Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 / 2024

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24

.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023 / 2024

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Ethol y Cynghorydd  Ioan Thomas  yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Ioan Thomas yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Derbyniwyd llythyr agored a anfonwyd i Bartneriaeth Pensiwn Cymru a’r 8 Cronfa Pensiwn yng Nghymru gan Jack Sargeant AS, gyda chefnogaeth 20 o aelodau eraill o Senedd Cymru.  Mae’r llythyr yn gofyn i’r sector gyhoeddus i weithio ar gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero-net presennol y sector cyhoeddus. Nodwyd bod hwn yn fater lle bydd bwriad parhau i weithio ar lefel cenedlaethol ac yn lleol yng Ngwynedd, ond y bydd camau priodol wedi eu gosod allan. Bydd enghraifft o un or camau hyn yn cael ei gyflwyno mewn datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) fydd yn cyhoeddi bod Cronfa Ecwiti Cynaliadwy wedi ei lansio yn llwyddiannus. Bydd y gronfa newydd yn cefnogi uchelgeisiau o ran sicrhau manteision ariannol a manteision cynaliadwyedd ehangach i'r Cronfeydd (y gronfa yn cynnwys £270 miliwn o fuddsoddiad i Wynedd, sef 10% o’r gronfa). Ategwyd y byddai copi o’r llythyr / datganiad yn cael ei rannu gydag Aelodau’r Pwyllgor

 

Mewn ymateb i sylw bod buddsoddi yn y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy yn newyddion da, yn amlygu ymrwymiad Gwynedd i gyfrannu at faterion datgarboneiddio, a na fyddai datganiad cyhoeddus gan Cyngor Gwynedd yn cyfarch hyn, nodwyd bod cyhoeddusrwydd i’r mater yn cael ei wneud ar wefan PPC, ond derbyniwyd y sylw i Cyngor Gwynedd ystyried hyn hefyd.

 

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 235 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27ain Mawrth 2023 fel rhai cywir.

 

7.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 104 KB

I dderbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2022/23

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2023. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon.

 

Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa gyda gweithrediad y prisiad, gosod dyraniad asedau strategol newydd a datblygiadau PPC. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y Gronfa gan dynnu sylw at amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu gyda CPI. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli o’r flwyddyn flaenorol a hynny oherwydd bod ffioedd ‘Partners’, yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn ddibynnol ar berfformiad.

 

Amlygwyd bod lleihad £13.6 miliwn yng ngwerth marchnad y Gronfa a hynny wedi blwyddyn heriol gydag effaith parhad rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel. Er hynny, ymddengys ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bod gwerth y Gronfa wedi dechrau codi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Cydnabod bod y flwyddyn wedi bod yn brysur a heriol

·         Bod y wybodaeth yn glir a hunanesboniadwy

·         Bod rhaid derbyn bod gwerth y Gronfa yn mynd i ddisgyn ar brydiau

·         Yn diolch i’r staff am eu gwaith

 

PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2022/23

 

8.

CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2023 pdf eicon PDF 93 KB

I ystyried a derbyn y Cynllun

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y Cynllun a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Amlinellol ar gyfer 2023 yn cyflwyno’r tîm archwilio ynghyd a ffioedd a llinell amser archwilio gwaith y bwriedir ei gwblhau yn ystod y flwyddyn yn unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol. Amlygwyd y byddai Cynllun Archwilio Manwl 2023 yn cael ei gyflwyno yn ystod Medi 2023 a hynny oherwydd gofynion newidiadau allweddol i ISA315 sy’n golygu bod rhaid i’r archwilwyr wneud gwaith pellach o ystyried a phwyso a mesur risgiau cyn cyhoeddi’r Cynllun. Ategwyd y byddai’r adroddiad ar y gwaith o archwilio’r Datganiadau Ariannol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod Tachwedd 2023. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i Yvonne Thomas am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y Cynllun a nodi’r wybodaeth

 

9.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 192 KB

I ystyried a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y Bartneriaeth. Adroddwyd bod y Bartneriaeth yn creu Cynllun Busnes yn flynyddol am gyfnod o dair blynedd gyda’r cynnwys yn manylu ar sut mae’r Bartneriaeth yn mynd i gyflawni ei nodau. Pwrpas y cynllun busnes yw:

 

           Esbonio cefndir a strwythur llywodraethu’r PPC

           Amlinellu'r blaenoriaethau a’r amcanion dros y tair blynedd nesaf

           Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes

           Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad PPC

 

Ategwyd bod y cynllun busnes yn cael ei fonitro’n gyson ac yn cael ei adolygu a’i gymeradwyo’n ffurfiol bob blwyddyn gan Gydbwyllgor Llywodraethu’r Bartneriaeth. Nodwyd hefyd bod gofyn i’r 8 Awdurdod sydd yn rhan o’r Bartneriaeth gymeradwyo’r Cynllun.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

 

10.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 122 KB

I ystyried a nodi’r wybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi diweddariad chwarter 3 (hyd 31ain Rhagfyr 2022) Partneriaeth Pensiwn Cymru, er gwybodaeth

 

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad yn un newydd, rheolaidd a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC. Bydd yr adroddiad yn cysoni’r wybodaeth mae pob cronfa yng Nghymru yn ei dderbyn bydd yn cynnwys penderfyniadau’r Cydbwyllgor Llywodraethu ynghyd a diweddariad chwarterol safonol wedi ei baratoi gan Link Fund Solutions (Gweithredwr y Gronfa). Tynnwyd sylw at gynllun hyfforddiant PPC ar gyfer 2023/24 ac estynnwyd gwahoddiad i’r Aelodau fynychu’r sesiynau.

 

Yn niweddariad y Gweithredwr,  amlygwyd deg o’r Cronfeydd mae’r Bartneriaeth wedi eu sefydlu gyda 83% o Gronfa Gwynedd wedi’i bwlio mewn 6 ohonynt. Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul is-gronfa o’r perfformiad gan nodi bod y flwyddyn wedi bod yn un heriol, ond bod chwarter 3 2022 yn dangos bod y perfformiad wedi dechrau gwella wrth i ffactorau megis chwyddiant arafu. Cyfeiriwyd eto at lansiad cyffrous y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy a buddsoddiad Cronfa Gwynedd o £10m mewn prosiect ynni glan yng Nghymru.

 

Ategwyd bod gwaith yn mynd yn ei flaen i fuddsoddi yn y Cronfa Credyd Preifat, Isadeiledd ac Ecwiti Preifat, a hynny er mwyn gweithredu dyraniad asedau strategol newydd. Nodwyd bod gwaith ymchwil hefyd yn cael ei wneud i ganfod sut y gellid pwlio eiddo.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi diweddariad chwarter 3 (hyd 31ain Rhagfyr 2022) Partneriaeth Pensiwn Cymru, er gwybodaeth

 

 

11.

FFACTORAU COST STRAEN YMDDEOLIAD CYNNAR Y GRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 327 KB

I ystyried a chymeradwyo'r costau straen a gynigir gan Hymans Robertson, fydd i'w defnyddio ar gyfer cyfrifo costau straen wrth symud ymlaen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a chymeradwyo’r costau straen a gynigiwyd gan Hymans Robertson fydd i’w defnyddio ar gyfer cyfrifo costau straen ar gyfer y tair blynedd nesaf

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad newydd i’r Pwyllgor gan y Rheolwr Pensiynau oedd yn amlygu ffactorau oedd yn ymwneud a chost straen ymddeoliad cynnar. Nodwyd bod y ffactorau hyn wedi cael eu hadolygu gan Hymans Robertson yn dilyn proses prisiad. Cymharwyd y ffactorau newydd gyda’r rhai sydd ar waith ar hyn o bryd ac amlygwyd y byddai mabwysiadu’r ffactorau newydd, yn gyffredinol yn arwain at gostau straen uwch sy’n ofynnol gan gyflogwyr. Byddai’r costau yn seiliedig ar oedran yr Aelod, hyd aelodaeth yn y cynllun, tâl, hyd yr amser hyd at Oedran Pensiwn Arferol, a ffactorau a gynhyrchwyd gan actiwari'r Gronfa.

 

Adroddwyd, er mwyn diogelu’r gronfa, roedd awydd i weithredu’r ffactorau cyn gynted â phosibl ac felly gwnaed cais ym Mai 2023 i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau i weithredu hyn cyn eu mabwysiadu’n ffurfiol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chymhariaeth costau blwyddyn 1 ac mai dyma’r unig flwyddyn y gwelir gostyngiad (4.35% i 4.34%), nodwyd bod hyn oherwydd nad oedd y golled mor fawr wrth i un agosáu at eu cyfnod ymddeol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag os mai 67 oed oedd dyddiad ymddeol a ariennir a pham felly bod angen gosod 17mlynedd (o 55oed) ar gyfer y ffactorau, nodwyd bod ymddeoliad salwch hefyd efallai yn cael ei ystyried yn y costau.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r costau straen a gynigiwyd gan Hymans Robertson fydd i’w defnyddio ar gyfer cyfrifo costau straen ar gyfer y tair blynedd nesaf

 

12.

GWEINYDDIAETH PENSIYNAU pdf eicon PDF 720 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Penderfyniad:

 

CANLYNIAD Y BLEIDLAIS

 

O Blaid:

9

Yn erbyn:

0

Atal:

0

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod, diweddariad ar amrywiol brosiectau ynghyd a rhestr o’r heriau yr oedd yr Uned Weinyddu yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys dyluniadau ar gyfer logo newydd ynghyd a syniadau ar gyfer deunydd marchnata y gallai’r Gronfa Bensiwn ei ddefnyddio i hyrwyddo’r cynllun.

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant a phoblogrwydd ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan amlygu bod nifer o aelodau yn ymweld â’r safle yn ddyddiol gydag oddeutu 20,000 wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hyd yma. Nodwyd yn ddiweddar y cyflwynwyd opsiwn i bensiynwyr y Gronfa bensiwn weld eu slipiau pensiwn misol ar-lein gyda hyn yn arwain at y bwriad o beidio gorfod anfon slipiau papur i bensiynwyr newydd i’r dyfodol. Bydd fersiwn newydd o’r system yn cael ei gyflwyno yn ystod 2023/24 a bydd opsiynau pellach yn cael eu datblygu i’r aelodau.

 

Trafodwyd canlyniadau'r rheoleiddiwr pensiynau (mesur data) lle adroddwyd cynnydd o 4% o’r flwyddyn flaenorol, ar ganlyniadau data penodol y cynllun sydd yn galonogol iawn o ystyried bod nifer aelodau a heriau gwaith o ddydd i ddydd wedi cynyddu.

 

Gwahoddwyd yr Aelodau i ymweld â stondin y Gronfa Bensiwn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan. Bydd hwn yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth am y cynllun.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y logo yn edrych yn ffres a modern - amserol ac addas i bwrpas

·         Yn llongyfarch y tim ar eu perfformiad  - er y cynnydd mewn gwaith ac aelodaeth eu hamser ymateb i ymholiadau wedi lleihau

·         Croesawu bod y gwaith dylunio logo wedi cael ei gomisiynu yn fewnol

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth