lefel llog disgwyliedig am y flwyddyn ariannol yn sylweddol uwch na’r gyllideb (y gyllideb yn £0.4 miliwn, ond disgwylir incwm o £1.8 miliwn).

 

Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio gyda Chod Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys. Nodwyd mai’r unig ddangosydd gyda diffyg cydymffurfiaeth oedd ‘dangosydd risg cyfradd llog’. Eglurwyd bod y dangosydd yma wedi ei osod pan roedd y gyfradd llog yn 0.1% ac nad oedd modd rhagweld cynnydd mor sylweddol yn y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANAETH 2021/22 pdf eicon PDF 490 KB

I ystyried yr adroddiad a gyflwynir, a chynnig unrhyw sylwadau neu awgrymiadau perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn bod trefniadau a pherfformiad y Cyngor yng nghyswllt ymdrin â chwynion a gwella gwasanaeth  yn effeithiol iawn
  • Bod yr adroddiad, i’r dyfodol, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cyn y Cabinet

 

Awgrymiadau:

·         Cynnwys sylw ar yr effaith gadarnhaol mae cwynion yn cael ar berfformiad y Cyngor

·         Cynnwys crynodeb o’r prif feysydd / meysydd datblygol sydd yn derbyn cwynion

·         Categoreiddio neu osod cyd-destun ehangach ar gyfer yr adrannau hynny sydd yn derbyn y mwyafrif o gwynion, fel bod modd deall yr amgylchiadau

·         Y Cadeirydd i ail ymweld â chyfrifoldebau’r Pwyllgor  - a oes angen rhoi trosolwg ar ‘holl adrannau’r Cyngor’  (gan gynnwys Gwasanaethau Gofal ac Addysg sydd â threfn statudol eu hunain) ?

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn cynnig trosolwg o drefniadau a pherfformiad y Cyngor yng nghyswllt ymdrin â chwynion a gwella gwasanaethau yn ystod 2021/22 gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau. Atgoffwyd yr Aelodau bod gofyn statudol ar y Pwyllgor i sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar gyfer ymdrin â chwynion. Amlygwyd mai dyma’r tro cyntaf i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ac felly yn gyfle i’r Aelodau gynnig sylwadau ar gynnwys a fformat yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cefndir ac eglurhad cryno o’r drefn cwynion gan ategu bod gwaith ar y gweill i ddatblygu ymateb cwynion gan Aelodau etholedig am wasanaethau.

 

b)    Diolchwyd am yr adroddiad

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr adroddiad i’r groesawu ynghyd ar sesiwn hyfforddiant diweddar a dderbyniwyd - ‘Trosolwg ar ymarfer da o Wella Gwasanaeth o Gwynion’

·         Bod cynnydd mewn cwynion yn ‘dderbyniol’

·         Croesawu diwylliant cwynion iach

·         Awgrym cynnwys nodyn yn mynegi'r effaith gadarnhaol mae cwynion yn gael ar berfformiad y Cyngor - bod cwynion yn arwain at newid a gwella gwasanaethau’r Cyngor

·         Awgrym i gategoreiddio cwynion o ystyried bod dwy adran yn derbyn llawer mwy o gwynion nac eraill. Cais i ystyried gosod cyd-destun ehangach i’r gwasanaethau hynny

·         Bod cyfartaledd ymateb o 7 diwrnod ar draws y gwasanaethau yn un i’w longyfarch

·         Bod y wal lwyddiannau yn syniad da ac yn bwysig i forâl staff

·         I’r dyfodol, cais i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor cyn y Cabinet fel bod modd cyflwyno sylwadau.

·         Derbyn nad yw’r drefn yn berthnasol i ddefnyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg oherwydd trefn cwynion ar wahân, ond angen gwirio cyfrifoldebau’r Pwyllgor o gadw trosolwg ‘dros holl adrannau’r Cyngor’

 

          ch)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â mesur y perfformiad yn erbyn Cynghorau eraill, ac y byddai cynnwys hyn yn yr adroddiad yn fuddiol, nodwyd bod modd sicrhau hyn i’r dyfodol. Ategwyd bod y wybodaeth yn cael ei gynnwys yn adroddiad chwarterol yr Ombwdsman. Nodwyd bod y sesiwn hyfforddiant diweddar wedi ei gynnal ar y cyd gyda swyddfa’r Ombwdsman (hyn yn torri tir newydd i’r Cyngor) ac yn rhoi cyfle i Aelodau ystyried ffyrdd gwahanol o fesur perfformiad (nid nifer y cwynion yn unig) drwy roi ystadegau Gwynedd mewn cyd-destun cenedlaethol. 

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r categori ‘diffyg ymateb’, nodwyd bod angen ystyried a deall cyd-destun y diffyg gan gynnig, fel enghraifft, mai ‘diffyg gweithredu oherwydd dim cyllideb’ sydd yn rhwystro ymateb. Mewn ymateb i gwestiwn dilynol ynglŷn ag addasu geiriad y categori nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal ar y mater.

 

Mewn ymateb i gais am ddadansoddiad mwy manwl o’r cwynion fesul gwasanaeth, nodwyd bod y wybodaeth ar gael, ond heb ei gynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd er hynny, oherwydd bod rhai gwasanaethau yn cynnig gwasanaethau rheng flaen ac o ganlyniad yn derbyn mwy o gwynion, bod y nifer cwynion yn gallu bod yn gamarweiniol. Ategwyd mai dim y nifer cwynion sydd yn flaenoriaeth  - trefn ymateb i’r gŵyn a gwella  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2021 - HUNANASESIADAU pdf eicon PDF 435 KB

I ystyried cynnwys y ddogfen drafft ar gyfer 2021/22 gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn yr hunanasesiad drafft
  • Croesawu’r bwriad o gynnwys yr hunanasesiad yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor i’r dyfodol
  • Sicrhau, bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn gynharach yn y flwyddyn

 

Awgrym:

·         Ystyried cynnwys cyfeiriad at y gefnogaeth a’r hyfforddiant a roddir i Aelodau Etholedig

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan Reolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor. Amlygodd mai dyma’r tro cyntaf i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn unol â gofyn statudol newydd o fewn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n amlinellu bod rhaid i'r Pwyllgor adolygu'r adroddiad drafft a gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau i'r casgliadau neu'r camau y mae'r Cyngor yn bwriadu eu cymryd. Os na fydd y Cyngor yn gwneud newid a argymhellwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, mae'n rhaid iddo nodi'r argymhelliad a'r rhesymau pam na wnaeth y Cyngor y newid yn yr adroddiad hunanasesu terfynol.

 

Adroddwyd bod y Cyngor eisoes yn casglu a chyhoeddi llawer o wybodaeth a thystiolaeth sydd yn ddisgwyliedig o fewn yr Hunanasesiad, ac o ganlyniad yr adroddiad hunanasesiad yn gymharol gryno gyda chyfeiriadau at ddogfennau gwybodaeth bellach fel modd o osgoi dyblygu. Amlygwyd bod ymdrech wedi ei wneud i gadw’r ddogfen yn gryno a dealladwy ac yn derbyn bod yr adroddiad wedi ei gyflwyno yn hwyr yn y broses eleni. Ategwyd mai’r Grŵp Llywodraethu oedd wedi rhoi trosolwg ar y broses o fewn y Cyngor er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei berchnogi a’i arwain ar lefel strategol. Nodwyd y bwriad i’r dyfodol fydd cynnwys yr Hunanasesiad yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor fel bod yr holl wybodaeth o fewn un ddogfen.

 

b)    Diolchwyd am yr adroddiad

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Croesawu’r adroddiad, ond angen ei dderbyn cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cabinet

·         Gwerthfawrogi bod yr hunanasesiad yn cael ei gynnwys fel rhan o reoli perfformiad

 

ch)  Cynigiwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad

 

            PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr hunanasesiad drafft

·         Croesawu’r bwriad o gynnwys yr hunanasesiad yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor i’r dyfodol

·         Sicrhau, bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn gynharach yn y flwyddyn

 

            Awgrym:

 

1.    Ystyried cynnwys cyfeiriad at y gefnogaeth a’r hyfforddiant a roddir i Aelodau Etholedig ac Aelodau Lleyg

 

10.

ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 211 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Cofnod:

10.1    DIWEDDARIAD CHWARTER 2 I RAGLEN WAITH ARCHWILIO CYMRU – CYNGOR  GWYNEDD

 

a)      Cyflwynwyd diweddariad chwarterol (hyd at 30 Medi 2022) o raglen waith ac amserlen Archwilio Cymru. Trafodwyd y gwaith archwilio ariannol a'r gwaith archwilio perfformiad lleol gan amlygu y byddai’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd. Nodwyd bod rhan helaeth o’r gwaith archwilio cyfrifon wedi ei gwblhau, ond nad oedd Cyfrifon Terfynol Cyngor Gwynedd  wedi eu cwblhau oherwydd mater cenedlaethol yn ymwneud â phrisiad sy’n effeithio pob Awdurdod Lleol. Y gobaith yw cael datrysiad buan a chyflwyno adroddiad terfynol ddiwedd Ionawr 2023. Cyfeiriwyd at adroddiadau cenedlaethol ac allbynnau eraill a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru ers Ebrill 2022 oedd yn cynnwys Asesiad Effaith Cydraddoldeb a Mynd i’r Afael a Thlodi yng Nghymru.

 

b)      Diolchwyd am yr adroddiad

 

c)      Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag Adolygu Effeithiolrwydd Craffu, cadarnhawyd mai adolygu trefniadau Cyngor Gwynedd yn unig oedd dan sylw.

 

10.2       LLAMU YMLAEN – CYNGOR GWYNEDD

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad oedd yn ystyried sut mae’r Cyngor yn cryfhau ei allu i drawsnewid, addasu a pharhau i ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys y rhai a ddarperir mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol a chymunedau. Cyflwynwyd hefyd ymateb gan y Cyngor i argymhellion Archwilio Cymru.

 

Eglurwyd mai trefniadau ar gyfer rheoli asedau a’r gweithlu oedd yn cael eu hadolygu a bod yr argymhellion wedi eu cymeradwyo (er bod angen sicrhau bod addasiadau a chynlluniau yn gynaliadwy - amserlen briodol wedi ei llunio). Nodwyd bod datblygu’r defnydd o ddata wedi cael ei adnabod fel un o’r prif flaenoriaethau gyda Bwrdd Trawsnewid Digidol wedi ei sefydlu i lunio Strategaeth Ddigidol y Cyngor fydd yn canolbwyntio ar ddata, gweinyddiaeth a chyswllt cwsmer.

 

b)    Diolchwyd am yr adroddiad

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Croesawu datblygu defnydd data i lywio prosesau cynllunio, pennu cyllideb a mesur llwyddiant tymor hwy

·         Bod ymateb yn Rheolwyr yn effeithiol - y fformat yn hwylus a hawdd i’w ddarllen

·         Bod yr ymateb yn bositif

 

Mewn ymateb  i gwestiwn ynglŷn â diweddaru’r Pwyllgor ar y rhaglen waith, nodwyd bod rhai o’r materion yn cael eu hystyried fel blaenoriaethau gwella dros y pum mlynedd nesaf ac yn sicr o gael sylw amserol y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn diweddariad Chwarter 2 i raglen waith Archwilio Cymru – Cyngor Gwynedd

·         Derbyn ymateb Cyngor Gwynedd i argymhellion adroddiad Archwilio Cymru  ‘Llamu Ymlaen’ sydd yn canolbwyntio ar ymateb y Cyngor i drefniadau gweithio i’r dyfodol