Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Wyn Jones, Goronwy Edwards (Cyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy) a Robin Williams (Cyngor Sir Ynys Môn)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Llongyfarchwyd Osian Richards (Cynrychiolydd Aelodau, Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Gwynedd) ar gael ei enwebu yn gynrychiolydd aelodau ar Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru. Bydd y trefniant yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol yng nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor ar y 24ain o Fawrth 2022.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 238 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022 fel rhai cywir.

5.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 187 KB

I ystyried yr adroddiad, mabwysiadu’r strategaeth a chadarnhau trefniadau cronni

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys am 2022/23, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn
  • Gwneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2022 ymlaen. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2022/23, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2022/23 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 3 Mawrth 2022.

 

Eglurwyd, ar hyn o bryd, bod yr holl arian sydd dros ben yn y Gronfa yn cael ei gronni gyda balansau ariannol Cyngor Gwynedd ac yn cael ei fuddsoddi gyda gwrthbartion yn unol â Strategaeth Rheolaeth Trysorlys Cyngor Gwynedd. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, bydd Cyngor Gwynedd yn talu llog i’r Gronfa Bensiwn ar sail balansau dyddiol y Gronfa dros y flwyddyn. Nodwyd, yn unol â chyngor cyfreithiol, mai buddiol yw cymeradwyo’r ymarfer yn flynyddol gan geisio dychweliadau o fewn ffiniau diogel a lleihau risgiau wrth uno’r arian gyda chronfeydd y Cyngor.

 

Amlygwyd bod cod ymarfer CIPFA a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor fuddsoddi ei arian yn ddarbodus gan ystyried diogelwch a hylifedd cyn ceisio am enillion neu’r cynnyrch uchaf. Ategwyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i daro cydbwysedd gyda’r ffactorau hyn a bod mesurau gwirfoddol i amlygu sensitifrwydd i’r risgiau diogelu credyd a hylifedd wedi eu mabwysiadau - bydd diweddariad ar y dangosyddion rheolaeth yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor pob hanner blwyddyn. Tynnwyd sylw at y gwrthbartion hynny sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer buddsoddi ynddynt (llywodraeth leol, awdurdodiad lleol, banciau, cronfeydd marchnad arian a chronfeydd cyfun) ynghyd a’r terfynau amser a’r cyfyngiadau buddsoddi.

 

Prif fanteision yr ymarfer yw denu llog uwch, isafu costau banc ac osgoi dyblygu gwaith o fewn y Cyngor. Cadarnhawyd mai cadw'r Gronfa yn ddiogel a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd risg.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion        

PENDERFYNWYD:

·         Derbyn a nodi’r wybodaeth

·         Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys am 2022/23, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn

·         Gwneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2022 ymlaen. 

 

6.

POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL pdf eicon PDF 201 KB

I ystyried yr adroddiad a  chymeradwyo’r polisi Buddsoddi Cyfrifol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth
  • Cymeradwyo Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn ddarostyngedig i addasu cymal o dan y pennawd ‘Lleihau Allyriadau Carbon y Gronfa ac Amcanion y Dyfodol’

 

“... mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i osod nod i'r Gronfa fod yn sero net erbyn 2050, wedi'i gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonoldeb y Gronfa i gyrraedd sero net 5,10 neu 15 mlynedd ynghynt...”

 

i

 

“... mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i osod nod i'r Gronfa fod yn sero net erbyn 2050, wedi'i gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonoldeb y Gronfa i gyrraedd sero net 5,10 neu 20 mlynedd ynghynt...”

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo Polisi Buddsoddi Cyfrifol ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd. Adroddwyd bod Buddsoddi Cyfrifol wedi datblygu yn bwnc trafod pwysig a phoblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf a bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cymryd camau cadarnhaol yn y maes, yn gynnwys rhyddhau datganiadau buddsoddi cyfrifol yn Ebrill a Gorffennaf 2021 sydd bellach wedi eu ffurfioli o fewn y polisi.

Nodwyd bod y polisi yn amlinellu mai nod y Gronfa yw sicrhau enillion buddsoddi cryf dros y tymor hir gan ddiogelu buddiannau rhanddeiliad, er yn cydnabod y gall materion llywodraethu, amgylcheddol a chymdeithasol gynrychioli risg ariannol sylweddol i’r rhanddeiliaid a dylanwadu ar elw ac enw da'r Gronfa. Ategwyd bod y polisi hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ganllawiau cyfreithiol, credoau buddsoddi, ymgysylltu a datgelu ac adrodd gan ddisgrifio’r egwyddorion a’r gweithdrefnau hynny y mae’r gronfa yn ei ddilyn yn y maes buddsoddi cyfrifol.

Cyfeiriwyd at ymrwymiad net sero'r Gronfa gan amlygu ystyriaeth o ymrwymo i darged net erbyn 2050, ond asesu’r posibilrwydd yn barhaus o gyrraedd 5,10, neu 15 mlynedd ynghynt. Amlygwyd nad oedd dymuniad gosod targed heb gynllun o sut i’w gyrraedd, ond nodwyd bod y targed o 2050 yn cyd fynd gyda tharged Rusell Investments Darparwr Atebion Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Tynnwyd sylw at y fframwaith a ddatblygwyd i gefnogi’r uchelgais sydd yn cwmpasu cyfleoedd, ymgysylltu, monitro a metrigau.

Ategodd Cyfarwyddwr y Gronfa, er nad oedd targed wedi ei osod yn flaenorol bod ymrwymiad i fod yn sero net a chamau rhesymol wedi eu cyflawni at gyrraedd hyn wedi eu gweithredu, ond bod disgwyliad bellach i osod targed a ffurfioli’r sefyllfa.

Cyflwynwyd y polisi i’r Bwrdd Pensiwn am sylwadau Mawrth 7fed 2022. Nodwyd bod eu cynigion wedi eu hymgorffori yn y polisi

Diolchwyd am yr adroddiad

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â goblygiadau’r Mesur Sancsiynau gan Lywodraeth San Steffan yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ymddengys bod Llywodraeth San Steffan eisiau cyfyngu cronfeydd o weithredu yn Wleidyddol. Er i rai penderfyniadau gael eu herio yn y gorffennol ymddengys bod bwriad gan y Llywodraeth i osod polisi, ond ystyriwyd y gall hyn amrywio yn ddibynnol ar y llywodraeth sydd mewn grym ar y pryd. Amlygodd bod y ‘dyletswydd ymddiriedolyn rheoli’r cyfyngiadau ar hyn o bryd ac yn unol ag awgrym y Bwrdd Pensiwn bod cyfeiriad at hyn wedi ei gynnwys yn y Polisi.

Yng nghyd-destun Rwsia a Wcráin amlygwyd bod gan y Pwyllgor yr un farn, y grym a’r hyder i ddylanwadu ar y portffolio drwy rannu pryder am y sefyllfa gydag aelodau’r Cynllun gan ryddhau datganiad a thrwy nodi nad oedd risg o niwed ariannol sylweddol i’r Gronfa o fuddsoddi a Rwsia (llai na 1%). Gyda materion eraill megis arfau, nid oes un farn gyffredin ymysg mwyafrif aelodau’r Gronfa, ac mae’n heriol i adnabod maint  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

POLISI SGILIAU A GWYBODAETH A CHYNLLUN HYFFORDDIANT 2022/23 pdf eicon PDF 185 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo Polisi Sgiliau a Gwybodaeth a Chynllun Hyfforddiant 2022/23

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo’r Polisi Gwybodaeth a Sgiliau a’r Cynllun Hyfforddiant 2022/23

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ymateb i argymhellion Adolygiad Llywodraethu Da i awdurdodau sicrhau bod gan swyddogion y Gronfa, yn ogystal ag aelodau Pwyllgor Pensiynau lefel digonol o wybodaeth i allu cyflawni eu rolau priodol yn effeithiol. Nodwyd, fel rhan o baratoi’r polisi newydd, rhannwyd copi drafft o'r polisi gyda Hymans Robertson a’r Bwrdd Pensiwn er mwyn derbyn adborth.

 

Cyfeiriwyd at y Cynllun Hyfforddiant sydd wedi ei lunio ar gyfer 2022/23 ac at bwysigrwydd cael proses anwytho yn ei le ar gyfer newidiadau posib i aelodaeth Pwyllgor a Bwrdd Pensiwn o ganlyniad i etholiad Mai 2022. Tynnwyd sylw at y cofnod hyfforddiant gan ofyn i'r Aelodau sicrhau eu bod yn cofnodi presenoldeb i sesiynau hyfforddiant rhithiol yr oeddynt yn mynychu, gyda’r Rheolwr Buddsoddi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad      

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·        Bod y polisi yn un i’w groesawu

·        Bod hi’n hanfodol sicrhau bod yr adnoddau cywir ar gael i Aelodau wneud y gwaith

·        Croesawu strwythur proffesiynol i’r hyfforddiant

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r angen i aelodau gwblhau cwrs hanfodion er mwyn gallu pleidleisio mewn pwyllgorau, ac os mai canllaw ynteu rheol oedd y datganiad, nodwyd bod rhaid sicrhau bod gan aelodau ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniadau ystyrlon, er bod mandad ganddynt i gynrychioli'r Cyngor ar y Pwyllgor. Amlygwyd y disgwyliad i ddysgu’r drefn, ond na ellid gorfodi’r hyfforddiant ar unrhyw un.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Polisi Gwybodaeth a Sgiliau a’r Cynllun Hyfforddiant 2022/23

 

8.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 142 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

  • Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi diweddariad ar weithgareddau Partneriaeth Pensiwn Cymru gan nodi bod y cydweithio wedi mynd o nerth i nerth ers sefydlu yn 2017 ac erbyn hyn bod 83% o gronfa Gwynedd wedi ei bwlio - 56% drwy’r prif gronfeydd a 27% drwy’r buddsoddiadau goddefol.

 

Tynnwyd sylw at berfformiad y cronfeydd oedd wedi bod yn gyfnewidiol yn ddiweddar oherwydd amgylchiadau heriol iawn a nodwyd y byddai’r PPC yn monitro eu perfformiad yn fanwl. Adroddwyd bod trosglwyddo marchnadoedd datblygol o Fidelity i PPC ym mis Hydref 2021 wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda 6 rheolwr o fewn y gronfa, yn cynnwys 5% wedi ei neilltuo i Bin Yan, sef arbenigwr Tsiena. Ategwyd bod ‘troshaen datgarboneiddio’ wedi’i gosod ar y gronfa yma sydd yn lleihau ôl troed carbon o 25%.

 

Adroddwyd mai’r camau nesaf yng ngwaith y Bartneriaeth yw ceisio opsiynau cyfuno asedau i’r categori marchnadoedd preifat. Nodwyd bod grŵp wedi ei sefydlu i arwain ar y gwaith fydd yn cael eu cefnogi gan Hymans Robertson. Nodwyd mai credyd preifat ac isadeiladwaith yw ffocws cyntaf y grwp gyda phroses pwrcasu wedi cymryd lle yn ddiweddar, fydd yn argymell rheolwyr addas i’r Cydbwyllgor apwyntio rheolwyr. Bydd y grŵp hefyd yn ceisio pwrcasu rheolwr ecwiti preifat.

 

Yng nghyd -destun cynrychiolydd aelodau ar y Cydbwyllgor Llywodraethu adroddwyd bod y broses apwyntio wedi digwydd gyda’r argymhelliad, fel y nodwyd eisoes, bod Osian Richards Aelod o Fwrdd Pensiynau Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cael ei benodi’n gynrychiolydd.

 

Cadarnhawyd ar Fawrth 10fed 2022, bod Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi cyrraedd y safon adrodd ddisgwyliedig yn 2021 ac o ganlyniad yn cael ei restru fel llofnodwr Cod Stiwardiaeth y DU. Ategwyd bod hyn yn gamp arwyddocaol ac yn adlewyrchu'r llywodraethu a stiwardiaeth gref o fewn y Bartneriaeth.

 

Diolchwyd am y diweddariad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cymerodd y Cadeirydd, Y Cynghorydd Peredur Jenkins y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff perthnasol am eu cefnogaeth ac i’w gyd-aelodau ar y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn am gydweithio a thrafod yn dda. Dymunwyd y gorau i bawb i’r dyfodol.

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Peredur Jenkins am ei waith a’i gefnogaeth i’r Pwyllgor Pensiynau dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Dymunwyd ymddeoliad hapus iddo.