skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr David Cowans (Cyngor Bwrdeistref Conwy), John Brynmor Hughes, Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones a Peter Read

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

            Dim i’w nodi.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

            Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 75 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Ionawr 2020 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Ionawr 2020 fel rhai cywir.

 

5.

BUDDSODDI ARIAN DROS BEN - 2020/21 pdf eicon PDF 54 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, i baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2020/21, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2020/21 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 5 Mawrth 2020.

 

Dymuniad y Pwyllgor Pensiynau oedd caniatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda balansau ariannol y Cyngor. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bydd Cyngor Gwynedd yn talu llog priodol i’r Gronfa Bensiwn ar sail balansau dyddiol y Gronfa dros y flwyddyn. Amlygwyd bod yr ymarfer yn un sydd yn cael ei benderfynu yn flynyddol ac mai prif fanteision yr ymarfer yw denu llog uwch, isafu costau banc ac osgoi dyblygu gwaith o fewn y Cyngor. Cadarnhawyd mai cadw'r Gronfa yn saff a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd risg.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion.

 

·         Penderfynwyd gwneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni a’i gyd-fuddsoddi gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2020 ymlaen.

·         Penderfynwyd cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol atodol am 2020/21, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn.

 

6.

DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO 2020/21-2023/24 pdf eicon PDF 48 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn argymell i’r Pwyllgor fabwysiadu Datganiad Strategaeth Cyllido 2020/21 – 2023/24. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod, yng nghyfarfod Ionawr 2020 o’r Pwyllgor, wedi cytuno i’r datganiad gael ei ddanfon allan at bob cyflogwr sydd yn rhan o’r cynllun, yr actiwari ac ymgynghorwyr y Gronfa am gyfnod ymgynghorol.  Adroddwyd na dderbyniwyd ymateb i’r datganiad yn ystod y cyfnod. Ategwyd bod cyflogwyr y gronfa wedi datgan eu bod yn fodlon gyda’r strategaeth a’u lefel cyfraniadau.

 

Cadarnhawyd, nad oedd unrhyw newidiadau i’r fersiwn a gyflwynwyd ym mhwyllgor mis Ionawr.

 

Amlygodd y Pennaeth Cyllid, yn dilyn canlyniad prisiant y gronfa a’r lefel cyllido wedi cynyddu i 108%,  bod y penderfyniad i beidio gostwng y cyfraniadau yn llawn yn benderfyniad darbodus o ystyried cwymp yn y farchnad byd eang dros y misoedd diwethaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

7.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 88 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn hysbysu’r Pwyllgor am weithgareddau diweddaraf Partneriaeth Pensiwn Cymru. Adroddwyd bod perfformiad y bartneriaeth wedi bod yn safonol iawn a’r cydweithio yn mynd o nerth i nerth. Atgoffwyd yr Aelodau bod £606.2m o fuddsoddiadau ecwiti Cronfa Gwynedd wedi trosglwyddo i Gronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Chwefror 2019 gyda’r swm wedi ei rannu yn gyfartal i ddwy gronfa. Nodwyd bod perfformiad y ddwy gronfa yn uwch na’r meincnod a bod hyn yn newyddion calonogol iawn. Y cam nesaf fydd trosglwyddo buddsoddiadau presennol gyda Fidelity (£161.6m - Ecwiti Byd Eang) ac Insight (£292.0m - Bondiau) i ddwy gronfa Incwm Sefydlog. Nodwyd bod Russell Investment yn monitro’r perfformiad ac yn cynnal trafodaethau a chyfarfodydd yn aml gyda’r Gronfa fel bod modd cwblhau’r trosglwyddiad Ebrill 2020.

 

Wedi cwblhau’r trosglwyddiadau Incwm Sefydlog, adroddwyd mai’r cam nesaf fyddai penderfynu ar strwythur rheolwyr buddsoddi delfrydol ar gyfer cronfa Marchnadoedd Datblygol. Amlygwyd bod oddeutu £52m i’w drosglwyddo i gronfa Marchnadoedd Datblygol o gwmni Fidelity a thrafodaethau yn cael eu cynnal gyda Russell Investment i ystyried cronfeydd addas. Ategwyd bod Russell Investments, wrth ddatblygu ffurf a rheolaeth Cronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ystyried gofynion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol wrth fuddsoddi’n gyfrifol. Nodwyd eu bod yn edrych yn fanwl ar ffyrdd o gwrdd â’r anghenion hyn drwy ystyried a chynnwys buddsoddiadau carbon isel ond hefyd drwy beidio colli / gwanhau dychweliadau.

 

Cyfeiriwyd at drefniadau llywodraethu Cydbwyllgor y Bartneriaeth ac adroddwyd bod priodoldeb y trefniant wedi ei drafod yng nghyfarfod y Cydbwyllgor ar y 12fed o Fawrth. Ategwyd bod awgrym i gynnwys cynrychiolaeth o’r Byrddau Pensiwn (o fewn yr awdurdodau cyfansoddol) ar y Cydbwyllgor.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod trefniant y Cydbwyllgor yn sefydlog ac yn gweithio yn dda

·         Bod Cadeiryddion y Byrddau Pensiwn yn cyfarfod mewn fforwm Cadeiryddion

·         Tebygol bydd angen cynnig enwebiad i gynrychioli’r Byrddau Pensiwn yn unol â gofynion y Rheolydd Pensiynau - aelod fel sylwebydd heb bleidlais

·         Dychweliadau yn dystiolaeth bod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn gweithio

·         Is-gadeirydd Pwyllgor Pensiynau Gwynedd wedi mynychu’r Cydbwyllgor er mwyn sicrhau dilyniant pan ddaw cyfnod Cadeiryddiaeth y Pwyllgor i ben

·         Rhaglen eang o hyfforddiant, fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar fodloni anghenion, yn cael ei llunio ar gyfer aelodau a swyddogion y Cydbwyllgor; awgrym y gellid ei ymestyn i aelodau'r Pwyllgor Pensiynau, yn ogystal â chynrychiolwyr y Bwrdd Pensiynau, os yw'n berthnasol; cais i ystyried cynnal y sesiynau hyfforddi ar ddyddiau cyfarfodydd y Cydbwyllgor i osgoi trefnu dyddiadau pellach.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth