Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.Llyw.Cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Anwen Hughes.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater o frys yn nhyb y cadeirydd er mwyn eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 377 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig fod cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2021 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir.

Cofnod:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar y 29 Mehefin 2021, yn gywir.

 

5.

FFRAMWAITH CYFARFODYDD pdf eicon PDF 572 KB

Cyflwyno Fframwaith Gweithredu Pwyllgorau drafft er mwyn ei argymell i’r Cyngor llawn ei fabwysiadu

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Fframwaith Pwyllgorau i’w gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Fframwaith Pwyllgorau i’w gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol a nododd bod sawl trafodaeth wedi bod ar y fframwaith cyfarfodydd ar gyfer y dyfodol. Eglurodd bod y Cyngor Llawn wedi cytuno ar drefniadau interim a bod bwriad i gyflwyno’r adroddiad hwn i’r Cyngor Llawn ar yr 2il o Ragfyr 2021.

 

Trosglwyddwyd i’r Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith a nododd bod yr adroddiad yn sail ar gyfer y dyfodol i sicrhau fframwaith cynaliadwy ar gyfer y pwyllgorau. Atgoffodd y pwyllgor o’r cyfnod pan benderfynwyd pa bwyllgorau i we ddarlledu ble penderfynwyd gwe ddarlledu’r cyfarfodydd sydd o fwy o ddiddordeb i’r cyhoedd. Eglurwyd mai drwy’r un egwyddor a dull y penderfynwyd dewis y pwyllgorau hybrid a’r pwyllgorau rhithiol yn unig.

 

Nododd mai’r Cyngor Llawn, Cabinet, Pwyllgor Cynllunio a Chyfarfodydd Craffu fydd yn cael eu cynnal yn hybrid. Eglurodd y byddai’r holl bwyllgorau a chyfarfodydd eraill yn rhai rhithiol yn unig.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyfreithiol bod dau ddewis yn unig yn statudol, sef y dewis i gynnal pwyllgorau yn rhithiol llwyr, yn hybrid neu gyfuniad o’r ddau. Ychwanegodd mai mater o benderfynu’r drefn gorau ydyw er mwyn sicrhau mynediad i’r cyhoedd a hyrwyddo democratiaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau isod:

 

·        Cytunodd aelodau gyda’r adroddiad gan nodi eu bod yn deall y rhesymeg a’r egwyddorion. Fodd bynnag, nodwyd, o brofiad, bod y drefn hybrid yn gallu bod yn un rhwystredig - er enghraifft gall fod yn anodd i’w gadeirio.

·        Holwyd a fydd adnoddau ar gael i gynghorwyr fynychu’n rhithiol o swyddfeydd y cyngor os ydynt yno yn dilyn cyfarfod arall.

·        Cytunwyd efallai bod safon y caledwedd yn uchel, fodd bynnag, nodwyd nad oes safon uchel o gyswllt we ar draws Gwynedd gyfan. Ategodd aelod y gall problemau technegol effeithio ar amseru cyfarfodydd.

·        Ychwanegwyd sylw bod y trefniadau yn caniatáu i gynghorwyr o ardaloedd sy’n bell o Gaernarfon dreulio mwy o amser ar faterion yn eu ward a llai o amser yn teithio i bwyllgorau.

·        Mynegwyd pryder o ran trefniant cyfarfodydd hybrid o safbwynt cadeirio a thegwch i aelodau.

·        Cytunwyd a’r arfer dda o gychwyn cyfarfodydd yn gynt fel bod pob aelod yn medru sicrhau cyswllt technegol.

·        Awgrymwyd y dylid cychwyn y cyfarfodydd yn gynt fel bod modd datrys problemau technegol.

·        Derbyniwyd bod dulliau hybrid yn caniatáu cynrychiolaeth ehangach ymysg cynghorwyr.

·        Holwyd am y drefn ynghylch pwyllgorau sy’n gaeedig e.e. trwyddedu.

 

 

Ymatebodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fel a ganlyn:

 

·        Sicrhawyd bydd darpariaeth i aelodau gael mynediad at swyddfa i fod yn rhan o gyfarfod rhithiol.

·        Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod y gwasanaeth yn edrych ar y ddarpariaeth ar gyfer aelodau newydd o 2022.

·        Ategodd bod y profiad hybrid yn dra gwahanol i’r hen arfer o fideo cynadleddau.

·        Nodwyd bod profion peilota cychwynnol wedi bod yn rhai llwyddiannus gyda chadeirydd yn rhithiol ac yn y siambr.

·        Mewn ymateb i’r cwestiwn ynghylch pwyllgorau caeedig, nodwyd nad yw’r Pwyllgor Trwyddedu wedi ei adnabod fel un a fydd yn hybrid.

·        Ychwanegodd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ETHOLIADAU MAI 2022 pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwyno diweddariad ar y gwaith paratoi ar gyfer Etholiad Llywodraeth Leol, Mai 2022 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad.

b)    Sefydlu Is-grŵp Etholiadau gyda 5 aelod o’r Pwyllgor.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

a)     Derbyn yr adroddiad.

b)     Sefydlu is-grŵp etholiadau gyda 5 aelod o’r pwyllgor.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Tîm Democratiaeth ac Iaith yn diweddaru’r aelodau ar waith y Tîm Democratiaeth ar gyfer paratoi at etholiadau 2022. Rhoddwyd trosolwg o’r wythnos democratiaeth a fu i godi ymwybyddiaeth ar wefannau cymdeithasol ac ategodd bod y Cyngor yn parhau i rannu negeseuon dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

 

Ategodd bod sesiwn cwestiwn ac ateb wedi digwydd ac y bydd un arall ym mis Ionawr gyda chymorth y Tîm Etholiadau.

 

Gofynnwyd a oes modd creu is-grŵp etholiad i fod yn rhoi barn ar faterion megis y fewnrwyd, llyfryn gwybodaeth i gynghorwyr a’r rhaglen hyfforddiant.

 

Tynnwyd sylw’r aelodau at y fewnrwyd aelodau gan fod dipyn o ddiweddariadau i’w gweld yno.

 

Yn ystod y drafodaeth, cododd y sylwadau isod:

·        Codwyd y sylw bod angen manylion wrth law o ba swyddogion i gysylltu ag ar gyfer materion amrywiol.

·        Cytunwyd y byddai’r aelodau canlynol yn rhan o’r is-grŵp aelodau: y Cynghorwyr Dewi Roberts, Gwynfor Owen, Anne Lloyd Jones, Mair Rowlands a Dewi Owen.

 

7.

DATGANIAD AMRYWIAETH CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 464 KB

Cyflwyno Rhaglen waith ddrafft yn amlinellu’r camau er mwyn gwireddu Datganiad Amrywiaeth Cyngor Gwynedd, a’i argymell i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn

Penderfyniad:

To accept the report and support the Diversity Statement and recommend it to the Full Council meeting on 2 December, 2021.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r Datganiad Amrywiaeth a’i argymell i gyfarfod y Cyngor Llawn ar yr 2il o Ragfyr 2021.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad er gwybodaeth gan y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith. Atgoffwyd bod y pwyllgor eisoes wedi mabwysiadu’r datganiad yn y Cyngor Llawn.

 

Ni chafwyd sylwadau pellach gan aelodau.

 

8.

ADRODDIAD DDRAFFT PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL pdf eicon PDF 630 KB

I dderbyn sylwadau Aelodau ar yr adroddiad ddrafft.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith er mwyn cynorthwyo cynllunio ymateb i’r ymgynghoriad drafft. Nodwyd bod y prif benderfyniadau wedi eu hamlinellu o fewn yr adroddiad.

 

Ategodd bod penderfyniad wedi ei wneud eleni i argymell dod a lefel cyflog Aelodau Etholedig yn fwy cytbwys i’r lefel y dylen nhw fod. O ganlyniad, nododd felly bod y cyflog arfaethedig yn cynyddu i £16,800 o 2022 ymlaen ar gyfer Aelodau Etholedig.

 

Rhoddwyd sylwadau pellach gan Arweinydd y Cyngor yn amlinellu profiadau aelodau dros y cyfnod Covid-19 sydd wedi dangos bod gwaith cynghorau lleol yn greiddiol bwysig i gymunedau. Ategodd y dylid ystyried llywodraeth leol fel yr un mor bwysig, o ran rôl i gymdeithas, ag ydyw unrhyw haen arall o lywodraeth, boed hynny’n llywodraeth ganolog neu leol. Mewn perthynas â’r codiad cyflog i aelodau, nododd bod y tâl yno i ganiatáu i bobl sydd heb incwm arall i sefyll fel cynghorydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cododd y sylwadau isod:

 

·        Cytunwyd efo’r sylwadau’r Arweinydd, cyfeiriwyd at bwynt yn yr adroddiad sy’n ymwneud â Chynghorau Cymuned sef nad oedd yn deg i neb orfod bleidleisio ynglŷn â’u cyflog eu hunain.

·        Codwyd y pwynt bod cadeiryddion yn gweithio’n galed iawn a bod ganddynt waith ychwanegol, fodd bynnag efallai nad yw hyn yn wybodaeth gyhoeddus ac y dylid tynnu sylw’r cyhoedd at y gwaith hwn.

·        Datganwyd pryder y bydd pobl yn meddwl mai codi cyflog eu hunain mae cynghorwyr er mai panel annibynnol sy’n penderfynu.

·        Nodwyd er bod nifer o gynghorwyr wedi ymddeol a ddim yn ddibynnol ar yr arian, mae cynnig cyflog cyfartal yn sicrhau bod cyfle i fwy sefyll mewn etholiad.

·        Mewn perthynas â’r drafodaeth ar amrywiaeth mewn democratiaeth, nodwyd ei fod yn anodd gwneud swydd cynghorydd yn iawn os yw unigolyn yn gweithio hefyd. Ategwyd bod pobl ifanc methu fforddio bod yn gynghorydd llawn amser heb swydd arall ar yr ochr.

·        Tynnwyd sylw'r pwyllgor at y dyraniad costau gofal gan mai ychydig sy’n hawlio er ei fod yn anhysbys.

·        Holwyd beth yw’r drefn os yw cynghorydd yn dymuno gwrthod y codiad cyflog.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith bod angen i aelod unigol ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth er mwyn peidio derbyn y codiad cyflog os mai dyna yw’r dymuniad.

 

9.

HOLIADUR BODLONRWYDD AELODAU pdf eicon PDF 240 KB

Rhannu ymatebion dderbyniwyd i'r Holiadur am Fodlonrwydd Aelodau i’r m Gwasanaethau Democratiaeth.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Tîm Democratiaeth ac Iaith a rhannwyd ymatebion yn dilyn yr holiadur.

 

Nododd bod y tîm yn awyddus i wella’r gwasanaeth a ddarperir ac felly wedi holi aelodau am eu barn. Rhannwyd y data a gasglwyd a’r sylwadau a gafwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cododd y sylwadau isod:

 

·        Nododd aelod os nad oes ymateb gan gynghorydd y bod hynny’n dangos bodlonrwydd gyda’r gwasanaeth a dderbyniwyd.

·        Ategodd aelod ei fod yn falch bod y swyddogion wedi cysylltu i drafod y sylwadau er mwyn eu datrys yn sydyn.