skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022 - 2023

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2022 / 23

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2022 / 23

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022 - 2023                  

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd  Ioan Thomas  yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2022/23

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Ioan Thomas  yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2022/23

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Robin Williams (Cyngor Sir Ynys Môn)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 312 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2022 fel rhai cywir

7.

CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2022 pdf eicon PDF 93 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn Cynllun Archwilio Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer y flwyddyn 31 Mawrth 2022 (sydd yn cael ei gwblhau gan Archwilio Cymru).

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd cynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2022 yn nodi’r gwaith y bwriedir ei gwblhau yn ystod y flwyddyn yn unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol. Cyfeiriwyd at yr angen i archwilio cyfrifon y gronfa bensiwn gyda’r nod o adnabod camddatganiadau perthnasol ynghyd a’r risgiau sydd ynghlwm i’r archwiliad ariannol. Cyfeiriwyd at gynnwys y rhaglen archwilio perfformiad gan gynnig braslun o’r gwaith sydd i’w gyflawni, y ffioedd a’r amserlen bwriadedig ynghyd ag amlygu y bydd Datganiad o Gyfrifoldebau yn cael ei gyflwyno yn manylu ar faterion ac yn cynnig mwy o wybodaeth am waith yr Archwilwyr.

 

Adroddwyd bod pandemig covid -19 yn parhau i gael effaith digynsail ar y Deyrnas Unedig ac ar waith sefydliadau’r sector gyhoeddus gydag Archwilio Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa gan drafod goblygiadau unrhyw newidiadau gyda swyddogion. Amlygwyd bod y risgiau a nodwyd yn rai oedd yn berthnasol i bob cynllun ac nid yn unigryw i Wynedd a bod y cynnydd mewn ffioedd o ganlyniad i’r angen i fuddsoddi’n barhaus yn ansawdd y gwaith archwilio mewn ymateb i bwysau cynyddol a chostau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i Yvonne Thomas am fyncyhu’r cyfarfod. Mynegwyd parodrwydd i gydweithio a gwerthfawrogwyd bod Tîm Archwilio Cymru yn rhugl yn y Gymraeg a bod hyn i’w groesawu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn archwiliad cyfrifon Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer y flwyddyn 31 Mawrth 2022 (sydd yn cael ei gwblhau gan Archwilio Cymru).

 

 

8.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno a nodi’r Datganiad o’r Cyfrifon Drafft

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2021/22

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2022. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon.

 

Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r gronfa wrth drosglwyddo marchnadoedd datblygol i Partneriaeth Pensiwn Cymru, gosod targed sero net a monitro effaith digwyddiadau megis y rhyfel Wcráin. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y gronfa gan nodi bod y ffigyrau yn eithaf cyson. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli o’r flwyddyn flaenorol a hynny oherwydd bod ffioedd Partners bellach wedi sefydlogi.

 

Gyda chynnydd yng ngwerth farchnad y gronfa o £247 miliwn, daeth gwerth y gronfa i £2.7biliwn.

 

Cymerodd Cyfarwyddwr y Gronfa y cyfle i ddiolch i’r Tîm Buddsoddi am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) wedi ei gwblhau o few yr amserlen. Nododd fod y Pennaeth Cyllid eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft ac mai ymarfer da oedd rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi cyfle i holi / cyflwyno sylwadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag eglurhad dros ystyr ‘buddion heb eu hawlio’, nodwyd bod y term yn cyfeirio at sefyllfaoedd e.e, lle mae ad-daliad wedi rhewi, methiant i adnabod lleoliad unigolyn neu yn syml fuddion heb eu hawlio gan gyfranwyr.

 

Mewn ymateb i sylw am leihad yn y gwerthiannau yn ystod y flwyddyn, nodwyd bod y lleihad yn cyfeirio at y gweithgareddau ac nid lleihad yn y gwerth. Ategwyd bod y gweithgaredd o drosglwyddo buddsoddiadau wedi creu effaith (83% o fuddsoddiadau wedi trosglwyddo i Gronfa Pensiwn Cymru erbyn hyn).

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lleihad yn enillion net ar fuddsoddiadau

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lleihad yn enillion net ar fuddsoddiadau (£249.18m ar y 31ain o Fawrth 2022 o gymharu â £596.28m ar y 31ain o Fawrth 2021), nodwyd bod buddsoddiadau ecwiti marchnadoedd stoc wedi bod yn llewyrchus ers cwymp y pandemig yma Mawrth 2020, ond erbyn hyn wedi sefydlogi - serch hynny, eglurwyd bod £249.18m o enillion yn amlygu blwyddyn dda.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfraniadau cyfranwyr yn gyfartal i bawb beth bynnag yw cyfraniad y cyflogwr, nodwyd bod y cyfraniadau yn amrywio gyda newidiadau yn cael eu cyflwyno gyda’r prisiad bob tair blynedd.

 

PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn  (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2021/22

 

 

9.

CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 191 KB

I ystyried a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y Bartneriaeth. Adroddwyd bod y Bartneriaeth yn creu Cynllun Busnes yn flynyddol am gyfnod o dair blynedd gyda’r cynnwys yn manylu ar sut mae’r Bartneriaeth yn mynd i gyflawni ei nodau. Pwrpas y cynllun busnes yw:

 

           Esbonio cefndir a strwythur llywodraethu’r PPC

           Amlinellu'r blaenoriaethau a’r amcanion dros y tair blynedd nesaf

           Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes

           Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad PPC

 

Ategwyd bod y cynllun busnes yn cael ei fonitro’n gyson ac yn cael ei adolygu a’i gytuno’n ffurfiol bob blwyddyn. Nodwyd hefyd bod gofyn i’r 8 Awdurdod sydd yn rhan o’r Bartneriaeth gymeradwyo’r Cynllun.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

 

10.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2021/22 pdf eicon PDF 352 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi bod y Pwyllgor Pensiynau (yng nghyfarfod Pwyllgor 25/03/21) wedi cytuno pwlio buddsoddiadau’r Cyngor a Chronfa Bensiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22. Adroddwyd bod y penderfyniad yn cael ei wneud yn flynyddol i ganiatáu i gronfeydd dros ben y Gronfa Bensiwn gael eu cyfuno a’u cyd-fuddsoddi a llif arian cyffredinol y Cyngor. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cymharu gwir berfformiad yn erbyn y strategaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 ac yn cyflawni dyletswydd gyfreithiol y Cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gymryd ystyriaeth o Gôd CIPFA ag Arweiniad Buddsoddi Llywodraeth Cymru.

           

Adroddwyd, yn ystod y flwyddyn ariannol 2021/22 arhosodd gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol a derbyniwyd £556,000 o log ar fuddsoddiadau oedd yn uwch na’r £433,000 a oedd yn y gyllideb. Ategwyd na wnaeth unrhyw sefydliad yr oedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda hwy fethu â thalu.

 

Tynnwyd sylw at y sefyllfa buddsoddi gan amlygu’r llefydd mae’r Cyngor wedi buddsoddi’r arian dros y cyfnod (rhestr yn cynnwys banciau a chymdeithasau adeiladau, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, Swyddfa Rheoli Dyledion (DMO) a chronfeydd wedi’i pwlio). Ategwyd bod y Swyddfa Rheoli Dyledion yn cael ei ddefnyddio eleni am y tro cyntaf ers tro a hynny oherwydd bod eu cyfraddau yn gystadleuol iawn ac yn addas ar gyfer buddsoddi lefelau arian y Cyngor. Adroddwyd hefyd bod y cyfraddau wedi gwella o ganlyniad i gynnydd yn y gyfradd sylfaenol o fis Rhagfyr 2021 ymlaen. 

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion, adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor – hyn yn newyddion calonogol iawn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

11.

POLISI CYNRYCHIOLAETH pdf eicon PDF 460 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r polisi newydd

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r Polisi Cynrychiolaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn ymateb i argymhellion Adolygiad Llywodraethu Da i awdurdodau sicrhau bod angen i bob cronfa gynhyrchu a chyhoeddi polisi ar gynrychiolaeth aelodau’r cynllun a chyflogwyr sydd ddim yn rhan o’r awdurdod gweinyddu ar y Pwyllgorau, gan egluro trefniadau hawliau pleidleisio pob plaid.

 

Amlygwyd bod y polisi yn cadarnhau safbwynt y Gronfa mewn perthynas â phenodiadau a hawliau dirprwyaeth y Pwyllgor, yn ogystal â chyfansoddiad y Bwrdd Pensiwn. Nodwyd bod copi drafft o’r Polisi wedi ei gyflwyno i’r Bwrdd Pensiwn (4/4/22) a bod argymhellion y Bwrdd wedi eu cynnwys yn y fersiwn derfynol. Un o’r argymhellion oedd i nodi bod Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn eistedd ar Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru ac y byddai gwahoddiad yn ymestyn i’r Is gadeirydd os na fyddai’r Cadeirydd yn gallu mynychu.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod y polisi yn un syml a chlir

·         Bod y polisi yn adlewyrchu'r hyn sydd eisoes mewn lle

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Polisi Cynrychiolaeth.

 

12.

STRATEGAETH GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 637 KB

I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gweinyddu Pensiynau

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r Strategaeth Gweinyddu Pensiynau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau oedd eto yn ymateb i ofynion Adolygiad Llywodraethu Da i bob awdurdod gweinyddu gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth weinyddol sydd yn hygyrch ac yn cyflawni gofynion y Rheoliadau CPLlL.

 

Eglurwyd, fel rhan o baratoi ar gyfer y prosiect llywodraethu da, rhannwyd copi drafft o'r strategaeth gyda Hymans Robertson er mwyn derbyn adborth.  Cadarnhawyd bod y Strategaeth Weinyddu yn cyffwrdd â’r meysydd priodol ac roeddynt o'r farn ei bod yn bodloni'r holl ofynion cyfredol a'r gofynion ychwanegol hynny sy'n deillio o'r adolygiad Llywodraethu Da. Ategwyd bod copi drafft o’r strategaeth hefyd wedi ei chyflwyno i’r Bwrdd Pensiwn (17/3/22) a bod argymhellion y Bwrdd wedi eu cynnwys yn y fersiwn derfynol. Yn dilyn cyflwyniad i’r Bwrdd rhannwyd copi o’r strategaeth hefyd gyda chyflogwyr y gronfa ond ni dderbyniwyd sylwadau nac adborth.

 

Ategwyd y byddai’r strategaeth yn cael ei hadolygu yn flynyddol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y strategaeth yn ymateb yn dda i ofynion Rheolaidau CPLlL

·         Bydd y strategaeth o fudd i’r Uned Pensiynau - yn gosod amserlen, nodi cyfrifoldebau a gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu

·         Bod y strategaeth yn un manwl

·         Yn ddogfen i’w chroesawu

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Strategaeth Gweinyddu Pensiynau

 

13.

ADRODDIAD ADRAN 13 pdf eicon PDF 793 KB

I ystryried yr adroddiad, nodi a chynnig sylwadau ar yr ymarfer Adran 13 a'r papur a gynhyrchwyd gan Hymans Robertson.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn gosod cefndir a phwrpas Adran 13 o Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 sydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i adroddiad gael ei gyhoeddi ar brisiad 91 o gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr bod 3 mlynedd.

 

Amlygwyd bod yr Adran Lefelu Tai a Chymunedau wedi penodi Adran Actiwari’r Llywodraeth i gynnal yr ymarfer o graffu canlyniadau prisiadau 2019 ar draws cronfeydd y DU gan gyhoeddi eu casgliadau Rhagfyr 2021. Ategwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cwrdd â holl feini prawf Prisiad Adran 13 heb unrhyw faneri ambr na choch wedi eu hamlygu na phryderon oedd angen sylw gan y Pwyllgor - y newyddion yn gadarnhaol a chalonogol iawn.

 

Gwahoddwyd Malcolm Stanley o gwmni Hymans Robertson i roi diweddariad annibynnol i’r Pwyllgor ar yr ymarfer a chyflwyno ac egluro canlyniadau Cronfa Gwynedd. Nododd yn ei gyflwyniad bod Cronfa Gwynedd mewn sefyllfa dda ac nad oedd pryderon ynglŷn ag ariannu’r cynllun.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i Malcolm Stanley am fynychu

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y cyflwyniad i egluro’r ffigyrau i’w groesawu

·         Bod y dull o ‘osod safle’ y gronfa yn anghyson - angen ystyried safle uchaf neu isaf ac nid cymysgedd o’r ddau

·         Bod y canlyniad yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor wrth symud ymlaen i’r prisiad nesaf

  

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth