skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Simon Glyn

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 293 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd  9fed o Dachwedd 2017 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 9fed o Dachwedd 2017 fel rhai cywir yn ddarostyngedig ar nodi bod y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn bresennol.

 

5.

BUDDSODDI CYFRIFOL

 

Eitem ar lafar ar gasgliadau consensws (aelodau'r Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiwn Lleol o'r sesiwn anffurfiol yn y bore gydag ymgynghorwyr y Gronfa) ynghylch ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG), er mwyn cyfarwyddo Cadeirydd y Pwyllgor a swyddogion y Gronfa, i'w galluogi i gynrychioli safbwynt Cronfa Gwynedd mewn trafodaethau perthnasol rhwng Partneriaeth Pensiwn Cymru a’r Gweithredwr ar sefydlu is-gronfeydd buddsoddi cyfun priodol

Cofnod:

Adroddodd y Pennaeth Cyllid bod Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau ynghyd ag aelodau’r Bwrdd Pensiwn wedi mynychu sesiwn hyfforddiant Buddsoddi Cyfrifol gan Paul Potter a Simon Jones o Hymans Robertson.

 

Nodwyd y byddai modd ymateb yn ymarferol i faterion tymor byr drwy drafod gyda’r Rheolwyr Buddsoddi yn y Panel Buddsoddi ar yr 28ain o Chwefror 2018 y camau maent yn gweithredu arnynt wrth ystyried ‘perchnogaeth weithredol’.

 

Yng nghyd-destun Partneriaeth Pensiynau Cymru bydd angen i’r Gweithredwr adrodd ar eu bwriad o fod yn atebol i fuddsoddiadau cyfrifol wrth i’r bartneriaeth ddatblygu.

 

Mewn ymateb i’r sylw, amlygodd yr aelodau bod angen paratoi yn well cyn mynychu’r cyfarfodydd Panel Buddsoddi er mwyn cael cyfle i ystyried y wybodaeth sydd yn cael ei rannu ymlaen llaw. Awgrymwyd y dylid cynnal cyfarfod anffurfiol o oddeutu 1 awr, heb gynrychiolydd o unrhyw gwmni, i drafod y wybodaeth a chyfle i lunio cwestiynau. Cytunwyd bod hyn yn drefniant priodol.

 

Cynigiwyd i’r Pennaeth Cyllid wneud cais am wybodaeth gan y Rheolwyr Buddsoddi ymlaen llaw, a threfnu cyfarfodydd anffurfiol cyn cyfarfod y Panel. Y trefniant i’w dreialu ar gyfer 28ain o Chwefror 2018.

 

Ychwanegwyd bod bwriad gwahodd cwmni Blackrock i gyfarfod buan o’r Panel er mwyn egluro’r dewisiadau gwahanol o fuddsoddiadau goddefol maent yn cynnig, gan gynnwys cronfa newydd “MSCI Low Carbon”. Derbyniwyd bod hyn yn gyfle i dderbyn gwybodaeth ychwanegol fyddai yn ehangu gorwelion aelodau’r Pwyllgor.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid bod Paul Potter o Hymans wedi cynnig paratoi adroddiad, i’w drafod yn y Panel Buddsoddi, fyddai yn amlinellu egwyddorion buddsoddi cytunedig aelodau a swyddogion Gwynedd ar sail ymatebion i’r holiaduron ar gyfer y sesiwn hyfforddiant. Y bwriad yw i’r Panel argymell sylwadau o’r adroddiad ymlaen i’r Pwyllgor nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

Treialu cynnal cyfarfodydd paratoi anffurfiol cyn y Paneli Buddsoddi.

Gwahodd cwmni Blackrock i gyfarfod buan o’r Panel Buddsoddi. Gwneud cais i Hymans ddarparu adroddiad ar egwyddorion buddsoddi Gwynedd.

 

6.

PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU

Derbyn diweddariad ar lafar gan y Pennaeth Cyllid ar ddatblygiadau diweddar

 

 

Cofnod:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Pennaeth Cyllid ar ddatblygiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Yn dilyn datganiad i’r wasg, cadarnhawyd bod Link Asset Services wedi ei penodi fel gweithredwr i gronfa’r bartneriaeth yn dilyn proses gaffael drylwyr gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'r ymgynghorwyr, Hymans Robertson a Burges Salmon.

 

Adroddwyd y byddai Link yn sefydlu ac yn cynnal cyfrwng buddsoddi ar y cyd fyddai’n dreth-effeithlon ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Ategwyd bod Link, gyda chymorth Russell Investments (mewn rôl ymgynghorydd buddsoddi), ac mewn ymgynghoriad â'r wyth cronfa awdurdod lleol unigol, wedi dechrau cynllunio'r broses o benodi cwmnïau rheolwyr buddsoddi.

 

Amlygwyd bod penodi Link yn gam cadarnhaol ac yn garreg filltir ar y daith o sefydlu Cerbyd Buddsoddi Cyfunol, yn unol â gofynion Llywodraeth San Steffan. Adroddwyd bod y broses bellach mewn cyfnod sefydlu gyda chynllun prosiect wedi ei raglennu.

 

Y bwriad yw y byddai Link, gyda chefnogaeth Partneriaeth Pensiynau Cymru, yn sefydlu un is-gronfa Ecwiti Byd-Eang i ddechrau, er mwyn arddangos eu bod yn ‘weithredol’ yn amserol, ac yna gwneud gwaith manwl ar strwythurau cyn lansio is-gronfeydd eraill. Byddai modd treialu'r un is-gronfa er mwyn cael cyfle i addasu ac adolygu’r swm i’w fuddsoddi ynddo fel yn briodol. Bydd Link yn cyflwyno papur i’r Cydbwyllgor Llywodraethu ym mis Mawrth, fydd yn manylu ar yr holl is-gronfeydd eraill a’u hamserlenni.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth