skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Carys Edwards (Aelod Lleyg)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Mynegodd y Cyng. Paul Rowlinson fuddiant yn eitem 11 Cynnyrch Archwilio Mewnol - Atodiad 10  - Cynllun Ffoaduriaid Wcráin oherwydd ei fod yn cynnig llety i ffoadur o Wcráin. Nododd y Swyddog Monitro nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly ni fu rhaid i’r Cynghorydd adael y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 319 KB

Ystyried yr adroddiad, er gwybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Nodyn:

  • Angen trafod rôl statudol y Pwyllgor yng nghyd-destun trefn gwynion y Cyngor

 

Cofnod:

a)    Yn unol â chais a wnaed gan y Pwyllgor yng nghyfarfod 08/09/22 cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

b)    Diolchwyd am yr adroddiad

 

c)    Yng nghyd-destun Adroddiad Blynyddol Cwynion a Gwella Gwasaneth 2021/22, a’r awgrym i’r Cadeirydd ail ymweld a chyfrifoldebau’r Pwyllgor o roi trosolwg ar ‘holl adrannau’r Cyngor (gan ystyried bod y Gwasanethau Gofal ac Addysg gyda threfn statudol eu hunain), nododd y Cadeirydd mai cyfrifoldeb Llywodraethwyr yw adolygu cwynion ysgolion, ond bod trefn cwynion y Gwasaneth Addysg yn gyfrifoldeb i’r Pwyllgor. Ategodd y byddai adroddiad cwynion y Gwasanethau Plant ac Oedolion, Iechyd a Llesiant yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Gofal.

 

Mewn ymateb, amlygodd y Pennaeth Cyllid bod rôl statudol i’r Pwyllgor adolygu’r drefn y mae’r Cyngor yn ei ddefnyddio i ymdopi a chwynion, a bod angen sicrwydd gan y Pwyllgor bod y drefn yn effeithiol a hynny’n cael ei nodi yn yr  adroddiad cwynion.

 

Cynigwyd ac eiliwyd derbyn yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad

 

Nodyn:

 

·         Angen trafod rôl statudol y Pwyllgor yng nghyd-destun trefn gwynion y Cyngor

 

5.

DIWEDDARIAD AR ADRODDIADAU SYDD WEDI EU CYHOEDDI YN DDIWEDDAR GAN ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 224 KB

 

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad ac ymateb y rheolwyr i argymhellion ‘Trefniadau ar gyfer ymateb i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
  • Cyflwyno adroddiad ymhen 6 mis i ddiweddaru’r Pwyllgor ar drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i is-bwyllgor grymusol Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd fel bod modd symleiddio llywodraethu ac osgoi dyblygu rhwng y ddau gorff
  • Derbyn yr adroddiad ac ymateb y rheolwyr i argymhellion ‘’Diweddariad ar Gynnydd Datgarboneiddio

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd dau adroddiad ynghyd ag ymatebion y Cyngor i ddiweddaru’r Pwyllgor ar gyhoeddiadau diweddar gan Archwilio Cymru:

 

·         Trefniadau ar gyfer ymateb i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Ymateb y Cyngor i’r Ddeddf

·         Diweddaraid ar Gynnydd Datgarboneiddio

Ymateb y Cyngor i ddatgarboneiddio

 

Croesawyd Alan Hughes ac YvonneThomas (Swyddfa Archwilio Cymru),  Iwan Evans (Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol), Dewi Wyn Jones (Arweinydd Cefnogaeth  Gweithredol) a Bethan Richardson (Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd) i’r cyfarfod i gyflwyno eu sylwadau / ymatebion.

 

Yng nghyd-destun ymateb i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, nodwyd bod Achwilio Cymru yn edrych ar y trefniadau y mae’r Cyngor yn eu rhoi ar waith wrth ymateb i’r Ddeddf. Cyflwynwyd asesiad o’r ymateb i’r pum maes gwaith.Trafodwyd y meysydd gwaith yn unigol ac ymhelaethwyd ar yr hyn oedd wedi ei weithredu i sicrhau rheolaeth a chynnydd.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cynnydd Datgarboneiddio, nodwyd bod gan y Cyngor weledigaeth glir, ond bod angen adnabod mesurau yn fuan i fesur  camau datgarboneiddio i dystiolaethu cynnydd  yn y gwaith - cyfeiriwyd at ddau argymhelliad a gynigiwyd yn dilyn yr archwiliad.

 

Ategodd Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod camau mewn lle i gwrdd â gofynion  yr adolygiad. Nododd bod y Cyngor yn mesur data yn flynyddol gyda’r data yn cael ei ddefnyddio i fesur effaith nifer o’r cynlluniau sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun Argyfwng Hinsawdd

 

Diolchwyd am yr adroddiadau

 

Mewn ymateb i gwestwin ynglŷn a GwyrddNi (mudiad sy’n gweithredu ar newid hinsawdd wedi ei leoli yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned), cadarnhawyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda GwyrddNi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chydweithio gyda phrosiectau cyfalaf, megis  traphont Abermaw ac ystyried cyfleoedd  posib i gynnwys datgarboneiddio yn y prosiectau hynny, nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar bolisïau mewnol ac i sicrhau bod datgarboneiddio a materion hinsawdd yn cael eu hymgorffori fel materion  elfennol wrth ddatblygu prosiectau. Ategodd Swyddog Archwilio Cymru y bydd datgarboneiddio yn rhan allweddol mewn derbyn ceisiadau grant i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad ac ymateb y rheolwyr i argymhellion ‘Trefniadau ar gyfer ymateb i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

·         Cyflwyno adroddiad ymhen 6 mis i ddiweddaru’r Pwyllgor ar drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i is-bwyllgor grymusol Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd fel bod modd symleiddio llywodraethu ac osgoi dyblygu rhwng y ddau gorff

·         Derbyn yr adroddiad ac ymateb y rheolwyr i argymhellion ‘Diweddariad ar Gynnydd Datgarboneiddio’

6.

ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 115 KB

I ystyried yr adroddiad a’r camau gweithredu grëwyd mewn ymateb i argymhellion adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth bod trefniadau priodol yn eu lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o adroddiadau archwilio yn cael eu gwireddu

 

Nodyn:

  • Bod ‘wedi ei gwblhau’ yn golygu un o ddau beth yn yr ‘allwedd i’r casgliadau’ – angen amlygu pa un sydd yn berthnasol i gasgliadau’r cynigion / argymhellion hynny sydd ‘wedi ei gwblhau’.

 

Cofnod:

a)    Cyflwynywd adroddiad  gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Atgoffwyd yr Aelodau bod yr eitem yn un i’w ystyried fel rôl llywodraethu ac nid fel rôl craffu gyda chais i’r Pwyllgor fod yn fodlon bod trefniadau priodol yn ei lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o archwiliadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu.

 

Nodwyd bod y gwaith o ymateb i'r rhan fwyaf o gynigion gwella yn waith parhaus a bod y Grŵp Llywodraethu sydd yn cael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr yn rhoi sylw i’r cynigion gwella ac i’r cynnydd o’r argymhellion. Ategwyd, i’r cynigion hynny sydd yn derbyn casgliad yn nodi ‘wedi ei gwblhau’, ni fydd yn derbyn sylw pellach gan y  Pwyllgor; Bydd diweddaraid a y rhai hynny sydd derbyn ‘ar waith’ yn cael ei gyflwyno  i’r Pwyllgor ymhen 6 mis.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Pwyllgor yng nghyfarfod mis Mehefin 2022, nodwyd bod y fformat wedi ei addasu ynghyd a’r allwedd oedd bellach yn cynnwys tri phennawd - gwaith paratoadol / ar waith / wedi ei gwblhau. Nodwyd bod cyfeiriad at amserlen y gwaith hefyd wedi ei gynnwys.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhaglen weithredu glir ar gyfer y cynlluniau, nodwyd bod pob cynllun gydag argymhellion clir a chynllun gweithredu manwl. Ategwyd, er mai  cynllun gweithredu bras sydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, bod adroddiadau llawn a manwl yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu perthnasol gyda’r Pwyllgor Llywodraethu yn derbyn ymateb i sylwadau’r Pwyllgorau Craffu.

 

Mewn ymateb i  sylw bod  ‘Adroddiad Arolygu Gwasanaeth Gofal yn y Cartref’  ‘wedi ei gwblhau’ ac os oedd y meini prawf wedi eu cyfarch a’r mater wedi ei graffu, nodwyd bod y Gwasanaeth dan sylw wedi derbyn archwiliad diweddar gan yr Arolygaeth Gofal ac y  byddai ymateb yn cael ei baratoi erbyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

Mewn ymateb i sylw dilynol ynglŷn â’r ymadrodd ‘wedi ei gwblhau’ a’r angen am eglurhad cryno efallai yn egluro'r sefyllfa yn llawn, amlygwyd bod ‘wedi ei gwblhau’ yn golygu mwy nag un peth yn yr allwedd a derbyniwyd yr  angen i amlygu pa un sydd yn berthnasol i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth bod trefniadau priodol yn eu lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o adroddiadau archwilio yn cael eu gwireddu

 

Nodyn:

 

·         Bod ‘wedi ei gwblhau’ yn golygu un o ddau beth yn yr ‘allwedd i’r casgliadau’ – angen amlygu pa un sydd yn berthnasol i gasgliadau’r cynigion / argymhellion hynny sydd ‘wedi ei gwblhau’.

 

7.

ARBEDION 2023/24 pdf eicon PDF 256 KB

I graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ystyried cymeradwyo’r Cynllun Arbedion yn ei gyfarfod ar Chwefror y 14eg

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Bod y broses o adnabod yr arbedion wedi bod yn heriol
  • Bod camau rhesymol, o dan amgylchiadau heriol, wedi eu cymryd i lunio’r Cynllun Arbedion
  • Bod yr arbedion a gynigiwyd yn rhesymol a chyraeddadwy
  • Bod y risgiau a’r goblygiadau’r penderfyniad yn glir
  • Bod yr adroddiad yn ddigonol i alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad ar y Cynllun Arbedion yn ei gyfanrwydd
  • Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Arbedion 2023/24 yn eu cyfarfod 14/2/23

 

Nodyn:

  • Bod angen amlygu’r risg o beidio cyflawni cynlluniau yn well
  • Bod angen amlygu na fydd effaith yr arbedion yn cael effaith anwastad ar draws y Sir

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Arweinydd y Cyngor, yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried priodoldeb y broses o adnabod yr arbedion, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet eu hystyried cyn dod i benderfyniad yn eu cyfarfod 14-02-23. Adroddwyd nad rôl y Pwyllgor oedd mynegi barn ar beth ddylai maint yr arbedion fod neu rinweddau’r cynigion unigol sy’n cael ei hargymell fel arbedion, ond yn hytrach sicrhau fod y Cabinet yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt, fel bod y penderfyniad sydd yn cael ei gymryd yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Wrth gyflwyno cefndir i’r gwaith, nodwyd, er bod setliad gwell na’r hyn a ragwelwyd wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, bod y swm yn annigonol i gyfarch costau a bod bwlch ariannol o £12.4m i gyrraedd cyllideb hafal.

 

I ganfod arbedion, cyflwynwyd 320 o gynigion gan Adrannau’r Cyngor (gwerth oddeutu £23m). Aseswyd pob cynnig gan y Prif Weithredwr neu gan un o'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol ac fe’u gosodwyd mewn pedwar categori i gynorthwyo’r Aelodau i  flaenoriaethu gydag ymwybyddiaeth o beth fyddai’r lefel risg o weithredu unrhyw gynnig unigol.

 

Ategwyd bod  asesiad cyfreithiol ac asesiad ariannol lefel uchel wedi ei gwblhau ar bob cynllun unigol i sicrhau bod modd eu cyflawni. Wrth gyflwyno eu cynigion, roedd yr Adrannau wedi cynnwys asesiad o effaith pob cynnig ar drigolion Gwynedd ynghyd ag ystyriaeth gychwynnol i ystyriaethau cydraddoldeb.

 

Dros gyfnod o dri diwrnod bu i bob Pennaeth Adran gyflwyno eu cynigion i weithdai o Aelodau Cabinet, Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion Craffu ynghyd ag Arweinyddion  Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor. Drwy gydol y broses, y prif nod oedd ceisio darganfod cynigion fyddai’n cael y lleiaf o effaith ar drigolion Gwynedd pe byddent yn cael eu gweithredu. Canlyniad y broses oes adnabod oddeutu £6.4m o arbedion effeithlonrwydd y gellid eu gweithredu.

 

O ystyried bod y Cyngor yn wynebu bwlch ariannol o £12.4m dros y ddwy flynedd nesaf, adroddwyd na fyddai’r wedd gyntaf o arbedion (£6.4m) yn ddigonol i’w gyfarch,  ac mai’r bwriad oedd ail ymweld â gweddill y cynigion a gyflwynwyd gan yr adrannau dros y misoedd nesaf. Ar sail rhagdybiaethau ariannol presennol, bydd angen canfod cyfanswm o rhwng £8m ac £8.6m tuag at y bwlch ariannol o £12.4m - bydd angen darganfod rhwng £1.6m a £2.2m o arbedion ychwanegol cyn gosod cyllideb 2024/25. Rhagwelir y byddai hyn yn gwthio’r Cyngor i diriogaeth toriadau yn hytrach nac arbedion effeithlonrwydd sy’n cael eu hargymell yn yr adroddiad, a nodwyd yr angen am fwy o gymorth gan y Pwyllgorau Craffu unigol i wynebu’r her yma.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut bydd yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn dygymod o ystyried bod ganddynt orwariant a llithriad mewn cynlluniau arbedion presennol, nodwyd bod rhai o’r  cynlluniau bellach yn hanesyddol a bod angen cynlluniau a syniadau newydd. Ategwyd bod amgylchiadau presennol yn wahanol iawn i sefyllfa 2015 ac felly angen ystyried y sefyllfa yn realistig. Nodwyd bod swm ar gyfer methiant i gyflawni wedi ei glustnodi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn bod cynlluniau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYLLIDEB 2023/24 pdf eicon PDF 259 KB

Ystyried yr adroddiad a chraffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2023/24 i’r Cyngor llawn

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
  • Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
  • Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr opsiynau i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Cyllideb 2023/24 yn eu cyfarfod 14/2/23

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant drafft o 7.0%, sy’n cyfateb i werth £14.6m mewn ariannu allanol (cyfartaledd ledled Cymru yn 7.9%) ar gyfer 2023/24 sy’n welliant sylweddol ar y setliad dangosol a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2022.  Er derbyn setliad rhesymol eleni, adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2023/24 gyda’r angen i gynyddu gwariant o £27.8m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau.  Yn ogystal â chyfarch graddfa chwyddiant uwch nag y bu ers sawl blwyddyn, bod cyfle i ymdrin â phwysau gwario ehangach gan gynnwys mynd i’r afael â chostau parhaus sy’n deillio o’r argyfwng Covid-19, a dileu neu ohirio cynlluniau arbedion nad yw’n ymarferol i’w gwireddu yn 2023/24.

 

Amlygwyd mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r wybodaeth gan sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.

 

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i  gyflwyno’r wybodaeth i fynegi ei farn a manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r risgiau posib a’r camau lliniaru.

 

Amlygodd, y ceisir penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod 14/02/23 i argymell i’r Cyngor Llawn (2/03/23) sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor (gyda chynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol)  a sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn 2023/24.

 

Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y meysydd hynny;

 

·         Chwyddiant Cyflogau o £14.2m - y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng nghytundeb tâl 2023/24 o 4% ar gyfer yr holl weithlu, a hynny ar ôl ychwanegiad i adlewyrchu’r sefyllfa fod cytundeb tâl terfynol 2022/23 wedi bod yn uwch na’r hyn oedd wedi ei gyllido amdano

·         Chwyddiant Arall o £11.1m - swm sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod eang o newidiadau ar raddfa chwyddiant meysydd penodol (Cartrefi Gofal Preswyl Annibynnol, Gofal Dibreswyl, Ynni, Tanwydd, Cynnydd prisiau eraill).

·         Ardollau i gyrff perthnasol yn cynyddu

·         Demograffi - lleihad net mewn nifer disgyblion a chynnydd mewn plant yn derbyn gofal

·         Pwysau ar Wasanaethau o £5.75m - argymell cymeradwyo bidiau gwerth £2.75m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau.  Yn ychwanegol i’r bidiau parhaol, argymhellwyd cymeradwyo ychwanegiad i’r gyllideb Digartrefedd o £3m sydd yn cael ei ariannu o’r Premiwm Treth Cyngor, yn unol â phenderfyniad y Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022. Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Cyfeiriwyd at ystyriaethau eraill lle nodwyd effaith cynnydd mewn derbyniadau llog mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau â llif arian y Cyngor ynghyd a lleihad mewn cyfraniad pensiwn y cyflogwr yn sgil yr ailbrisiad teirblynyddol. Amlygwyd hefyd byddai defnyddio dull mwy darbodus i glirio dyled Gofyn Cyllido Cyfalaf mewn llai  o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

STRATEGAETH GYFALAF 2023/24 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) pdf eicon PDF 544 KB

I dderbyn gwybodaeth, ystyried unrhyw risgiau sy’n codi o’r strategaeth cyn cyflwyno i’r Cyngor llawn ei dderbyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Cofnod:

a)            Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi trosolwg ar weithgareddau Cyfalaf a rheolaeth trysorlys y Cyngor. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod wedi derbyn cyflwyniad gan yr ymgynghorwyr ariannol, Arlingclose a oedd yn egluro’r manylder tu ôl i’r strategaeth mewn modd dealladwy a chynhwysfawr.

 

Cyfeiriwyd at y gweithgareddau cyfalaf a thynnwyd sylw bod y Cyngor yn bwriadu gwneud gwariant cyfalaf o £67.8miliwn yn 23/24 gyda'r prif gynlluniau wedi ei rhestru yn yr adroddiad ynghyd a’r ffynonellau ariannu. Nodwyd mai’r adnoddau allanol yn bennaf yw Llywodraeth Cymru ac adnoddau ein hunain yw’r cronfeydd.  Daw gweddill o’r arian trwy fenthyciad fydd yn cael ei dalu nôl dros nifer o flynyddoedd, fel arfer o adnoddau refeniw neu o incwm gwerthiant asedau sydd yn gyson gyda gweithred y blynyddoedd blaenorol. Golygai hyn y bydd y dangosydd - Gofyn Cyllido Cyfalaf y Cyngor, yn £177.8 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 23/24, sef y lefel y dylai benthyg tymor hir y cyngor aros oddi tano.

 

Yng nghyd-destun y Strategaeth Fenthyca, amlygwyd yn ddiweddar nad oes gofyn benthyca tymor hir wedi bod, dim ond tymor byr ar gost isel dros ddiwedd y flwyddyn ariannol; bydd hyn am barhau gyda dim benthyca tymor hir yn cael ei ragweld ar gyfer gweithgareddau Cyngor Gwynedd, a bod dyled y Cyngor yn aros o dan y Gofyn Cyllido Cyfalaf.

 

Amlygwyd bod Arlingclose wedi amlygu yr angen i adrodd ar y Meincnod Ymrwymiadau yn chwarterol o hyn ymlaen. Bydd y Cyngor yn disgwyl i’w fenthyciadau fod yn uwch na’i feincnod ymrwymiad hyd ar 2024 oherwydd bod gan y Cyngor lefel uchel o reserfau. Ategwyd y byddai’r sefyllfa yn cael ei fonitro yn barhaus gyda diweddariadau cyson yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor.

 

Yng nghyd-destun Strategaeth Buddsoddi, nodwyd mai polisi'r Cyngor yw blaenoriaethu diogelwch a hylifedd dros gynnyrch i sicrhau bod arian ar gael i dalu am wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd bod symiau yn cael eu cadw i sicrhau hylifedd parhaus - ystyriwyd bod cadw hylifedd a diogelwch yn flaenoriaeth ar hyn o bryd mewn cyfnod o doriadau a chwyddiant.

 

Cyfeiriwyd at y rheolaeth risg a llywodraethu ynghyd â manylder ymrwymiadau tymor hir y Cyngor e.e., unioni diffyg y Gronfa Bensiwn, ac effaith o’r costau ariannu i’r llif arian. Cadarnhawyd hefyd bod y wybodaeth a sgiliau perthnasol gan y swyddogion ac mai Arlingclose fydd yn parhau i ddarparu gwasanaeth ymgynghorwyr ariannol i’r Cyngor am y blynyddoedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad  gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol

·         Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r Strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth ar y 2il o Fawrth 2023

 

10.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2022/23 pdf eicon PDF 467 KB

I ystyried y cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio Mewnol 2022/23

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Archwilio 2022/23

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2022/23. Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd a’r amser a dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd bod 59%%, allan o’r 46 archwiliad unigol sydd yn y cynllun, bod 27 wedi ei ryddhau yn derfynol neu wedi cau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Archwilio 2022/23

 

 

11.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 686 KB

Derbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol
  • Cais am ddiweddariad o Archwiliad Diogelwch Tacsis (lefel sicrwydd cyfyngedig)
  • Bod angen cyfeirio’r mater o ddiffyg gweithredu gweithdrefnau rheolaethol mewn Cartrefi Gofal i’r Pwyllgor Craffu Gofal

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 1 Mai 2022 hyd 25 Ionawr 2023. Amlygwyd bod 24 o archwiliadau’r cynllun wedi eu cwblhau  ac wedi ei gosod ar lefel sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig.

 

Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro.

 

b)    Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

 

                  Archwiliad Diogelwch Tacsi

·         Pryder na welwyd tystiolaeth ddisgwyliedig wrth brosesu ceisiadau trwydded tacsi (dogfennau cofrestru, tystysgrifau MOT a dogfennau yswiriant ar goll)

·         Angen sicrhau bod gan yr Adran Trwyddedu gamau gweithredu dilys i ymateb i’r pryderon ac i osgoi dilyniant o gamgymeriadau yn 2023/24

 

Mewn ymateb, nodwyd mai prinder staff oedd un o’r rhesymau dros lithriad yn safon y gwaith a bod staff ar secondiadau i’r Adran yn ddibrofiad. Ategwyd bod pob ymdrech wedi ei wneud i wella’r sefyllfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os yw’r trefniadau yn berthnasol i dacsi dwr a fferi, nodwyd bod modd cynnwys hyn yng nghynllun 2023/34

 

Archwiliad  Dyletswyddau Economaidd Cymdeithasol 2021

 

Mewn ymateb i gwestiwn lle heriwyd os mai ‘digonol’ yw casgliad cywir yr archwiliad o ystyried bod angen i asesiadau effaith gael eu cefnogi gan ddata er mwyn cyfiawnhau'r datganiadau, nodwyd mai un rhan o ffurflen asesiad terfynol oedd dan sylw yma yn ymateb i’r dyletswydd o annog gwell prosesau o wneud penderfyniadau strategol ac i’r Awdurdod ystyried anghydraddoldeb sy’n deillio o anfantais economaidd.  Mewn ymateb i gwestiwn ategol os yw casglu barn a phrofiadau yn cael eu hystyried fesul grŵp neu ardal, nodwyd bod barn yn cael ei gasglu fesul unigolyn neu grŵp ond bod gwybodaeth ddaearyddol ar gael i’w ystyried.  Ategwyd bod gofynion am brofiadau i weld yn goroesi’r angen am ddata erbyn hyn.

 

Archwiliad Cartrefi Gofal Plas Gwilym, Hafod Mawddach a Bryn Blodau

·         Pryder bod patrwm i’r pryderon yn y Cartrefi Gofal

·         A oes ystyriaeth i gwynion perthnasol i’r gwasanaeth yma wedi eu hystyried? Er bod archwiliad cwynion corfforaethol wedi ei gwblhau a oes modd adeiladu’r darganfyddiadau i’r Archwiliad? Awgrym i edrych ar ddigwyddiadau penodol, cwynion , materion yn codi fel rhan o’r fethodoleg i’r dyfodol - bod modd defnyddio ffynonellau eraill o wybodaeth megis adroddiadau’r Ombwdsman.

·         Bod canfyddiad yr archwiliad yn rhy ffafriol o ystyried patrwm hanesyddol i’r camau rheoli

·         Bod diwylliant yn y maes, nad yw’n gyfyngedig i’r tri cartref dan sylw, o dorri corneli ac anwybyddu gweithdrefnau - angen gweithredu a chyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Craffu Gofal

 

c)    Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

·         Cais am ddiweddariad o Archwiliad Diogelwch Tacsis (lefel sicrwydd cyfyngedig)

·         Bod angen cyfeirio’r mater o ddiffyg gweithredu gweithdrefnau rheolaethol mewn Cartrefi Gofal i’r Pwyllgor Craffu Gofal