skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018 - 2019

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd John Pughe Roberts yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2018/19.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2018/19.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid dystysgrifau i’r Cynghorwyr Simon Glyn ac Aled W Jones am gwblhau hyfforddiant sylfaenol.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 88 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15.3.18 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 15fed o Fawrth 2018 fel rhai cywir.

 

7.

PRESENOLDEB MEWN CYNHADLEDDAU pdf eicon PDF 43 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd gwybodaeth am gynadleddau perthnasol er mwyn dewis cynrychiolwyr i’w mynychu. Adroddwyd bod y Cyngor yn anfon cynrychiolwyr ar sail rota i nifer o gynadleddau yn ystod y flwyddyn er mwyn cynnal a gwella sgiliau a gwybodaeth.

 

          PENDERFYNWYD anfon y cynrychiolwyr isod i’r cynadleddau:

 

·         Fforwm Buddsoddi Strategol LAPF, Swydd Hertford Gorffennaf 2018

Cynghorwyr Simon Glyn a Peter Read i wirio os gallasent fynychu, gyda’r Cynghorydd Stephen Churchman wrth gefn, heb swyddog.

 

·         Seminar Buddsoddi’r LGC, Casnewydd Medi 2018

Cynghorwyr John Pughe Roberts a Peredur Jenkins i fynychu, gyda’r Pennaeth Cyllid.

 

·         Cynhadledd flynyddol Fforwm Cronfa Pensiwn Awdurdod Lleol, Bournemouth Rhagfyr 2018

Cynghorydd John Pughe Roberts a Caroline Roberts (Rheolwr Buddsoddi) i fynychu, gyda chynrychiolydd o’r Bwrdd.

 

·         Cynhadledd Llywodraethu’r CPLlL, Bryste Ionawr 2019  

Cynghorwyr John Brynmor Hughes a Robin Williams i fynychu, gyda swyddog a chynrychiolwyr o’r Bwrdd, a gyda’r Cynghorydd John Pughe Roberts wrth gefn.

 

·         Uwchgynhadledd flynyddol Russell Investments, Llundain Tachwedd 2018

Cynghorwyr John Pughe Roberts a  Peter Read i fynychu, gyda’r Pennaeth Cyllid.

 

 

8.

DYDDIADAU CYFARFODYDD PENSIYNAU pdf eicon PDF 60 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn amlygu dyddiadau cyfarfodydd pensiynau ar gyfer y flwyddyn 2018 / 2019 fel bod modd i’r aelodau nodi’r dyddiadau yn eu dyddiaduron a chynllunio ymlaen yn briodol.

 

Amlygwyd bod Cynhadledd Llywodraethu’r CPLlL yn cael ei gynnal ym Mryste ar y 17-18 o Ionawr 2019 oedd yn gwrthdaro gyda chyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau. Cynigiwyd newid dyddiad y Pwyllgor Pensiynau i Ionawr 21ain 2019 fel bod modd i Aelodau a Swyddogion fynychu’r gynhadledd.

 

Cyfeiriwyd at ddyddiadau’r Panel Buddsoddi sydd yn cael eu cynnal yn chwarterol i graffu perfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn. Nodwyd bod y rhain yn cael eu cynnal yn Llundain a Caernarfon a chadarnhawyd mai’r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd Caernarfon fydd 21ain Chwefror 2019 a 16eg o Fai 2019.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth ac i addasu dyddiad Pwyllgor Pensiynau mis Ionawr 2019 i’r 21ain.

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Deddf Llywodraeth Leol 1972  - Gwybodaeth ynglyn a trafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.  Byddai cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â bwriadau buddsoddi a phenderfyniadau am ddewis cwmnïau buddsoddi yn gallu effeithio yn niweidiol ar weithgareddau masnachol sensitif. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth   ynglŷn â bwriadau buddsoddi a phenderfyniadau am ddewis cwmnïau buddsoddi yn gallu effeithio yn niweidiol ar weithgareddau masnachol sensitif. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau yma roedd y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

 

10.

DYRANIAD ASEDAU I GRONFEYDD ECWITI BYD-EANG PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

 

(Copiau arwahan i aelodau’r Pwyllgor yn unig)

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r Pwyllgor am yr hawl i weithredu, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor ar ddyrannu asedau i gronfeydd ecwiti byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Amlygwyd bod diweddariadau cyson rheolaidd wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) wrth sefydlu pwl buddsoddi, yn unol â gofynion San Steffan. Eglurwyd mai amcanion y Llywodraeth oedd gwell deilliannau buddsoddi, lleihau risg a lleihau costau wrth alluogi pob awdurdod cyfansoddol i weithredu ei strategaeth fuddsoddi eu hunan.

 

Yn dilyn cyngor gan Weithredwr PPC ac i arddangos graddfa’r pwlio i’r Llywodraeth, dewiswyd ecwiti byd eang wedi ei reoli’n weithredol fel math o asedau ar gyfer y cronfeydd cyntaf, a nodwyd bu cyflwyniad gan Link a Russell i aelodau’r Pwyllgor ar 15 Mawrth, a chyfarfodydd anffurfiol ar 30 Ebrill a 17 Mai, lle derbyniwyd cyngor arbenigol ymgynghorydd Hymans Robertson ar y mater.

 

          PENDERFYNWYD:

 

·          Yn unol ag argymhelliad A, bod y Pwyllgor Pensiynau yn cefnogi Partneriaeth

  Pensiwn Cymru mewn sefydlu 2 gronfa ac i gynnwys y rheiny yn y prosbectws fydd yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

 

·          Yn unol ag argymhelliad B, bod y Pwyllgor Pensiynau yn dirprwyo grym i’r Pennaeth Cyllid ail-ddyrannu 80% o asedau ecwiti byd-eang wedi’i reoli’n weithredol y Gronfa, yn gyfartal rhwng Cronfa 1 a Chronfa 2 Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 2:00pm a daeth i ben 2:30pm