skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Seimon Glyn a Tudor Owen

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 186 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15.09.16 fel rhai cywir   . 

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15fed o Fedi 2016 fel rhai cywir.

 

5.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2016/17 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 451 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad a chefndir yr adroddiad,  er gwybodaeth, gan y Rheolwr  Buddsoddi  yn egluro ei bod yn ofynnol dan Gôd Ymarfer CIPFA i gynghorau adrodd ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Amlygwyd yn yr adroddiad weithgareddau’r trysorlys ynghyd a’r monitro risg a rheolaeth risg gysylltiedig.

 

Nodwyd bod cyfraddau llog y Banc cyfradd sylfaenol wedi lleihau i 0.25% ym mis Awst a byddai effaith hyn yn cymryd amser i weithio drwy’r system. Awgrymwyd hefyd y byddai’r cyfraddau llog yn debygol o leihau ymhellach gyda sylw yn cael ei wneud ar gyflwyno cyfraddau llog negyddol. Amlygwyd bod seminar yn cael ei gynnal ym mis Ionawr gydag Arlingclose (Ymgynghorwyr Trysorlys y Cyngor) i drafod rheolaeth trysorlys - nodwyd bod aelodau’r  Pwyllgor Archwilio eisoes wedi cael cynnig a bod y gwahoddiad hynny yn cael ei ymestyn i aelodau’r Pwyllgor Pensiynau.

 

Yng nghyd-destun buddsoddiadau Banc Heriatable, nodwyd bod yr awdurdod bellach wedi adennill 98% o fuddsoddiadau gyda’r tebygolrwydd y bydd dosraniadau pellach.

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD ER GWYBODAETH

 

 

 

6.

PRISIAD ACTIWARAIDD 2016 - DIWEDDARIAD AR Y BROSES pdf eicon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Yn dilyn derbyn cyfraddau unigol cyfraniadau cyffredinol cyflogwyr bore'r 10fed o Dachwedd, adroddwyd bod y sefyllfa yn un dda. O ran lefel cyllido ar sail ariannu cytunedig, nodwyd bod y diffyg ariannu wedi ei leihau o 85% yn 2013 i 91% yn 2016. Adroddwyd mai'r prif reswm dros y newid oedd bod y dychweliadau buddsoddi wedi bod yn well na’r hyn a ragwelwyd. Nodwyd y byddai lefel cyfraniadau pensiwn cyflogwr i ariannu ymrwymiadau gwasanaeth y gorffennol yn lleihau. Fodd bynnag, bydd prisiad ymrwymiadau gwasanaeth y dyfodol, a lefel cyfraniadau pensiwn cyflogwyr  bydd ei angen er mwyn ariannu’r ymrwymiadau hynny, yn cynyddu.

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD

 

7.

DIWEDDARIAD PWLIO BUDDSODDIADAU pdf eicon PDF 195 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Buddsoddi yn darparu diweddariad ar y sefyllfa o pŵlio buddsoddiadau yng Nghymru.  Atgoffwyd yr aelodau bod yr 8 gronfa CPLlL yng Nghymru wedi cyflwyno cynnig i Lywodraeth y DU er mwyn galluogi pwlio eu buddsoddiadau o £13bn. Prif amcan y fenter yw cyflawni arbedion ar gostau rheolaeth buddsoddiadau trwy ddarbodion maint a darparu mynediad i’r cronfeydd at gyfleoedd buddsoddi dichonol ystod eang.

 

Adroddwyd bod y fenter yn creu gwaith ychwanegol, manwl a chymhleth e.e.,  - trefniadau cydweithio, ymofyn cyngor cyfreithiol a sefydlu cytundebau. Er hynny, bydd llwyddiant y fenter yn sicrhau dychweliadau gwell i’r gronfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, adroddwyd y byddai Cronfa Gwynedd yn parhau fel cronfa unigol ac y byddai’r Pwyllgor Pensiynau yn parhau i ddewis y rhaniad o’r portffolio rhwng y categoriau o fuddsoddiadau, ond bod y cwmniau sy’n rheoli’r buddsoddiadau hynny yn opsiynau o fewn y pwl.

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD ER GWYBODAETH

 

 

8.

DIWEDDARIAD AR YR YMARFERIAD CYSONI ISAFSWM PENSIWN GWARANTEDIG (IPG) pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Pensiynau

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Pensiynau ar yr ymarferiad o gysoni Isafswm Pensiwn Gwarantedig (IPG). Atgoffwyd yr aelodau bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar y 15fed o Dachwedd 2015 wedi cymeradwyo sefydlu tîm mewnol i gysoni'r IPG yn unol ag argymhellion CThEM. Er mwyn cwblhau'r dasg erbyn 31 Mawrth 2018, eglurwyd bod angen ymestyn cytundebau gwreiddiol aelodau’r timau er mwyn ymateb i’r cynnydd yn y gwaith (cyfanswm costau o Ionawr 2017 - Mawrth 2018 = £81,972). Amlygwyd byddai'r gost yn rhesymol iawn o gymharu â chronfeydd eraill Cymru gan fod rhai yn ystyried allanoli’r gwaith, ar gost a amcangyfrifwyd yn £500k.

 

Yn ychwanegol, nodwyd bod y Trysorlys, i symleiddio’r broses o gysoni data, wedi argymell bod y swm IPG wythnosol a delir gan y Cynllun Pensiwn Sector Gyhoeddus a CThEM, o fewn lefel goddef o £2 yr wythnos. Nodwyd bod y Llywodraeth yn awgrymu y dylid sicrhau cymeradwyaeth y Pwyllgor ar gyfer y lefel goddef yma.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau ymestyn cytundebau, adroddwyd bod arbenigrwydd unigryw yn bodoli o fewn y tîm, ac felly synnwyr cyffredin fyddai defnyddio'r adnodd werthfawr yma.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lefel goddef o £2 yr wythnos, amlygwyd bod yr ymarfer yn galluogi ein staff i gau ffeil, yn hytrach na chanolbwyntio yn ormodol  a’r fanylion mân.

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD

 

i.               CYMERADWYO PARHAU I ARIANNU’R PROSIECT CYSONI HYD AT DDIWEDD MAWRTH 2018, ER MWYN CANIATÁU I’R PENNAETH CYLLID YMESTYN CYTUNDEBAU Y STAFF DROS DRO.

 

ii.         CYMERADWYO LEFEL GODDEFIANT O £2 YR WYTHNOS ER MWYN SYMLEIDDIO’R BROSES O GYSONI GWYBODAETH.