Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Wyn Jones a Simon Glyn

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Amlygwyd bod cwestiynau wedi eu derbyn gan aelodau o’r cyhoedd, oedd yn bresennol yn y cyfarfod, nad oedd yn cyrraedd trothwy materion brys y Pwyllgor ond y byddai agweddau buddsoddi cyfrifol yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf o’r Pwyllgor ar y 17eg o Fawrth 2022. 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 222 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021 fel rhai cywir.

 

5.

STAFFIO UNED GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 257 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo cynnydd mewn gwariant ar staff yr Uned Pensiynau erbyn 2022/23.

Penderfyniad:

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cymeradwyo cynnydd £137,929 mewn gwariant ar staff yr Uned Bensiynau erbyn 2022/23:

 

Ø  Creu 4 swydd newydd

Swyddog Pensiynau (i gefnogi gwaith AVSs) a 3 Cymhorthydd Pensiynau (Cytundeb 2 flynedd ar gyfer prosiect McCloud – gyda phosibilrwydd o estyniad os bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd)

(cyfanswm costau blynyddol £121,135)

 

Ø  Cynyddu cyflog 6 Cymhorthydd Pensiynau o GS3 i GS4

(cyfanswm costau blynyddol  £16,794)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Pensiynau am adnoddau ychwanegol fyddai’n galluogi'r Uned Weinyddu Pensiynau i ymateb i bwysau gwaith cynyddol ac ymdopi'n effeithlon â lefel y gwaith sydd angen ei gwblhau. Er mwyn gwella effeithlonrwydd yr Uned Gweinyddu Pensiynau, cynigiwyd addasiadau i’r strwythur presennol ac amlygwyd mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Pensiynau oedd pennu cyllideb i sicrhau adnoddau digonol ar gyfer gweithredu hyn.

 

Eglurwyd bu cynnydd yn yr angen am ddealltwriaeth ddwys o reoliadau cymhleth y gronfa bensiwn, a bu arfarniad o swyddi’r Cymhorthyddion Pensiynau o raddfa GS3 (amrediad cyflog £19,312 - £19,698) i raddfa GS4 (£20,092 - £21,748). Gydag ychwanegiad costau cyflogwr yn gynnydd o £2,799 ar gyfer 6 swydd (ar uchafbwynt y raddfa) byddai’r gost o ariannu’r cynnydd yn £16,794 y flwyddyn.

 

Nodwyd bod Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy wedi cyflwyno opsiwn deniadol ar gyfer Cyfraniadau Gwirfoddol Aberthu Cyflog (AVCs) ac o ganlyniad  rhagwelwyd cynnydd mawr mewn defnydd o’r cynllun yma wedi i’r Cynghorau ei hyrwyddo’n llawn. I gyfarch y cynnydd yn y gwaith o weinyddu’r cyllun, cynigiwyd cyflogi un Swyddog Pensiynau newydd ar raddfa S2 (£24,982 - £27,041).  Gydag ychwanegiad costau’r cyflogwr, ar uchafbwynt y raddfa, byddai’r gost o ariannu’r swydd newydd yn £35,704.  Ategwyd bod prif gyflogwyr y Gronfa yn gwireddu arbedion sylweddol wrth leihau cyfraniadau yswiriant cenedlaethol gyda’r Cynllun AVCs - arbedion llawer mwy na chost ariannu’r swydd Swyddog Pensiynau.  Felly, mewn egwyddor, o ystyried cyllidebau’r cyflogwyr ynghyd â chyllideb y Gronfa Bensiwn, ni fyddai cynnydd yn y gyllideb net.

 

Yn ychwanegol, mewn ymateb i ddyfarniad y Llys Apêl yn achos ‘McCloud’ yn erbyn Llywodraeth y DU, adroddwyd bod y Llywodraeth bellach wedi cadarnhau y bydd newidiadau i bob prif gynllun sector cyhoeddus, gan gynnwys y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, i ddiddymu gwahaniaethu ar sail oedran.  Mewn ymateb i weithredu’r newidiadau (a elwi’r yn Prosiect McCloud), bydd angen casglu gwybodaeth am yr oriau a weithiwyd, ynghyd â manylion toriadau mewn gwasanaeth ar gyfer yr holl weithwyr cymwys sy'n cwmpasu'r cyfnod 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2022. Yn ogystal â diweddaru’r cofnodion, bydd angen ail-gyfrifo’r buddion marwolaeth, y buddion ymddeoliad, a’r buddion gohiriedig o’r aelodau sydd wedi gadael yn ystod yr 8 mlynedd ddiwethaf.  Bydd hyn yn golygu ail-edrych ar ffeithiau ac ail gyfrifo miloedd o gofnodion aelodau. Er bydd gweithredu Prosiect McCloud yn waith sylweddol i’r Uned, mae’n debyg mai nifer fechan iawn o aelodau fydd yn gweld cynnydd yng ngwerth eu buddion ar ddiwedd y prosiect.

 

Adroddwyd bod nifer o gronfeydd pensiwn tebyg o ran maint wedi comisiynu staff o asiantaethau allanol i ymgymryd â’r gwaith, ond byddai hynny yn opsiwn ddrud o’i gymharu â chadw’r gwaith yn fewnol. Cytunodd sawl aelod byddai’r Gronfa yn isafu’r gost drwy gyflogi 3 Cymhorthydd Pensiynau ychwanegol dros dro am gyfnod o 2 flynedd (gyda phosibilrwydd o estyniad os bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd) er mwyn ymgymryd â gwaith Prosiect McCloud.

 

Ategodd Cyfarwyddwr y Gronfa bod yr argymhellion wedi eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYMERADWYO CYLLIDEB 2022/23 pdf eicon PDF 212 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23

Penderfyniad:

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor i gyllideb ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021–2022,

Adroddwyd bod y gyllideb bellach yn cael ei chymeradwyo yn flynyddol gan y Pwyllgor Pensiynau ac eglurwyd bod cyllideb 2022/23 yn cynnwys yr addasiadau i strwythur staff yr Uned Gweinyddu Pensiynau a gymeradwywyd yn eitem 5 uchod. 

 

Nodwyd nad oedd y gyllideb yn cynnwys ffioedd Rheolwyr Buddsoddi nac Ymgynghorwyr, gan ei fod yn wariant newidiol. Er hynny, nodwyd y byddai’r gwariant yn cael ei adrodd yn llawn o fewn y cyfrifon terfynol ac Adroddiad Blynyddol y Gronfa. Ategwyd bod y swyddogion yn adolygu’r gyllideb yn fisol gyda chefnogaeth Hymans, ynghyd â monitro gwariant Partneriaeth Pensiwn Cymru yn barhaus i sicrhau gwerth am arian.

Diolchwyd am yr adroddiad hunanesboniadwy a chryno.

PENDERFYNWYD

·         Derbyn a nodi’r wybodaeth.

·         Cymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi.

 

7.

PRISIAD 2022: RHAGDYBIAETHAU ACTIWARAIDD pdf eicon PDF 102 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo'r rhagdybiaethau actiwaraidd a awgrymwyd gan Hymans Robertson, Actiwari y Gronfa, i'w defnyddio ym Mhrisiad 2022

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cymeradwyo rhagdybiaethau actiwaraidd a awgrymwyd gan Hymans Robertson, Actiwari y Gronfa i’w defnyddio ym Mhrisiad 2022

 

(Yn amodol ar adolygiad posib ym mis Hydref 2022, bydd y rhain yn cael eu ffurfioli mewn fersiwn wedi'i diweddaru o'r Datganiad Strategaeth Ariannu yn 2023)

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo rhagdybiaethau actiwaraidd a awgrymwyd gan Hymans, Actiwari’r Gronfa, i’w defnyddio ym mhrisiad 2022. Eglurwyd bod y rhagdybiaethau actiwaraidd sylfaenol yn elfen allweddol o’r strategaeth ariannu ac y dylent geisio adlewyrchu disgwyliadau‘r Gronfa i’r dyfodol ynghyd â lefel dymuniad risg. Gyda gwybodaeth gyfredol ac amgylchedd y Gronfa yn esblygu, a’r cydbwysedd rhwng darbodusrwydd a fforddiadwyedd yn amrywio oherwydd dylanwad ffactorau allanol, mae adolygu’r rhagdybiaethau actiwaraidd a fabwysiadwyd gan y Gronfa fel rhan o bob prisiad teirblynyddol yn angenrheidiol ac yn ymarfer da.

Adroddwyd mai pwrpas y prisiad yw adolygu'r strategaeth ariannu gyfredol yng ngoleuni newidiadau i'r amgylchedd economaidd, rheoliadol a chymdeithasol ynghyd a gosod cyfradd cyfrannu ar gyfer pob cyflogwr a delir (yn yr achos hwn) rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2026, pryd bydd cyfraddau'n cael eu hail-asesu ar brisiad 2025; a gwirio'r sefyllfa ariannu gyfredol.

Er mwyn pennu'r lefel ofynnol o gyfraniadau cyflogwyr yn y dyfodol, rhaid cynnal rhagamcaniad buddion a rhagamcaniad asedau. Wedi hyn, bydd y cyfraddau cyfrannu yn cael eu gosod, fel bod ar ddiwedd cyfnod y cytunwyd arno bod digon o asedau i gwrdd â'r taliadau buddion yn y dyfodol.

Trafodwyd yr holl ragdybiaethau ariannol a’r rhai demograffeg yn unigol, gan egluro rhesymeg dros yr hyn a gynigiwyd ar gyfer 2022, ynghyd a’r rhesymau dros unrhyw newid. Ategwyd bod y cyfarfod a gynhaliwyd bore 17 o Ionawr 2022 gyda’r Aelodau, y swyddogion a’r Actiwari yn manylu ar y rhagdybiaethau wedi bod yn fuddiol iawn.

Diolchwyd am yr adroddiad.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr addasiadau prin i’r rhagdybiaethau ers prisiad 2019 i gyd yn rhesymol.

·         Bod y maes yn un technegol ac arbenigol iawn ac felly angen rhoi ffydd yng ngwaith a chyngor yr arbenigwyr.

·         Angen bod yn bwyllog a doeth.

 

PENDERFYNWYD

·         Derbyn a nodi’r wybodaeth.

·         Cymeradwyo rhagdybiaethau actiwaraidd a awgrymwyd gan Hymans Robertson, Actiwari y Gronfa i’w defnyddio ym Mhrisiad 2022

(Yn amodol ar adolygiad posib ym mis Hydref 2022, bydd y rhain yn cael eu ffurfioli mewn fersiwn wedi'i diweddaru o'r Datganiad Strategaeth Ariannu yn 2023)