skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Goronwy Edwards (Cyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy), John Brynmor Hughes a Robin Williams (Cyngor Sir Ynys Môn)

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 229 KB

Cofnod:

 

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2022 fel rhai cywir.

 

5.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2022-23 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 500 KB

I dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad, er gwybodaeth

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym Mawrth 2022 cymeradwywyd y Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y flwyddyn 2022/23 a penderfynwyd yn y Pwyllgor Pensiynau, 17 Mawrth 2022 i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn cael ei gronni a’i gyd-fuddsoddi a llif arian cyffredinol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol yma. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2022 nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2022/ 23.

 

Eglurwyd, yn y cyd-destun allanol bod y cyfnod wedi bod yn un heriol o fewn y marchnadoedd gydag ansicrwydd gwleidyddol ac effaith gwrthdaro Wcráin yn parhau. O ganlyniad, mae chwyddiant wedi cynyddu’n eithriadol yn ogystal â’r gyfradd llog sylfaenol.

 

Yn nhermau gweithgareddau buddsoddi, cyfeiriwyd at y mathau o fuddsoddiadau y buddsoddir ynddynt sydd, yn unol ar arfer, yn cynnwys banciau a chymdeithasau adeiladu, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, cronfeydd cyfun a’r swyddfa rheoli dyledion. Adroddwyd bod cyfraddau llog y buddsoddiadau wedi gwella o tua 1.5% yn ystod y cyfnod dan sylw, a rhagwelwyd y bydd y cyfraddau yn codi ymhellach yn y misoedd nesaf. Golygai hyn felly y bydd y lefel llog disgwyliedig am y flwyddyn ariannol yn sylweddol uwch na’r gyllideb nag yr hyn a ragwelwyd.

 

Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod yn cydymffurfio gyda Chod Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys. Nodwyd mai’r unig ddangosydd gyda diffyg cydymffurfiaeth oedd ‘dangosydd risg cyfradd llog’. Eglurwyd bod y dangosydd yma wedi ei osod pan roedd y gyfradd llog yn 0.1% ac nad oedd modd rhagweld cynnydd mor sylweddol yn y gyfradd llog ar y pryd - bydd hyn yn rhoi cyfle efallai i ddenu incwm llog sylweddol uwch.

 

Yng nghyd-destun rhagolygon ar gyfer gweddill 2022/23 amlygwyd bod Arlingclose yn disgwyl i gyfradd llog y banc gyrraedd 5% erbyn diwedd y flwyddyn, a bod disgwyl i Brydain fod mewn dirwasgiad.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad, er gwybodaeth

 

6.

TASGLU AR DDATGELIADAU ARIANNOL CYSYLLTIEDIG Â'R HINSAWDD ('TCFD') - YMGYNGHORIAD 'TCFD' pdf eicon PDF 185 KB

I gyflwyno’r ymateb gan Cronfa Bensiwn Gwynedd i’r ymgynghoriad

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Cymeradwyo ymateb Cronfa Bensiwn Gwynedd i’r ymgynghoriad ar lywodraethu ac adrodd ar risgiau hinsawdd yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)

 

Cofnod:

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn hysbysu’r Aelodau fod Llywodraeth San Steffan yn y broses o ymgynghori ar gynigion ar ofynion newydd ar awdurdodau gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Fel atodiad i’r adroddiad, cyflwynwyd ymateb Cronfa Bensiwn Gwynedd i’r ymgynghoriad oedd wedi ei baratoi gyda mewnbwn ymgynghorwyr y Gronfa, Hymans Robertson.

 

Yn ôl y disgwyl, bydd y cynigion yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gweinyddol y CPLlL asesu, rheoli ac adrodd ar risgiau sy’n ymwneud â’r hinsawdd, yn unol ag argymhellion y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol Cysylltiedig â’r Hinsawdd (‘TCFD’). Disgwylir i’r rheoliadau ddod i rym erbyn Ebrill 2023.

 

Nodwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cefnogi’r ymgynghoriad a’r y cynnig i ymgorffori gofynion llywodraethu risg hinsawdd ac adroddiadau gofynnol yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) Bydd hyn yn sicrhau bod gofynion y sector cyhoeddus yn cyd fynd gyda’r gofynion hynny sydd eisoes ar waith ar gyfer cynlluniau pensiwn y sector preifat. Ategwyd, fel buddsoddwyr hirdymor, gall y CPLlL chwarae rhan bwysig wrth gyfarch newid hinsawdd drwy ei fuddsoddiadau a'i stiwardiaeth. Ategwyd y byddai’r canllawiau hefyd yn cynnig trefn safonol ar gyfer dangos cynnydd mewn modd y gall ei fesur.

 

 

Amlygwyd, er bod y cynigion yn cyfeirio at ganllawiau statudol disgwyliedig ar gyfer awdurdodau gweinyddol, ystyriwyd mai defnyddiol fyddai cael canllawiau ychwanegol, statudol neu fel arall, ar gyfer Cronfeydd CPLlL. Cyflwynwyd y cynnig yma fel rhan o’r ymateb gan nodi, o ystyried pwysigrwydd canllawiau o'r fath, y gobaith yw i’r llywodraeth ymgynghori ar wahân ar y canllawiau hyn cyn i'r cynigion gael eu cwblhau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Nododd y Cadeirydd bod yr ymateb wedi ei lunio mewn modd adeiladol ac roedd yn croesawu sylwadau’r swyddogion.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Cymeradwyo ymateb Cronfa Bensiwn Gwynedd i’r ymgynghoriad ar lywodraethu ac adrodd ar risgiau hinsawdd yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)

 

7.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 200 KB

I ystyried adroddiad yr archwilydd, cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon ac awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r llythyr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a nodi adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru
  • Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ôl -archwiliad ar gyfer 2021/22
  • Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth  (yn electroneg)

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas a Ben Hughes o Archwilio Cymru i’r cyfarfod.

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2021/22 (ôl archwiliad), gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2022. Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi eu cyflwyno i gyfarfod 27ain Mehefin 2022 ac nad oedd newidiadau arwyddocaol yn dilyn archwiliad gan Archwilio Cymru.

 

Gwahoddwyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Adroddwyd bod yr archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo.  Eglurwyd na all archwilwyr fyth roi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan yn gywir ond yn hytrach yn gweithio i lefel o ‘berthnasedd’. Pennwyd lefel perthnasedd o £27.794 miliwn ar gyfer archwiliad eleni i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau a all arwain fel arall at gamarwain rhywun sy’n defnyddio’r cyfrifon.

 

Tynnwyd sylw at y penawdau isod:

 

·         Effeithiau Covid-19 ar archwiliad eleni

·         Nad oedd camddatganiadau wedi eu canfod yn y cyfrifon nas cywirwyd

·         Er rhai mân wallau naratif yn y datganiad ariannol drafft bod y rhain bellach wedi eu cywiro

·         Bod y wybodaeth a gyflwynwyd o ansawdd uchel ac yn bositif iawn

 

a)    Diolchwyd i’r Archwilwyr am eu cydweithrediad a’u gwaith trylwyr. Gwerthfawrogwyd ymroddiad a chywirdeb y gwaith a diolchwyd i’r Rheolwr Buddsoddi a’r tîm am baratoi’r cyfrifon.

 

b)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:

 

·         Bod yr adroddiad yn un calonogol a phositif - yn rhoi hyder bod pethau yn dda a bod canlyniad yr archwiliad yn amlygu gwaith da'r swyddogion

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn a nodi adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru

·         Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ôl -archwiliad ar gyfer 2021/22

·         Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth  (yn electroneg)

 

 

8.

RHAGFANTOLI ARIAN CYFRED pdf eicon PDF 181 KB

 

I dderbyn cymeradwyaeth y pwyllgor i weithredu trefniadau gwarchod ariannol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cymeradwyo’r bwriad i ragfantoli arian cyfred dros dro am ran o bortffolio ecwiti y Gronfa
  • Grymuso’r swyddogion ac ymgynghorydd y Gronfa i sefydlu trefniadau rhagfantoli arian mewn perthynas â chronfeydd ecwiti byd-eang Gwynedd gyda Black Rock

 

Cofnod:

Croesawyd Mr Kenneth Taylor o Hymans Robertson i’r cyfarfod.

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan Cyfarwyddwr y Gronfa yn amlinellu’r bwriad i sefydlu trefniadau rhagfantoli arian cyfred mewn perthynas â rhan o bortffolio ecwiti rhestredig Gwynedd. Adroddwyd nad oedd y Gronfa wedi defnyddio rhagfantoli arian cyfred yn hanesyddol (ac eithrio ar gyfer mandadau incwm sefydlog), ond bod amodau presennol y farchnad yn golygu mai doeth fyddai amddiffyn rhai enillion diweddar rhag cynnydd yng ngwerth Sterling yn y dyfodol. O ganlyniad, trafodwyd y posibilrwydd  gydag ymgynghorwyr y Gronfa,, Hymans Robertson.

 

Awgrymwyd i’r Pwyllgor ystyried gwarchod cyfran o’r risg arian cyfred drwy newid cronfeydd ecwiti byd-eang Black Rock i sail arian wedi’i warchod, fel mesur tactegol tymor byr. Byddai hyn yn rhagfantoli’r risg arian cyfred o tua 40% o ddyraniad ecwiti byd-eang y Gronfa. Byddai angen cael gwared ar y warchodaeth (hedging) pan fydd y Sterling yn symud o fewn efallai 20% o'i gyfradd gyfnewid gyfartalog hirdymor. Byddai hyn yn cyfateb i gyfradd gyfnewid o $1.30 i $1.35 (tua 15% i 20% yn uwch na'r lefelau presennol).

 

Ategodd yr ymgynghorydd bod yr opsiwn o ystyried buddsoddi tymor byr drwy ddefnyddio rhagfantoli arian cyfred yn addas ac y byddai’n fodd o fanteisio ar y gyfradd gyfnewid bresennol gyda’r posibilrwydd o ychwanegu gwerth.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau trosglwyddo i gronfa ecwiti byd-eang Black Rock, nodwyd nad oedd costau trosglwyddo dim ond costau cynnal sylfaenol.

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:

·         Bod barn yr ymgynghorwyr yn broffesiynol a rhesymol

·         Yn awyddus i ddechrau cyn colli cyfle

·         Bod rhagfantoli yw’r opsiwn gorau ar hyn o bryd ac yn gwarchod enillion i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cymeradwyo’r bwriad i ragfantoli arian cyfred dros dro am ran o bortffolio ecwiti'r Gronfa

·         Grymuso’r swyddogion ac ymgynghorydd y Gronfa i sefydlu trefniadau rhagfantoli arian mewn perthynas â chronfeydd ecwiti byd-eang Gwynedd gyda Black Rock

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau hyn mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd parti ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau .

 

 

10.

PROSIECT YNNI GLAN YNG NGHYMRU (PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU)

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cymeradwyo dyraniad ariannol ( o oddeutu £9m - £10m) i fuddsoddi mewn prosiectau ynni glan uniongyrchol yng Nghymru, gan nodi bwriad PPC i gynnal diwydrwydd dyledus

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo dyraniad i fuddsoddi mewn prosiect  ynni glan uniongyrchol yng Nghymru. Nodwyd bod y prosiect dan sylw wedi ei drafod yn helaeth a sylwadau wedi eu derbyn gan ymgynghorwyr y gronfa, Hymans Robertson.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cymeradwyo dyraniad ariannol (o oddeutu £9m - £10m) i fuddsoddi mewn prosiectau ynni glan uniongyrchol yng Nghymru, gan nodi bwriad Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i gynnal diwydrwydd dyledus

 

 

11.

ADOLYGIAD O DDYRANIAD ASEDAU STRATEGOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD

I ystyried a chymeradwyo dyraniad asedau strategol diwygiedig y gronfa

 

 

(copi i aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn a nodi’r Adolygiad Strategol o Ddyraniad Asedau
  • Cymeradwyo dyraniad strategol diwygiedig y Gronfa, Opsiwn 2 fel amlinellwyd y tabl o dan rhan 3 o’r adroddiad
  • Cymeradwyo dyraniad diwygiedig o ecwiti rhestredig fel argymhellwyd y tabl o dan rhan 6 o’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn amlygu casgliadau’r adolygiad tair blynedd o strategaeth fuddsoddi’r Gronfa a gynhyrchwyd gan ymgynghorwyr y Gronfa, Hymans Robertson. Cyflwynwyd argymhellion cychwynnol ar y dyraniad asedau ar gyfer portffolio buddsoddi’r Gronfa.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn a nodi’r Adolygiad Strategol o Ddyraniad Asedau

·         Cymeradwyo dyraniad strategol diwygiedig y Gronfa, Opsiwn 2 fel amlinellwyd y tabl o dan rhan 3 o’r adroddiad

·         Cymeradwyo dyraniad diwygiedig o ecwiti rhestredig fel argymhellwyd y tabl o dan rhan 6 o’r adroddiad.