skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peredur Jenkins a’r Cynghorydd Simon Glyn

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 294 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Ionawr 2021, fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021 fel rhai cywir.

5.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 187 KB

I ystyried yr adroddiad, mabwysiadu’r strategaeth a chadarnhau trefniadau cronni

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys am 2021/22 fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn

 

  • Gwneud cais i’r Cyngor (er nad yw yn gorff ar wahân), i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arain cyffredinol y Cyngor o 1af o Ebrill 2021 ymlaen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi gan nodi yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, i baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2021/22, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2021/22 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 4 Mawrth 2021.

 

Dymuniad y Pwyllgor Pensiynau oedd caniatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda balansau ariannol y Cyngor. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bydd Cyngor Gwynedd yn talu llog priodol i’r Gronfa Bensiwn ar sail balansau dyddiol y Gronfa dros y flwyddyn. Amlygwyd bod yr ymarfer yn un sydd yn cael ei benderfynu yn flynyddol gan fod y dychweliadau a dderbynnir yn well gyda’r risgiau wedi ei lleihau wrth uno’r arian gyda chronfeydd y Cyngor.

 

Mae’r swm sydd ar gael i gronni yn amrywio ac wedi tyfu yn ddiweddar i oddeutu £20m-£25m. Mewn trafodaethau diweddar yn y Panel Buddsoddi, argymhellwyd i fuddsoddi hyd at £20m i gronfa ARB PPC- cadarnhaodd y Rheolwr Buddsoddi bod £10m wedi ei fuddsoddi erbyn hyn. Y math o fuddsoddiadau sydd ar gael ar y cyd gyda'r Cyngor a welir yn yr adroddiad ydi Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Awdurdodau eraill, Cronfeydd Marchnad Arian a chronfeydd wedi’i pwlio.

 

Prif fanteision yr ymarfer yw denu llog uwch, isafu costau banc ac osgoi dyblygu gwaith o fewn y Cyngor. Cadarnhawyd mai cadw'r Gronfa yn ddiogel a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd risg.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Nad oedd pwrpas cael strategaeth wahanol

·         Y trefniant yn gweithio yn dda

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys am 2021/22 fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn

 

·         Gwneud cais i’r Cyngor (er nad yw yn gorff ar wahân), i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1af o Ebrill 2021 ymlaen.

6.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 190 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi dymuniad Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i bob pwyllgor unigol o fewn y bartneriaeth gymeradwyo eu Cynllun Busnes. Eglurwyd bod y Cynllun Busnes wedi ei gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor Llywodraethu am gymeradwyaeth ar y 24ain o Fawrth 2021 lle argymhellwyd dau addasiad - 2 elfen yn ymwneud a hyfforddiant blynyddol a pholisi datgelu / ‘Canu’r Gloch’.

 

Amlygwyd bod y Cynllun Busnes yn rhoi trosolwg manwl ar yr hyn y mae’r PPC yn ei wneud ynghyd a sut y maent yn cyflawni eu nodau. Ategwyd y byddai’r Cynllun yn cael ei fonitro yn rheolaidd ac yn cael ei adolygu a’i gytuno yn flynyddol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i gymeradwyo’r Cynllun Busnes ynghyd a’r ychwanegiadau a argymhellwyd gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru

7.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 130 KB

I ystyried yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn, er gwybodaeth, gynnwys y Gofrestr Risg

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi a’r Rheolwr Pensiynau y gofrestr risg gyfredol oedd yn amlygu risgiau perthnasol i’r Gronfa Bensiwn. Amlygwyd bod y gofrestr yn ddogfen weithredol, yn cael ei hadolygu’n rheolaidd a’i diweddaru mewn ymateb i unrhyw risgiau sylweddol sydd yn debygol o ddatblygu.

 

Amlygwyd bod y gofrestr, ers ei ffurfio, wedi ei chyflwyno i’r Bwrdd Pensiwn yn rheolaidd gyda’r Bwrdd yn adolygu’r cynnwys ac yn cynnig sylwadau ar sgôr y risgiau a fformat y gofrestr. Ers ei chyflwyno i’r Bwrdd ym mis Chwefror 2021, amlygwyd bod y risgiau oedd wedi dyddio wedi eu hadolygu, yr asesiadau wedi eu haddasu a bod y gofrestr yn gyfredol â’r sefyllfa bresennol.

 

Diolchwyd am y wybodaeth

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Croesawu lliwiau i amlygu risg, er ystyriwyd nad oedd piws yn adlewyrchutrychinebus

·         Risg rhif 1.2 – gwrthdaro buddiannau... – angen amlygu’r buddiannau yn glir

·         Risg rhif 2.1 – gwneud penderfyniadau amhriodol o ganlyniad i wybodaeth annigonol... – angen cynnwys y Bwrdd Pensiwn fel Rheolaeth Lliniaru i atgyfnerthu’r datganiad – y Bwrdd yn chwarae rôl bwysig drwy herio a chraffu gweinyddiaeth a rheolaeth y Gronfa Bensiwn

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â risg rhif 7.5 - buddion pensiwn yn parhau i gael ei dalu i bensiynwyr sydd wedi marw...’ cadarnhawyd bod cais yn cael ei wneud am gopi o’r dystysgrif marwolaeth

 

PENDERFYNWYD, derbyn, er gwybodaeth, gynnwys y Gofrestr Risg