skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 293 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2023 fel rhai cywir

5.

DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI pdf eicon PDF 179 KB

I ystyried a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol y Pwyllgor i fabwysiadu’r Strategaeth Buddsoddi. Amlygwyd ei bod yn ofynnol i’r Gronfa gyhoeddi’r Datganiad Strategaeth a bod bwriad gwneud hynny ynghyd a gosod dyraniad asedau strategol newydd yn dilyn y prisiad teirblynyddod.

 

Ategwyd bod Kenny Taylor o Hymans Robertson eisoes wedi cyflwyno’r strategaeth i’r Pwyllgor mewn manylder mewn cyfarfod o’r Panel Buddsoddi diweddar gan amlinellu bod y strategaeth yn tanlinellu’r cydbwysedd rhwng risg a dychweliadau y mae’r gronfa ei hangen. Cyfeiriwyd at wybodaeth am Bartneriaeth Pensiwn Cymru, Buddsoddi Cyfrifol, hawliau pleidleisio ac ymgysylltu - elfennau pwysig  yng ngweithrediad y Gronfa.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi

 

6.

DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO pdf eicon PDF 181 KB

I ystyried a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Cyllido

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Cyllido

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn egluro’r gofyn sydd ar y Gronfa i adolygu’r Datganiad Strategaeth Cyllido pob tair blynedd, a hynny ar ôl y prisiad teirblynyddol. Y bwriad yw cyhoeddi’r Datganiad Strategaeth Cyllido erbyn 31 Mawrth 2023. Amlygwyd mai prif bwrpas y datganiad yw adlewyrchu ffactorau’r prisiad gan bwyso a mesur fforddiadwyedd i’r cyflogwyr gydag amcanion hylifedd hirdymor y Gronfa.

 

Nodwyd bod y Datganiad yn ddogfen faith a thechnegol, ac wedi ei pharatoi mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans a swyddogion y Gronfa. Cyfeiriwyd at y datganiad ynghyd â nifer o bolisïau ategol. Eglurwyd bod y polisïau ategol, yn flaenorol wedi eu hymgorffori yn y ddogfen, ond erbyn hyn, y Strategaeth yn cyfeirio at y polisïau fel  atodiadau. Bydd hyn yn eu gwneud yn haws i’w canfod / addasu, pryd bydd angen cyrraedd at wybodaeth neu ddiweddaru’r polisïau, heb orfod addasu’r Strategaeth i gyd.

 

Eglurwyd, fel rhan o’r adolygiad, bod rhaid i’r awdurdod gweinyddol ymgynghori gyda phob cyflogwr sydd yn rhan o’r cynllun, gydag actiwari, ymgynghorwyr y gronfa ac unrhyw bersonau eraill y maent yn eu hystyried yn addas. Yn unol â’r gofyn, cyflwynwyd y Datganiad (drafft) i’r Bwrdd Pensiwn ac i holl gyflogwyr y Gronfa. Adroddwyd y bu ymatebion positif gan y Bwrdd a gan sawl cyflogwr, gydag ambell un yn gwerthfawrogi fod Cronfa Pensiwn Gwynedd yn cymryd golwg hir dymor ar fuddsoddi er mwyn sicrhau cyfraniadau sefydlog ac yn cefnogi’r strategaeth. Yn dilyn un awgrym gan y Bwrdd, cadarnhawyd fod buddsoddi cyfrifol bellach wedi’i amlygu o fewn y strategaethau.  Nodwyd nad oedd addasiadau pellach i’r hyn a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yng nghyfarfod 18ain o Ionawr 2023.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau

·         Bod sylwadau’r Bwrdd i’w croesawu

·         Bod mynychu cyrsiau gwybodaeth a sgiliau sylfaenol am weinyddu pensiynau yn hanfodol fel bod aelodau yn deall pwysigrwydd y gwahanol strategaethau i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol.

·         Bod y ddogfen yn un gwerthfawr

·         Croesawu ymateb gan  rai o gyflogwyr mwyaf y Gronfa - GwE, Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Sir Ynys Môn

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Cyllido

 

 

7.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 139 KB

I adolygu’r gofrestr risg

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

8.

ADRODDIAD PRISIAD Y GRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 251 KB

I ystyried a nodi’r wybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Diolch i swyddogion am gyflwyno gwybodaeth mewn cyfnod heriol.
  • Diolch i Hymans Robertson am eu cyngor a’u cefnogaeth
  • Derbyn a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad prisiad (drafft). Comisiynwyd Hymans Robertson i gynnal prisiad o Gronfa Bensiwn Gwynedd ar 31 Mawrth 2022. Eglurwyd mai pwrpas y prisiad, sydd yn cael ei gynnal bob tair blynedd, yw sicrhau bod gan y Gronfa gynllun cyfrannu a strategaeth fuddsoddi a fydd yn cyflawni amcanion y Datganiad Strategaeth Gyllido.

 

Amlygwyd bodlonrwydd bod y Gronfa yn cymryd golwg hir dymor ar fuddsoddi gan leihau lefel cyfraniadau ond dim yn peryglu lefelau i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at lefelau cyfraddau pob cyflogwr sydd yn amrywio fesul cyflogwr - y gyfradd gyfrannu yn adlewyrchu aelodaeth a phrofiadau cyflogwyr.

 

Nododd Cyfarwyddwr y Gronfa bod yr adroddiadau yn cadarnhau bod y sefyllfa yn un gadarn a chalonogol, ac yn gosod sylfaen dda i’r tair blynedd nesaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau

·         Llawer o waith wedi ei gwblhau mewn cyfnod heriol

·         Gwaith craidd wedi bod yn sail i adroddiad manwl a chlir

·         Yr adroddiad wedi ei gyflwyno yn dda

·         Bod penderfyniadau doeth wedi cael effaith gadarnhaol ar y sefyllfa

·         Ategu diolch i actiwari y Gronfa,  Hymans Robertson am eu cyfraniad

 

PENDERFYNWYD

 

·         Diolch i swyddogion am gyflwyno gwybodaeth mewn cyfnod heriol.

·         Diolch i Hymans Robertson am eu cyngor a’u cefnogaeth

·         Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

9.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS AR GYFER 2023/24 pdf eicon PDF 187 KB

·         I fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys atodol am 2023/24, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn (Atodiad A)

 

·         I gadarnhau’r cais i’r Cyngor i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2023 ymlaen. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a mabwysiadu’r strategaeth a chadarnhau trefniadau cronni

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2023/24, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2023/24 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 2 Mawrth 2023.

 

Eglurwyd, ar hyn o bryd, bod yr holl arian sydd dros ben yn y Gronfa yn cael ei gronni gyda balansau ariannol Cyngor Gwynedd ac yn cael ei fuddsoddi gyda gwrthbartion yn unol â Strategaeth Rheolaeth Trysorlys Cyngor Gwynedd. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, bydd Cyngor Gwynedd yn talu llog i’r Gronfa Bensiwn ar sail balansau dyddiol y Gronfa dros y flwyddyn. Nodwyd, yn unol â chyngor cyfreithiol, mai buddiol yw cymeradwyo’r ymarfer yn flynyddol gan geisio dychweliadau o fewn ffiniau diogel a lleihau risgiau wrth uno’r arian gyda chronfeydd y Cyngor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau

·         Bod yr adroddiad bellach yn eitem gyson ar raglen waith y Pwyllgor

·         Bod y trefniant eisoes wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn

·         Mai annoeth fyddai cadw arian ar wahân - gwneud synnwyr cadw at y trefniant

 

PENDERFYNWYD:

·         Derbyn a nodi’r wybodaeth

·         Mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys am 2023/24, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn

·         Gwneud cais i’r Cyngor i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2023 ymlaen. 

 

 

10.

ADRODDIAD RHAGAMCANION MODELU LLIF ARIAN pdf eicon PDF 261 KB

I nodi’r cynnwys a derbyn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi mewn ymateb i’r angen i  ragamcanu llif arian disgwyliedig y Gronfa dros gyfnod hirdymor, fel bod modd deall sensitifrwydd sefyllfa llif arian net y Gronfa mewn nifer o senarios chwyddiant.

 

Tynnwyd sylw at y mathau o incwm a’r gwariant rheolaidd sydd yn digwydd o fewn y Gronfa, ynghyd a sefyllfa llif arian y blynyddoedd diweddar oedd yn amlygu sefyllfa bositif.

 

Cyfeiriwyd at adroddiad a ddarparwyd gan Hymans Robertson yn asesu’r sefyllfa ynghyd a scenario analysis yr oeddynt wedi ei wneud i ganfod pryd byddai’r Gronfa’n debygol o fod mewn sefyllfa llif arian negyddol. Ystyriwyd tair sefyllfa wahanol, a daethpwyd i’r canlyniad mai'r flwyddyn gyntaf y gall y Gronfa wynebu sefyllfa negyddol yw 2029 a hynny pe byddai chwyddiant yn parhau ar lefel uchel iawn. Nodwyd bod hyn yn well sefyllfa na mwyafrif o gronfeydd eraill CPLlL ac yn newyddion da i’r Gronfa, er yn llwyr ymwybodol bod rhaid bod yn wyliadwrus o’r risgiau (megis monitro newid mewn aelodaeth, ystyried chwyddiant a chadw’r llif arian mewn cof wrth ystyried y strategaeth fuddsoddi).

 

Diolchwyd am yr adroddiad a gwerthfawrogwyd yr ymarferiad gan Hymans Robertson.  

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi mewn ymateb i’r angen i  ragamcanu llif arian disgwyliedig y Gronfa dros gyfnod hirdymor, fel bod modd deall sensitifrwydd sefyllfa llif arian net y Gronfa mewn nifer o senarios chwyddiant.

 

Tynnwyd sylw at y mathau o incwm a’r gwariant rheolaidd sydd yn digwydd o fewn y Gronfa, ynghyd a sefyllfa llif arian y blynyddoedd diweddar oedd yn amlygu sefyllfa bositif.

 

Cyfeiriwyd at adroddiad a ddarparwyd gan Hymans Robertson yn asesu’r sefyllfa ynghyd a scenario analysis yr oeddynt wedi ei wneud i ganfod pryd byddai’r Gronfa’n debygol o fod mewn sefyllfa llif arian negyddol. Ystyriwyd tair sefyllfa wahanol, a daethpwyd i’r canlyniad mai'r flwyddyn gyntaf y gall y Gronfa wynebu sefyllfa negyddol yw 2029 a hynny pe byddai chwyddiant yn parhau ar lefel uchel iawn. Nodwyd bod hyn yn well sefyllfa na mwyafrif o gronfeydd eraill CPLlL ac yn newyddion da i’r Gronfa, er yn llwyr ymwybodol bod rhaid bod yn wyliadwrus o’r risgiau (megis monitro newid mewn aelodaeth, ystyried chwyddiant a chadw’r llif arian mewn cof wrth ystyried y strategaeth fuddsoddi).

 

Diolchwyd am yr adroddiad a gwerthfawrogwyd yr ymarferiad gan Hymans Robertson.  

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

11.

POLISI ADRODD AM DOR-CYFRAITH pdf eicon PDF 161 KB

I ystyried a chymeradwyo’r Polisi

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a chymeradwyo’r Polisi Adrodd ar Dor-Cyfraith

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn mynegi, fel rhan o'r prosiect Llywodraethu Da, ei bod yn ofynnol i'r Gronfa gynhyrchu polisi mewn perthynas â Chofnodi Torri'r Gyfraith (ym maes pensiynau yn unig). Nodwyd bod y polisi wedi’i ddrafftio gan Hymans Robertson ar y cyd gyda swyddogion y Gronfa, a bu ymgynghoriad gyda Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd. Ategwyd bod y Bwrdd Pensiwn hefyd wedi craffu cynnwys y polisi ac wedi cynnig mân sylwadau.

 

Amlygwyd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y polisi a’r gweithdrefnau ar gyfer darganfod, monitro a, lle bo’n briodol, adrodd am achosion o dorri’r gyfraith fel sy’n ofynnol yn Neddf Pensiynau 2004 ac y manylir arnynt yng Nghod Ymarfer Rhif 14 y Rheoleiddiwr Pensiynau - Llywodraethu a gweinyddu cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus. Er nad oedd achos o bryder, nodwyd bod y polisi yn rhan o’r gwaith paratoi i  sicrhau trefn a sicrwydd mewn unrhyw sefyllfa o dor-cyfraith pensiynau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau

·         Bod y polisi yn amlygu’r prif swyddogaethau a’r cyfrifoldebau yn glir

·         Bod swyddogaethau Cynghorwyr hefyd wedi cael ei nodi

·         Bod y ddogfen yn amlinellu cyfrifoldebau mewn modd deallus

·         Croesawu bod y Swyddog Monitro a’r Bwrdd Pensiwn yn cymeradwyo’r polisi

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo’r Polisi Adrodd ar Dor-Cyfraith

 

12.

CYNLLUN HYFFORDDIANT pdf eicon PDF 175 KB

I dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2023/24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn diweddariad am lwyddiant Rhaglen Hyfforddiant 2022 /23 a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2023/24

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi crynodeb o’r hyfforddiant a gyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod 2022/23 ynghyd a chais i gymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2023/24 ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd.

 

Ystyriwyd bod Cynllun Hyfforddiant 2022/23 wedi bod yn llwyddiannus a diolchwyd i’r Aelodau am fynychu’r amryw gynadleddau a sesiynau hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - ystyriwyd bod yr holl sesiynau wedi bod yn ddefnyddiol ac amserol iawn. Ategwyd bod Cynllun Hyfforddiant 2023/24 yn dilyn yr un drefn a’r flwyddyn flaenorol ac y bydd pob ymgais yn cael ei wneud i adnabod anghenion hyfforddi perthnasol a phriodol - gwahoddiadau i’w hanfon allan i Aelodau yn fuan.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a nododd y Cadeirydd bod sesiynau PPC wedi bod yn dda iawn ac yn agored i unrhyw Aelod - yn werth cymryd rhan ynddynt.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn diweddariad am lwyddiant Rhaglen Hyfforddiant 2022 /23 a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2023/24