skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/ 22

Penderfyniad:

Ail – ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021 / 22

 

Cofnod:

Penderfynwyd ail – ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021 / 22

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2021 / 22

Penderfyniad:

Ail-ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22

 

Cofnod:

Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

 

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 214 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 25ain Mawrth 2021 fel rhai cywir

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021 fel rhai cywir

7.

SWYDDOGAETH Y PWYLLGOR PENSIYNAU YN CYMERADWYO DATGANIADAU CYFRIFON Y GRONFA A DERBYN YR ADRODDIAD PERTHNASOL GAN ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 169 KB

I ystyried yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a mabwysiadu’r trefniadau newydd

Penderfyniad:

Derbyn –

  • Cynllun gwaith yr archwiliwr allanol ar Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd.
  • Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd, wedi iddynt gael eu hardystio gan y Pennaeth Cyllid ond yn ddarostyngedig i archwiliad, a chyfle i herio eu cynnwys
  • Adroddiad blynyddol gan yr archwiliwr ariannol ar Ddatganiad Cyfrifon Cronfa

Bensiwn Gwynedd

  • Y fersiwn derfynol ôl-archwiliad o Ddatganiadau Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd (cyn diwedd mis Tachwedd yn 2021), a chyfle i herio cynnwys adroddiad perthnasol yr archwiliwr allanol, sef Archwilio Cymru

 

Cofnod:

Eglurwyd, fel mater o drefn, mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yw ystyried a mabwysiadu Trefniadau Gweithredu i adlewyrchu’r gofynion statudol ar awdurdodau lleol, yn ei gyfarfod cyntaf o gyngor newydd ar ôl etholiad. (Mabwysiadwyd y fersiwn gyfredol gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ar 6/06/2017).

Yn dilyn cyfnod o adolygu trefniadau llywodraethu materion ariannol y Gronfa Bensiwn, cyflwynwyd addasiadau i’r Trefniadau sy’n angenrheidiol ar gyfer ymdrin â chyfrifon 2020/21 Cronfa Bensiwn Gwynedd. Amlygwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi bod yn derbyn a chymeradwyo cyfrifon Cyngor Gwynedd a Chronfa Bensiwn Gwynedd, fel rhan o’i rôl fel y “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu”.

Wedi ystyried y canllawiau a’r rheoliadau diweddaraf, ac adolygu’r trefniadau llywodraethu ymddengys yn gynyddol glir mai’r Pwyllgor Pensiynau, ac nid y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, yw’r corff priodol i dderbyn a chymeradwyo datganiadau o gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd. Nid yn unig mae’r gofyn cyfreithiol iddynt gael eu cynnwys gyda chyfrifon y Cyngor wedi cael ei ddiddymu, ond mae’r bwrdd cenedlaethol sy’n cynghori Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol hefyd yn argymell y dylai’r Pwyllgor Pensiynau ystyried y cyfrifon.

Tynnwyd sylw at y rheoliadau perthnasol ynghyd a’r trefniadau gweithredu drafft newydd sydd yn parhau i fod yn gyson a gofynion Mesur Llywodraeth Leol a’r Canllawiau Statudol. Adroddwyd nad oes anghysondeb gydag Adran 81 Mesur 2011, gan nad yw materion ariannol y Gronfa Bensiwn yn rhan o faterion ariannol Cyngor Gwynedd – mae arian y ddau endid yn gwbl ar wahân i’w gilydd.

Amlygwyd bod adroddiad cyfatebol  wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 27 Mai 2021 lle  cymeradwywyd addasiadau i’r trefniadau gweithredu er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor Pensiynau dderbyn a chymeradwyo datganiadau o gyfrifon y gronfa bensiwn, ynghyd ag adroddiad perthnasol yr archwiliwr allanol. Ategwyd yn y Pwyllgor bod trefniadau a phenderfyniadau sydd yn ymwneud a phensiynau yn cael eu rheoli gan y Pwyllgor Pensiynau sydd yn eu tro yn cael eu craffu yn fanwl gan y Bwrdd Pensiwn. O ganlyniad, ystyriwyd bod yr addasiad yn un synhwyrol.

Diolchwyd am yr adroddiad.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phenderfyniad y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, cadarnhawyd bod y penderfyniad eisoes wedi ei wneud (27/5/21)

PENDERFYNWYD: Derbyn,

·         Cynllun gwaith yr archwiliwr allanol ar Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd.

·         Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd, wedi iddynt gael eu hardystio gan y Pennaeth Cyllid ond yn ddarostyngedig i archwiliad, a chyfle i herio eu cynnwys

·         Adroddiad blynyddol gan yr archwiliwr ariannol ar Ddatganiad Cyfrifon Cronfa  Bensiwn Gwynedd

·         Y fersiwn derfynol ôl-archwiliad o Ddatganiadau Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd (cyn diwedd mis Tachwedd yn 2021), a chyfle i herio cynnwys adroddiad perthnasol yr archwiliwr allanol, sef Archwilio Cymru

 

8.

CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2021 pdf eicon PDF 95 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y cynllun

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas a Garmon Williams i’r cyfarfod. Cyflwynwyd cynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2021 yn nodi’r gwaith y bwriedir ei gwblhau yn ystod y flwyddyn yn unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol. Cyfeiriwyd at yr angen i archwilio cyfrifon y gronfa bensiwn gyda’r nod o adnabod camddatganiadau perthnasol ynghyd a’r risgiau sydd ynghlwm i’r archwiliad ariannol megis effaith covid-19.  Cyfeiriwyd at gynnwys y rhaglen archwilio perfformiad gan gynnig braslun o’r gwaith sydd i’w gyflawni, y ffioedd a’r amserlen bwriadedig.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd parodrwydd i gydweithio. Gwerthfawrogwyd bod Tîm Archwilio Cymru yn rhugl yn y Gymraeg a bod hyn i’w groesawu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag os oedd Archwilio Cymru wedi ystyried protocolau diogelwch siber gan awgrymu y gall materion diogelwch amlygu eu hunain i staff sydd yn gweithio o adre gan fod y wybodaethbosib ar gael’, nodwyd y bydd angen gwneud ymholiadau pellach i ganfod ymateb trylwyr ac y bydd Archwilio Cymru yn ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Churchman.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y cynllun

 

9.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 104 KB

Ystyried yr adroddiad, derbyn a nodi Datganiad o’r Cyfrifon drafft

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2020/21

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2021. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon y llynedd, wedi eu harwyddo gyda pharagraff ‘emphasis of matter’ oherwydd yr ansicrwydd gyda phrisiadau eiddo. Amlygwyd bod y 4 Rheolwr Eiddo wedi datgan nad oes ansicrwydd eleni. Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi blwyddyn arferol i gyfraniadau a buddion heb newid sylweddol. Er hynny, adroddwyd newid sylweddol mewn costau rheoli a cyfeiriwyd at nodyn 12a sy’n egluro mai cynnydd yn ffioedd perfformiad Ecwiti Preifat (Partners) oedd yn gyfrifol am y newid gyda pherfformiad cryf mewn 3 cronfa yn benodol. (Derbyniwyd eglurhad llawn gan y Rheolwyr pan heriwyd eu ffioedd).

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd yn yr Incwm Buddsoddi (nodyn 13) o ganlyniad i incwm o fuddsoddiadau Ecwiti wrth i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ddechrau talu incwm a enillwyd ers sefydlu ar holl is-gronfeydd y Bartneriaeth y mae’r gronfa wedi buddsoddi ynddynt. Cyfeiriwyd hefyd at y ffigwr o £565.5 miliwn sef y cynnydd yng ngwerth yr asedau ar y farchnad yn dilyn blwyddyn lewyrchus iawn (nodyn 14a).

 

Yng nghyd-destun y datganiad asedau net, tynnwyd sylw at y newid yn yr asedau buddsoddi (Nodyn 14a) sydd bellach wedi cyrraedd £2.5 biliwn gyda chynnydd sylweddol ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru wedi i gyfran o Fidelity ac Insight drosglwyddo i’r cronfeydd incwm sefydlog yn y flwyddyn.

 

Cymerodd y Pennaeth Cyllid y cyfle i ddiolch i’r Tîm Buddsoddi am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) wedi ei gwblhau o few yr amserlen. Nododd ei fod eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft ac mai ymarfer da fyddai rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi cyfle i holi / cyflwyno sylwadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fydd treuliau ariannol yn ymddangos yn gyson ymhen 2 flynedd (hynny yw ffioedd yn adlewyrchu nifer treuliau), nodwyd, gan fod nifer o gyfuniadau prynu a gwerthu anodd fyddai cymharu blwyddyn v blwyddyn, ond disgwylir gweld cysondeb yn y tymor hir.

 

Mewn ymateb i gynnydd sylweddol net o 0.6 biliwn, gofynnwyd petai modd adolygu’r strategaeth i ystyried pecynnau / buddion atyniadol i staff e.e., ymddeol yn gynnar. Nododd y Pennaeth Cyllid nad oedd hawl gan y Gronfa na’r Cyflogwr i addasu’r buddion gan eu bod wedi eu gosod yn unol â chyflogau a nifer blynyddoedd gwaith. Ategwyd, yn Ebrill 2022 bydd gwaith yn dechrau ar adolygu’r prisiad teirblynyddol nesaf lle bydd modd, yn ddibynnol ar y canlyniad, addasu cyfranddaliadau cyflogwyr.

 

Mewn ymateb i sylw bod y llywodraeth yn addasu oed ymddeol gyda phobl yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2020/21 pdf eicon PDF 354 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi bod penderfyniad blynyddol yn cael ei wneud i ganiatáu i gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu cyfuno a’u cyd-fuddsoddi a llif arian cyffredinol y Cyngor. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cymharu gwir berfformiad yn erbyn y strategaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012/21 ac yn cyflawni dyletswydd gyfreithiol y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gymryd ystyriaeth o Gôd CIPFA ag Arweiniad Buddsoddi Llywodraeth Cymru.

           

Adroddwyd, yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21 arhosodd gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol a derbyniwyd £422,000 o log ar fuddsoddiadau oedd yn uwch na’r £400,000 a oedd yn y gyllideb. Ategwyd na wnaeth unrhyw sefydliad yr oedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda hwy fethu â thalu.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod cydymffurfio llawn wedi digwydd ar wahân i’r datguddiad cyfraddau llog. Amlygwyd bod y datguddiad yma yna dangos effaith refeniw un flwyddyn o gynnydd o 1% mewn cyfraddau llog gan amlygu effaith difrifol y mae’r pandemig wedi ei gael ar enillion buddsoddiadau o gymharu ar hyn a ragwelwyd ddechrau Mawrth 2020 pan osodwyd lefel y cyfyngiad -  cyn pandemig Covid 19.  Ategwyd bod dychweliadau ar y cronfeydd wedi’i pwlio wedi adfer y gollyngiad llog.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

11.

BUDDSODDI CYFRIFOL pdf eicon PDF 117 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Datganiad ac i’r Cadeirydd lofnodi’r Datganiad

 

Cofnod:

Amlygodd y Pennaeth Cyllid bod etholwyr ym Môn, Conwy a Gwynedd wedi cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor yn ymwneud a buddsoddi cyfrifol. Croesawyd derbyn y cwestiynau ymlaen llaw a gwerthfawrogwyd presenoldeb yr etholwyr yn y cyfarfod. Penderfynwyd ymateb i’r cwestiynau cyn trafod yr adroddiad.

 

1.    Pa dystiolaeth sydd gan Gronfa Bensiwn Gwynedd bod eu polisi ymgysylltu mewn gwirionedd wedi newid ymddygiad y cwmnïau maent yn gyfranddalwyr ynddynt?

 

Eglurwyd, fel Cronfa, y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr y gronfa gan dderbyn adroddiadau cynnydd ar eu gweithgareddau ymgysylltu. Nodwyd bod rheolwyr y gronfa yn weithgar iawn a’r cynnydd diweddar wedi bod yn foddhaol iawn gyda thrafodaethau agored yn cael eu cynnal ynglŷn â strategaeth hinsawdd rhai cronfeydd. Amlygwyd bod gan Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) Ddarparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu sy’n cynorthwyo gyda’r broses ymgysylltu.

 

Cyfeiriwyd at yr enghreifftiau canlynol o addasiadau ystyriol gan gwmnïau sydd o fewn portffolios y Bartneriaeth.

 

a)    Archer Daniels Midland (ADM). Gwelwyd diffygion ym mholisïau ADM oedd yn cyfrannu at ddatgoedwigo parhaus a diffyg amddiffyn llystyfiant brodorol. Nodwyd bod Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu) wedi cynnal trafodaethau gydag ADM ers 2020 ac wedi cyflwyno cynnig ar ran y cyfranddalwyr ynglŷn â’u cyfraniad at ddatgoedwigo a chlirio llystyfiant brodorol yn Ne America. Ym mis Mawrth 2021, tynnwyd y cynnig yn ôl gan fod y cwmni wedi ymrwymo i:

 

·         osod ymrwymiadau â therfyn amser i ddileu datgoedwigo erbyn 2030

·         olrhain y gadwyn gyflenwi soi yn llawn erbyn 2022

·         gynnwys llystyfiant brodorol yn eu Polisi Dim Datgoedwigo

·         gyhoeddi protocol ymgysylltu â chyflenwyr

 

b)    Enel Spa. Adroddwyd bod Enel Spa (cwmni ynni rhyngwladol o'r Eidal) yn weithgar yn y sectorau cynhyrchu a dosbarthu trydan. Wrth arwain ar ymgysylltu cydweithredol o dan y fenter Climate Action 100+, nodwyd bod Robeco wedi ymgysylltu sawl gwaith â rheolwyr gweithredol ac anweithredol y cwmni sydd wedi arwain at ddatblygu strategaeth uchelgeisiol i ddatblygu egni adnewyddol a digideiddio rhwydweithiau dosbarthu. Fel rhan o’r ymdrechion i gryfhau llywodraethiant cwmnïau ar faterion hinsawdd, llwyddodd Robeco i enwebu cyn Prif Swyddog Gweithredol Wind Power yn DONG Energy, i Fwrdd Enel, ynghyd â grŵp o fuddsoddwyr sefydliadol. Bydd y camau nesaf yn eu trafodaethau ymgysylltu yn ceisio mynd i’r afael ar fwriad y cwmni i gyflawni targed net-sero erbyn 2050, a gosod targed tymor hir ar gyfer Allyriadau Scope 3

 

c)    ING. Adroddwyd bod Banc ING (darparwr gwasanaethau ariannol yn yr Iseldiroedd), yn gosod ffocws cryf ar wasanaethau digidol ar gyfer gwasanaethau bancio safonol. Nodwyd, yn 2018 y cyhoeddodd ING setliad dirwy o 775 miliwn euro oherwydd eu methiant i ganfod materion gwyngalchu arian rhwng 2012 a 2016, ac yn gynharach yn y flwyddyn diddymodd y bwrdd goruchwylio eu cynnig i gynyddu lefelau tâl gweithredol ar ôl pwysau cymdeithasol. Amlygwyd bod Robeco wedi cynnal cyfarfodydd gyda Chadeirydd y Bwrdd i asesu cryfderau a gwendidau ING ac wedi cysylltu gyda’r Buddsoddwyr i geisio adolygu fframwaith rheoli risg. Awgrymwyd penodi cyfarwyddwr annibynnol i’r Bwrdd yn 2019, a pharhau i ganolbwyntio ar oruchwyliaeth annibynnol bellach.

 

Yn ogystal, nodwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 152 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau ar waith y Bartneriaeth, perfformiad y Gronfa ynghyd a datblygiadau sydd ar y gweill ers sefydlu yn 2017. Erbyn 31ain Mawrth 2021, adroddwyd bod 81% o gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru - 54% drwy’r prif gronfeydd a 27% drwy’r buddsoddiadau goddefol.

 

Adroddwyd bod cyfarfodydd rheolaidd drwy Teams yn caniatáu i faterion gael eu trafod yn amserol ac ymddengys hyn yn effeithiol gyda phethau yn symud ymlaen yn gynt. Adroddwyd bod y trosglwyddiadau rhwydd wedi eu gweithredu a gwaith bellach yn cael ei wneud ar faterion sy’n ymddangos yn fwy heriol, megis Marchnadoedd Preifat. Ategwyd bod cefnogaeth i’r gwaith o gyfuno asedau yn y categori yma yn cael ei wneud gan Hymans gyda thrafodaethau busnes parhaus yn cael eu trefnu i benderfynu ar y strwythur a’r mecanwaith priodol i fuddsoddi ynddo.

 

Tynnwyd sylw at y drafodaeth ynglŷn â phroses penodi cynrychiolydd Aelodau ar gyfer y Cydbwyllgor Llywodraethu. Amlygwyd mai’r argymhelliad a gynigwyd mewn adroddiad i’r Cydbwyllgor (24ain o Fawrth 2021) oedd y dylai pob Bwrdd Pensiwn lleol enwebu un cynrychiolydd aelodau'r cynllun a fyddai'n cyfarch gofynion y swydd ddisgrifiad. Byddai'r broses penodi yn cael ei chynnal gan is-grŵp a fyddai'n argymell enwebiad i'w gymeradwyo gan y Cydbwyllgor Llywodraethu. Mynegodd y Pennaeth Cyllid y byddai yn cefnogi achos Osian Richards (Cadeirydd Bwrdd Pensiwn Gwynedd) fel aelod ar y Cydbwyllgor.

 

Nodwyd y bydd y broses penodi yn cymryd hyd at chwech i ddeuddeg mis gan fod angen cymeradwyaeth Cyngor Llawn pob awdurdod cyfansoddiadol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Nododd y Cadeirydd bod sefydlu Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn gydag elfen dychweliadau a chydweithio da yn ennyn buddion i’r Gronfa. Mynegodd falchder bod yn rhan o’r Gronfa.

  

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

13.

DIWYGIADAU I'R DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO pdf eicon PDF 203 KB

I ystyried yr adroddiad, cymeradwyo diwygiadau i’r Datganiad Strategaeth Cyllido yn dilyn newidiadau i Reoliadau CPLlL 2013 a’u diweddaru o Achos Llys Goodwin

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo’r diwygiadau i’r Datganiad Strategaeth Cyllido yn dilyn newidiadau i Reoliadau CPLlL 2013 a’u diweddaru o Achos Llys Goodwin
  • Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Cyllido Diwygiedig

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn amlygu’r angen i’r Pwyllgor gymeradwyo diwygiadau i’r Datganiad Strategaeth Cyllido yn dilyn newidiadau i  Reoliadau CPLlL 2013 a diweddariad achos Llys Goodwin. Daw'r argymhelliad gan actiwari’r Gronfa sef Hymans Robertson oedd wedi awgrymu’r newidiadau. Amlygwyd bod newidiadau mewn tri rhan o’r datganiad

 

-       Adolygiad cyfraniad - yr addasiad yn caniatáu i’r Gronfa ail gyfrifo cyfraniadau tu allan i’r prisiad ffurfiol o dan yr amgylchiadau canlynol: os bu newid i ymrwymiadau (liabilities) y cyflogwr, bu newid i gyfamod (guarantee) y cyflogwr; neu ar gais y cyflogwr

-       Trefniadau ymadael – yr addasiad yn caniatáu mwy o hyblygrwydd pan fydd cyflogwr eisiau gadael y gronfa. Os yw’r cyflogwr mewn diffyg, mae’r opsiynau wedi ei ffurfioli e.e, lledaenu’r taliad dros nifer o flynyddoedd neu ymrwymo i Gytundeb Dyled Gohiriedig (Deferred Debt Agreement).

-       Achos Llys Goodwin - ble roedd aelodau neu oroeswyr yn destun gwahaniaethu oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol. Disgwylir i'r effaith ar Achos Goodwin fod yn fach iawn ar ymrwymiadau’r Gronfa ac yn fater gweinyddol i raddau helaeth. Er hynny, noder yr addasiad yn y strategaeth er eglurder.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am arweiniad Hymans Robertson mewn maes technegol iawn. Derbyniwyd bod yr ymateb hefyd yn un technegol ac efallai uwchlaw dealltwriaeth rhai o’r Aelodau, ond gyda disgwyliad bod y swyddogion yn gweithredu yn gywir.

 

Nodwyd hefyd bod defnydd lliwiau yn yr adroddiad yn fodd effeithiol iawn o amlygu’r newidiadau.

 

PENDERFYNWYD

 

     Cymeradwyo’r diwygiadau i’r Datganiad Strategaeth Cyllido yn dilyn newidiadau i Reoliadau CPLlL 2013 a’u diweddaru o Achos Llys Goodwin

     Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Cyllido Diwygiedig