Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ymddiheuriad: Y Cynghorydd Anwen Davies.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Lesley Day fuddiant personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Ymgynghoriad i’r Cyfarwyddiadau Drafft gan Lywodraeth Cymru i’r Adolygiad gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru - oherwydd bod nifer uchel o fyfyrwyr yn ei ward.

 

Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a chymerodd ran lawn yn y drafodaeth ar yr eitem.

 

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 96 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2015 fel rhai cywir. 

 

5.

YMGYNGHORIAD I'R CYFARWYDDIADAU DRAFFT GAN LYWODRAETH CYMRU I'R ADOLYGIAD GAN Y COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU pdf eicon PDF 125 KB

Derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn nodi, fel rhan o’r rhaglen diwygio llywodraeth leol, y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gynnal adolygiad o drefniadau etholiadol ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol newydd arfaethedig.  Gofynnwyd i’r pwyllgor gyflwyno eu sylwadau ar fanylion y Cyfarwyddiadau Drafft er mwyn eu pasio ymlaen i’r Cyngor llawn, gan hefyd annog eu cyd-aelodau i ymateb i’r ymgynghoriad.

 

Yn ogystal ag ymateb i gwestiynau penodol yr ymgynghoriad, trafodwyd y newidiadau sydd dan sylw ar gyfer etholiadau 2017 fyddai’n golygu lleihad tebygol o 75 aelod etholedig i 66 aelod.  Er bod rhai aelodau’n gefnogol i hynny ar y sail bod yna ddiffyg cydbwysedd rhwng maint yr etholaethau presennol a’r gymhareb cynghorwyr i etholwyr, bod y lleihad wedi’i nodi fel toriad posib’ y bwriedir ceisio barn y cyhoedd yn ei gylch ac y byddai’n well bod rhan o’r newid wedi’i wneud yn 2017, ’ roedd mwyafrif yr aelodau o’r farn y byddai newid tymor byr o’r fath yn anaddas gyda newid mor sylfaenol o ran ffiniau i ddilyn mor fuan yn sgil yr ad-drefnu.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor:-

 

(a)       Gyflwyno’r sylwadau ar gynnwys y Cyfarwyddiadau Drafft i’r Comisiwn Ffiniau sydd wedi eu crynhoi yn Atodiad A i’r cofnodion hyn.

(b)     Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ddatgan y farn y byddai’n anaddas gweithredu’r newidiadau sydd dan sylw ar gyfer etholiadau 2017 gyda newid mor sylfaenol o ran ffiniau i ddilyn mor fuan yn sgil yr ad-drefnu.

 

6.

DATBLYGIADAU TECHNOLEGOL pdf eicon PDF 97 KB

Derbyn adroddiad yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Comisiynu Corfforaethol a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru’r aelodau ar faterion technoleg gwybodaeth, gan gynnwys y newidiadau diweddar i systemau electroneg y Cyngor, hyfforddiant pellach ar yr i-pad a Moderngov.

 

Nododd yr Uwch Reolwr fod 12 aelod y tu allan i’r Cabinet wedi cyflwyno sylwadau yn sgil y newidiadau i systemau electroneg y Cyngor, a olygai mai trwy’r i-pad yn unig y gall aelodau gael mynediad i’w e-byst ‘cynghorydd’ ar hyn o bryd, ac awgrymodd gysylltu’n ôl â’r aelodau hynny i sefydlu beth yn union yw eu hanghenion, ond os ydynt yn parhau’n anhapus, y dylid darparu trwydded ar eu cyfer.

 

Manylodd yr Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid ar y rhesymau diogelwch defnyddwyr dros weithredu’r newid i’r systemau electroneg.  Eglurodd hefyd fod angen edrych ymhellach ar fynediad i e-byst oddi ar ffonau symudol gan nad oedd yn glir eto sut bod modd caniatáu hynny’n eang heb dramgwyddo rheolau diogelwch.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyfeiriodd aelodau at rai o’r anawsterau a wynebir yn sgil cyflwyno’r drefn newydd, sy’n cynnwys:-

 

·        Anodd ymateb yn ysgrifenedig i ddogfen ymgynghorol.

·        Dim 3G ar yr i-pad.

·        Oes i-pad yn fyrrach nag oes cyfrifiadur?

·        Datblygiad ac esblygiad parhaus y systemau Apple a Microsoft.

·        Anhawster agor atodiadau.

·        Methu defnyddio USB gyda’r i-pad.

·        Straen llygaid.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod na chafodd yr aelodau rybudd bod y newid yn mynd i ddigwydd, nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni y cyhoeddwyd dwy neges yn Rhaeadr, sef y prif gyfrwng cysylltu â’r aelodau.

 

Mynegwyd anfodlonrwydd na chaniateid i’r aelodau ddefnyddio ail gyfrif e-bost ar wefan y Cyngor, ond awgrymodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod hynny’n derbyn sylw ar wahân fel bod gan y pwyllgor yr holl wybodaeth berthnasol o’i flaen cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

 

Ymatebodd y rheolwyr i rai o’r anawsterau a grybwyllwyd drwy nodi:-

 

·        Y buddsoddwyd yn helaeth mewn hyfforddiant dros y misoedd diwethaf er mwyn ehangu gymaint â phosib’ ar y defnydd o’r i-pad.

·        Y dylai dyfodiad yr App Moderngov ddatrys llawer o’r rhwystrau, e.e. byddai dogfennau’n mynd yn syth ar y peiriant, heb orfod eu llawrlwytho.

·        Bod yr i-pads yn sicr o barhau am weddill oes y Cyngor hwn, ond y byddai’n rhaid ystyried beth fydd yn digwydd adeg y Cyngor newydd yn 2017.

·        Er nad yw’r i-pad yn gwneud popeth, ei fod yn gwneud llawer o bethau yn dda iawn.

 

O ran sylw bod aelodau’r Cabinet yn cael eu trin yn wahanol, eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod achos busnes wedi’i gyflwyno ar ran aelodau’r Cabinet yn nodi eu bod angen mynediad a gweithio ar ddogfennau, ac ati, oherwydd eu cyfrifoldeb penodol, ond bod modd ymateb i’r achosion dros yr aelodau eraill hefyd.

 

Mynegodd rhai aelodau eu parodrwydd i dalu eu hunain am y drwydded er mwyn cael mynediad i’w e-byst oddi ar gyfrifiadur, ond eglurwyd y byddai hynny’n groes i ganllawiau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad ar y peilot o hyfforddiant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

IS-GRWP AMRYWIAETH pdf eicon PDF 134 KB

Derbyn adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru’r aelodau ar waith yr Is-grŵp hyd yma a’r camau nesaf.  Nodwyd y byddai’r is-grŵp yn cyfarfod yn fuan i ystyried gweithredu’n lleol ar argymhellion cenedlaethol yn y maes.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

8.

LWFANSAU AELODAU pdf eicon PDF 39 KB

Derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru’r aelodau am benderfyniadau cyhoeddi tabl lwfansau aelodau ar gyfer y cyfnod 2014/15.

 

Holwyd a gafwyd hawl y Cadeirydd i fynd yn groes i benderfyniad y pwyllgor y tro diwethaf i gyflwyno gwybodaeth am y lwfansau yn Newyddion Gwynedd.  Atebodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni y cymerwyd penderfyniad golygyddol i beidio cynnwys yr wybodaeth y tro hwn er mwyn rhoi’r flaenoriaeth i Her Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIADAU BLYNYDDOL AELODAU 2014/15 pdf eicon PDF 257 KB

Derbyn adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm).

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru’r aelodau am yr adroddiadau a gyhoeddwyd yn 2014/15.  Nododd ei bod wedi gobeithio cynnal trafodaeth yn y cyfarfod hwn ynglŷn â’r rhwystrau a’r cyfleoedd er mwyn hwyluso’r drefn at 2015/16, ond gan ei bod wedi mynd yn hwyr, awgrymodd roi’r mater gerbron y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD cynnal trafodaeth yn y cyfarfod nesaf ar y rhwystrau a’r cyfleoedd ar gyfer adroddiadau blynyddol aelodau yn 2015/16.

 

10.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 86 KB

Ystyried rhaglen waith y pwyllgor (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – rhaglen waith y pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn y rhaglen waith.