skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatgnaiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 69 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig fod cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12/2/19 yn cael eu harwyddo fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2019 fel rhai cywir.

3.

CYDNABYDDIAETH ARIANNOL I AELODAU ETHOLEDIG pdf eicon PDF 80 KB

Adrodd ar wybodaeth Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei hadroddiad gan nodi argymhellion terfynol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol, gan atgoffa fod cynigion drafft y Panel wedi eu cyflwyno i’r pwyllgor yn ei gyfarfod ar 25ain Hydref 2018. Ychwanegodd fod y Panel wedi penderfynu peidio â gosod lefelau gwahanol o gydnabyddiaeth bellach, gan nad oedd unrhyw awdurdodau yn defnyddio’r lefelau gwahanol. Nododd fod cyflog sylfaenol Aelodau wedi ei godi o £268 (1.97%), gyda chyflogau’r Arweinydd, Dirprwy Arweinydd ac Aelodau’r Weithrediaeth yn codi £800 yn cynnwys y codiad sylfaenol o £268. ‘Roedd lefelau'r uwch gyflogau eraill yn codi yn unol â’r codiad yn y cyflog sylfaenol yn unig. ‘Roedd y Panel wedi nodi fod y nifer oedd yn hawlio ad-daliad o gostau gofal wedi parhau i fod yn isel, gan annog y sawl oedd yn gymwys i’w hawlio. Pwysleisiodd ei fod yn bosib i unrhyw aelod wrthod y cynnydd yn y cyflog trwy hysbysu’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ysgrifenedig.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Ei fod yn bwysig fod pawb yn ymwybodol mai'r Panel oedd yn osod lefelau’r cyflog, nid y Cyngor.

-       Nad oedd hyrwyddo’r ad-daliadau o gostau gofal i’r rhai oedd y gymwys yn dasg hawdd. Serch hynny ‘roedd yn bwysig fod argaeledd yr ad-daliad wedi ei hyrwyddo cyn etholiadau er mwy annog amrywiaeth ymysg ymgeiswyr.

-       Ei fod yn ddatblygiad positif fod cyflog Cadeirydd y Cyngor wedi ei gynyddu i’r un lefel a chadeiryddion eraill Pwyllgorau’r Cyngor yn dilyn penderfyniad y Panel i beidio rhoi dewis o ran lefelau cyflog.

 

Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod hawliadau ar gyfer ad-daliadau costau gofal yn cael eu hadrodd yn unigol yn y gorffennol, ond bod y Panel wedi rhoi'r hawl i gynghorau gyhoeddi cyfanswm yr hawliadau er mwyn atal stigmateiddio’r sawl oedd wedi hawlio. Gan mai 2018/19 oedd y cylch adrodd cyntaf ers i’r Panel gyflwyno’r newid ‘roedd hi’n rhy gynnar i weld a oedd y newid wedi cael effaith a dangos cynnydd o’r nifer isel oedd wedi hawlio ad-daliad costau gwarchod. Ychwanegodd y byddai’n trefnu i osod taflen yn nhyllau colomen yr holl aelodau i hyrwyddo’r ad-daliad.

 

4.

RHAGLEN WAITH DDRAFFT 2019/20 pdf eicon PDF 43 KB

Cyflwyno drafft o’r rhaglen waith ar gyfer 2019/20 gogyfer sylwadau’r Aelodau.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, gan nodi fod y rhaglen waith yn cael ei gyflwyno yn dilyn cais yn y drafodaeth ar resymoli nifer cyfarfodydd yng nghyfarfod 2 Chwefror 2018 o’r Pwyllgor hwn. Gan fod nifer cyfarfodydd y Pwyllgor wedi eu rhesymoli ‘roedd yn bwysig defnyddio’r amser oedd ar gael i’r Pwyllgor yn effeithiol. Ychwanegodd fod y rhaglen waith yn parhau i fod yn ddibynnol ar fewnbwn yr aelodau wrth gynnig eitemau, gymaint os nad mwy na mewnbwn swyddogion.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Fod angen dod o hyd i ffyrdd o gynyddu defnydd yr aelodau o’r Porth Aelodau.

-       Fod y Porth  yn ddefnyddiol iawn, ond ei fod yn anodd cael mynediad ac ‘roedd yn anodd gweld pam fod angen cyfrinair i gael mynediad at y wybodaeth oedd wedi ei gynnwys.

-       Fod y rhaglen waith arfaethedig yn denau, ac y byddai trafod Calendr Pwyllgorau’r Cyngor yng nghyfarfod Ebrill yn debygol o fod yn rhy hwyr yn y flwyddyn.

 

Mewn ymateb nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod y Porth Aelodau wedi ei greu yn dilyn derbyn adborth gan aelodau yn y cyfnod oedd yn arwain at etholiad 2017 er mwyn darparu gwybodaeth yn fwy effeithiol. Cydnabu fod y nifer o ddefnyddwyr wedi bod yn isel, ac er bod yr adborth oedd wedi ei dderbyn am y Porth yn nodi fod y wybodaeth oedd wedi ei gynnwys yn ddefnyddiol ‘roedd yn anodd ei ddefnyddio. ‘Roedd trafodaethau mewnol wedi eu cynnal er mwyn gwella’r platfform oedd yn cynnal y Porth ac y byddai lleihau’r nifer o dudalennau mewngofnodi i’r nifer lleiaf oedd yn cydymffurfio gyda chanllawiau diogelwch yn rhan o’r gwaith. Byddai adroddiad ar gynnydd y gwaith yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod Tachwedd 2019 o’r Pwyllgor hwn.  

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwyno drafft o’r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ym Mai 2019 yn amlinellu’r gefnogaeth sydd wedi ei ddatblygu ac wrthi’n cael ei ddatblygu ar gyfer aelodau.

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad oedd i’w gyflwyno i’r Cyngor yn ei gyfarfod ar Fai 2, 2019. Nododd ei fod yn ymgais ar greu adroddiad mwy cryno, gan ganolbwyntio ar waith datblygol y flwyddyn. Ychwanegodd fod datblygiadau technolegol yn debygol o fod yn rhan anorfod o waith y Pwyllgor, o ystyried cyflymder datblygiadau yn y maes. Cyfeiriodd hefyd at lefel isel presenoldeb aelodau mewn sesiynau rhannu gwybodaeth. ‘Roedd bwriad hefyd gan y Gwasanaeth Democratiaeth i gynorthwyo’r is-grŵp o’r Pwyllgor hwn i ail-afael ar waith Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Pwysleisiodd hefyd yr angen i gynnal deialog barhaus rhwng aelodau etholedig a swyddogion er mwyn llunio gwasanaeth oedd yn cyfarch eu hanghenion.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Yn dilyn y cyfeiriad at bresenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd rhannu gwybodaeth gofynnwyd a oedd gwaith ymchwil wedi ei wneud i ddadansoddi’r sefyllfa?

-       Oedd unrhyw sail i ymdeimlad fod rhai cyfarfodydd yn cael eu cynnal oherwydd eu bod wedi eu rhaglennu yn hytrach nag oherwydd bod materion o bwys angen eu trafod?

-       Fod rôl i’r grwpiau gwleidyddol i sicrhau gwell lefel presenoldeb

-       Fod peryg i achosi gwrthdaro rhwng annog neu orfodi aelodau i fynychu cyfarfodydd ac amcanion amrywiaeth mewn democratiaeth y Pwyllgor, trwy olygu ei fod yn llawer haws i unigolion oedd yn agos at oed ymddeol i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd oherwydd bod ganddynt lai o gyfrifoldebau gwaith a theuluol i alw ar eu hamser.

-       Oedd amseroedd cynnal cyfarfodydd yn cael effaith ar lefel presenoldeb?

-       Oedd patrwm o ran mynychu cyfarfodydd pwyllgorau ac agosatrwydd at etholiadau?

-       Oedd hi’n bosib gosod rheolau o ran aelodaeth pwyllgorau ar aelodau?

 

Mewn ymateb nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod presenoldeb aelodau wedi bod yn destun trafod mewn gweithgor oedd yn trafod y drefn Craffu, ac y byddai angen arbrofi er mwyn canfod dulliau effeithiol o rannu gwybodaeth gyda’r aelodau. Ychwanegodd fod gallu aelodau i fynychu cyfarfodydd yn fater y byddai’n fuddiol i’r is-grŵp Amrywiaeth mewn Democratiaeth fod yn ymwybodol ohono wrth wneud eu gwaith, er mwyn iddynt ystyried datrysiadau posib.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd nad oedd yn statudol bosib i osod gorfodaeth ar aelodau i fod yn aelodau o bwyllgorau , ond ei bod yn bosib cynnig anogaeth a bod y mater wedi ei godi yng Ngrŵp Busnes y Cyngor. ‘Roedd bwriad i symud tuag at system o gynnal cyfarfodydd anffurfiol fyddai’n adrodd yn ôl i gyfarfodydd pwyllgorau ffurfiol.