Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Jason Humphreys.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Dim

4.

COFNODION pdf eicon PDF 307 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2015, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2015 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD 2015-16 pdf eicon PDF 487 KB

I ystyried adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnod:

Cyflwynwyd – drafft o’r adroddiad blynyddol sydd i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 12 Mai, 2016 yn rhoi diweddariad i aelodau ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael i aelodau, y datblygiadau sydd wedi’u gwireddu a’r rhai sydd ar waith.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Bod gwerth ar y cyfan i’r fforymau ardal fel cyfrwng i aelodau dderbyn gwybodaeth a mynegi barn ar wahanol faterion, ond bod angen i swyddogion gyfyngu ar hyd eu cyflwyniadau.

·         Angen mwy o hyfforddiant i’r aelodau ar ddefnyddio Modern.Gov.  Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnal cymorthfeydd, cyn neu ar ôl y fforymau ardal, i fynd drwy’r anawsterau.

·         Angen tynnu sylw’r Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth at y broblem gyda lled band yn ystafelloedd cyfarfod y Cyngor, yn arbennig dros amser cinio.

·         Bod cadeiryddion cyfarfodydd sy’n cael eu cynnal trwy fideo-gynhadledd yn dueddol o ganolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghaernarfon, gan ddiystyru pobl yn y  lleoliadau eraill.  Awgrymwyd bod rôl i’r is-gadeirydd fod yn cadw golwg ar y drafodaeth.

·         Gall mynediad o bell fod o ddefnydd i aelodau lleol, ymgeiswyr / gwrthwynebwyr sy’n dymuno annerch y Pwyllgor Cynllunio.  Nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod yna ystyriaethau cyfansoddiadol ynghlwm â hynny, ond y gellid edrych y mater.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i bawb aros ar ôl ar ddiwedd y cyfarfod i gael sgwrs gyda’r swyddogion ynglŷn â:-

 

·         Rhaeadr, a sut i’w wella;

·         Rhaglen hyfforddiant ar gyfer y flwyddyn i ddod a chyfle i weld sut mae e-ddysgu yn datblygu.

 

 

6.

ETHOLIADAU LLYWODRAETH LEOL 2017 pdf eicon PDF 147 KB

I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni.

Cofnod:

Cyflwynwyd – diweddariad ar waith yr Is-grŵp Amrywiaeth ynghyd ag amlinelliad o’r gwaith paratoi a ganlyn ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol 2017:-

 

·         Sesiynau codi ymwybyddiaeth darpar ymgeiswyr;

·         Rhaglen anwytho aelodau etholedig yn dilyn etholiad Mai 2017;

·         Cyfarpar electroneg.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Pwysigrwydd datblygu sesiynau codi ymwybyddiaeth ar gyfer y rhai sy’n rhoi eu henwau ymlaen i sefyll etholiad yn 2017.

·         Dylid annog y grwpiau gwleidyddol i ystyried arddel system fentora drwy baru cynghorydd newydd gyda chynghorydd mwy profiadol.

 

Gofynnwyd i’r pwyllgor adnabod 4-5 o aelodau fyddai’n fodlon i’r gwasanaeth ymgynghori â hwy wrth i’r gwaith fynd rhagddo o baratoi ar gyfer y sesiynau codi ymwybyddiaeth, adnabod y rhaglen anwytho a’r rhaglen hyfforddiant ynghyd ag ystyriaethau electroneg.

 

PENDERFYNWYD sefydlu grŵp ffocws, yn cynnwys y Cynghorwyr Annwen Daniels, Selwyn Griffiths, Jason Humphreys, Michael Sol Owen, ynghyd ag aelod cabinet, i brofi’r materion uchod wrth i’r datblygiadau fynd rhagddynt.

 

7.

TECHNOLEG GWYBODAETH I AELODAU ETHOLEDIG pdf eicon PDF 240 KB

I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni a’r Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth.

Cofnod:

Cyflwynwyd – diweddariad ar y materion technoleg gwybodaeth a ganlyn:-

 

·         Hyfforddiant llechen;

·         Derbyn e-bost cynghoryddxx@gwynedd.gov.uk ar declynnau cludadwy;

·         Paratoi at etholiadau 2017.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni:-

 

·         Y cafwyd cadarnhad erbyn hyn fod modd cynnig gwasanaeth ble gall swyddogion ac aelodau etholedig dderbyn / gyrru e-byst swyddogol y Cyngor ar eu ffonau symudol, ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd ddiogel gan ymlynu at yr amodau y cytunwyd arnynt gyda’r archwilwyr.

·         Y byddai cost y feddalwedd fesul dyfais yn £40 yn y flwyddyn gyntaf a £10 y flwyddyn wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD y dylid cynnig gwasanaeth derbyn / gyrru e-byst cynghoryddxx@gwynedd.gov.uk ar ffôn symudol i unrhyw aelod sy’n dymuno hynny a bod y Cyngor yn derbyn y gost ac yn ei gwneud yn glir i’r aelodau beth yw’r amodau sydd ynghlwm â’r ddarpariaeth.

 

 

8.

CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG pdf eicon PDF 241 KB

I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni yn ceisio barn y pwyllgor ar ddewisiadau o ran cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod cynigion terfynol y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol aelodau etholedig ar gyfer y flwyddyn nesaf yn nodi bod pob cyngor unigol i benderfynu:-

 

·         Gosod Aelodau Cabinet ar un o ddwy lefel, Lefel 1, £29,000 (fel ar hyn o bryd) neu Lefel 2 (£26,000);

·         Gosod Cadeiryddion Pwyllgorau ar un o ddwy lefel, Lefel 1, £22,000 (fel ar hyn o bryd) neu Lefel 2 (£20,000).

 

Gofynnwyd hefyd i’r pwyllgor ystyried a oes gwahaniaeth yn y cyfrifoldebau a ysgwyddir gan y cadeiryddion pwyllgorau sy’n derbyn cydnabyddiaeth uwch ar hyn o bryd, sef Pwyllgor Craffu (x3), Pwyllgor Archwilio, Pwyllgor Cynllunio, Pwyllgor Trwyddedu a Phwyllgor Apelau Cyflogaeth, a chadeiryddion rhai pwyllgorau eraill sydd ddim yn derbyn cydnabyddiaeth uwch, fel y Pwyllgor Pensiynau, y Pwyllgor Iaith a’r pwyllgor hwn.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni fod y Pennaeth Cyllid wedi tynnu sylw at y ffaith y bu cynnydd sylweddol yng ngwaith Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn sgil sefydlu’r Bwrdd Pensiynau (sy’n dal y Pwyllgor Pensiwn i gyfrif).  Hefyd, dros amser, byddai yna dipyn mwy o waith yn digwydd ar lefel ranbarthol yn y maes pensiynau. 

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod llwyth gwaith y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth wedi gostwng dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac y byddai nifer yr apeliadau yn debygol o leihau eto i’r dyfodol wrth i fwy o’r gwaith gael ei wneud gan swyddogion a’r undebau llafur.

 

Eglurodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni ymhellach y gosodwyd cap ar nifer y cadeiryddion sy’n gallu derbyn cydnabyddiaeth uwch, ac o ychwanegu un cadeirydd at y rhestr, byddai’n rhaid tynnu un arall i ffwrdd.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:-

 

·         Bod dyletswyddau aelodau Cabinet wedi’u dyrannu i sicrhau cysondeb a llwyth gwaith cytbwys a gallai rhoi aelodau Cabinet ar wahanol lefelau cyflog arwain at gryn gymhlethdod, gan olygu fod symud dyletswyddau o un aelod Cabinet i un arall yn mynd yn anos.

·         Bod natur ddaearyddol y sir a’r sialens o ddarparu gwasanaethau ar draws yr ail sir fwyaf yng Nghymru yn ffactor y dylid ei ystyried ar gyfer yr aelodau Cabinet a Chadeiryddion y pwyllgorau. 

·         Bod gofyn ar aelodau i fod yn teithio ar draws Gwynedd, gan gofio y gall gymryd oddeutu dwy awr a hanner i deithio o Ogledd y sir i’r De.

·         Gan ei bod yn ymddangos bod llwyth gwaith rhai cadeiryddion yn fwy nag eraill, y dylid sefydlu grŵp bychan i edrych ar hyn ymhellach.

·         Angen gweld a fyddai defnyddio elfennau o’r drefn arfarnu swyddi o gymorth gyda’r gwaith pellach yma.

·         Pwysigrwydd ystyried elfennau heblaw nifer cyfarfodydd, e.e. hyd cyfarfodydd a gofynion y tu allan i’r cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Argymell i’r Cyngor y dylid cadw lefel cyflogau Aelodau Cabinet ar Lefel 1 (ar sail ystyried y pwysau gwaith a chyfrifoldebau cyfartal i’r meysydd gwaith) a chadw lefelau cyflogau Cadeiryddion Pwyllgorau ar Lefel 1 (ar sail ystyried y pwysau gwaith, natur ddaearyddol y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.