Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan John Brynmor Hughes, Iwan Huws, Elin Hywel ac Ioan Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 229 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2023 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 104 KB

I dderbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol Drafft

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol Drafft

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023. Nodwyd bod fformat yr Adroddiad Blynyddol yn unol â chanllawiau CIPFA ac yn cynnwys manylder aelodaeth y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn, gweinyddiaeth, buddsoddiadau, perfformiad ariannol, adroddiad yr actiwari, cyfrifon, a’r pum datganiad safonol sydd gan y Gronfa Bensiwn. Eglurwyd y byddai’r ddogfen yn cael ei hadolygu fel rhan o archwiliad y cyfrifon gan Archwilio Cymru ac i’w gyflwyno i gyfarfod Blynyddol y Gronfa Bensiwn ddiwedd mis Tachwedd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i sylw bod ‘nifer y dyddiau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i anfon llythyr dyfynbris yn cynnig trosglwyddiad i mewn’ ar gyfartaledd yn 26.60, nodwyd, er yn cytuno bod y ffigwr yn uchel (targed yw 10 diwrnod gwaith), bod y nifer dyddiau yn lleihau gydag amser. Ategwyd bod y dasg o gasglu’r wybodaeth yn un sydd yn gymhleth gyda llawer o waith trafod gyda chwmnïau. Nodwyd bod trafferthion recriwtio staff i’r maes penodol yma hefyd wedi bod yn heriol. Fel un sydd yn cynnig cyngor ariannol a phrofiad yn y maes penodol yma, nododd y Cyng. Robin Williams, o’i brofiad, nad yw’r amser yn ‘annerbyniol’ erbyn hyn oherwydd y lleihad mewn staff gan gwmnïau ers covid. Er bod y ffigwr yn uchel, ategodd nad oedd angen bod yn rhy galed ar y perfformiad. Diolchodd y Cadeirydd i’r staff am eu hymdrechion gan dderbyn nad yw’r cyfartaledd diwrnodau yn broblem unigryw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pham bod costau arolygu a llywodraethu ffioedd actiwari wedi dyblu rhwng 2021/22 (£117,000) a 2022/23 (£234,000), nodwyd bod hyn yn bennaf oherwydd ffioedd uwch o gynnal prisiad tair blynyddol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chynnydd amlwg mewn costau arolygu a llywodraethu Pwyllgor Pensiynau a Bwrdd Pensiwn Lleol (£18,000 yn 2021/22 a £33,000 yn 2022/23), nodwyd bod hyn yn gyfuniad o gostau hyfforddiant i aelodau newydd ynghyd a chalendr llawn o ddigwyddiadau yn 2022/23 (o gymharu â chyfnod covid).

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol Drafft

 

6.

CYNLLUN ARCHWILIO MANWL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2022-23 pdf eicon PDF 94 KB

I ystyried a derbyn y cynllun manwl

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Gwynedd 2022-23

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon y Gronfa Bensiwn wedi eu cwblhau ac wedi eu cyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Mehefin 2023 ynghyd a chynllun amlinellol gan Archwilio Cymru. Ar y pryd nid oedd y cynllun manwl ar gael oherwydd gofynion newidiadau allweddol i ISA315 oedd yn golygu bod rhaid i’r archwilwyr wneud gwaith pellach o ystyried a phwyso a mesur risgiau.

 

Adroddwyd bod y Cynllun Archwilio Manwl bellach wedi ei gyhoeddi oedd yn amlinellu’r gwaith fydd yr archwilwyr yn ei wneud er mwyn cyflawni eu dyletswydd statudol sy’n cynnwys cadw llygad ar y risgiau sylweddol i ddatganiadau ariannol ac ar feysydd allweddol y canolbwyntir arnynt yn 2023.

 

·         Risg 1 - y bydd rheolwyr yn diystyru rheolaethau. Bod hwn yn risg sylweddol i bawb ac nad oedd amheuaeth nad oedd hyn yn digwydd

·         Risg 2 – cyhoeddi balansau’r Gronfa – bod hwn yn faes sydd yn cael ei gynnwys yn flynyddol ac er nad yn risg sylweddol bydd Archwilio Cymru yn canolbwyntio arno.

 

Ategwyd bod y cynllun manwl hefyd yn cynnwys amserlen (bwriad cyflwyno adroddiad ar y gwaith o archwilio’r Datganiadau Ariannol i’r Pwyllgor, Tachwedd 2023), manylion y tîm archwilio a’r ffi archwilio (£40,509 - cynnydd o 15% - nid oes bwriad gwneud elw - bydd y ffi, os yn llai na’r hyn a amcangyfrifid, yn cael ei ad-dalu). Cyfeiriwyd at ffi 2022 gan nodi camgymeriad yn y ffigwr yn yr adroddiad - £35,515 ac nid £36,515

 

Diolchwyd am adroddiad syml a hawdd i’w ddilyn ac i Yvonne Thomas am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn a nodi Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Gwynedd 2022-23

 

 

 

7.

ADRODDIAD ALLBWN RHEOLAETH TRYSORLYS 2022-23 pdf eicon PDF 355 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r adroddiad fel gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2022/23, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn 3ydd Mawrth 2022. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw.

 

Adroddwyd bod £1.8m o log wedi ei dderbyn ar fuddsoddiadau sydd yn uwch na’r £0.4m a oedd yn y gyllideb. Nodwyd bod yr incwm llog yn sylweddol uwch na’r gyllideb oherwydd gosodwyd y gyllideb mewn cyfnod pan roedd y gyfradd sylfaenol yn 0.75%; erbyn Mawrth 2023 roedd yn 4.25%. Derbyniodd y Gronfa Bensiwn £210,000 o incwm yn y flwyddyn dan sylw.

 

Adroddwyd, yng nghyd-destun buddsoddiadau, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i pwlio, Awdurdodau Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion. Nodwyd bod y cronfeydd yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi eu gwneud ers nifer o flynyddoedd bellach.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a strategaeth rheolaeth trysorlys y Cyngor -  hynny yn newyddion da, ac yn dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian. Cyfeiriwyd at y dangosyddion lle amlygwyd bod pob dangosydd a osodwyd yn cydymffurfio â’r disgwyl heblaw un (Datguddiad Cyfraddau llog). Eglurwyd bod y dangosydd yma wedi ei osod yn amodau llog isel Mawrth 2022 ac felly’n rhesymol bod y symiau mor wahanol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â buddsoddi / benthyg arian i Awdurdodau eraill, nodwyd bod broceriaid yn cysylltu gyda’r Cyngor yn chwilio am fuddsoddia. Gyda’r Gronfa mewn sefyllfa lewyrchus gellid cynnig benthyciad i Awdurdodau eraill.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad fel gwybodaeth

 

 

8.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 121 KB

I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn rhoi diweddariad ar waith y Bartneriaeth. Nodwyd bod yr adroddiad yn un sydd yn ymddangos yn rheolaidd ar raglen y Pwyllgor Pensiynau fel modd o sicrhau bod yr Aelodau yn derbyn gwybodaeth gyfredol a diweddar. Cyfeiriwyd at grynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu a gynhaliwyd 19 Gorffennaf 2023 gan dynnu sylw penodol at adolygiad chwarter 4 o gynllun busnes 2022/23 y Bartneriaeth. Nodwyd bod y diweddariad yn cynnwys gwybodaeth am yr holl gronfeydd sydd wedi eu sefydlu gan y Bartneriaeth (Gwynedd yn rhan o 6 ohonynt, gyda 83% o Gronfa Gwynedd wedi’i bwlio gyda'r Bartneriaeth)  ac at gofnod o berfformiad y cronfeydd hynny.

 

Amlygwyd bod y flwyddyn ariannol yma wedi bod yn heriol, ond yn chwarter 4 gwelwyd bod perfformiad buddsoddiadau ecwiti wedi dechrau gwella wrth i ffactorau megis chwyddiant arafu, ac i farchnadoedd Tsiena ail agor ar ôl covid. Yng nghyd-destun  buddsoddiadau incwm sefydlog, nodwyd bod yr amgylchiadau wedi bod yn heriol gyda methiant Credit Suisse, ond bod yr amgylchiadau wedi sefydlogi erbyn diwedd y cyfnod.

 

Yng nghyd-destun datblygiadau i’r dyfodol, adroddwyd bod Cronfa Ecwiti Cynaliadwy wedi ei lansio yn llwyddiannus gyda buddsoddiad o £270 miliwn gan Gronfa Bensiwn Gwynedd.  Ategwyd bod gwaith yn mynd ymlaen i fuddsoddi yng Nghronfa Credyd Preifat, Isadeiledd ac Ecwiti preifat, a hynny er mwyn gweithredu dyraniad asedau strategol newydd y Gronfa. Nodwyd bod gwaith ymchwil hefyd yn cael ei wneud ar sut y gellid pwlio eiddo - dyma’r elfen olaf a’r mwyaf heriol yng nghyd-destun pwlio gyda PPC

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gais am gadarnhad bod y Gronfa yn buddsoddi gyda Bute Energy Wales, nodwyd bod y Gronfa wedi buddsoddi £10m yn y fenter fel rhan o fuddsoddiad ynni glan. Ategodd y Cadeirydd  mai da oedd gweld y Gronfa yn buddsoddi yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff  Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn a phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

10.

CYTUNO AR Y MEINI PRAWF GWERTHUSO AR GYFER Y BROSES CAFFAEL GWEITHREDWR PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU

Cytuno ar y meini prawf gwerthuso ar gyfer y broses caffael gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

(copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso ar gyfer y broses caffael gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

Cofnod:

Amlygwyd bod cytundeb presennol gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru yn dod i ben mis Rhagfyr 2024, a bod y broses caffael o ganfod gweithredwr newydd wedi dechrau. Nodwyd y bydd gwahoddiad i dendro yn cael ei ryddhau mis nesaf, ond yn unol â'r cytundeb rhwng awdurdod bod angen i bob awdurdod, sef pob pwyllgor pensiynau gytuno ar y meini prawf gwerthuso cyn i’r gwahoddiad am dendr gael ei gyhoeddi.

 

Trafodwyd rhaniad y meini prawf.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r meini prawf gwerthuso ar gyfer y broses caffael gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru

 

 

11.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH1 2023

I nodi cynnwys yr adroddiad

 

(copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn gan gynnwys y gwaith ymgysylltu.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad