skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Richard Medwyn Hughes a Robin Williams (Cyngor Sir Ynys Môn)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Hysbyswyd yr aelodau bod Mr Huw Trainor wedi derbyn swydd newydd gyda Grŵp Llandrillo Menai ac o ganlyniad bydd angen ethol cynrychiolydd cyflogwr newydd i’r Bwrdd Pensiwn.

 

Yn unol â threfn statudol o ethol aelodau i’r Bwrdd, amlygwyd bod tymor cyntaf rhai o aelodau’r Bwrdd yn dod i ben, ac er gellid ail-benodi unrhyw gynrychiolydd am gyfnod pellach yn y swydd, yn amodol ar eu hail-enwebu yn ôl yr angen, bod angen gwneud hynny yn ffurfiol. Yn sgil cyhoeddiad Mr Huw Trainor, ystyriwyd mai amserol fyddai dechrau’r broses o ail benodi yn ehangach yn Chwefror / Mawrth 2023. Ategwyd y byddai’r aelodau presennol yn cael eu hysbysu o drefniadau’r broses gyhoeddus ac o’r bwriad i benodi pum aelod (nodwyd eithriad i gynrychiolydd Cyngor Gwynedd gan fod y penodiad yn un diweddar iawn ac wedi ei warchod). Yr Aelod Cabinet (Cyllid), y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Monitro fydd y panel cyfweld.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 235 KB

Cofnod:

 

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2022 fel rhai cywir.

 

5.

CYMERADWYO CYLLIDEB 2023/24: UNED GWEINYDDU PENSIYNAU A'R UNED BUDDSODDI pdf eicon PDF 212 KB

I ystyried a chymeradwyo cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cymeradwyo Cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor i gyllideb ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023–2024

 

Adroddwyd bod y gyllideb bellach yn cael ei chymeradwyo yn flynyddol gan y Pwyllgor Pensiynau.  Cyfeiriwyd at un addasiad i Gyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau o ailraddio 1 swydd ac incrementau staff eraill. Nodwyd nad oedd y gyllideb yn cynnwys ffioedd Rheolwyr Buddsoddi nac Ymgynghorwyr, gan ei fod yn wariant newidiol. Er hynny, nodwyd y byddai’r gwariant yn cael ei adrodd yn llawn o fewn y cyfrifon terfynol ac Adroddiad Blynyddol y Gronfa. Ategwyd bod bwriad dechrau cofnodi costau’r gronfa gan lunio cynllun busnes erbyn cyllideb 2024/25.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Ystyriwyd fod y bwriad o gofnodi costau’r gronfa yn gam positif – bod cadw cofnod o drefniadau bilio a chostau’r gronfa yn bwysig iawn.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cymeradwyo Cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24

 

6.

ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA pdf eicon PDF 195 KB

I nodi’r adroddiad cynnydd a chymeradwyo amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn a nodir adroddiad cynnydd
  • Cymeradwyo amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf yn ddarostyngedig i ychwanegu’r gair ‘pendant’ i amcan 7 ‘Darparu cyngor perthnasol ac amserol’.

‘... gallai cyngor ‘amgen’ weithiau fod yn fwy rhagweithiol, pendant ac amserol ...’

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion cyfredol, ynghyd a chais i’r Pwyllgor adolygu a chymeradwyo’r amcanion ar gyfer 2023. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol, bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt.

Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith da, yn darparu adroddiadau chwarterol (sy’n cynnwys gradd buddsoddi cyfrifol ar gyfer pob rheolwr), adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer y paneli buddsoddi, yn cynnig cyngor ymarferol ac yn perfformio yn unol â’r amcanion. Eglurwyd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un prysur gyda’r ymgynghorwyr yn darparu cyngor pellach ar y strategaeth buddsoddi wrth ail strwythuro dyraniad asedau strategol y Gronfa yn dilyn y prisiad. Ategwyd bod hyn wedi bod yn ddarn o waith pwysig a manwl iawn a bu cydweithio da. Adroddwyd hefyd, gyda buddsoddi cyfrifol bellach yn faes blaenllaw, bod Hymans wedi cyd weithio gyda swyddogion y Gronfa i adolygu’r polisi buddsoddi cyfrifol, darparu cyngor ar fuddsoddiadau newydd a darparu ateb i’r ymgynghoriad TCFD.

Er nad yw Hymans yn darparu hyfforddiant drwy gytundeb uniongyrchol gyda Chronfa Gwynedd, bod hyfforddiant amserol ar gael drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gyda chyfraniadau sylweddol gan Hymans. Er derbyn hefyd bod y ffioedd yn uchel (sydd yn wir hefyd am rai cwmnïau eraill yn y farchnad), amlygwyd dymuniad o dderbyn amcangyfrifad o gost y gwaith sy’n cael ei gytuno arno ymlaen llaw.

Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol ynghyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hynny yn ystod 2022. Amlygwyd bod dwy amcan newydd weid eu hychwanegu. Er nad oedd dymuniad i newid ymgynghorwyr buddsoddi’r Gronfa, bod rhaid er hynny herio eu perfformaid a sicrhau nad yw’r berthynas yn rhygyfforddus’. Yn dilyn rhwystredigaeth o sefydlu trefniadau rhagfantoli arain cyfred ac o ganlynaid colli cyfle i fanteisio ar y gyfradd gyfnewid gyda phosibilrwydd o ychwanegu gwerth, ystyriwyd yr angen am anogaeth a chyngor mwy rhagweithiol ac amserol, fel bydd modd ymateb i gyfleoedd heb rwystredigaeth i’r dyfodol.

Ategodd yr Cadeirydd bod y cwmni yn darparu gwasanaeth da ac yn cyfarch yr amcanion sydd yn cael eu gosod gan y Pwyllgor.

Diolchwyd am yr adroddiad.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r angen i gyflymu prosesau, e.e. rhagfantoli arian cyfred, a’r risgiau posibl wrth wneud hynny, nodwyd bod rhwystredigaeth o beidio gweithredu yn gynt ac efallai i’r dyfodol y gall yr ymgynghorwyr buddsoddi dynnu sylw at gyfleoedd posib. Er hynny, amlygodd Cyfarwyddwr y Gronfa bod mabwysiadu’r drefn rhagfantoli arian cyfred yn gam sylweddol i’r Gronfa a bod cymeradwyaeth y Pwyllgor yn hanfodol wrth symud i’r drefn honno. Ategodd bod trothwyon i’r dyfodol bellach wedi eu sefydlu a chytundebau gyda BlackRock yn barod i weithredu o fewn diwrnod os daw cyfle.

 

Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn â’r budd o sefydlu proses ymateb brys, nodwyd, mewn argyfwng, bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO pdf eicon PDF 210 KB

I ystyried a chadarnhau'r rhagdybiaethau a'r polisïau a amlinellir yn yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a chadarnhau'r tybiaethau a’r polisïau yn y Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft)
  • Cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft) ar gyfer ymgynghoriad gyda holl gyflogwyr y Gronfa

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn egluro’r gofyn sydd ar y Gronfa i adolygu’r Datganiad Strategaeth Cyllido pob tair blynedd, a hynny ar ôl y prisiad teirblynyddol; y bwriad yw cyhoeddi’r Datganiad Strategaeth Cyllido erbyn 31 Mawrth 2023.

Nodwyd mai prif bwrpas y datganiad yw adlewyrchu ffactorau’r prisiad gan bwyso a mesur fforddiadwyedd y cyflogwyr gyda amcanion hylifedd hir dymor y gronfa. Cyflwynwyd y datganiad (drafft) i’r Pwyllgor am gadarnhad o’r rhagdybiaethau a’r polisïau fel bod modd rhyddhau’r datganiad am ymgynghoriad gyda’r holl gyflogwr cyn mabwysiadu’n ffurfiol yn y pwyllgor nesaf.

Eglurwyd mai sail y ddogfen yw’r prisiad actiwaraidd. Ategwyd bod y cyflogwyr wedi derbyn cyflwyniad gan yr actiwari ym mis Hydref lle datganwyd bod y canlyniadau yn bositif ar y cyfan gyda mwyafrif o’r cyflogwyr yn derbyn gostyngiad yn ei cyfraniadau.

Nodwyd bod y datganiad yn ddogfen faith a thechnegol wedi ei pharatoi mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans a swyddogion y gronfa. Cyfeiriwyd at y datganiad ynghyd a’r polisïau ategol. Eglurwyd bod y polisïau ategol fel arfer wedi eu hymgorffori yn y ddogfen ond cytunwyd, gyda chymeradwyaeth Hymans, i osod cyfeiriad at y polisïau yn y strategaeth, ond eu bod yn eistedd ar wahân ac felly’n haws i’w canfod / addasu pe byddai angen cyrraedd at wybodaeth neu ddiweddaru’r polisïau heb orfod addasu’r strategaeth i gyd.

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Er yn ddogfen faith a thechnegol, y cynnwys yn fanwl ac wedi ei osod allan mewn modd hawdd i’w ddilyn

·         Bod yr iaith a ddefnyddir yn ddealladwy

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn a chadarnhau'r tybiaethau a’r polisïau yn y Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft)

·         Cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Cyllido (drafft) ar gyfer ymgynghoriad gyda holl gyflogwyr y Gronfa

 

8.

DIGWYDDIADAU 2023 pdf eicon PDF 252 KB

 

I hysbysu’r Aelodau o ddigwyddiadau 2023

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a chadarnhau enwebiadau ar gyfer mynychu digwyddiadau 2023

 

Cofnod:

Cyflwynwyd rhestr o ddyddiadau ar gyfer 2023 oedd yn cynnwys dyddiadau pwyllgorau, paneli buddsoddi, sesiynau hyfforddi, fforymau gwybodaeth, seminarau a chynadleddau. Amlygwyd yr angen i enwebu Aelodau i fynychu’r fforymau, y seminarau a’r cynadleddau.

 

Nodwyd, bod dyddiad y Panel Buddsoddi oedd wedi ei drefnu ar gyfer 25ain o Fai  bellach wedi ei ail drefnu ar gyfer 15eg o Fehefin 2023, oherwydd gwrthdaro gyda chyfarfod arfaethedig o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar y 25ain o Fai.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod angen cysylltu a chynnig lle i’r ddau aelod oedd wedi ymddiheuro

·         Os na fydd enwebiad gan Aelod o’r Pwyllgor, bydd gwahoddiad yn cael ei ymestyn i aelodau’r Bwrdd Pensiwn

 

PENDERFYNWYD

 

·      Derbyn a chadarnhau enwebiadau ar gyfer mynychu digwyddiadau 2023 gan gysylltu a chynnig lle i’r aelodau oedd wedi ymddiheuro.

·                   Ymestyn gwahoddidau i Aelodau’r Bwrdd Pensiwn os bydd llefydd gwag.