skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd  ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Pughe Roberts, Aled Wyn Jones, Huw W Jones a Sion W Jones

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 300 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Hydref 2021 fel rhai cywir

 

5.

STRATEGAETH CYLLIDEB 2022/23 pdf eicon PDF 162 KB

I ystyried y wybodaeth, risgiau sy’n deillio o’r strategaeth, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r amserlen, y rhagolygon a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllideb y Cyngor
  • Derbyn penderfyniadau’r Cabinet (28 Medi 2021)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad ar gais yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi amserlen, rhagolygon a risgiau perthnasol yng nghyswllt strategaeth cyllideb y Cyngor i’r Pwyllgor. Gosodwyd cyd-destun i’r adroddiad gan amlygu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad 28 Medi 2021. Penderfynodd y Cabinet gymeradwyo’r drefn ac amserlen llunio Cyllideb 2022/23, gan nodi os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2022/23, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr, a phwyllo cyn adnabod arbedion ychwanegol fydd angen yn ystod Haf 2022. Hefyd, penderfynodd y Cabinet dderbyn cynnwys yr adroddiad fel Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, gan nodi bod cynllunio ariannol yn hynod heriol.

 

Mynegwyd bod sawl cais eleni am adnoddau ychwanegol o ganlyniad i bwysau ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd mai Grant Llywodraeth Cymru yw prif ffynhonnell ariannol y Cyngor a bod y Llywodraeth wedi nodi eu bwriad i gyhoeddi setliad drafft 2022/23 ar gyfer awdurdodau lleol ar 21 Rhagfyr 2021 a’r setliad terfynol ar yr 2il o Fawrth 2022. Eglurwyd bod yr amserlen yma’n un hynod heriol a bod ansicrwydd ariannol o ganlyniad i’r pandemig.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Cyllid bwysigrwydd y seminarau rhithiol ar y gyllideb i aelodau ym mis Ionawr, a phwysodd ar bawb i bresenoli eu hunain yn y sesiynau.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid, bod cais i isafu unrhyw newid rhwng y setliad ddrafft a'r setliad grant terfynol, gan mai anodd, o dan yr amgylchiadau presennol yw cynllunio ar gyfer 2022/23. Ategodd bod niferoedd Covid yn parhau’n uchel yng Ngwynedd ac nad oedd arwydd clir o pryd fydd y wlad a’r byd yn adfer. Cyfeiriodd at gefnogaeth y Gronfa Galedi sydd ar hyn o bryd yn ariannu costau sylweddol ychwanegol ym meysydd digartrefedd, gofal, a phrydau ysgol am ddim, ond amlygodd ei bryder o ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Lleol na fydd Cronfa Caledi o Ebrill 2022 ymlaen. O ganlynaid, byddai gallu’r Cyngor i barhau i gyllido’r gwasanaethau uchod ar lefel uwch yn ddibynnol ar ddyraniad arian ychwanegol yn y setliad.

 

Cyfeiriwyd at ragdybiaethau oedd yn gosod tri senario - gorau, canolog a gwaethaf o fewn rheswm. Er yn ragdybiaethau bras, nodwyd bod sefyllfa gyllidol gadarn y Cyngor a chronfeydd wrth gefn iach yn golygu fod modd defnyddio’r cronfeydd hyn i liniaru sefyllfa tymor byr. Tynnwyd sylw at yr heriau fydd yn wynebu’r Cyngor, yn cynnwys adferiad Covid, a chynnydd chwyddiant mewn cyflogau, yswiriant cenedlaethol, cost tanwydd, ayb.

 

Mynegwyd nad oedd rheswm i addasu’r strategaeth, gan nad oedd tystiolaeth digonol ar hyn o bryd i wneud hynny

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

·         Bod yr argymhelliad i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i liniaru sefyllfa yn gam positif iawn ar gyfer y tymor byr.

·         Cydweld gyda defnyddio cronfeydd wrth gefn fel nad oes toriadau.

·         A oes ystyriaeth goblygiadau i ffordd newydd o weithio wedi eu hystyried?

·         Bod trefn gadarn a llwyddiannus o fonitro arbedion - hawdd fyddai defnyddio reserfau - angen rhannu neges gydag adrannau yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2021-22 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 426 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2021 bod gweithgarwch buddsoddi a benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2021/ 22.

 

Cyfeiriwyd at y cyd-destun allanol oedd yn cyfeirio at y cefndir economaidd, marchnadoedd ariannol ac adolygiad credyd. Yng nghyd -destun benthyca, amlygwyd y gall awdurdodau lleol fenthyca gan Fwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) ar yr amod eu bod yn gallu cadarnhau nad ydynt yn bwriadu prynu ‘asedau buddsoddi yn bennaf ar gyfer cynnyrch’ yn y ddwy flynedd ariannol gyfredol neu nesaf, gyda chadarnhad o bwrpas gwariant cyfalaf gan y Swyddog Adran 151. Nid yw’r Awdurdod yn bwriadu prynu unrhyw asedau buddsoddi yn bennaf ar gyfer cynnyrch o fewn y tair blynedd nesaf ac felly mae’n gallu cyrchu’r PWLB yn llawn - ystyriwyd benthyca o’r PWLB fel yr opsiwn gorau

 

Eglurwyd bod £10m o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol sydd yn cael eu rheoli yn allanol lle mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn llai o ystyriaeth. Er bod y gwerth cyfalaf cyfun o £9.243m yn llai na’r buddsoddiad cychwynnol o £10m, gwnaed y buddsoddiadau gan wybod y byddai gwerthoedd cyfalaf yn ansefydlog ar fisoedd, chwarteri a hyd yn oed blynyddoedd; ond gyda'r hyder y bydd cyfanswm yr enillion dros gyfnod o dair i bum mlynedd yn uwch na chyfraddau llog arian parod. O ganlyniad gwireddir yr amcanion drwy sefydlogrwydd prisiau tymor canolig.

 

Cyfeiriwyd at ddefnydd Swyddfa Rheoli Dyledion fel cerbyd buddsoddi sydd yn talu ychydig mwy nag eraill ac yn hyblyg, hawdd a diogel i’w ddefnyddio. Er bod y cyfraddau yn isel a’r rhagolygon yn wan ac ansefydlog, adroddwyd bod y Cyngor yn buddsoddi cymaint ag y gallent o fewn cyfnod heriol;

 

Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio’n llawn gyda Chod Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys ac yng nghyd-destun hyfforddiant buddsoddi bod swyddogion, yn ystod y cyfnod, wedi mynychu hyfforddiant buddsoddi gydag Arlingclose a CIPFA sy’n berthnasol i’w swyddi. Tynnwyd sylw at ddiwygiadau i godau CIPFA oedd yn cynnwys

·         Cynnwys materion ESG fel ystyriaeth o fewn Rheolaeth Risgiau TMP 1.

·         Ffocws ychwanegol ar wybodaeth a sgiliau swyddogion ac aelodau etholedig sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau.

 

Amlygwyd bod Arlingclose yn disgwyl i'r Gyfradd Banc gynyddu yn Ch2 2022 a hyn oherwydd dymuniad Banc Lloegr i symud o lefelau argyfwng gymaint ag ofn pwysau chwyddiant. Mae buddsoddwyr wedi cynnwys sawl cynnydd yn y Gyfradd Banc i 1% erbyn 2024 yn eu prisiadau. Er bod Arlingclose yn credu y bydd y Gyfradd Banc yn codi, ni fydd mor uchel â disgwyliadau'r marchnadoedd.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod y perfformiad yn dderbyniol er gwaethaf cyfraddau llog echrydus o isel.

 

Diolchwyd am yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ASESIAD CYNALIADWYEDD ARIANNOL pdf eicon PDF 129 KB

I ystyried yr adroddiad ynghyd ag ymatebion Cyngor Gwynedd i’r argymhellion

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cymeradwyo ymateb Cyngor Gwynedd i argymhellion Archwilio Cymru

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn amlygu ymatebion Cyngor Gwynedd i adroddiad gan Archwilio Cymru yng nghyswllt cynaliadwyedd ariannol y Cyngor. Tynnwyd sylw at bedwar argymhelliad oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Croesawyd Alan Hughes, Archwilydd Arweiniol o Archwilio Cymru i gyflwyno’r canfyddiadau.

 

Nodwyd bod gan y Cyngor ddealltwriaeth dda o’i sefyllfa ariannol, ond bod sawl her ariannol o hyd gan gynnwys parhau i gario drosodd arbedion heb eu cyflawni sydd yn achosi pwysau ariannol heb ei datys ar wasanaethau ac y bydd canfod a chyflawni arbedion yn fwy o her yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at yr ymatebion gan ofyn i’r Pwyllgor gefnogi’r gweithredu.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Yn argymhelliad 2 a 3 bod angen ystyried nad gofynion data cyllidol sydd yma

·         Pwysig i’r Cyngor wneud defnydd o wybodaeth gefndirol

·         Bod pob penderfyniad ariannol yn seiliedig ar ddata

·         Pam yr angen i ragweld 3 blynedd i’r dyfodol? Nid oes gan y Llywodraeth gynllun 3 blynedd pam felly gofyn i’r Cyngor wneud? Derbyn bod posib rhagweld ond ni fyddai sail cadarn i dafluniadau

·         Nodyn ‘tystiolaeth i ddangos defnydd o gronfeydd wrth gefn i wella a thrawsnewid gwasanaethau a all yn eu tro helpu a chynaliadwyedd y Cyngor’ – gofynnwyd i Archwilio Cymru am enghraifft o sefyllfa – angen gwybodaeth ehangach

·         A’i sylwadau cyffredinol sydd dan sylw ynteu wendidau mewn adrannau?

 

Cytunwyd gyda’r sylw bod data yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau buddsoddi ond y gellid defnyddio data cyfredol hefyd i ddad-fuddsoddi lle efallai nad oes galw  neu wneud pethau yn wahanol. Ystyriwyd bod £71m wrth gefn yn swm sylweddol all gyfrannu tuag at raglenni trawsnewidiol fyddai'n gwneud gwasanaeth cynaliadwy

 

Mewn ymateb nododd y Pennaeth Cyllid bod arian wrth gefn yn cyfrannu at brosiectau newydd e.e., strategaeth technoleg gwybodaeth ysgolion, swydd prosiect rheoli hinsawdd, gwella Galw Gwynedd, ac fe anogir adrannau i gyflwyno cynlluniau ynghyd a bidiau am arian.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adrannau yn cyflwyno cynlluniau ac os yw’r cynlluniau yn cael eu gwyntyllu i sicrhau bod yr arian yn mynd i’r lle iawn, nodwyd bod llu o gynlluniau wedi eu cyflwyno ac y byddai’r Cabinet yn trafod bidiau ym mis Ionawr.

 

Mewn ymateb i sylw am ragolygon tair blynedd, nododd yr Archwilydd bod gwerth mewn rhagolygon, er nad oes ffynhonnell ariannol wedi ei gytuno. Awgrymwyd mai data ariannol  sydd yn rhan o’r sgwrs bresennol, ond y gellid ystyried gwybodaeth gefndirol megis twf yn y galw, achosion cymhleth neu brisiau marchnad fel enghreifftiau fyddai’n cyfoethogi’r sgwrs. Nodwyd bod y broses rheoli perfformiad yn cael ei foderneiddio gyda gosodiad mesurau a dangosyddion, er yn anffodus nid yw’n cael ei wneud gan bob adran. Ategodd bod cyfeiriad y Cyngor yn galonogol a’i fod yn hyderus yng ngallu'r Cyngor i weld newidiadau gan ddefnyddio cyd-destun sefyllfaoedd - byddai hyn yn rhoi'r Cyngor mewn lle da.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Aelod Cabinet bod angen ystyried a defnyddio pob math o ddata er  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ARCHWILIO CYMRU - RHAGLEN WAITH AC AMSERLEN pdf eicon PDF 194 KB

I dderbyn diweddariad ar raglen waith Chwarter 2 Archwilio Cymru

Penderfyniad:

Derbyn rhaglen waith Chwarter 2 Archwilio Cymru

 

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad chwarterol (hyd at 30 Medi 2021) o raglen waith ac amserlen Archwilio Cymru. Trafodwyd y gwaith archwilio ariannol a'r gwaith archwilio perfformiad lleol gan amlygu y byddai’r Adolygiad o Reoli Perfformiad yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd. Cyfeiriwyd at adroddiadau cenedlaethol ac allbynnau eraill a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru ers Ebrill 2021.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelod:

·         Bod yr amserlen ar gyfer rheoli perfformiad yn dynn iawn os am gwblhau ym mis Chwefror

·         Er cynnydd sylweddol mewn mewnlifiad, dim cyfeiriad at y maes yn y rhaglen waith. Y mater yn creu effaith syfrdanol ar y Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol - yn enwedig yn y siroedd tlotaf

 

Mewn ymateb i sylw bod Llywodraeth Cymru bellach yn cynllunio ymlaen 3 blynedd, a sut byddai hyn yn ymrwymo ac ariannu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sydd yn cynllunio ymlaen 50 mlynedd, nodwyd bod y pum egwyddor gynaliadwy sydd rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt wrth weithio yn eu cynorthwyo i gydweithio’n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a mynd i’r afael â rhai o’r heriau hirdymor. Ategodd yr Archwilydd ei fod hefyd yn derbyn y sylw ynglŷn â mewnlifiad ac y byddai’r mater yn derbyn sylw pan fydd risgiau yn cael eu cloriannu.

 

                PENDERFYNIAD:

 

·         Derbyn rhaglen waith Chwarter 2 Archwilio Cymru

 

 

9.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU ( CYMRU) 2021 pdf eicon PDF 255 KB

I ystyried  yr adroddiad a chytuno ar yr argymhelliad ynglŷn a maint y Pwyllgor i’r dyfodol. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cymeradwyo cynnydd yn y Rhaglen Waith a cheisio diweddariad ar gyfer cyfarfod Mis Chwefror
  • Argymell i’r Cyngor Llawn maint cyfansawdd o 18 aelod ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - 12 Aelod Cyfetholedig a 6 Aelod Lleyg. I fod yn weithredol o 5 Mai 2022
  • Derbyn y newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad – newidiadau statudol i’w cyflawni gan y Swyddog Monitro yn unol a’i hawl dan y Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro yn diweddaru'r Pwyllgor ar gynnydd yn y rhaglen waith mewn ymateb i Ddeddfwriaeth sy’n cyflwyno newidiadau a grymoedd llywodraethiant Llywodraeth Leol yng Nghymru. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor wedi mabwysiadu rhaglen waith (Mai  2021) sy’n ymateb i ddarpariaethau a gofynion y Ddeddf ac sy’n cyfarch y camau mewn modd amserol a phriodol.

 

Tynnwyd sylw at newidiadau penodol statudol i swyddogaethau a chyfansoddiad y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu o fewn y Ddeddf gan gyfeirio at yr atodiad oedd yn amlinellu prif newidiadau i’r Cyfansoddiad.  Adroddwyd, gyda thraean yr aelodaeth yn Aelodau lleyg, bod hysbyseb i ganfod aeldoau wedi ei chyhoeddi a bod cyfundrefn gyda phanel penodi mewn lle i argymell i’r Cyngor Llawn fydd yn cymeradwyo’r penodiadau yn unol a drefn a sefydlwyd Mai 2017.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol cafwyd y cwestiynau a’r ymatebion canlynol:

 

·         A oes modd i Gynghorydd sydd yn ymddeol roi ei enw ymlaen fel Aelod Lleyg?

Byddai rhaid cael bwlch o 12 mis rhwng ymddeol a gwneud cais

·         A fydd y Cadeirydd yn derbyn tal am fod yn Gadeirydd?

Bydd Cadeirydd yn derbyn lwfans aelod cyfetholedig sydd wedi ei osod gan y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

·         A oes ymateb wedi ei dderbyn i’r hysbyseb?

Dyddiad cau yw Tachwedd 25ain - gwybodaeth wedi ei rannu gyda’r Aelodau i annog rhywun addas i geisio

·         Pwy fydd yn penodi’r Aelodau Lleyg?

Yn unol â threfn a sefydlwyd yn Mai 2017, bydd y panel yn cynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Aelod Cabinet Cyllid a fydd wedi eu cynghori gan y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Monitro. Bydd y ceisiadau yn cael eu hystyried ac argymhelliad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

·         A fydd Cynghorau ymylol yn chwilio am yr un Aelodau ac a fydd modd i un person fod yn aelod ar ddau bwyllgor?

Derbyniol i Aelodau fod yn aelodau Pwyllgor mewn mwy nag un Sir

·         Os methu penodi a fydd ‘sedd wag’ yn cael ei nodi?

Er bod penodi efallai yn heriol, os na fydd pob sedd yn cael ei llenwi, bydd rhaid amlygu sedd wag

·         A yw’r Aelodau Lleyg yn gorfod bod o Wynedd?

Dim rhaid i aelodau fod o Wynedd, ond bod gofyn iddynt fod a chysylltiad a’r Sir

·         Pwy fydd yn monitro safon? A fydd balans gwleidyddol yn cael ei ystyried?

Bod aelodau lleyg gyda barn annibynnol - bydd angen i unrhyw fuddiant gael ei gofnodi gyda manylion cofrestru gyda phlaid wleidyddol

·         A fydd modd ystyried cynnal cyfarfod anffurfiol i bawb ddod i adnabod ei gilydd cyn dechrau’r drefn newydd?

Hyn heb ei drafod yn swyddogol. Nodwyd ynghyd ag aelodau lleyg y bydd aelodau newydd posib hefyd ar y Pwyllgor, felly derbyn yr awgrym i gynnal sgwrs ymlaen llaw yn nodi dyheadau rôl, cyn efallai penodi Cadeirydd

·         Gydag Aelod Lleyg i’w benodi fel Cadeirydd ar y Pwyllgor, awgrym i’r panel cyfweld holi ymgeiswyr os ydynt yn ystyried eu hunain yn addas ar gyfer bod yn Gadeirydd.

Posib holi os  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.