skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Ll Evans, Peredur Jenkins a Gethin Glyn Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

PROSIECT HUNANWASANAETH Y WEFAN GORFFORAETHOL pdf eicon PDF 257 KB

I adrodd ar ddatblygiadau’r prosiect ers iddo gychwyn yn 2016

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor, yn dilyn trafodaeth yn y Gweithgor Craffu (10/05/21), yn amlinellu’r ymdrechion a fu ers 2016 i gynyddu’r ddarpariaeth ryngweithiol ar y wefan i geisio sicrhau bod modd cysylltu yn rhwydd gyda’r Cyngor 24 awr o’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Nodwyd bod cynnydd sylweddol yn nifer y trigolion sydd yn defnyddio’r gwasanaeth sy’n gadarnhaol ac yn cadarnhau gwerth y buddsoddiad. Ategwyd bod y gwasanaeth yn parhau i ddatblygu a chydweithio gyda Gwasanaethau ac yn ymgynghori gydag Awdurdodau eraill i geisio gwella’r ddarpariaeth. Nodwyd posibilrwydd o sefydlu swyddfa wrth gefn i gefnogi’r ddarpariaeth, ac er nad yw’r prosiect ei hun yn gallu hawlio arbedion uniongyrchol, mae wedi cynorthwyo i greu arbedion mewn Gwasanaethu  ee. Galw Gwynedd i arbed £23,000 trwy ddatblygu system fewnol.

 

Amlygwyd bod y pandemig wedi arwain at gyflwyno gwasanaethau ar-lein mewn meysydd lle nad oedd rhai yn bodoli yn flaenorol a hynny wedi arwain at gynnydd mewn ceisiadau am y gwasanaethau ar-lein yn gyffredinol. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau i’r dyfodol oedd yn cynnwys sefydlu sgwrs fyw, rhannu manylion mynediad ysgolion, ffurflenni morwrol ynghyd a cheisiadau pellach i gyflwyno, e.e., rhestr aros Tai, cyfarpar ailgylchu, slotiau i ymgymerwyr mewn amlosgfa, ceisiadau rhieni maeth. Ystyriwyd bod hyn i’w groesawu ac yn gosod her arall o flaenoriaethu’r holl geisiadau mewn modd sydd yn dod â budd i’n cwsmeriaid a’r gwasanaethau dan sylw.

 

Ategodd yr Aelod Cabinet fod y Cabinet yn llwyr gefnogol i’r prosiect ac yn ymfalchïo yn y gwaith da sydd yn cael ei wneud. Nododd bod y dewis i ddefnyddio technoleg i gysylltu 24awr yn fanteisiol a bod Gwynedd yn torri tir newydd drwy gynnig y gwasanaeth yn ddwyieithog.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y gwasanaeth yn gwneud gwaith gwych – yn sicr y ffordd ymlaen

·         Bod dyfalbarhad a brwdfrydedd y Tîm i’w longyfarch

·         Bod angen adolygu’r camau ‘tynnu sylw at dyllau yn y ffordd’ – rhy gymhleth

·         Bod angen sicrhau profiad da os am gyflwyno ‘sgwrs ar lein’ - rhaid sicrhau bod staff wrth gefn gyda gwybodaeth gyfredol ac ystyried yn ofalus pa Wasanaethau sydd yn addas i’w cynnig. Angen osgoi sefyllfa rwystredig ac amhersonol i’r cwsmer.

·         Angen sicrhau bod cod post Powys yn cael ei dderbyn yn ‘Lle Dwi’n Byw’ - rhai o’r codau post hyn yn berthnasol i drigolion Gwynedd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymateb i adborth gwael ac os oedd patrymau i’r sylwadau hynny, nodwyd pe byddai’r  mater yn un technegol bydd Tîm y Wefan yn ymdrin â’r mater gyda chefnogaeth y Gwasanaeth TG. Os mai un o Wasanaethau eraill y Cyngor sydd yn derbyn adborth gwael, yna mae’r ymateb yn debygol o amrywio o Wasanaeth i Wasanaeth, ond bod pob ymgais yn cael ei wneud i sicrhau ymateb.  O safbwynt patrwm i sylwadau, nodwyd bod y Tîm Prosiect yn edrych ar feddalwedd dadansoddi i ymgymryd â’r gwaith yma.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amserlen ymateb i sylwadau, nodwyd y byddai’r Tîm Prosiect yn gweithio gyda’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

DATGANIAD O'R CYFRIFON 2020/21 pdf eicon PDF 109 KB

I dderbyn y datganiad o gyfrifon Statudol (drafft cyn archwiliad) er gwybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol a’r archwiliad) ar gyfer 2020 / 21

 

Cofnod:

Cymerodd  yr Aelod Cabinet Cyllid y cyfle i ddiolch i staff yr Adran Cyllid am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) y Cyngor wedi eu cyflwyno i Archwilio Cymru sef yr archwilwyr allanol, cyn y dyddiad statudol (31 Mai 2021). Ategodd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch i’r staff am gyflawni’r gwaith gan ymateb i amserlen statudol heriol newydd, ynghanol argyfwng Covid19. Diolchwyd hefyd i’r Gwasanaeth TG am alluogi datblygiadau gweithio o adre. Nododd ei fod eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft ac mai ymarfer da fyddai rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi cyfle i holi / cyflwyno sylwadau. Bydd y cyfrifon terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor eu cymeradwyo 14/10/21.

 

O ran y Prif Ddatganiadau a’r Nodiadau, eglurwyd bod y Datganiad wedi ei gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys yn drwsgl a thechnegol gymhleth ac amlygwyd bod y ffigyrau pensiwn yn dueddol o ystumio’r ffigyrau. I ddeall y sefyllfa ychydig yn well cyfeiriwyd at y wybodaeth yn Nodyn 38. Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod ef, ynghyd a Thrysoryddion eraill ar draws y DU,  yn cynnal trafodaethau gyda CIPFA i geisio dwyn perswâd arnynt i ddiddymu’r ffigyrau pensiwn sydd yn arwain at gam argraff ar rai agweddau yn y Datganiad.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Cyllid bod chwe set o gyfrifon wedi eu cwblhau ond nad oedd  modd iddynt gael eu harchwilio a’u cymeradwyo tan dymor yr Hydref, gan fod angen   sicrhau bod hawliau’r cyhoedd yn weithredol. Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau:

 

·         Datganiad Symudiad mewn Reserfau (tud 22 o’r rhaglen) sydd yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor am 2020/21 - tynnwyd sylw at y colofnau gwybodaeth ychwanegol:

-        colofn 1: balansau cyffredinol y Cyngor wedi cynyddu £1.8 miliwn yn ystod y flwyddyn, £7.5 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2020 i £9.4 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2021

-        colofn 2: yn cyfeirio at  gynnydd o £20 miliwn yn ystod y flwyddyn yn y cronfeydd, £59 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2020 i £79 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2021

-        colofn 3  - balansau Ysgolion - cynnydd o £6.4 miliwn o £4.3 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2020 i £10.8 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2021.

Amlygwyd mai’r prif resymau dros y cynnydd oedd derbyniad grantiau amrywiol      sylweddol.

·         Trefniadau newydd ar gyfer eleni, ar y cyd gyda Chynghorau eraill yn ymwneud â Covid (tudalen 94) gan gynnwys Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y cyfrifon (drafft) yn amodol ar Archwiliad gydag adroddiad gan yr Archwilwyr Allanol (Archwilio Cymru) ynghyd a chyfrifon terfynol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor eu cymeradwyo 14/10/21.

 

    Diolchwyd am yr adroddiad

           

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â grantiau yn cael eu derbyn at ddibenion pwrpasol  ac o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2020/21 pdf eicon PDF 316 KB

I dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2020/21, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn 5/3/20. Nodwyd bod gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol, a derbyniwyd £422,000 o log ar fuddsoddiadau a oedd yn uwch na’r £400,000 yn y gyllideb. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw.

 

Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un heriol gyda chyfraddau llog yn gostwng, cyfyngiadau ar ble i fuddsoddi arian ynghyd a symiau sylweddol yn cael eu prosesu gyda’r Cyngor yn gweinyddu dros £100 miliwn o grantiau Covid 19 i fusnesau. Er hynny, roedd y  Cyngor wedi llwyddo i sicrhau bod y buddsoddiadau yn ddiogel ac wedi cyrraedd y targed incwm buddsoddi.

 

Tynnwyd sylw at y fantolen ynghyd a manylder y gweithgareddau benthyca gan amlygu bod y benthyciadau wedi parhau o fewn y strategaeth o gadw’r costau benthyca yn isel. Ni wnaethpwyd unrhyw fenthyciadau tymor hir yn y flwyddyn ac  ni wnaed llawer o ddefnydd o fenthyciadau tymor byr oherwydd bod lefelau’r arian wedi bod yn uchel o gymharu â diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf lle cymerwyd benthyciadau tymor byr oherwydd ansicrwydd sefyllfa Covid 19.

 

Adroddwyd, yng nghyd-destun buddsoddiadau, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau, Cronfeydd Marchnad Arian, a Chronfeydd wedi’i pwlio, ond bod cynnydd mewn defnyddio Awdurdodau Lleol gan fod y cyfleoedd gyda’r banciau a’r sefydliadau tebyg yn gyfyngedig iawn, a chyfraddau marchnad arian yn isel iawn. Ategwyd bod y  dychweliadau wedi bod yn isel iawn, ond bod y cronfeydd wedi’i pwlio wedi achub y sefyllfa gan eu bod wedi bownsio yn ôl ar ôl cwymp diwedd flwyddyn ariannol 2019/20. Amlygwyd bod gwerth y buddsoddiadau wedi codi £0.6 miliwn yn y flwyddyn, gyda chyfradd 5.13% wedi cyfrannu at yr incwm llog gan sicrhau nad oedd diffyg yn erbyn y gyllideb.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod cydymffurfio llawn wedi digwydd ar wahân i’r datguddiad cyfraddau llog. Amlygwyd bod y datguddiad yma yna dangos effaith refeniw un flwyddyn o gynnydd o 1% mewn cyfraddau llog gan amlygu effaith difrifol y mae’r pandemig wedi ei gael ar enillion buddsoddiadau o gymharu ar hyn a ragwelwyd ddechrau Mawrth 2020 pan osodwyd lefel y cyfyngiad -  cyn pandemig Covid 19.  Ategwyd bod dychweliadau ar y cronfeydd wedi’i pwlio wedi adfer y gollyngiad llog.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Er balchder o dderbyn grantiau, Cyngor Gwynedd wedi gwneud y penderfyniad o ddefnyddio eu cyllid fel bod effeithiau covid 19 ar drigolion Cyngor yn lleihau

·         Bod angen cywiro tabl Crynodeb Rheolaeth Trysorlys (tud 100 o’r rhaglen) i amlygu £’000 yn lle £m

 

Mewn ymateb i sylw yn yr adroddiad ‘bod hyd buddsoddiad a nifer y sefydliadau sydd i adneuo arian gyda nhw wedi ei leihau yn seiliedig ar y cyngor a gafwyd gan Arlingclose  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

TREFNIADAU GWRTH DWYLL, GWRTH LYGREDIGAETH A GWRTH LWGRWOBRWYO pdf eicon PDF 442 KB

I ddiweddaru’r Pwyllgor am drefniadau atal twyll ac atal llygredd y Cyngor, a’r cynnydd ar y rhaglen waith tair blynedd

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd yn y maes gwrth-dwyll a gwrthlygredd

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn diweddaru’r Pwyllgor ar drefniadau atal twyll ac atal llygredd y Cyngor ynghyd a chynnydd ar raglen Strategaeth Gwrth-dwyll, Gwrthlygredd a Gwrth  Lwgrwobrwyo Cyngor Gwynedd 2019 - 2022 a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor 14 /02/2019. Nodwyd bod y Strategaeth yn cynnwys wyth o weithrediadau y dylid eu cyflwyno yn ystod y tair blynedd er mwyn cryfhau trefniadau gwrth-dwyll y Cyngor o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Ategwyd y byddai gwaith yn dechrau dros yr Haf ar lunio rhaglen waith  ar gyfer 2022/25.

 

Amlygwyd nad oedd swyddogion y Cyngor yn ymchwilio i honiadau o dwyll yn ei erbyn ar hyn o bryd.

 

Adroddwyd nad oedd gweithdai penodol wedi eu cynnal  i adnabod risgiau newydd, ond bod Rheolwr Archwilio Mewnol wedi cyfarfod gyda phob Pennaeth Adran i drafod agweddau o risg fyddai angen eu cynnwys yng Nghynllun Archwilio Mewnol 2021/22.

 

Un elfen na ellid gweithredu arni oherwydd sefyllfa barhaus y pandemig oedd cynnal cyfweliadau twyll yn erbyn y Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor, a fyddai’n arwain at gosb weinyddol neu erlyniad yn yr achosion mwyaf difrifol. Er ceisio cynllunio camau pellach nid yw’r sefyllfa eleni wedi caniatáu datblygiadau yn y maes yma.

 

Tynnwyd sylw at y Fenter Twyll Cenedlaethol (NFI) sydd yn cynnal ymarfer paru data sydd yn helpu cyrff cyhoeddus i ganfod ac atal twyll a gordaliadau o’r pwrs cyhoeddus. Bydd y gwaith paru data yn cael ei wneud bob dwy flynedd gydag ymarferiad llawn yn digwydd yn fuan.  Mae data eisoes wedi ei ddarparu i Archwilio Cymru er mwyn iddynt gyflawni'r gwaith ac mae canlyniadau’r gwaith hwnnw yn dechrau cael ei wirio gan Archwilio Mewnol (sydd wedi clustnodi 40 diwrnod ar gyfer cyflawni’r dasg yng nghynllun 2021/22). Bydd y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ar y gwaith ac unrhyw achosion sydd yn dod i’r amlwg wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

 

Ategwyd bod y Fenter Twyll Cenedlaethol hefyd yn gymorth i adolygu’r taliadau grantiau a wnaed i Fusnesau Gwynedd yn ystod y cyfnodau clo. Bu 5 cynllun grant yn ystod 2020/21 a dosbarthwyd dros £106m o arian grant. Nodwyd bod arwyddion cynnar yn awgrymu nad oes ceisiadau twyllodrus wedi dod i’r amlwg trwy’r ymarferiad NFI a bod hyn yn cadarnhau bod trefniadau cadarn yn eu lle o fewn y Gwasanaeth Trethi oedd yn gweinyddu’r grantiau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

Derbyn y wybodaeth fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd yn y maes gwrth-dwyll a gwrthlygredd